Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Byw heb Hain

Vaughan Roderick | 15:23, Dydd Gwener, 25 Ionawr 2008

Am riw reswm dw i wastad wedi credu bod Peter Hain llawr yn ifancach na Paul Murphy. Ces i dipyn o sioc felly i sylwi mai dwy flynedd sydd rhyngddyn nhw gyda Mr Hain yn bumdeg saith a Mr Murphy yn tynnu am ei drigain.

Mae llawer o son wedi bod yn y Bae am y faint o wahaniaeth y bydd penodi Mr Murphy (dinosor ar ddatganoli chwedl Ieuan Wyn Jones) yn gwneud i ddatblygiad y cynulliad dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod. Mae rhai aelodau cynulliad eisoes yn datgan eu bod yn disgwyl i Mr Murphy ddehongli'r gyfundrefn newydd o ddeddfu yn y modd llymaf posib gan ei gwneud hi'n anodd i'r cynulliad gynyddu ei bwerau deddfu'n gymharol gyflym.

Mae gen i deimlad y gallai'r ofnau hynny fod yn ddi-sail ac y gallai'r gwahaniaethau arwynebol rhwng Mr Hain a Mr Murphy, fel y gwahaniaeth oedran, fod yn llai nac maen nhw'n ymddangos.

Y gwahaniaeth pwysicaf rhwng y ddau wrth gwrs yw bod Peter Hain yn ddatganolwr brwd. Mae Paul Murphy ar y gorau yn sgeptig. Ond a fydd hynny yn effeithio ar y ffordd y mae'n cyflawni'r swydd?

Mae 'na ambell i beth sy'n werth cofio yn fan hyn. Yn gyntaf mae Mr Murphy yn ddyn pwyllog sy'n hoff o chwarae yn ôl y rheolau. O bryd i gilydd cafodd Mr Hain ei gyhuddo o ymyrryd ym mhriod waith y cynulliad. Dyw Mr Murphy ddim yn debyg o wneud hynny. Mae fe hefyd, wrth reddf, yn gymodwr ac yn ystod ei gyfnod yng Ngogledd Iwerddon dangosodd ei fod yn effeithiol yn y rôl honno.

Mae unrhyw un sydd yn disgwyl i Mr Murphy luchio ceisiadau am ddeddfwriaeth i'r bin er mwyn amddiffyn sofraniaeth San Steffan yn cam-ddarllen y dyn. Os oes 'na LCO dadleuol (ac mae'n sicr y bydd na rai) ceisio cyfaddawd rhwng y cynulliad a San Steffan fyddai ymateb greddfol yr ysgrifennydd newydd. Yn unswydd oherwydd ei fod sgeptig fe fydd aelodau seneddol yn fwy pario i wrando arno fe nac ar ei ragflaenydd.

Mae hefyd werth cofio nad oedd 'na berthynas bersonol agos rhwng Rhodri Morgan a Peter Hain. Yn wir dyw dilynwyr Rhodri byth wedi anghofio rhan Mr Hain yn y frwydr waedlyd rhwng Rhodri ac Alun Michael i arwain Llafur Cymru yn etholiad cyntaf y cynulliad. Er gwaethaf eu gwahanol safbwyntiau ynghylch datganoli mae Rhodri a Paul Murphy wedi cydweithio ers degawdau ac yn deall ei gilydd i'r dim. Galli rhai o aelodau'r cynulliad gael eu siomi o'r ochor orau gan yr ysgrifennydd newydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:44 ar 28 Ionawr 2008, Dewi ysgrifennodd:

    Pryderu am LCO'r iaith gyda Paul - er bo Ysgol Gyfun Gymraeg yn ei etholaeth heb erioed cael yr argraff o unrhyw gefnogaeth. Y dyn yn ddigon onest beth bynnag.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.