Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dathlu yn Derry

Vaughan Roderick | 11:52, Dydd Iau, 2 Awst 2007

Mae na rywbeth swreal weithiau yn perthyn i wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon. Yn sicr roedd gohebu o na'n gallu bod yn brofiad rhyfedd iawn ar adegau.

Ar un achlysur dw i'n cofio gohebu gyda Kate Adie yn Dundalk, cadarnle'r IRA ar y ffin rhwng y De a'r Gogledd. Roedd dirprwy arweinydd y DUP Peter Robinson a chriw o'i gefnogwyr yn ymddangos gerbron llys ar ôl “goresgyn” pentref yn y weriniaeth fel stynt gwleidyddol. Dw i ddim yn cofio canlyniad yr achos ond ar ei ddiwedd bu'n rhaid i'r unoliaethwyr redeg o'r llys i lawr y stryd fawr ac i fewn i'r afon wrth i dorf fawr eu bygwth a thaflu cerrig a bomiau petrol tuag atynt.

Tra'n ffilmio hyn oll daeth boi enfawr, bygythiol ei olwg, tuag atom gyda briscen mewn un llaw a gwn yn y llall. Syllodd ar Kate am gyfnod maith cyn gofyn yn swrth “are you Kate Adie?”. Nawr dwt fach yw Kate ond safodd ei thir am ychydig eiliadau cyn cadarnhau ei henw. Torrodd gwen enfawr ar wyneb y boi “my wife loves you... can you autograph my brick please?”

Roeddwn yn meddwl na fyddai'r un stori o'r dalaith yn fy synnu ar ôl honna nes i mi ddarllen hon. Mae'r murluniau yn ardaloedd dosbarth gwaith y dalaith yn dipyn o ryfeddod. Mae dawn ac ymroddiad yr artistiaid yn amlwg beth bynnag eu cymehellion. Mae na gasgliad llawn ohnyn nhw yn fan hyn.

Y murlun enwocaf heb os yw un o'r rhai symlaf. Ar dalcen tŷ teras islaw muriau Derry y peintiwd y gweirau “You are now entering Free Derry”. Mae'r wal o hyd yna, er bod y tŷ y tu ôl iddi wedi hen ddiflannu Ond am wythnos mae 'na rhywbeth yn wahanol. Yn lle'r cefndir gwyn arferol peintiwyd y mur yn binc llachar. Gwnaethpwyd hynny i nodi cynnal y “Free 2b Me festival” sef gwŷl i bobol hoyw y dalaith.

Nawr arhoswch am eiliad. Hollt crefyddol oedd wrth wraidd y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon- hollt rhwng Protestaniaid ffwndamentalaidd a Chatholigion. Hyd i mi wybod dyw'r Eglwys Gatholig na'r Eglwysi Protestannaidd ddim yn gyfeillion penna i'r gymuned hoyw. Yn sicr dyw Ian Paisley Jnr ddim yn ryddfrydol ei agwedd. Mae eraill wedi synhwyro rhywbeth pwysig. Wrth agor yr wŷl fe ddywedodd Martyn McGuiness hyn;

"Free Derry wall has been used since its inception by all sorts of community groups and all sorts of causes. That is what the wall is for and why should the gay community be denied that?"

Fe wnai wrthsefyll y temtasiwn i ddyfynnu geiriau Pastor Niemoeller yn fan hyn ond mae'r pwynt yn un syml. Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr moesol i frwydro dros hawliau dynol un garfan o bobol tra'n eu gwrthod i garfan arall. Yn anffodus mae'n rhan o'r natur dynol i wneud hynny. Meddyliwch am y gwleidyddion hynny sy'n uchel eu cloch dros y Cwrdiaid neu'r Palistinaid tra' n gwatwar ymgyrchwyr iaith, neu'r Cymry Cymraeg hynny sy'n mynnu eu hawliau eu hun tra'n diawlio eraill. Mae 'na wers i'w dysgu yn Derry.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:36 ar 2 Awst 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Sylwadau digon diddorol:

    Dau bwynt brysiog:

    Nid hollt crefyddol oedd wrth wraidd yr argyfwng hir yn y Gogledd. Gellir ei ddisgrifio fel hollt gwleidyddol, neu hyd yn oed un llwythol - ond nid fel un crefyddol. 'Doedd yna neb yn saethu neb arall oherwydd anghytundeb ynglyn a'r ddadl os oedd Crist yn ymgorffori yn ystod y cymun. Dadl ynglyn a statws cyfansoddiadol y Chwe Sir oedd hi - mater gwleidyddol, nid un crefyddol oedd hynny.

    Os nad ydi'r hen gof yn pallu, dwi'n meddwl mai cael ei ddyfarnu'n euog a'i ddirwyo oedd ffawd Peter Robinson. Roedd yn ystyried ei hun yn lwcus i beidio a chael ei garcharu.

  • 2. Am 16:17 ar 2 Awst 2007, ysgrifennodd Helen:

    Yn anffodus iawn, a hefyd yn eironig, cynrychiolwyr pybyr crefyddau sy'n pregethu 'na ladd' sy'n aml wedyn yn cefnu ar yr union egwyddor honno ac yn creu llanast, nid yn unig yn eu gwledydd eu hunain, ond trwy'r byd i gyd, a hynny yn enw 'democratiaeth', chwedl hwythau. Dyw'r rhagrith honno ddim yn gwneud dim synnwyr.

    Dyw e ddim yn syndod i mi fod mab Ian Paisley (anagram - ai epil asyn?) yn mynegi'r fath ragfarnau - mae hynny'n nodweddiadol o'r ffwndamentaliaeth a fu'n bla ar Ogledd Iwerddon ers degawdau - ac i be'? Dinistr, marwolaethau, rhaniadau, tlodi .... Yn ffodus, mae'r dyfodol, bellach, yn edrych yn well, gyda mwy o fuddsoddi a mwy o obaith, yn ôl rhywun rwy'n ei nabod sy'n dod o'r parthau hynny.

    Rwy'n meddwl yn ôl yn awr am rai myfyrwyr y cyfarfûm â hwy yn Aberystwyth yn y 1970au - y math o Sosialwyr Rhyngwladol a oedd yn gyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw, ac a oedd yn poeni am bob gwlad yn y byd ac eithrio'r wlad yr oeddent yn byw ynddi ar y pryd! Yn wir, roedd yn anodd ar adegau eu darbwyllo y dylai fod gennym ni, frodorion ein gwlad, hawl i ddefnyddio ein hiaith ein hunain yn ein gwlad ein hunan - rhywbeth nad oeddent wedi meddwl dim amdano am eu bod yn ei gymryd yn gwbl ganiataol. Ar y llaw arall, roeddent yn ddigon parod i ymgyrchu dros hawliau lleiafrifoedd mewn gwledydd eraill.....

    Ond stori arall yw hon. Yn awr, rhag ofn fod rhai yn credu fy mod yn 'speciesist', af ati i ymgyrchu dros hawliau ..... asynnod!!!!! (dim ond jocan dw i!)

  • 3. Am 16:43 ar 2 Awst 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Hynod o ddiddorol o Slugger:

    http://sluggerotoole.com/index.php/weblog/comments/cross-border-motorway-to-cut-half-hour-from-belfast-dublin-journey/

    Darllenwch y sylwadau - Cymru 30 mlynedd yn ol ?

  • 4. Am 17:29 ar 2 Awst 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Cai,
    Dw i'n hoff iawn o'r term hollt llwythol. Dw i ddim yn meddwl bod hollt gwleidyddol yn cyfleu'r sefyllfa. Wedi'r cyfan ar ddiwedd y dydd ychydig iawn o genedlaetholwyr/ gweriniaethwyr Protestanaidd sy 'na ac er bod 'na Gatholigion sy'n ffafrio aros yn y DU go brin y byddai nhw'n disgrifio eu hun fel "Unoliaethwyr". Dw i'n derbyn nad dadl ddiwynyddol yw hi serch hynny mae crefydd fel "bathodyn" llwyth yn rhan bwysig ohoni. Mae geiriau Craigavon yn drawiadol "Ours is a Protestant government and I am am Orangeman … I have always said that I am an Orangeman first and a politician and a member of this parliament afterwards".

  • 5. Am 18:47 ar 2 Awst 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Vaughan

    Hollt rhwng dau lwyth gyda diwylliant gwleidyddol sydd ar rhyw olwg yn debyg - ond sydd yn gwbl groes i'w gilydd mewn ffordd arall.

    Mae crefydd yn 'marcio'r' llwythau - ond mae yna bethau eraill yn gwneud hynny hefyd - y math o chwaraeon mae rhywun yn ymddiddori ynddynt, y math o gerddoriaeth y bydd pobl yn gwrando arno ac hyd yn oed sut bydd merched yn gwneud eu gwalltiau.

    Mae crefydd yn ffordd bwysig o ddehongli pa lwyth ydi rhywun. Cefais brofiad personol o hyn yn ddiweddar. Gofynwyd i'r wraig ddweud y weddi Babyddol 'Henffych well Fair _ _' mewn tafarn yng Ngorllewin Belfast yn ddiweddar. O'i hadrodd yn gywir cafodd groeso cynnes - er ei bod yn gwbl amlwg nad yw yn Wyddeles.

    Serch hynny mae eithriadau wrth gwrs. Protestant a chyn aelod o'r RUC ydi Billy Leonard, unig gynghorydd Sinn Fein ar Gyngor Colraine.

    Hefyd, mae nifer o arweinwyr gweriniaethol o'r gorffennol wedi bod yn Brotestaniaid - Wolf Tone, Napper Tandy, Emmet, McCabe, McTeir, Russell_ _ - mae'r rhestr un maith.

  • 6. Am 20:28 ar 2 Awst 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dw i'n meddwl bod ni'n cytuno yn y bon yn fan hyn! Dw i yn gweld hi'n ddiddorol bod yr ochr weriniaethol wedi mabwysiadu rhyddfrydiaeth gymdeithasol lle nad yw hynny wedi digwydd ar yr ochr unoliaethol. Hwyrach bod crefydd yn rhan bwysicach o'r ymwybyddiaeth ar yr ochor unoliaethol. Dw i'n cofio cael sgwrs hir da'r diweddar David Irvine o'r PUP a fe'n esbonio bod y diwylliant "oren" yn un hynod batriarchaidd a cheidwadol (c fach). Roedd yn gresynu nad oedd na mudiad asgell chwith unoliaethol poblogaidd a bod cymunedau dosbarth gwaith Protestanaidd yn methu cynhyrchu eu harweinwyr eu hun yn yr un modd a'r cymunedau Catholig.

  • 7. Am 22:01 ar 2 Awst 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Llwyth yw'r pwynt - dim crefydd - lle rhyfedd ofnadwy - proffwydo'n bersonal bydd y Protestanwyr yn hapusach gyda Iwerddon Unedig na Gogledd Iwerddon gyda Sinn Fein yn ei arwain. Gewn ni weld.

  • 8. Am 09:49 ar 3 Awst 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mae'r hyn y mae'r Pabyddion yn sefyll drosto fel pe bai'n amrywio yn ôl y wlad y maent yn byw ynddi. Er enghraifft, mae'r Blaid Ddemocrataidd Gristnogol Eidalaidd yn griw ceidwadol iawn, a than tua chanol yr 20fed ganrif, bron y gellid dweud bod yr Eglwys a'r wladwriaeth yn annatod wrth ei gilydd. Yn wir, roedd rhai Pabyddion Eidalaidd traddodiadol ar ddechrau'r 20fed ganrif yn llwyr yn erbyn unrhyw fath o 'gasglu trysorau ar y ddaear', h.y. gwella amodau byw pobl yn y fuchedd hon, gan y byddent yn byw mewn Paradwys yn y fuchedd nesaf, ond iddynt lynu wrth athrawiaeth lem yr Eglwys. O ganlyniad, roedd ymdeimlad yn bodoli, ymysg trwch y boblogaeth mewn rhai mannau, nad oedd unrhyw bwynt dros ymladd yn erbyn tlodi na thros hawliau gwahanol rannau o gymdeithas.

    Mor wahanol, yn wir, i'r hyn y mae Pabyddiaeth Gogledd Iwerddon yn sefyll drosto.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.