Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Codi Bwganod

Vaughan Roderick | 16:17, Dydd Mercher, 23 Ionawr 2008

Dyw eliffantod yn anghofio dim meddai nhw ac mae'n ymddangos bod yr un peth yn wir am rai aelodau o'r cynulliad yn enwedig aelodau Llafur.

Rydym wedi hen arfer a chlywed enwau John Redwood a Margaret Thatcher yn cael eu poeri allan yn y siambr. Mae'r geiriad bron yn ddigyfnewid. "Beth bynnag mae'r Ceidwadwyr yn dweud NAWR mae pobol Cymru yn cofio beth wnaeth John Redwood a Margaret Thatcher pan oedden nhw mewn grym..."

Nawr, mae'n ddegawd ers i'r Ceidwadwyr golli grym yn San Steffan ond am wn i mae 'na ddigon o etholwyr sydd ag atgofion digon chwerw o'r cyfnod hwnnw i'r honiad ganu ambell i gloch a chodi ambell i grachen.

Dw i'n amheus ar y llaw arall a fydd ymosodiad aelod Islwyn Irene James yn y siambr heddiw wedi llwyddo i daro deuddeg. Wrth son am ail agor y lein rheilffordd i Lyn Ebwy (sydd hefyd yn gwasanaethu ei hetholaeth hi) honnodd nad oedd trigolion yr ardal wedi anghofio mai'r Ceidwadwyr oedd yn llywodraethu pan gaeodd y lein yn lle cyntaf.

Arhoswch eiliad. Digwyddodd bron i hanner canrif yn ôl! Doedd y rhan fwyaf o bobol Islwyn heb gael eu geni yn 1962 pan gaewyd y lein. Ydy Irene yn dweud bod pobol Trecelyn a Rhisga o hyd yn poeri gwaed am Doctor Beeching ac Ernest Marples? Ydy trigolion y Coed Duon a Phontllanfraith yn diawlio Douglas-Hume a Maudling wrth eistedd mewn tagfeydd traffig wrth gymudo i Gaerdydd? Go brin.

Ond os ydy pobol yn dymuno ail-frwydro brwydrau gwleidyddol yr ugeinfed ganrif mae'n werth cofio ambell i ffaith. Yn sgil cyhoeddi adroddiad Beeching yn 1963 ym mlwyddyn olaf y llywodraeth Geidwadol caewyd rhyw dri chan milltir o'r rhwydwaith rheilffyrdd. Yn y tair blynedd ganlynol o dan lywodraeth Lafur Harold Wilson caewyd bron i ddwy fil a hanner o filltiroedd. Fe gaeodd yr un llywodraeth, gyda llaw, mwy o byllau glo Cymru na'r un llywodraeth arall.

Ydy hynny'n berthnasol neu'n bwysig heddiw? Nac ydy. Pam felly codi'r pwnc yn lle cyntaf?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:58 ar 23 Ionawr 2008, ysgrifennodd Huw Waters:

    Pan fydd y gwir yn ymddangos ynghylch Iraq (ma Tŷ'r Cyffredin dal heb gael dadl a thrafodaeth llawn am y peth) cwbwl fydd raid i'r Ceidwadwyr deud, yw cofio'r cyfnod o Lafur a laddodd milwyr heb reswm, creu Ynysoedd Prydain yn draged i derfysgwyr, a phob math o drafferthion erill.

  • 2. Am 20:37 ar 23 Ionawr 2008, ysgrifennodd alun o gasnewydd:

    Cytuno'n hollol gyda'r pwyntiau rwyt wedi ei godi ac rwy’n siŵr byddai pob person call yn cytuno hefyd.

    Ond yma mae rhaid edrych ar y ddynes sydd wedi llefaru'r geiriau anfarwol yma pan yn gwneud ei ymosodiad arferol ar unrhyw blaid nad sydd â lliw coch ar eu bathodyn. I fod yn deg gyda'r ddynes fach yma does dim llawer yn y copa! Dyna pan rhodd y Western Mail yn yr etholiad diwethaf 2 allan o ddeg marc iddi am lwyddiant fel Aelod y Cynulliad!!

  • 3. Am 23:35 ar 28 Ionawr 2008, ysgrifennodd Dewi:

    Efallai ei bod yn drueni, ond fel un o'r ardal, y gwir yw bo'r trigolion heb anghofio taw'r Toriaid wnaeth gau'r llinell......nac anghofio Churchill yn Nhonypandy chwaeth!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.