Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Kim, Kinnock a Iori

Vaughan Roderick | 10:18, Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2007

Dw i ddim ar y cyfan yn berson eiddigeddus cyn belled ac mae cael sgŵps yn y cwestiwn. Serch hynny dw i yn difaru mai Martin Shipton gafodd afael ar lythyr Kim Howells i'w blaid leol yn damnio ac yn diawlio'r glymblaid bosib a Phlaid Cymru. Dyma flas ohoni.

“All of these aspirations are, of course, at the heart of the nationalist agenda. They lead ultimately to separation and independence... It is ironic that the very same party that for so long held at bay the separatists and cultural and political nationalists is prepared, now, to provide for their former enemies an Assembly vehicle that transports those same nationalists to the gates of independence.”

Mae darllen geiriau Kim yn dwyn i gof y fath o iaith a dadleuon a ddefnyddiwyd gan Neil Kinnock a gwrthwynebwyr datganoli yn 1979 ac yn bellach yn ôl dadleuon Iori Thomas, Ness Edwards a'u tebyg. Dyw'r fath dadleuon na'r fath iaith ddim wedi bod yn ffasiynol yng nghylchoedd Llafur ers blynyddoedd. Yn wir mae rhai yn dadlau mai ffrwyth dychymyg newyddiadurwyr yw'r gred fod gan y Blaid asgell unoliaethol/Brydeinig ac asgell genedlaethol/Gymreig.

Roedd gan Leighton Andrews hyn i ddweud ar ei flog yn ddiweddar;

"There have been a number of strange claims made over recent weeks that Welsh Labour is somehow divided between a 'unionist' and a 'nationalist' or 'Welsh' wing... At the margins of Welsh Labour you may find one or two people who believe it, but I know of nobody in an elected position who subscribes to the view.
Labour is a unionist party. I remember, for example, when Carwyn Jones launched his Institute of Welsh Affairs pamphlet on the future of Welsh Labour a few years ago, he said himself that Labour is a unionist party at the launch."

Mae Leighton yn gwbwl cywir mewn un ystyr, wrth gwrs. Dw i ddim yn meddwl bod 'na unrhyw un o fewn Llafur Cymru sy'n cefnogi annibyniaeth i Gymru ond mae'n amlwg bod Kim yn credu bod 'na wahaniaeth barn sylfaenol a hanesyddol o fewn y blaid. Yn ei lythyr mae'n dweud hyn;

“He (Ron Davies) was intent upon reviving the old nationalist dream of a Wales without party political divisions – a Wales in which the great and the good would speak ‘selflessly’ for the ‘gwerin’ or ‘real’ people of Wales. This species of proto-nationalism is shared by significant sections of the chattering classes, inside and outside of the Welsh Assembly and, I’m sorry to say, amongst some in the UK Parliament."

Nawr, wrth gwrs, mae newyddiadurwyr a sylwebyddion yn symleiddio'r gwahaniaethau yma. Yn ystod streic y glowyr roedd Kim Howells yn ffigwr allweddol wrth sefydlu cynulliad "answyddogol" i gefnogi'r streic, yr arwydd gyntaf bod y mudiad Llafur yn ail-gofleidio'r syniad o ddatganoli ar ôl 1979. Mae hi hefyd yn wir i ddweud mai system bleidleisio'r cynulliad yn hytrach na'r cynulliad ei hun sy'n ei gythruddo.

Mae Leighton hefyd ar adegau yn gallu bod yn dipyn o "Nat-basher" ond roedd e'n ymgyrchydd brwd dros bleidlais "Ie" yn 1979 a 1997 ac mae'n ddatganolwr wrth redd. Efallai ei fod e'n iawn i ddweud fod rhannu’r blaid yn ddwy asgell yn annheg ond yn sicr mae 'na wahanol ffrydiau o fewn y Blaid ffrydiau sy'n dyddio nôl i'r dadleuon cynnar ynglŷn â hunanlywodraeth yn nyddiau Keir Hardy a'r ILP. Mae llythyr Kim yn brawf o wytnwch un o'r ffrydiau hynny.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:05 ar 4 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd David:

    Pan welwch chi Kim Howells a Lynne Neagle a'u math yn eich beirniadu, gallwch fod yn weddol fodlon eich bod yn gwneud gwaith da.

    Dal ati Rhodri Morgan!

  • 2. Am 12:31 ar 5 Gorffennaf 2007, ysgrifennodd Helen:

    Bydd rhai adweithiol bob amser yn ceisio cynhyrfu'r dyfroedd o fewn y Blaid Lafur, fel ym 1979. Yr unig gysur yw bod yr eithafiaeth ffyrnig o wrth-Gymreig a welwyd y pryd hynny, gan N. Kinnock a'r dyn o Bont-ap-hywel na roddaf ei lysenw yma rhag i bobl ddod i'r c-a-s-g-l-i-a-d anghywir amdanaf (!!!!!) fel pe bai wedi marw'n naturiol. Erbyn hyn, rwy wedi gweld dogfen Cymru'n Un ac, o safbwynt aelod o Blaid Cymru, credaf ei bod yn flaengar ac yn uchelgeisiol. Felly croesaf fy mysedd, yn weddol ffyddiog na ddaw dim ar yr unfed awr ar ddeg i rwystro'r cynllun rhag troi'n ffaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.