Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhodri yn ffau'r llewod

Vaughan Roderick | 11:53, Dydd Mercher, 13 Mehefin 2007

Fe fydd Rhodri Morgan yn cwrdd ag Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn San Steffan y prynhawn yma i geisio eu hargyhoeddi o'r angen am glymblaid a Phlaid Cymru. Mae'r dasg yn un anodd gyda'r nifer o aelodau'n gwrthwynebu unrhyw amserlen ar gyfer cynnal refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad. Mae agwedd yr aelodau yn hollbwysig gan fod Plaid Cymru ym mynnu cael addewid pendant y byddai'r Blaid lafur gyfan yn ymgyrchu dros bleidlais "Ie" mewn refferendwm- syniad sy'n wrthun i rai yn Llundain.

Mae rhai Aelodau Seneddol hefyd yn bwriadu mynnu bod unrhyw gytundeb a Phlaid Cymru yn derbyn sêl bendith trwch y blaid er na ddigwyddodd hynny yn achos y cytundeb a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:46 ar 13 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Dyma'r drwg o fod yn ddarostyngedig i anghenfil o blaid sydd ag Aelodau Seneddol yn San Steffan nad ydynt, o anghenraid, wedi'u 'Cymreigio' i'r un graddau â'r ACau yng Nghaerdydd. Croesaf fy mysedd, serch hynny, y goresgynnant unrhyw rwystrau a fo o'u blaenau, er mwyn cael clymblaid ar y chwith a fydd â mandad gan drwch y pleidleiswyr. Mynnaf o hyd mai dyma'r opsiwn gorau, ac mai 'cysgu gyda'r gelyn' fyddai opsiwn yr 'enfys', neu'r 'mirage' chwedl Rod Richards (Golwg, rai wythnosau'n ôl, a chyda llaw, nid yn aml iawn y byddaf yn cytuno â'r cyn-wleidydd hwnnw!).

  • 2. Am 14:05 ar 13 Mehefin 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Os yw Llafur yn cefnogi refferndewm ar ragor o bwer i Gymru fydd hyn yn golygu llai o ASau (Llafur) o Gymru?

    Os felly, fydd Llafur byth eto yn rheoli yn San Steffan!

  • 3. Am 19:38 ar 13 Mehefin 2007, ysgrifennodd Eirian:

    Yr hyn sydd yn bwysig yn awr yw bod y Blaid Lafur yn gosod ger bron beth bynnag sydd yn cyfateb i Gyngor Cenedlaethol Plaid Cymru o'r telerau a gytunir gan y cyrff negodi clymblaid o fewn amser rhesymol, a bod Plaid Cymru yn cyflwyno y ddwy gytundeb clymbleidio y mae hithau wedi'i negodi i'w Chyngor Cenedlaethol. Oni wneir hynny bydd y gwrthwynebwyr i glymblaid rhwng y ddwy ar dir i gwyno nad yw'r cytundeb wedi cael ei gymeradwyo gan gynrychiolwyr yr aelodau cyffredin.

    Os ceir cydsyniad yr aelodau ar lawr gwlad trwy cynrychiolwyr ei canghennau ac etholaethau yna bydd yr arweinwyr ar dir cadarn i fwrw ymlaen. Heb hynny nid yw cytundeb i ymgyrchu dros bleidlais cadarnhaol mewn refferendwm ar bwerau cyfatebol i Senedd yr Alban yn werth dim.

    Cofier na fu'r Blaid Lafur yn ddigon cryf i fedru dosbarthu ei llenyddiaeth o ddrws i ddrws ymhob etholaeth degawd yn ol ac y mae ei haelodaeth wedi heneiddio ers hynny.

    Ni fyddai'n beth doeth ychwaith i Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru i amddifadu ei Chyngor Cenedlaethol rhag trafod y ddwy gytundeb. Mae cael y dewis a cholli yn hollol wahanol i gael eich amddifadu o'r dewis hwnnw.

  • 4. Am 19:44 ar 13 Mehefin 2007, ysgrifennodd Bil:

    Ond yw'r holl banic yma i Lafur ffurfio clymblaid gyda Plaid Cymru braidd yn ffals - nid Llafur heddiw yw'r Llafur sosialaidd cadarn y cofiwn amdano yn y gorffennol. Dwi'n tueddu i gredu bod Blair wedi newid Llafur y tu hwnt i unrhyw achubiaeth. Bellach rhaid symud ymlaen a gweld bod hyd yn oed y Ceidwadwyr (gelynion pennaf cenedligrwydd Cymru ar un adeg) bellach yn gymwys i haeddu bod yn rhan o lywodraeth Cymru. Mae yma gyfle euraidd i symud agenda gwleidyddiaeth ymlaen i greu consensws barn ymysg gwleidyddion ar rai materion allweddol; - prysured y dydd.

  • 5. Am 20:41 ar 13 Mehefin 2007, ysgrifennodd D thoams:

    "'cysgu gyda'r gelyn' fyddai opsiwn yr 'enfys'".....Digon teg Helen. Ond os ddigwyddith y briodas rhwng Plaid a Llafur, cofia'r ymadrodd "hug them close and strangle them slowly" neu falle (fel rwy't ti'n awgrumu) fydd pethe'n wahanol y tro hwn. Cymer ofal. Hi Hi!

  • 6. Am 00:58 ar 14 Mehefin 2007, ysgrifennodd Bwbach:

    Os yw Llafur yn cynnig deddf iaith a grym gwirioneddol i Lywodraeth Cymru, all rhywun esbonio i mi beth fydd swyddogaeth Plaid Cymru wedi hynny?

  • 7. Am 10:22 ar 14 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Dyna'r union reswm pam y mae angen i Blaid Cymru sefyll yn gryf ar y mater o gael Senedd ddeddfwriaethol lawn, yn ogystal ag ar faterion eraill, megis addysg, iechyd a chyfiawnder cymdeithasol, sy'n agos iawn at galonnau pawb o fewn y Blaid. Mae'n wir fod y dyn Blêr wedi gweddnewid ei blaid ei hun, ar lawer i ystyr, ond dyma enghraifft dda o'r modd y mae'r Blaid Lafur yng Nghymru'n wahanol i'w chyfnither (nid ei chwaer!) dros y ffin (sylwer ar y gwahaniaeth, er enghraifft, rhwng Peter Hain a Rhodri Morgan yn hyn o beth).

    Credaf ei bod yn rhy gynnar eto sôn am hawliau Senedd Cymru i godi trethi ac, yn y pen draw, i bennu graddfeydd trethi, ond bydd yn rhaid codi'r mater hwn hefyd ymhen rhai blynyddoedd.

    Ofn y Blaid Lafur, ac mae hyn yn ofn dealladwy, o safbwynt yr anghenfil dros y ffin, yw y gallai annibyniaeth lwyr i Gymru a'r Alban arwain, yn y pen draw, at yr hyn a fyddai i bob pwrpas yn wladwriaeth Seisnig barhaol las, gydag etholiadau seneddol mewn enw yn unig bob 5 mlynedd!

    Yn sicr, o fewn unrhyw Gymru wirioneddol annibynnol a fo gennym yn y dyfodol, mae'n rhesymol tybio y byddai Plaid Cymru fel rydym ni'n ei hadnabod yn dod i ben. Yn ei lle, byddai gwahanol bleidiau ar dde, y canol a'r chwith ac, yn fy marn i, y chwith a'r canol fyddai'r prif bleidiau, a phlaid/pleidiau'r dde yn cynrychioli lleiafrif bach iawn o bobl, ond mater hollol wahanol yw hwn - damcaniaeth a drafodir ymhen rhai blynyddoedd, yn ôl pob tebyg.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.