Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Iaith Gwaith

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Gwener, 18 Ionawr 2008

Roeddwn i'n ddigon dilornus ddoe ynghylch y ffaith bod pawb yn disgrifio'r cyfarfod scriwtineiddio ar y cyd rhwng aelodau seneddol a chynulliad fel un hanesyddol. Mea Cwlpa. Dw i'n meddwl bod y cyfarfod wedi bod yn hanesyddol- ond nid am y rhesymau yr honnwyd.

Hwn yw'r tro cyntaf i mi gofio lle cynhaliwyd sesiwn bwyllgor yn y cynulliad bron yn gyfan gwbwl trwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio ambell i gyfarfod hynny lle'r oedd yr iaith ei hun yn cael ei thrafod. Ffioedd am wasanaethau gofal yn y cartref i'r henoed oedd y pwnc. Doedd dim rheswm arbennig felly i ddisgwyl cymaint o Gymraeg.

Y dirprwy gweinidog Gwenda Thomas oedd yn bennaf gyfrifol am iaith y cyfarfod,fe dybiwn i, gan iddi ddewis cyflwyno ei thystiolaeth agoriadol yn Gymraeg. Clod hefyd i'r aelodau seneddol Hywel Francis, Siân James a Hywel Williams a'r aelod cynulliad Dai Lloyd am wneud y cyfan o'u cwestiynu trwy'r Gymraeg. A chan fy mod yn bod yn ddymunol am unwaith llongyfarchiadau i Joyce Watson wnaeth lwyddo i gadeirio'n effeithiol er nad yw hi'n medru'r iaith.

Hon oedd yr enghraifft ddiweddaraf o newid nodweddiadol iawn yn y bae. Heb os, mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio llawer mwy yn y trydydd cynulliad nac yn ei rhagflaenwyr.

Mae 'na ambell i reswm am hynny. Yr un pennaf wrth gwrs yw bod y presenoldeb Plaid Cymru yn y cabinet yn golygu bod y rhan fwyaf o weinidogion a dirprwy weinidogion yn ddwyieithog. Dim ond tri allan o'r deg aelod o'r Cabinet sy'n methu o leiaf cynnal sgwrs yn Gymraeg.

Mae agwedd rhai o aelodau newydd y Cynulliad hefyd wedi cael effaith. Mae Paul Davies y Ceidwadwr o Breseli, fel enghraifft, bron yn ddieithriad yn defnyddio'r Gymraeg yn y siambr ac mae hynny wedi sbarduno ei gyd-aelod Brynle Williams i ddefnyddio mwy o'r iaith tra bod Darren Miller hefyd yn gloywi ei sgiliau ieithyddol.

Mewn un ystyr, wrth gwrs, dyw hyn i gyd ddim yn bwysig. Yr hyn sy'n cyfri yw beth sy'n cael ei wneud dros yr iaith yn hytrach na pha iaith sy'n cael ei defnyddio o fewn muriau'r senedd. Serch hynny mae'n beth braf i weld a chlywed ac mae'r Gymraeg yn debycach, dybiwn i, o gael blaenoriaeth gan gorff sy'n ei defnyddio ei hun yn ei fusnes dydd i ddydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:33 ar 21 Ionawr 2008, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Mae’n rhyfedd o fyd. Da clywed bod hyn yn digwydd yn y Cynulliad ac am yr unigolion sydd yn defnyddio'r iaith i gyfathrebu. Ond ffordd arall yw hi mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn ein Trefi a’n Pentrefi'r dyddiau yma. Cymry pur yn siarad yn Saesneg “for the benefit of our English friends” a dyma gyfarfod yn ein bröydd Cymraeg yn troi yn uniaith Saesneg. Os gellir ei wneud yn y bae pam na ddim o fewn ein neuaddau bentref?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.