Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2007

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:07, Dydd Gwener, 30 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Catherine Jenkins yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Y Catherine Jenkins? Cliciwch ar y botwm ar y dde i gael gwybod. Hefyd o'r wythnos hon ymlaen fe fydd y podlediaid hefyd yn cynnwys rhifyn yr wythnos o "Dau o'r Bae"

Trafferthion!

Vaughan Roderick | 10:14, Dydd Gwener, 30 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Mae 'na ambell i broblem dechnegol ar y blog ar hyn o bryd. Dw i'n gweithio i'w datrys.

Dipyn o stwr

Vaughan Roderick | 13:16, Dydd Iau, 29 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Fe aeth hi'n dipyn o ffrwgwd ar CF99 neithiwr wrth i ni drafod y problemau honedig y broses ddeddfu newydd. Cliciwch fan hyn i weld y ddadl.

Peter yn pregethu

Vaughan Roderick | 14:32, Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Mae Peter Hain newydd annerch y cynulliad ac mae'r aelodau wedi gorfod gwrando ar dipyn o bregeth. Wrth gyfeirio at geisiadau am yr hawl i ddeddfu- yr LCO's bondigrybwyll y gwnes i bostio yn eu cylch ddoe fe ddywedodd hyn;

"Let me be clear that there is no case whatsoever for the Assembly to be required to supply every detail of future, perhaps unforeseen, Assembly Measures...but, by equal measure, Parliament cannot rubber stamp or let anything through ‘on the nod’. Each request for legislative competence will be subject to scrutiny, as the Government made clear during the passage of the 2006 Act...It is an important principle that Parliament and Whitehall Departments are allowed to probe the basis of legislative requests, and that in doing so are not presented as ‘unreasonable’ or ‘obstructive’. The mentality that sees Parliament as an ‘inconvenience’ will itself act as a roadblock to devolution’s progress, and is in any case against the terms of the settlement as entrenched by the people of Wales in 1997."

Nawr i'ch atgoffa dyma oedd gan Gwnsler Cyffredinol y Cynulliad, Carwyn Jones, i ddweud ddoe;"dyw e ddim yn bosib i weinidog ddweud beth fydd y cynulliad yn gwneud gan mai i'r cynulliad y trosglwyddir y pwerau ac nid i'r gweinidog". Dywedodd hyn hefyd; "dyw e ddim yn bosib dweud sut y byddai pŵer yn cael ei ddefnyddio".

Ddoe hefyd dosbarthodd Llywodraeth y Cynulliad ddogfen i newyddiadurwyr yn dwyn y teitl "legislative processes- Frequently Asked Questions" sy'n dweud hyn; "The Welsh Assembly Government's immeadiate policy intentions should not be the determining factor when considering the proposed order...In other words... the detail of the measures themselves will be a matter for the Assembly"

Mae'n amlwg erbyn hyn bod y modd y mae'r LCOs wedi eu cyflwyno hyd yn hyn wedi gwylltio San Steffan ac heb ewyllys da ar y ddwy ochor mae'n anodd gweld sut y gall y system weithio. Mae angen datrys y broblem hon a hynny ar fyrder. Mae'r ffaith bod Ysgrifennydd Cymru wedi gweld yr angen i geryddu Llywodraeth y Cynulliad yn ei siambr ei hun yn arwydd o ba mor wael y mae pethau.

Ydy hi'n bosib cysoni safbwyntiau Peter Hain a Carwyn Jones? Wel, ydy, trwy fynd nôl at gynnwys y Papur Gwyn wnaeth arwain at Fesur Llywodraeth Cymru sy'n awgrymu y gallai mesurau arfaethedig gael eu defnyddio fel "enghreifftiau" o'r hyn y gallai'r Cynulliad wneud.

Dipyn o lanast?

Vaughan Roderick | 15:55, Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Mae'r drefn newydd sy'n caniatáu i'r Cynulliad ofyn am yr hawl i ddeddfu mewn trafferthion. Mae hynny'n anorfod wrth gyflwyno trefn newydd yn ôl y llywodraeth ond awgrymodd un aelod cynulliad bod y llythrennau LCO yn arwyddo Llanast Cwbwl Ofnadwy yn ogystal â Legislative Competence Order.

Dyw'r Llywodraeth a Swyddfa Cymru ddim hyn yn oed yn cytuno faint o'r ceisiadau yma sydd ar y gweill. Mae 'na ddau yn ôl Whitehall, pedwar yn ôl Bae Caerdydd.

A beth am y sefyllfa lle mae pwyllgorau'r cynulliad wedi cwblhau’r gwaith o scriwtineiddio dau gais cyn i'r Pwyllgor Dethol Cymreig yn San Steffan gychwyn ar y gwaith? Onid yw pwyllgorau'r cynulliad i fod i gymryd safbwyntiau'r Pwyllgor Dethol i ystyriaeth? Oes 'na ryw TARDIS cynulliadol sy'n caniatáu i bwyllgorau Bae Caerdydd rhagweld casgliadau eu cyd-wleidyddion?

Mae Betsan eisoes wedi blogio ynglŷn â'r amser caled gafodd Jane Hutt wrth ymddangos gerbron y Pwyllgor Dethol i gyfiawnhau’r LCO yn ymwneud ac anghenion addysgiadol arbennig. Roedd rhai o aelodau'r pwyllgor eisiau gwybod beth oedd y cynulliad yn bwriadu gwneud a'r pwerau. Cwestiwn digon rhesymol ym marm yr aelodau seneddol ond gwrthod ateb gwnaeth y gweinidog.

Amddiffynnwyd Ms Hutt gan Carwyn Jones heddiw. Dywedodd hyn; "dyw e ddim yn bosib i weinidog ddweud beth fydd y cynulliad yn gwneud gan mai i'r cynulliad y trosglwyddir y pwerau ac nid i'r gweinidog".

Wel, mae hynny'n llythrennol gywir ond y llywodraeth nid y cynulliad sydd wedi gwneud y cais. Oni allai'r gweinidog rhoi rhyw syniad bach o'r hyn oedd mewn golwg? Un cliw bach i'r Pwyllgor Dethol, plîs?

Ar ben hyn oll mae'r holl broses eisoes yn arafu gydag amheuon cynyddol na fydd y Pwyllgor Dethol yn gallu delio a'r holl geisiadau. Y disgwyl oedd y byddai'r broses yn cymryd rhyw chwe mis eisoes mae'n amlwg y gallai sicrhâi LCO gymryd hyd at flwyddyn.

Ydy'r llywodraeth yn becso? Efallai. Mae 'na rwystredigaeth wrth reswm. Ar y llaw arall pe bai'r gyfundrefn yn troi'n llanast llwyr fe fyddai'n cryfhau'r dadleuon dros bleidlais gynnar ar bwerau deddfwriaethol llawn.

Fe fydd na mwy am hyn ar CF99 nos yfory.

Clecs Colegol

Vaughan Roderick | 13:17, Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Y prynhawn yma fe fydd cefnogwyr Coleg Ffederal Cymraeg yn picedu'r senedd i bwyso am ei fersiwn nhw o'r Coleg yn hytrach na'r fersiynau llai uchelgeisiol sydd wedi eu gwyntyllu gan rai o'r cyrff y tu fewn i'r sector. Yn fwyaf arbennig mae'r protestwyr yn flin ynghylch cynlluniau diweddaraf Addysg Uwch Cymru, y corff sy'n goruchwylio'r sector, gan nad ydynt, yn ôl Undebau'r Myfyrwyr a Chymdeithas yr Iaith, yn adlewyrchu'r ewyllys gwleidyddol i sefydlu'r Coleg.

Yn ogystal â phicedu fe fydd y protestwyr yn cyflwyno eu cynlluniau eu hun i'r llywodraeth yn swyddogol. Mae'r llywodraeth eisoes wedi gweld y ddogfen honno'n answyddogol ac yn ôl un ffynhonnell sy'n agos at y trafodaethau mae'n "ddarn ardderchog o waith". Deallaf mai model UCMC a Chymdeithas yr Iaith ar gyfer y Coleg yw'r model sy'n cael ei ffafrio gan y llywodraeth ac y bydd y cynllun swyddogol yn seiliedig ar yr hyn y mae'r protestwyr yn ystyried yn egwyddor sylfaenol sef bod y Coleg "yn gorff statudol gyda llif arian annibynnol a sylweddol".

Mae'r unig wahaniaeth pwysig rhwng cynlluniau’r protestwyr a rhai'r llywodraeth yw yn un ariannol. Gan fod y protestwyr yn dymuno gweld y coleg ffederal yn talu cyflogau darlithwyr maen nhw'n rhagweld y byddai angen cyllideb o ryw ugain miliwn o bunnau'r flwyddyn. Mae'r llywodraeth ar y llaw arall yn bwriadu i'r darlithwyr gael eu talu gan y colegau daearyddol presennol. Mae'n debyg mai rhyw bum miliwn o bunnau'r flwyddyn fydd ar gael i'r Coleg Ffederal felly.

Podlediad

Vaughan Roderick | 13:32, Dydd Gwener, 23 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Mae 'na gyfle i fynd y tu ôl i'r llenni yn y senedd trwy wrando ar y podlediad. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Is-etholiadau Cyngor

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Gwener, 23 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Canlyniadau'r wythnos hon;

Llandybie (Sir Gaerfyrddin)

Annibynnol; 496
Llafur; 337
Plaid; 310
Ceid.; 52
Annibynnol; 49

Annibynnol yn dal. Gogwydd o 3.4% o Lafur i Blaid Cymru.

Rhiw (Conwy)

Dem. Rhydd; 548
Ceid; 513
Annibynnol; 80
BNP; 61
Gwyrdd; 36

Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio sedd ym Mae Colwyn o'r Ceidwadwyr.

Cuddio fel Lembit

Vaughan Roderick | 09:32, Dydd Gwener, 23 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Mae 'na stori ryfedd iawn ar dudalen flaen y Western Mail heddiw. O dan y pennawd "Revealed: Hidden power to scrap councils" mae'r papur yn dweud hyn;

"AN OBSCURE paragraph buried in a new Act of Parliament could result in the wholesale scrapping of councils across Wales. A clause in the virtually undiscussed Local Government and Public Involvement in Health Act gives the National Assembly the right to abolish and amalgamate the 22 unitary councils in Wales."

Wel, mae'n rhaid bod ystyr y geiriau "hidden" ac "obscure" wedi newid. Roedd y cymal hwn yn gudd yn yr un ffordd ac mae Jordan a Peter Andre neu Lembit Opik, dyweder, yn gudd.

Yn wir cafwyd tipyn o storm pan gynhwyswyd y pwerau yn y papur gwyn ar lywodraeth leol ym Mis Hydref 2006. Gwadodd llywodraeth y cynulliad ei bod wedi gofyn am y pwerau nes i Swyddfa Cymru gyhoeddi llythyr o Fae Caerdydd yn gwneud yr union gais.

Achoswyd gryn embaras i'r gweinidog Sue Essex ac roedd y stori yn flaenllaw ar raglenni radio a theledu ac, am wn i, tudalennau'r Western Mail.

Gair i gall. Dyw'r ffaith bod ymchwilydd plaid wleidyddol newydd ddarganfod rhywbeth ddim yn golygu nad oedd pawb arall yn gwybod!

Gwersi o bell

Vaughan Roderick | 17:06, Dydd Iau, 22 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Ddydd Sadwrn os nad oes rhywbeth cwbwl annisgwyl yn digwydd fe fydd etholwyr Awstralia yn dod a gyrfa John Howard fel Prif Weinidog i ben. Yn wir, os ydy'r arolygon barn yn gywir gallai Mr Howard golli ei sedd ei hun.

Mae dros gant o arolygon barn bellach wedi darogan buddugoliaeth i Lafur a disgwylir yr ogwydd fwyaf mewn unrhyw etholiad ers 1931.

Beth felly sydd wedi mynd o le i Mr Howard a'i glymblaid Geidwadol? Yr ateb syml ond rhyfedd i'r cwestiwn hwnnw yw "dim byd llawer". Mae'r economi'n ffynnu a'r ddoler yn gryf. Mae Mr Howard ei hun o hyd yn weddol boblogaidd yn bersonol ac mae ei lywodraeth yn un cymharol ddi-sgandal.

Cyfres o ffactorau cymharol ddibwys ynddyn nhw ei hun sy'n debyg arwain at dranc Mr Howard. Mae graddfeydd llog yn codi gan roi gwasgfa ar bocedi'r dosbarth canol. Mae gan Lafur arweinydd deniadol newydd ac mae'r etholwyr yn alaru a'r tensiynau rhwng Mr Howard a'i weinidog cyllid ynglŷn â phryd yn union y bydd y Prif Weinidog yn cadw ei addewid i drosglwyddo’r awenau’r llywodraeth.

Nawr ond dyw hynny i gyd yn swnio'n gyfarwydd? Yma ym Mhrydain wrth gwrs fe gafodd y mab darogan ei ddyrchafu'n er y gallai teyrnasiad Gordon Brown fod yn gymharol fyr. Mae'n ymddangos na fydd Peter Costello hyd yn oed yn cyrraedd y brig ar ôl degawd a mwy o ddisgwyl ac awchu am y brif swydd.

Os oes gennych anorac fe fydd hi'n bosib gwylio'r canlyniadau'n fyw ar wefan yr ABC.

Wps!

Vaughan Roderick | 13:44, Dydd Iau, 22 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Mae pawb yn gwneud camgymeriadau weithiau. Roedd hi'n ddiddorol darllen blog Adam Price ynghylch llwyddiannau llywodraeth yn y cynulliad. Dyma flas o'r hyn oedd ganddo i ddweud.

"Poring over the details of the One Wales budget you'll find there's twenty four specific commitments in line with Plaid's election manifesto. As someone closely involved in the manifesto process there's a real sense of achievement that these ideas have made that journey from pledge to policy."

Ymhlith y pedwar ar hugain o bethau sy'n cael eu rhestri gan Adam mae;

"2. £1.75 million over 3 years to pilot a free lap-top scheme for pupils"

Da iawn, ond pa gyllideb mae Adam yn ei darllen tybed? Does 'na ddim swm wedi ei benodi ar gyfer y cynllun hwn yn y gyllideb sydd o'm mlaen i ond yn ôl swyddogion a gweinidogion rhyw saith can mil o bunnau fydd yn cael ei gwario dros y tair blynedd gyda''r arian yn dod o'r gyllideb addysg. O wel, beth yw miliwn o bunnau rhwng ffrindiau?

Fe fyswn i'n cynnwys linc i sylwadau Adam ond am ryw reswm maen nhw wedi diflannu o'i flog!

Cloncian

Vaughan Roderick | 13:30, Dydd Iau, 22 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)


Dw i'n dechrau mynd yn aml-gyfryngol! Yn gyntaf daeth y blog yna'r podlediadau a nawr arbrawf bach arall.

Mae Syr Emyr Jones Parry yma heddiw yn trafod ei gonfensiwn. Neithiwr bu Bethan a finnau yn trafod y pwnc gyda Alun Davies, Nerys Evans a Trefor Jones ar CF99. Os wnaethoch chi golli'r rhaglen mae'n bosib gwylio'r sgwrs yn fan hyn. Gobeithio.

Arglwydd Banjo?

Vaughan Roderick | 17:09, Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Pwy fydd yn cynrychioli Plaid Cymru yn Nhŷ’r Arglwyddi? Wel credwch neu beidio mae 'na ymgeisydd eisoes wedi ei ddewis. Yn wir cafodd ei ddewis wyth mlynedd yn ôl cyn i'r blaid newid ei meddwl a phenderfynu peidio ag enwebu Arglwyddi wedi'r cyfan.

Pwy yw'r person hwnnw? Cyn-ysgrifennydd cyffredinol y blaid Dafydd Williams, Dai Banjo i'w gyfeillion. Erbyn hyn mae Dafydd yn gweithio i Lywodraeth y Cynulliad. Ydy e'n debyg o fynnu ei le yn ail siambr?

Lle cwrdd

Vaughan Roderick | 16:15, Dydd Mercher, 21 Tachwedd 2007

Sylwadau (5)

Yfory fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal cynhadledd ynglŷn â bwyta'n iach. Peidiwch â becso. Dw i ddim am droi i fod yn rhyw Jamie Oliver Cymreig. Nid testun y gynhadledd sydd o ddiddordeb ond y lleoliad.

Nid am y tro cyntaf, mae'r Llywodraeth yn defnyddio'r cyfleusterau ardderchog sydd ar gael yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd, canolfan sy'n cael ei marchnata gan Gyngor y Ddinas.

Edrychwch ar wefan y ganolfan. Mae anodd peidio edmygu'r cyfleusterau modern a'r cyfleustra ac mae pris llogi ystafelloedd o rwng £175 a £1500 y dydd yn ddigon rhesymol am wn i. Yr hyn sydd ddim yn cael ei nodi ar y wefan yw pwy sy'n berchen y Ganolfan a beth yw ei phwrpas. Rhaid mynd fan hyn i ganfod hynny.

Yn ogystal â bod yn ganolfan gynadledda mae Canolfan yr Holl Genhedloedd yn eglwys ac nid rhyw eglwys ryddfrydol, canol y ffordd chwaith. Mae'n eglwys sy'n credu hyn; "The Bible (Holy Scripture) is the inspired, inerrant, infallible word of God to all people at all times."

Er ei bod yn eglwys ifanc mae Eglwys yr Holl Genhedloedd yn perthyn i draddodiad yr eglwysi Apostolaidd a Phentecostaidd ac mae'n arddel diwinyddiaeth a elwir yn "restoration theology". Google yw eich ffrind i ddysgu mwy am y pwnc hwnnw ond teg yw dweud bod yr Eglwys yn arddel safbwyntiau traddodiadol a llym ynglŷn â phynciau moesol.

Rhydd i bawb ei farn wrth gwrs a does dim byd o'r hyn sydd gen i ddweud yn fan hyn yn unrhyw fath o feirniadaeth o'r Eglwys, ei swyddogion na'i haelodau.

Cwestiwn sy gen i. Ydy llywodraeth y Cynulliad yn gyffyrddus yn defnyddio arian cyhoeddus i ddefnyddio cyfleusterau sy'n gysylltiedig ag un grefydd arbennig, crefydd sy'n ystyried gweithredoedd hoyw a rhyw y tu allan i briodas yn bechadurus? Beth mae hynny'n dweud am ymroddiad y llywodraeth tuag at gydraddoldeb?

Disgwyl pethau gwell i ddod

Vaughan Roderick | 16:44, Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Mae 'na un neu ddau o bethau i wylio mas amdanyn nhw'r wythnos hon.

Fe fydd 'na newyddion am y confensiwn cyfansoddiadol ddydd Iau gyda'r un ar bymtheg o wleidyddion Llafur a Plaid Cymru sydd ar y pwyllgor llywio yn debyg o gwrdd cyn y Nadolig. Roedd gan Blaid Cymru un broblem. Roedd yn rhaid dewis pedwar aelod i gynrychioli'r blaid yn San Steffan- tasg digon anodd o gofio mae tri aelod seneddol sy 'na! Yr ateb mae'n debyg yw ychwanegu Cynog Dafis at y rhestr. Ydy hynny'n arwydd bod cyn aelod Ceredigion ar ei ffordd i'r meinciau cochion? Fe gawn weld.

Pris tanwydd yw un o'r pynciau ar CF99 nos yfory. Dyw Brinle ddim wedi protest eto ond mae pris petrol yn hanesyddol o uchel ac fe fyddwn ni'n datgelu ystadegau sy'n awgrymmu bod Cymru'n dioddef yn waeth nac un man. Nos yfory am 10.20 ar S4C.

Ble mae'r comisiynydd?

Vaughan Roderick | 11:46, Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Bu farw Comisiynydd Plant Cymru Peter Clarke ym Mis Ionawr eleni. Roedd sefydlu ei swydd yn un o gyflawniadau mawr y cynulliad cyntaf, rhywbeth yr oedd gwleidyddion o bob plaid yn brolio amdani. Ond dyma i chi beth rhyfedd. Os ydy'r swydd mor bwysig pam ar y ddaear y mae'n cymryd cymaint o amser i'w llenwi?

Ymddangosodd yr hysbyseb am y swydd ym Mis Awst wyth mis ar ôl marwolaeth Mr Clarke ac mae'n annhebyg y bydd ei olynydd wrth ei waith tan Mis Chwefror neu Fis Mawrth flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser mae'r dirprwy comisiynydd yn ymgymryd â'r gwaith ond ydy hynny'n ddelfrydol? Ydy dirprwy a'r un awdurdod neu'n debyg o fod mor ddi-flewyn ar dafod a chomisynydd go iawn? Go brin.

Lincs dan y lach

Vaughan Roderick | 11:03, Dydd Gwener, 16 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Mae'r BBC dan y lach ar Faes-e am ddefnyddio'r term "dan y lach" yn ormodol. Dyna'r unig reswm am y pennawd. Does a wnelo fe ddim byd a'r hyn sydd i ddod! Gan nad wyf wedi blogio rhyw lawer yr wythnos hon mae'n bryd i fi ddal lan ac ambell i stori sy'n mudferwi.

Dw i ddim yn ddigon cyfarwydd â'r sefyllfa i ddweud unrhyw beth mawr am helynt Ysgolion Gwynedd a byswn i byth yn beiddio datgan barn ynglŷn ag Ysgol Llanystumdwy gan fod gan gyfeillion i mi blant yno. Serch hynny dw i ddim yn meddwl bod y ffaith bod Lloyd George wedi bod yn ddisgybl yno yn ddadl arbennig o gryf yn erbyn ei chau.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn barnu'n wahanol gan gyflwyno'r cynnig yma yn San Steffan. Hyd yn hyn mae 14 aelod wedi arwyddo. Peth rhyfedd yw'r cynigion ysgrifenedig yma. Gellir eu gweld yn fan hyn .Yr wythnos hon ar yr unfed diwrnod ar ddeg o'r unfed mis ar ddeg (dyddiad arwyddocaol wrth gwrs) cyhoeddodd Paul Flynn gyfres o gynigion yn rhestri'r milwyr Prydeinig sydd wedi eu lladd yn Afghanistan ac Iraq ac yn mynegi cydymdeimlad a'u teuluoedd. Roedd hon yn ffordd syml ac urddasol o wneud pwynt. Paul, gyda llaw fydd y gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde i wrando.

Draw ym Mlaenau Gwent mae pethau'n mynd o ddrwg i waith i Lafur. Soniais wythnos ddiwethaf mai Mick Antoniw a Nick Smith oedd y ceffylau blaen am yr enwebiad seneddol. Wel methodd Mick gyrraedd y rhestr fer a hynny yn bennaf oherwydd bod rheolau'r blaid yn mynnu bod o leiaf dwy fenyw a dau aelod o leiafrifoedd ethnig ar y rhestr o chwech. Ffrae ynglŷn â rhestr fer o fenywod yn unig a arweiniodd at yr hollt rhwng Llafur a Llais y Bobol yn y lle cyntaf ond mae'n ymddangos nad yw'r blaid ganolog wedi dysgu ei gwers i gadw ei thrwyn mas o wleidyddiaeth rhyfedd gogledd Gwent. Yn y cyfamser mae cyn arweinydd y cyngor, John Hopkins, a ddiorseddwyd wythnos ddiwethaf wedi cadarnhau y bydd yn sefyll yn yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf ond nid, o reidrwydd, dros Lafur. Ydy hynny'n golygu bod y gŵr safodd YN ERBYN Trish Law yn yr isetholiad cynulliad yn bwriadu DROS y garfan annibynnol? Ym Mlaenau Gwent mae unrhyw beth yn bosib. I ddilyn helyntion y Blaenau does un man gwell na blog Luke Young.

Och gwae fi

Vaughan Roderick | 12:12, Dydd Iau, 15 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Dw i wedi bod braidd yn esgeulus da'r blogio'r wythnos 'ma wrth i mi geisio deall y gyllideb a setliad y cynghorau. Mewn gwirionedd hwn yw'r darn anoddaf o'r job a chan nad wyf yn gyfrifydd na'n broffwyd mae ceisio barnu pwy sy'n dweud y gwir wrth i'r cynghorau ddarogan gwae a'r llywodraeth fynnu bod pethau "yn dynn ond yn deg" yn dasg digon anodd.

Blynyddoedd yn ôl roeddwn arfer troi am gymorth i ddeall y setliad at gyfaill oedd yn drysorydd Cyngor Abertawe. Roedd y sgwrs wastad yn cychwyn yn yr un modd gyda'r cyfaill yn dweud hyn "Right, Vaughan. There are only three people who understand this; one's dead, one's on holiday...and I'm expensive!"

Gan fod y cyfaill hwnnw bellach yn aelod o'r dosbarth cyntaf dyw'r cymorth hwnnw ddim ar gael. Serch hynny dw i'n meddwl bod y darlun yn dechrau dod yn eglur.

Er bod ambell i gynghorydd yn meddwl fy mod yn siarad rwtsh ac yn mynnu y bydd 'na ddiswyddiadau gorfodol a thoriadau mewn gwasanaethau yn y flwyddyn ariannol nesaf dw i'n amheus o hynny.

Gyda chynnydd o bump y cant yn y trethi cyngor a chyfri'r ceiniogau wrth gynllunio gwasanaethau a llenwi swyddi gweigion dw i'n amau y bydd y rhan fwyaf o gynghorau’n gallu dygymod a'r sefyllfa.

Yn eironig efallai, gan fod y setliad ychydig yn fwy hael, gallai pethau fod anoddach yn y ddwy flynedd ddilynol ar ôl i'r arbedion "hawdd" gael eu gwneud.

Am syniad!

Vaughan Roderick | 07:46, Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2007

Sylwadau (2)

Un o Gwmgwrach yw Julia Gillard. Ymhen ychydig wythnosau, os ydy'r arolygon yn gywir, hi fydd dirprwy brif weinidog Awstralia wrth i Lafur drechu llywodraeth Geidwadol John Howard. Ddoe fe lansiodd Llafur ei hymgyrch yn swyddogol gydag addewid newydd beiddgar. Cluniaduron i ddisgyblion Ysgol Uwchradd. Teulu agos mae'n rhaid!

Cyfri ceiniogau

Vaughan Roderick | 15:28, Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2007

Sylwadau (2)

Yfory fe fydd Cynghorau Cymru yn cael gwybod faint yn union o arian fydd yn cyrraedd eu coffrau o lywodraeth y cynulliad flwyddyn nesaf. 2.2% yw'r cynnydd ar gyfartaledd ond fe fydd nag amrywiadau. Os ydy'r sibrydion yn gywir fe fydd Powys, er enghraifft, ond yn derbyn cynnydd o gwmpas un y cant. Ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth mae hynny'n gyfystyr a thoriad o un a hanner y cant.

Er bod y cynghorau yn gandryll a'r setliad gallai'r sefyllfa bod yn waith. Mae'n debyg mai 1.7% o gynnydd oedd wedi ei glustnodi ar gyfer llywodraeth leol yn y fersiwn gyntaf o'r gyllideb.

Pam, felly mae'r llywodraeth wedi penderfynu colbio'r cynghorau? Wel mae 'na sawl reswm, dybiwn i. Yn gyntaf mae'n weinidogion yn wleidyddion craff. Er bod y cynghorau yn bygwth cynyddu trethi cyngor yn sylweddol go brin y bydd unrhyw awdurdod yn gwneud hynny ar drothwy'r etholiadau lleol sydd i'w cynnal ym Mis Mai. Mae cynghorwyr ar eu mwyaf cyfrifol a chybyddlyd adeg etholiad. Arbedion, gohirio cynlluniau a man doriadau fydd y patrwm, mae'n debyg.

Fe fydd prinder arian hefyd yn cynyddu'r pwysau ar gynghorau i gydweithio a'i gilydd a rhannu adnoddau. Yn dawel fach mae gwleidyddion o bob plaid yn y Bae o'r farn bod gan Gymru ormod o gynghorau gyda rhai fel Merthyr ac Ynys Môn yn gwasanaethu llai na thrigain mil o bobol.

Yn wleidyddol dyw adrefnu'r cynghorau ddim yn bosib ar hyn o bryd. Mae cefnogaeth cynghorwyr Cymru yn hanfodol i sicrhâi llwyddiant y refferendwm arfaethedig i gynyddu pwerau'r cynulliad. Wedi'r cyfan y cynghorwyr, yn fwy na unrhyw un arall, oedd yn gyfrifol am fethiant refferendwm 1979. Yn y tymor byr felly ceisio gorfodi cydweithio rhwng y cynghorau yw'r unig ddewis sydd gan y llywodraeth.

Pobol y Cwm

Vaughan Roderick | 10:45, Dydd Gwener, 9 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Nid hwn yw'r tro cyntaf- na'r tro olaf mae'n sicr i mi ofyn y cwestiwn hwn. Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen ym Mlaenau Gwent?

Neithiwr cyhoeddodd John Hopkins arweinydd y Cyngor ei fod yn ymddiswyddo a thalwyd teyrnged wresog iddo gan Lafur. Dyma oedd gan lefarydd i ddweud.

"John Hopkins has a record to be proud of. He has served the people of Blaenau Gwent with dignity, vision and strength."

Wel doedd y "dignity vision and strength" yna ddim yn ddigon i John gadw ei swydd. O'r hyn dw i'n deall neidio cyn cael ei wthio gwnaeth John wrth i Lafur baratoi i wrthsefyll her "Llais y Bobol" yn yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf.

John oedd yr ymgeisydd Llafur aflwyddiannus yn yr isetholiad cynulliad y llynedd ac mae'n bosib bod y blaid yn teimlo bod angen wyneb ffres arnyn nhw wrth i gefnogwyr Trish law a Dai Davies hogi eu harfau.

Yn y cyfamser mae Llafur wrthi'n dewis ymgeisydd seneddol newydd. Mewn araith emosiynol cyhoeddodd Owen Smith nad yw'n bwriadu sefyll eto. Dw i'n amheus a ydy hynny'n ddiwedd ar ei uchelgais gwleidyddol. Fel cyn cynghorydd arbennig Paul Murphy gallai Owen fod mewn sefyllfa gref i'w olynu yn Nhorfaen yn hwyr neu'n hwyrach.

Yn y cyfamser mae'n debyg mae'r ceffylau blaen ym Mlaenau Gwent yw Mick Antoniw a Nick Smith. Dw i'n nabod Mick ers dyddiau coleg. Mae'n gweithio fel cyfreithiwr i gwmni Thompsons yng Nghaerdydd, cwmni sy'n arbenigo mewn achosion yn ymwneud a'r gweithle. Mae ganddo gysylltiadau da yn yr undebau er nad oes ganddo, hyd y gwn i, gysylltiadau cryf a'r etholaeth. Un o gyn-drefnwyr y Blaid Lafur yng Nghymru yw Nick sydd bellach yn gweithio i elusen yn Llundain. Mae'n ddyn dymunol a galluog gyda'i wreiddiau yn Nhredegar.

Mae'r ddau'n ymgeiswyr da, dybiwn i, ond dyw diorseddi Dai ddim yn mynd i fod yn hawdd wrth i "Lais y Bobol" gymryd y clod am gynlluniau sy'n dechrau dwyn ffrwyth yn yr etholaeth megis ail-agor y lein rheilffordd ac ail ddatblygu safle Corus yng Nglyn Ebwy.

Siarad plaen

Vaughan Roderick | 17:23, Dydd Iau, 8 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Nawr, dyma i chi rhywbeth diddorol. Un o nodweddion anarferol y glymblaid ym Mae Caerdydd yw bod Plaid Cymru wedi dewis enwebu ei llefarwyr ei hun i gysgodi gweinidogion Llafur. Mae Helen Mary Jones, er enghraifft, yn siarad ar iechyd ar ran y Blaid er mai Edwina Hart yw'r Gweinidog.

Mae'r dacteg wedi bod yn un effeithiol i Blaid Cymru. Yr hyn y mae'r llefarwyr yn tueddu gwneud yw canmol penderfyniadau a chynlluniau'r llywodraeth ym Mae Caerdydd tra'n arllwys dirmyg ar y llywodraeth yn Llundain. Mae'r cymhelliad yn amlwg a'r neges i'r etholwyr yn un syml "drychwch ar yr holl bethau da mae'r llywodraeth yn cyflawni...ond meddyliwch cymaint mwy y byddai'n bosib gwneud pe bai gan y Cynulliad fwy o bwerau neu be bai Plaid Cymru mewn grym".

Hyd yn hyn mae Llafur yn y Cynulliad wedi bod yn ddigon bodlon a'r trefniant ac mae 'na fanteision i'r blaid. Yn y siambr, fel enghraifft, mae'n golygu bod llais cefnogol yn cael ei alw i ymateb i ddatganiad ac yn eu hymosodiadau ar San Steffan mae llefarwyr Plaid Cymru ond yn dweud beth mae rhai aelodau Llafur yn ei gredu.

Serch hynny mae'r lled annibyniaeth y mae Plaid Cymru'n mwynhau yn destun eiddigedd ar y meinciau Llafur. Yr wythnos nesaf dw i'n cael ar ddeall y bydd Llafur yn penodi ei llefarwyr ei hun i gysgodi gweinidogion Plaid Cymru. Does dim modd i Blaid Cymru gwyno wrth gwrs ond mae'r penderfyniad yn awgrymu rhyw faint o densiwn yn y berthynas rhwng y ddwy blaid a theimlad yn y rhengoedd Llafur bod Plaid Cymru ar hyn o bryd yn elwa'n ormodol o'r glymblaid.

Pwy fydd y llefarwyr Llafur? Wel byswn i'n tybio y bydd un o leiaf o'r Gogledd- Leslie Griffiths, o bosib, a beth am y cyn-bleidwr a chas-berson rhai cenedlaetholwyr Alun Davies? Fe gawn weld.

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:57, Dydd Iau, 8 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Eleanor Burnham yw'r gwestai ar y podlediad diweddaraf. Gwasgwch y botwm ar y dde i wrando neu danysgrifio.

Ffwdanu am Ffermwyr

Vaughan Roderick | 20:03, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Peth peryg yw emosiwn. Roeddwn yn meddwl am hyn wrth eistedd yn oriel y senedd yn gynharach heddiw. Trafod ffarmwrs oedd y cynulliad. Mae hynny'n digwydd yn rhyfeddol o aml o ystyried maint y diwydiant amaeth ond mae'r dadleuon wastad yn dilyn yr un patrwm a phob amser yn sbri.

Yr hyn oedd yn digwydd yn ystod wyth mlynedd gyntaf y cynulliad oedd y byddai aelodau Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn baglu ar draws ei gilydd i ddarogan gwae ar ran byd amaeth gan gystadlu a'i gilydd wrth grochlefain am broblemau'n amaethwyr.

Tueddu cadw'n dawel fyddai'r aelodau Llafur gan syllu ar eu traed, wrth gytuno'n dawel fach a barn Paul Flynn mai byw ar gefnau'r trethdalwr y mae amaethwyr Cymru.

Ta beth, fe ddechreuodd y ddadl heddiw yn y modd arferol gyda Brinle Williams yn taranu yn ei ffordd unigryw ei hunl am effeithiau helynt clwyf y traed a'r genau ar ffermwyr Cymru. Cymaint oedd pryder Brinle nes iddo faglu ar draws ei eiriau gan honni bod ein hamaethwyr "on the bank of brinkruptcy".

Yna fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfedd. Efallai am fod ei gyd-bleidwraig Elin Jones bellach yn weinidog amaeth neu am nad yw tiroedd bras Llŷn ac Eifionydd bellach yn rhan o'i etholaeth fe feiddiodd Alun Ffred Jones awgrymu efallai, jyst efallai, bod Brinle'n mynd dros ben llestri braidd. Oedd, roedd rhai ffermwyr mewn trafferthion, meddai, ond roedd hynny'n wir am bobol a busnesau eraill hefyd. Onid oedd na beryg y byddai'r cyhoedd yn alaru o weld y Ffermwyr yn gofyn am gymorth cyhoeddus bod tro yr oedd rhywbeth yn mynd o le?

Gair i gall, efallai ond does dim arwydd bod 'na glustiau'n gwrando. Kirsty Williams ddaeth nesaf. Dechreuodd trwy son am y "drychineb" oedd yn wynebu ffermwyr yn sgil y clwyf. Ond nid dyna'r cyfan. Roedd effaith y digwyddiadau yn Purbright a'u heffeithiau yn "cakewalk" o gymharu'r a'r hyn sydd i ddod oherwydd y tafod glas. Fe fydd rhai yn amau bod y ffaith bod rhywbeth yn gallu bod yn drychineb ac yn "cakewalk" ar yr un pryd mwy neu lai yn profi pwynt Aelod Arfon.

Tyngu llw

Vaughan Roderick | 15:18, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2007

Sylwadau (3)

Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i fi ac nid dim ond oherwydd bod hi'n ddiwrnod CF99! Y bore 'ma derbyniodd fy mhartner ddinasyddiaeth Brydeinig mewn seremoni yn y Tŷ Mansiwn yng Nghaerdydd.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn dipyn o sinig pan gyhoeddodd David Blunkett y bwriad i gynnal y seremonïau yma. Roedd hi'n ymddangos yn un o'r gimics hynny yr oedd y cyn Ysgrifennydd Cartref mor hoff ohonyn nhw. Dyma oedd ei esboniad ef ar y pryd.

"We should value, promote and give real content to the acquisition to British nationality and the process of integration... becoming a British passport holder will not just be a piece of paper arriving in a brown envelope alongside the gas bill"

Dw i dal yn amheus o'r rhesymeg. Cyn gwneud cais am ddinasyddiaeth mae'n rhaid i unrhyw ymgeisydd fod a'r hawl barhaol i breswylio ym Mhrydain. Dyw cymryd y cam olaf yn ychwanegu fawr ddim at hawliau'r unigolyn ac eithrio pasport porffor a'r hawl i fwrw pleidlais. Mae 'na ddadl gref felly bod eu parodrwydd i dalu chwe chan punt a llenwi llwyth o ffurflenni ychwanegol i sicrhâi dinasyddiaeth lawn yn brawf ynddi ei hun o ymroddiad yr ymgeiswyr i'w gwlad newydd.

Serch hynny, ar ôl mynychu'r seremoni'r bore 'ma dw i'n meddwl bod y defodau yma yn bethau rhagorol- ond nid am y rhesymau a gynigiwyd gan David Blunkett. Yr hyn sydd wedi newid fy meddwl yw gweld cymaint y mae'r seremonïau'n golygu i'r bodol sy'n cymryd rhan.

Rhyw hanner cant o ddinasyddion newydd oedd yn cael eu croesawi gan Arglwydd Raglaw ac Arglwydd Faer Caerdydd heddiw, y mwyafrif llethol ohonynt o wledydd y Gymanwlad yn Africa a De Asia yn ogystal â llond dwrn o Awstralia a Seland Newydd. Ar ôl canu (neu wrando ar) "Hen Wlad fyn Nhadau" a thyngu llw i'r Frenhines galwyd pawb i fyny fesul un neu fesul teulu i dderbyn tystysgrif swyddogol y Swyddfa Gartref a thystysgrif o groeso gan Gyngor Caerdydd.

Roedd 'na ddigonedd o wenu o glust i glust, ambell i ddeigryn a theimlad anhygoel o falchder. Wedi'r cyfan nid newydd-ddyfodiaid i Brydain oedd y bobol yma ond pobol sydd wedi treulio rhwng saith a deng mlynedd ar gyfartaledd yn llenwi ffurflenni, yn gwneud ceisiadau di-ri am fisas ac estyniadau ac yn cadw biliau trydan a llythyrau gan y banc yn unswydd er mwyn profi ei hachos.

Dw i'n meddwl bod ymateb y dinasyddion newydd yn ddigon o gyfiawnhad dros y seremonïau newydd. Ydyn nhw'n debyg o fagu teimlad o berthyn a dinasyddiaeth ymhlith plant ac wyrion y mewnfudwyr? Wedi'r cyfan yn a'r ail a'r drydedd genhedlaeth y mae'r broblem mewn rhai cymunedau. Dyn a ŵyr.

Ffrae am ffiniau

Vaughan Roderick | 14:43, Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Dyw e hi ddim cweit yn rhyfel agored rhwng y Bae a San Steffan eto ond mae'r arfau'n cael eu hogi ac ambell i fwled yn cael ei thanio. Wrth i Lywodraeth y Cynulliad glustnodi dwy filiwn a hanner o bunnau ar gyfer y Confensiwn Cyfansoddiadol a'r adolygiad o'r ffordd mae'r cynulliad yn cael ei ariannu cyhoeddodd aelodau'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig eu bod yn bwriadu cynnal ymchwiliad i wasanaethau traws-ffiniol flwyddyn nesaf.

Y cynnwrf ynglŷn â'r awgrym y gallai cleifion o'r Gogledd orfod teithio i'r De am driniaeth niwrolegol sydd wrth wraidd y penderfyniad ond fe fydd y maes llafur yn llawer mwy eang na hynny. Fe fydd y pwyllgor yn ymchwilio i ddarpariaeth ym meysydd fel addysg uwch ac addysg bellach, cysylltiadau trafnidiaeth, darlledu a lefelau cyflog a chyflogaeth yn y gwasanaeth sifil yn ogystal a darpariaeth iechyd arbenigol.

Mae'r rhain i gyd yn bynciau pwysig a chwbwl dilys i'r pwyllgor eu hystyried ond mae'n anodd peidio credu bod 'na gymhelliad arall hefyd. Mae'n anorfod bron y bydd y pwyllgor yn cynhyrchu adroddiad sy'n pwysleisio pa mor agos yw'r cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr a sy'n cyflwyno rhyw fath o wrth-ddadl i'r rheiny sy'n dymuno gweld camau cyfansoddiadol cyson tuag at annibyniaeth.

Mae geiriau Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd David Jones yn ddadlennol;

"Welsh people, quite reasonably, cannot understand why they should be expected to put up with poorer levels of service, despite paying their taxes and national insurance contributions at precisely the same rate at people from the other side of Offa’s Dyke.I look forward to participating in the inquiry and hope that it will prove instructive to a Welsh Assembly Government that is, increasingly, perceived by North Walians as remote and out of touch.”

Fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal ar gyfnod lle mae 'na awgrymiadau clir bod yr awdurdodau Cymreig yn ceisio "cau'r ffin" rhwng Cymru a Loegr gan gredu bod Cymru yn talu trwy'r trwyn am wasanaethau y tu hwnt i Glawdd Offa.

Dw i wedi sgwennu am hyn o'r blaen a dw i'n rhyfeddu nad yw'r pwnc wedi cael mwy o sylw. Gydag unrhyw lwc fe fydd ymchwiliad y Pwyllgor Dethol yn gallu ysgogi ar drafodaeth gall yn hytrach na dim ond rhoi cyfle i wleidyddion sgorio pwyntiau.

Drysu'n lan

Vaughan Roderick | 12:01, Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Tryloywder yw un o hoff eiriau gweinidogion y llywodraeth. Mae popeth sy'n digwydd yn y Bae a Pharc Cathays i fod yn agored a dealladwy. Sut mae esbonio'r gyllideb felly- dogfen sydd, hyd yn oed yn nhermau dogfennau ariannol cymhleth, yn hynod o anodd ei darllen a'i deall.

Y rheswm am hynny yw newid sylfaenol yn y ffordd y mae llywodraeth y cynulliad yn gweithredu. Yn lle cyllideb gwbwl eglur lle mae pob un darn o wariant a'i linell ei hun yr hyn a geir yw cronfeydd mawr o arian lle bydd gwahanol brosiectau a chynlluniau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am gyllid.

Cymerwch yr adran dreftadaeth, un o'r adrannau sy'n gwneud yn dda, fel enghraifft. Dros y tair blynedd nesaf fe fydd gwariant yr adran yn cynyddu'n sylweddol ond sut fydd yr arian hwnnw'n cael ei wario? Yn yr hen ddyddiau fe fyddai'n bosib gweld o'r gyllideb faint yn union fyddai gan Y Cyngor Celfyddydau neu'r Cyngor Llyfrau i wario ond nid felly mae pethau bellach. Mae’r gwariant ar linellau'r cyrff ariannu bellach ond yn cyfeirio at eu costau gweinyddol. Mae'r arian a ddosberthir ganddynt i gyd bellach yn rhan o un gronfa fawr sef y gronfa ddiwylliant. Mae'n bosib gweld o'r gyllideb faint fydd yn y gronfa honno ond does 'na ddim arwydd pwy fydd yn derbyn beth ohoni.

Mae'r un newid i'w weld ar draws y gyllideb. Yn enghraifft fwyaf amlwg yw cronfa newydd o’r enw SCIB- y bwrdd cyfalaf strategol.

Mae'r union ffordd y bydd y bwrdd hwnnw yn gweithio'n gwbwl anelwig. Dyw gweinidogion a gweision sifil ddim hyd yn oed yn gallu dweud pwy yn union fydd yr aelodau ond mae'n gorff hynod bwerus. Yn y bôn yn lle cael eu cronfeydd cyfalaf ei hun fe fydd adrannau a gweinidogion unigol yn gorfod gwneud ceisiadau i SGIB am brosiectau unigol. Fe fydd yn rhaid dadlau achos ysbyty yn erbyn ffordd er enghraifft gyda gwerth cynllun yn cael ei fesur yn erbyn amcanion y llywodraeth.

Nawr, mae 'na gryn sylwedd i'r syniad yma gan rwystro'r sefyllfa lle mae un adran yn chwilio am brosiect ar gyfer ei harian tra bod adran arall yn crafu am geiniogau ar gyfer cynllun llawer mwy pwysig. Ond canlyniad yn newid y bydd deall a scriwtineiddio'r gyllideb yn hynod o anodd eleni ac mae hynny'n siwtio’r llywodraeth i'r dim.

Joe a German

Vaughan Roderick | 13:04, Dydd Llun, 5 Tachwedd 2007

Sylwadau (2)

Oce, dw i'n gwybod bod y gymhariaeth yn un cwbwl rhyfedd ond dyma gwestiwn i chi. Ai Mike German yw Joe Calzaghe gwleidyddiaeth Cymru?

Dros y mis diwethaf mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi bod yn cynnal ei fersiwn nhw o "re-unification bout" i sicrhâi bod gan y Blaid un arweinydd cyhoeddus yn unig yn y dyfodol yn lle'r cawlach o gael arweinydd Cymreig nad oedd yn Aelod Cynulliad.

Wrth gwrs dyw Mike ddim wedi gorfod paffio am ei wobr ar ôl i Lembit ddewis sefyll o'r neilltu a hongian ei felt yn wardrob Gabriella. Mae'r teitl yn dipyn o wobr gysur mewn gwirionedd gan fod Mike wedi ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar yr amod ei fod yn rhoi'r twls ar y bar ymhen rhyw flwyddyn.

Yn y cyfamser mae'r Blaid yn cynnal etholiad sydd hyd yn oed yn llai diddorol na'r ras rhwng Chris Huhne a Nick Clegg i ddewis llywydd newydd y Blaid yng Nghymru. Y cyn AC Christine Humphries, yr Athro John Last a'r Cynghorydd Bob Barton yw'r ymgeiswyr. Eisiau gwybod mwy? Doeddwn i ddim yn credu eich bod chi! Serch hynny mae'r swydd yn gallu bod yn un pwysig. Ym marn llawer, stranciau'r cyn-lywydd "Red Rob" Humphreys oedd yn bennaf gyfrifol am dranc yr enfys.

Cyn belled a mae Mike druan yn y cwestiwn mae "Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru" yn deitl digon dymunol ond dim hanner cystal â dirprwy brif weinidog!

Clecs Cyllidebol

Vaughan Roderick | 14:19, Dydd Gwener, 2 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Fe fydd y llywodraeth glymblaid yn wynebu ei phrawf mawr cyntaf Ddydd Llun wrth iddi gyhoeddi ei chyllideb gyntaf ac yn ôl y son mae'r broses o'i llunio wedi bod yn gymharol ddidrafferth. Mewn sawl ystyr mae'r enw cyllideb braidd yn gamarweiniol am y ddogfen fydd yn cael ei chyhoeddi. Gan nad oes pwerau i godi arian gan y cynulliad mae'r hyn a geir yw cynllun gwariant dogfen sy'n cyfateb a'r "Autumn Statement" yn San Steffan.

Mae cynnwys y gyllideb yn gwbwl ddirgel wrth reswm ond mae'n hysbys yn barod bod y setliad eleni yn un galed ac y bydd unrhyw gynnydd sylweddol mewn un maes yn golygu toriadau mewn meysydd eraill.

Beth sy'n debyg o ddigwydd felly? Wel does gen i ddim gwybodaeth fewnol ond mae'n bosib gwneud ambell i broffwydoliaeth.

Yn gyntaf gellir datgan yn bendant na fydd yr arian a roddir i'r awdurdodau lleol yn ddigon i sicrhâi na fydd 'na gynnydd uwch na chwyddiant yn y trethi lleol unwaith yn rhagor flwyddyn nesaf. Gydag etholiadau Cyngor Fis Mai nesaf fe fydd yr awdurdodau yn ceisio'u gorau i gynyddu’r trethi lleol cyn lleied ac sy'n bosib ond yr awgrym yw y bydd 'na gynnydd o ryw bump y cant ar gyfartaledd gyda rhai cynghorau sydd wedi benthyca'n helaeth (Abertawe, er enghraifft) yn wynebu blwyddyn anodd.

Dw i hefyd yn disgwyl y bydd yr adran ddiwylliant yn cael ei diogelu rhag gofynion Canolfan y Mileniwm naill ai trwy roi cymorth i'r ganolfan o'r arian wrthgefn neu drwy gynyddu 'r gyllideb ddiwylliannol.

Dyw'r gwariant ar iechyd ddim wedi cynyddu cymaint yng Nghymru ac yn Lloegr. Ar yr olwg gyntaf felly gellid cael cynnydd yn y maes hwn. Ar y llaw arall mae 'na dystiolaeth gynyddol bod y llywodraeth yn credu bod hi'n bosib gwneud arbedion sylweddol ym myd Iechyd trwy "gau'r ffin" a Lloegr a gwario'r "bunt Gymreig" yng Nghymru. Mae gwneud hynny'n fater hynod sensitif wrth gwrs yn enwedig yn y Gogledd a'r Canolbarth ond mae'n debyg mai'r bwriad yw cymryd meddygon ac arbenigwyr y De at gleifion y Gogledd yn hytrach na'u gorfodi i deithio i'r de am driniaeth.

Mae'n bosib bod arbedion hefyd yn bosib yn y gyllideb ddatblygu economaidd. Fe ddylai arian a arbedwyd trwy ddiddymu'r cwangos (os oedd 'na arbedion go iawn) fod yn amlwg yn y cyfrifon yn y flwyddyn ariannol nesa. Mae 'na hefyd awgrymiadau y gallai'r Undeb Ewropeaidd bod yn fwy hyblyg wrth ganiatáu defnyddio arian Ewropeaidd ar gynlluniau i wella'r rhwydwaith drafnidiaeth.

Cawn wybod y cyfan Ddydd Llun.

W Yr Misus

Vaughan Roderick | 16:15, Dydd Iau, 1 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)

Fe wnes i addo peidio torri'r embargo ar lyfr Alison Halford "Leeks from the Back Benches" ond fe aeth y demtasiwn yn ormod.

Erbyn hyn mae'r cyn aelod Llafur wedi ymuno a'r Torïaid ond roedd roedd Alison yn ddigon hoff o'r Ceidwadwyr yn ystod eri chyfnod yn y cynulliad gan ganmol pen ôl David Davies yn ystod un sesiwn gofiadwy.

Nid David oedd yr unig aelod i ddenu llygad y wraig sy'n disgrifio'i hun fel "Granny Halford" yn ei llyfr. Fedrwch chi ddyfalu pwy mae'n disgrifio yn fan hyn?

"Despite his small stature, I found him an attractive man with his black glistening hair, distinctive check shirts and elegant cuff-links protruding from well-cut suits. Despite our different age, size and poltical ethos we liked each other...."

Beth fydd gan Mrs Cairns i ddweud, tybed!

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:23, Dydd Iau, 1 Tachwedd 2007

Sylwadau (0)


Gan fod y gwelidyddion ar eu gwlyiau mae na gyfle i glywed gan rai o weithwyr y Cynulliad ar y podlediad yr wythnos hon. Pwyswch y botwm ar y dde i gwrdd a Des Downes a Sarah Johnson.

Mae 'na rhestr lawn o bodlediadau Radio Cymru yn fan hyn.

Penblwydd Hapus?

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Iau, 1 Tachwedd 2007

Sylwadau (2)

Gan ein bod yn dathlu/coffau chwarter canrif S4C fe wnes i benderfynnu wylio tap o noson gyntaf y sianel neithiwr gan ryfeddu bod pawb (gan gynnwys fi) yn edrych mor gythreulig o ifanc. Dyw e ddim yn lot o beth i frolio yn ei gylch ond fi oedd y gohebydd cyntaf i ymddangos ar wasanaeth newyddion y sianel gan ohebu o gwest ym Mhontypwl.

Cafodd y gwasanaeth hwnnw digon o feirniadaeth yn y dyddiau cynnar wrth geisio ateb i broblem sy'n pery trafferth i'r cyfryngau Cymraeg hyd heddiw- p’un sydd orau canolbwyntio ar newyddion o Gymru neu geisio cynnwys talpiau o newyddion Prydeinig a thramor ond heb yr adnoddau digonol i gystadlu a gwasanaethau rhwydwaith y BBC a ITV.

O ddewis y llwybr cyntaf ceir cyhuddiadau o blwyfoldeb a diffyg uchelgais- o ddewis yr ail clywir lleisiau'n bloeddio am "gawl eildwym" neu'n mynnu y dylid edrych ar straeon "o bersbectif Cymreig"- galwad sy'n golygu’n amlach na pheidio gohebu o bersbectif cenedlaetholwyr Cymreig.

Newyddion cymysg gyda'r flaenoriaeth i straeon Cymreig yw'r rysáit presennol ar S4C a Radio Cymru. Mae gorwelion y gwasanaeth ar-lein ychydig yn gulach gan ganolbwyntio'n llwyr ar Gymru gydag ambell i eithriad i straeon ynghylch diwylliannau lleiafrifol ac ati.

Os deallaf yn iawn, bwriad "Y Byd" yw cynnig gwasanaeth mwy cynhwysfawr. Pob lwc iddyn nhw ond dyw'r dasg ddim yn hawdd. Gan mai ail bapur fydd "Y Byd" i lawer o'i ddarllenwyr go brin y bydd pobol yn fodlon ar gyfieithiadau o adroddiadau asiantaethau ond mae'n anhebyg y bydd gan y papur yr adnoddau i ddanfon gohebwyr i fwy na lond dwrn o'r straeon mwyaf y tu hwnt i ffiniau Cymru.

Yr ateb i'r broblem, dybiwn i, yw ceisio dod o hyd i straeon a allai fod o ddiddordeb i ddarllenwyr Cymraeg nad ydynt yn cael fawr o sylw ym mhapurau Llundain a Manceinion. Fe fyddai cynnwys straeon o'r Alban a'r Iwerddon yn enghreifftiau amlwg o'r fath yna o bolisi ond Duw a'n gwaredo rhag straeon di-ri am ddefaid yn peswch ym Mhatagonia!

Grav

Vaughan Roderick | 13:27, Dydd Iau, 1 Tachwedd 2007

Sylwadau (1)

Does gen i fawr i ychwanegu at yr hyn sydd wedi ei ddweud am farwolaeth sydyn ac echrydus Ray Gravell. Fel pawb arall roeddwn yn hoff ar y naw ohono a'i bersonoliaeth gynnes. Roedd Ray wrth gwrs yn gwisgo ei wleidyddiaeth fel ei galon ar ei lewys. Cenedlaetholwr traddodiadol oedd e gyda'i ddaliadau wedi eu gwreiddio yn ei wladgarwch pybyr.

Nid bod hynny'n golygu ei fod yn naïf neu'n anwybodus. Pob tro yr oeddwn yn cwrdd roedd Ray yn awchu i glywed y clecs gwleidyddol diweddaraf. Roedd yn hynod o falch hefyd o'i gyfeillgarwch agos a Dick Spring pan oedd hwnnw'n ddirprwy ben ar lywodraeth Gweriniaeth Iwerddon ac roedd ganddo stôr o straeon difyr am wleidyddiaeth y wlad honno. Mae'n anodd dweud cymaint yw'r colled.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.