Advertisement

Archifau 4 Mawrth 2008

Oriau Gwaith

Vaughan Roderick | 15:01, Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2008

Sylwadau (1)

Heb fod yn or-bersonnol mae rhai a aelodau Llafur y Gogledd yn bobol reit fawr. Nid ar chwarae bach y byddai dyn yn ceisio troi eu breichiau. Serch hynny mae'n ymddangos bod rhywun wedi gythrel o gic iddyn nhw.

Ers tro byd bellach mae aelodau Llafur y Gogledd wedi bod yn gwrthsefyll pwysau i gynnal cyfarfodydd o bwyllgorau'r cynulliad ar bnawn dydd Iau.

Gyda'r gwaith ychwanegol yn sgil pwerau newydd y cynulliad does dim dewis ond ymestyn oriau gwaith yr aelodau a phrynhawn Ddydd Iau yw'r amser amlwg i wneud hynny. Dyna oedd barn y ddwy wrthblaid. Roedd Plaid Cymru a'r rhan fwyaf o aelodau Llafur yn cytuno. Ond doedd dim modd argyhoeddi llond dwrn o aelodau Llafur y Gogledd oedd yn credu, mae'n ymddangos, bod ganddyn nhw ryw hawl ddwyfol i gyrraedd Rhyl, y Fflint neu le bynnag cyn amser swper.

Mae'r pwyllgor busnes wedi treulio oriau lawer yn ceisio cyrraedd consensws. Heddiw ar ôl cyfarfod stormus lle wrthododd yr aelodau Llafur ildio modfedd roedd hi'n amlwg bod y mwyafrif wedi cael digon. Dechreuodd yr e-byst a'r galwadau ffôn gyrraedd yn briffio'r cyfryngau am yr hyn oedd yn digwydd. Mewn cynhadledd newyddion bu'n rhaid i lefarydd y llywodraeth wrthod awgrymiadau bod yr aelodau yn "ddiawled diog".

O ba fodd y cwymp y cedyrn! O fewn oriau daeth y sibryd bod y gwrthryfel ar ben. Roedd aelodau Llafur y Gogledd wedi ildio. Pwy ddywedodd beth wrth bwy? Dyn a ŵyr ond mae'n amlwg bod neges ddigon eglur wedi ei ddanfon.

Iesgob!

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Duw mae'r Esgobion 'ma'n bobol brysur!

Ddydd Gwener roedd Esgob Tŷ Ddewi yn canmol llywodraeth y cynulliad i'r cymylau. Heddiw Esgobion Trefynwy a Henffordd sy wedi bod wrthi yn cyhuddo llywodraeth y Bae o ystyried ideoleg yn bwysicach na buddiannau cleifion. Roedd y ddau Esgob yn cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i wasanaethau traws-ffiniol.

Oes 'na sgism eglwysig i fod gyda Eglwys y Dwyrain yn ffafrio San Steffan ac Eglwys y Gorllewin yn bendithio'r Bae? Pwy fydd yn ennill y frwydr rhwng Pab Tŷ Ddewi a Phatriarch Trefynwy? Ai Don Touhig yw ein Cystennin ac os felly pwy fydd yn Romulus Awgwstws Cymru?

A fo ben...

Vaughan Roderick | 11:58, Dydd Mawrth, 4 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Doeddwn i ddim yn y gwaith ddoe, gwaetha'r modd. Roeddwn i'n gwybod bod y cyhoeddiad parcio yn dod ond go brin y gallwn i broffwydo'r ymateb yn enwedig sylwadau byrbwyll ac ymosodol Gweinidog Iechyd Lloegr Ben Bradshaw.

Mae sylwadau Mr Bradshaw wedi pery peth embaras i Lafur yn y cynulliad ond dim cymaint â hynny. Wedi'r cyfan mae dileu taliadau parcio yn bolisi poblogaidd ac os ydy Lloegr yn gwrthod dilyn yr un trywydd onid yw hynny'n enghraifft berffaith o'r dŵr coch clir? Oedd 'na wen fach slei ar wyneb Carwyn Jones wrth iddo resynu bod sylwadau Mr Bradshaw wedi achosi tensiynau rhwng San Steffan a'r Bae?

Os ydy Llafur yn dawel fodlon mae Plaid Cymru wrth eu boddau. Creu hollt o fewn y Blaid Lafur rhwng gwleidyddion y Bae a rhai San Steffan yw un o brif amcanion strategol Plaid Cymru ac mae'r ffrae yma'n enghraifft berffaith o hynny.

Mae hynny'n gadael y gwrthbleidiau. Mae dadl y Ceidwadwyr yn un ryfedd. Tra eu bod yn cytuno a'i feirniadaeth o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mae'r blaid o'r farn bod Mr Bradshaw wedi torri confensiynau cyfansoddiadol trwy ymosod yn gyhoeddus ar lywodraeth ddatganoledig.Ond mae ganddyn nhw gwestiwn da sef hwn; "ydy Gordon Brown yn cytuno a'i weinidog?" Peidiwch â synnu os ydy David Cameron yn gofyn y cwestiwn hwnnw yn San Steffan yfory.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.