Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dim lwc i Laura Anne

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Mercher, 16 Ionawr 2008

Dyw pethau ddim yn hawdd i gyn aelodau'r cynulliad. Cymerwch Laura Anne Jones cyn aelod Ceidwadol yn y De Ddwyrain. Collodd Laura ei sedd llynedd a dyw ei hymdrechion i adfywio'i gyrfa wleidyddol ddim wedi llwyddo hyd yn hyn.

Penderfynodd Laura ymgeisio am enwebiad y Blaid ar gyfer etholiadau Ewrop. Wedi'r cyfan gyda Jonathan Evans yn rhoi'r gorau i Strasbwrg a rheolau'r blaid yn clustnodi'r safle gyntaf ar restr Cymru ar gyfer menyw roedd hi'n gyfle amlwg iddi sicrhâi sedd seneddol.

Nid felly y bu pethau. Y sibrwd yw bod Laura wedi methu cyrraedd y rhestr fer ac na fydd ei henw ar y papur pleidleisio pan mae aelodau'r blaid yn bwrw eu pleidleisiau Fis Mawrth.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:02 ar 16 Ionawr 2008, anhysbys ysgrifennodd:

    Oes gan y Blaid Geidwadol unrhyw fenywod eraill yng Nghymru?

    Mae Suzy Davies eisoes wedi ei dewis fel ymgeisydd seneddol ym Mrycheiniog, a Lisa Francis hyd y gwn i wedi ymddeol o wleidyddiaeth yn dilyn ei cholled yn etholiad 2007.

    Pa fenwod eraill sydd gan y Blaid Geidwadol mewn golwg ar gyfer Senedd Ewrop?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 10:53 ar 17 Ionawr 2008, Vaughan ysgrifennodd:

    Dau enw sy'n cael eu crybwyll yw Karen Robson (De Caerdydd a Phenarth) ac Emma Greenow (Penybont).Mae'n bosib bydd 'na fwy.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.