Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Clonc 'da Carwyn

Vaughan Roderick | 11:47, Dydd Mawrth, 5 Chwefror 2008

Efallai mai'r Rygbi sy'n gyfrifol neu'r ffaith bod yr ELCO cyflawn cyntaf yn cyrraedd llawr y cynulliad y prynhawn yma ond yn sicr mai Carwyn Jones mewn hwyliau da heddiw. Un peth yn unig sy'n ei gorddi a'r BBC sy'n gyfrifol am hynny. Wrth drafod y gêm fawr 'da newyddiadurwyr fe wnaeth y sylw yma "os oeddwn i moen gweld y gêm o'r awyr byswn i wedi fy ngeni’n dderyn!"

Nawr dw i ddim yn meddwl bod hyn yn bertnasol yn achos Carwyn ond mae cymryd diddordeb yn nhîm Rygbi Cymru neu o leiaf esgus cymryd diddordeb fwy neu lai yn orfodol yn y cynulliad. Nid pawb sy'n llwyddo wrth gwrs, cymerwch y datganiad i'r wasg a 'n cyrhaeddodd ddydd Sadwrn yn llongyfarch Mike Gatland a'i dim...

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.