Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwasgfa ar Rhodri Glyn

Vaughan Roderick | 13:24, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2008

Dw i ddim eisiau dychwelyd at y pwnc yma'n rhu aml ond mae 'na ambell i ddatblygiad yn y ffrwgwd ynghylch y wasg Gymraeg. Tra bod Cymdeithas yr Iaith yn trefnu deiseb yn galw ar y llywodraeth i neilltuo swm digonol yn benodol ar gyfer sefydlu papur dyddiol mae'r Torïaid hefyd wedi bod yn ychwanegu at y pwysau. Mewn cynhadledd newyddion heddiw dychwelodd Nick Bourne at y pwnc gan ddweud bod angen rhywle rhwng chwe chan mil a miliwn o bunnau i sefydlu papur ac y byddai'r Torïaid yn pwyso am hynny.

Yn y cyfamser mae 'na sibrydion ymhlith newyddiadurwyr y cynulliad bod cwmni Trinity Mirror yn paratoi cais am arian. Mae'n bosib y bydd y cais hwnnw yn seiliedig ar ffurf estynedig o atodiad "Herald Cymraeg" y Daily Post gyda'r Western Mail hefyd yn ei ddosbarthu. Fe gawn weld.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:38 ar 21 Chwefror 2008, twm ysgrifennodd:

    Annwyl Vaughan,

    Ydy S4C yn fynd i cario ymlaen yn newid amser darlledu CF99 o wythnos i wythnos ac os ydynt os modd wneud yn siwr fod y rhaglennu diweddaraf ar gael ar y we?

    Diolch

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 13:15 ar 21 Chwefror 2008, Vaughan ysgrifennodd:

    Twm,

    9.30 fydd yr amser am rai wythnosau o leiaf. Mae'r newidiadau amser yn boen i ni hefyd!
    Mae'n bosib gwylio rhan o'r rhaglen o'r ddolen uchod ond oherwydd cymhlethdodau'r cytundebau rhwng y BBC ac S4C dim ond gwefan S4C sydd a'r hawl i'w ddangos yn ei hyfanrwydd. Am yr un rheswm dyw rhaglenni Cymraeg y BBC (yn wahanol i raglenni Gaeleg) ddim ar gael ar i-player.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.