Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rant gan Richard

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Yn y rhifyn newydd o Barn (ar gael heddiw) mae Richard Wyn Jones yn tanio magnel i gyfeiriad rebeliaid Plaid Cymru. Dyma flas.

Cofiwch mai Maggie Thatcher a John Redwood oedd cri gynyddol ddesprêt Llafur yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Ai dyma, yn y pen draw, garreg sylfaen safbwynt y pump hefyd? Hynny er gwaetha’r ffaith fod Thatcher wedi ymddiswyddo ers bron i ddwy flynedd ar bymtheg (sef, os mentra’i ddweud, cyn bod llawer o gof gwleidyddol gan ddwy o’r pump), a Redwood wedi peidio â bod yn Ysgrifennydd Gwladol ers 1995? Os felly, ydi hyn mewn difrif yn sail ddigonol i benderfynu gwrthod clymbleidio â’r Torïaid, a hynny ar sail dogfen bolisi sydd heb os nac oni bai yn adlewyrchu llawer iawn o ‘werthoedd ac amcanion sylfaenol’ Plaid Cymru?....

A yw Helen Mary Jones, Leanne Wood, Bethan Jenkins, Nerys Evans a Jill Evans mewn difrif am ddadlau nad oes ‘gwrthdaro gwerthoedd ac egwyddorion sylfaenol’ rhyngddynt a’r blaid a roddodd inni:
-y penderfyniad i lansio rhyfel anghyfreithlon a chyfan gwbl anghyfrifol yn erbyn Irac?
-y penderfyniad i wario o leiaf £20 biliwn yn llogi taflegrau Trident II gan yr Americanwyr, a hynny’n unig er mwyn i’r Deyrnas Gyfunol chwifio’i bidyn ar y cae chwarae rhyngwladol (a chodi dau fys ar y cytundeb non-proliferation yn y broses)?
-y penderfyniad i roi rhwydd hynt i gytundebau PFI rif y gwlith a fydd yn faen melin ar ysgwyddau cenedlaethau’r dyfodol?
-bolisïau economaidd a chymdeithasol sydd wedi caniatáu i’r gagendor rhwng y tlawd a’r cyfoethog dyfu’n fwy nag oedd dan y Torïaid, hyd yn oed?"

... a llawer mwy

I ddarllen y cyfan rhaid prynu'r cylchgrawn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:02 ar 12 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Cyn imi gael fy rhifyn i o 'Barn', rhoddaf fys ar allweddell unwaith eto ... Wrth gwrs fod fy ngwaed yn berwi, a minnau'n gyn-aelod o Gyngor Cenedlaethol CND yn y 70au, pan gytunodd Mr Blêr a'i griw i adnewyddu Trident, a chyn hynny, wrth reswm, pan aeth y llywodraeth Lafur dros y ffin â gwledydd Prydain i Irác, yn byped bach i Bush, heb unrhyw dystiolaeth gadarnhaol fod gan Irác arfau hollddinistriol .... Fodd bynnag, rwy'n berffaith siwr y byddai llywodraeth Dorïaidd dan Major neu unrhyw un arall wedi gwneud yr un peth.

    Fodd bynnag, rhaid cofio mai llywodraeth Lafur roddodd gyfle i Gymru gael refferendwm ar ddatganoli yn y lle cyntaf, ac na fyddai llywodraeth Dorïaidd Brydeinig fyth wedi gwneud shwd beth. Ar ben hynny, tan yn gymharol ddiweddar, roedd rhai Torïaid dros y ffin yn dal i obeithio y byddai llywodraeth Dorïaidd yn y dyfodol yn gallu diddymu'r Cynulliad. Dyma'r cefndir, ac rwy'n siwr fod mwy o bobl o fewn y Blaid Lafur yn erbyn Trident ac yn erbyn mynd i ryfel yn Irác nag o fewn y Blaid Dorïaidd.

    Ar ben hynny, mae angen cofio mai'r Blaid Dorïaidd a arweiniodd wledydd Prydain i'r Malvinas chwarter canrif yn ôl (fel y mae'r cyfryngau mor awyddus i'n hatgoffa). Pam? Am fod Thatcher a'i chriw yn gwneud cymaint o smonach o'r economi gartref (a hynny cyn dinistrio'r diwydiant glo) fel bod angen tynnu sylw'r cyhoedd oddi wrth y sefyllfa ddomestig ar y pryd!

    Byddai'n well imi ddistewi nawr!

  • 2. Am 13:52 ar 12 Mehefin 2007, ysgrifennodd D Thomas:

    Mae 'na lot of dybiaethau uchod Helen.

  • 3. Am 15:36 ar 12 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Tybiaethau? A oes rhywun yn meddwl o ddifrif y byddai John Major wedi cynnig datganoli pe bai wedi ennill etholiad 1997? A oes rhywun, yn wir, yn credu y byddai llywodraeth dorïaidd dan William Hague, dyweder, wedi gwrthod cydweithredu â Bush adeg goresgyniad Irác yn 2003? A phwy sy'n credu y byddai llywodraeth dorïaidd dan arweinyddiaeth Michael Howard wedi gwrthod adnewyddu Trident?

  • 4. Am 19:12 ar 12 Mehefin 2007, ysgrifennodd iestyn:

    Ond am ba mor hir y mae'n rhaid i ni dalu'r teyrnged hyn i'r blaid Lafur, yng ngwyneb Plaid Doriaidd sydd wedi Cymreigio llawer yn fwy nag un o'r pleidiau Prydeining eraill? Am sawl genhedlaeth byddwn yn anwybyddu chwarter poblogaeth Cymru oherwydd bod Thatcher 'di bod yn gas wrthon ni (a'r Blaid Lafur wedi gwneud beth yn union i'n helpu yn sgil hynny?)? Dwi ddim yn hoffi codi pynciau Prydeining fel rhan o ddadl Cymreig, ond dwi ddim yn clywed unryw leisiau yn cwyno bod Tony Blair yn cyfri Thatcher ymysg ei arwyr...

    Gyda llaw, dwi ddim yn or hoff o glymblaid yr enfys chwaith, ond mae'n rhaid ei gymharu gyda chlymblaid a phlaid sy'n bygwth veto yn Llundain ar waith Llywodraeth Cymru os nad y'n nhw'n cael eu ffordd, yn eithrio dwr Cymru o unrhyw ddatganoli pellach, ac yn son am y 'mandad moesol' i reoli oherwydd taw nhw sydd a'r nifer uchaf o seddi (er llai na thrydydd o'r pleidleisiau).

  • 5. Am 21:20 ar 12 Mehefin 2007, ysgrifennodd D thoams:

    Adrych ar y geiriau rwyt ti wedi dewis.....''chwarter canrif yn ol!'' Pam na wnei di symud ymlaen? Dwi'n gwybod beth sydd yn digwydd heddiw o dan y Llywodraeth Lafur 'ma.....Miloedd yn cael eu llad BOB dydd oherwydd celwydd Prif Weinigog LLafur. A wedi'r celwydd ddod i'r amlwg, mi wnaeth AS'au Llafur ei gefnogi. Gofyn i Adam Price! Arian am anrhydeddau o dan Prif weinidog LLafur. Adnewyddu Trident o dan Prif Weinidog Llafur! Y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn fwy nag o dan y Toriaid a hynny dan Prif Weinidog Llafur. Ac mi rwyt ti yn defnyddio tybiaethau am y Toriaid i wneud dy achos ac hefyd pethau a ddigwyddodd ''chwarter canrif yn ol''. Dwi ddim yn becso beth wyt ti na neb arall yn meddwl y byddai'r Toriaid wedi gwneud mewn rhyw sefyllfa neu gilydd OND rwy'n gwybod beth mae Llafur WEDI gwneud. Mae gwaed ar eu dwylo. Neu a wyt ti'n anghytuno ac fy mod i'n gwneud cam a Blair a'i griw? Yn wir, rwyt ti uchod i weld fel petaet yn meddwyl taw'r Blaid Lafur yw dy gartref ysbrydol. Efallai dylset ymuno a hi a chael diwedd arno.....

  • 6. Am 21:22 ar 12 Mehefin 2007, ysgrifennodd D thoams:

    Adrych ar y geiriau rwyt ti wedi dewis.....''chwarter canrif yn ol!'' Pam na wnei di symud ymlaen? Dwi'n gwybod beth sydd yn digwydd heddiw o dan y Llywodraeth Lafur 'ma.....Miloedd yn cael eu llad BOB dydd oherwydd celwydd Prif Weinigog LLafur. A wedi'r celwydd ddod i'r amlwg, mi wnaeth AS'au Llafur ei gefnogi. Gofyn i Adam Price! Arian am anrhydeddau o dan Prif weinidog LLafur. Adnewyddu Trident o dan Prif Weinidog Llafur! Y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn fwy nag o dan y Toriaid a hynny dan Prif Weinidog Llafur. Ac mi rwyt ti yn defnyddio tybiaethau am y Toriaid i wneud dy achos ac hefyd pethau a ddigwyddodd ''chwarter canrif yn ol''. Dwi ddim yn becso beth wyt ti na neb arall yn meddwl y byddai'r Toriaid wedi gwneud mewn rhyw sefyllfa neu gilydd OND rwy'n gwybod beth mae Llafur WEDI gwneud. Mae gwaed ar eu dwylo. Neu a wyt ti'n anghytuno ac fy mod i'n gwneud cam a Blair a'i griw? Yn wir, rwyt ti uchod i weld fel petaet yn meddwyl taw'r Blaid Lafur yw dy gartref ysbrydol. Efallai dylset ymuno a hi a chael diwedd arno.....

  • 7. Am 23:47 ar 12 Mehefin 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    "Miloedd yn cael eu llad BOB dydd oherwydd celwydd Prif Weinidog LLafur."

    Gyda cefnogaeth cryf y Ceidwadwyr.

    "Arian am anrhydeddau o dan Prif weinidog LLafur."

    Mae'r Ceidwadwyr yn cael eu hymchwilio hefyd.

    "Adnewyddu Trident o dan Prif Weinidog Llafur!"

    Gyda cefnogaeth cryf y Ceidwadwyr.

    Mae Llafur a'r Ceidwadwyr cyn waethed a'u gilydd. Bydd yn anodd cydweithio gyda un o'r 2. Rhaid penderfynu cydweithio/clymbleidio yn ddibynol ar yr hyn sy'n cael ei gynnig gan y 2 blaid ac nid oherwydd unrhyw ragfarn.

  • 8. Am 09:56 ar 13 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Mynnaf o hyd mai'r blaid dorïaidd yw prif elyn Plaid Cymru - cofied pawb mai Plaid Geidwadol ac Unoliaethol yw ei henw llawn!

    Mae'n wir fod y blaid dorïaidd Gymreig wedi cymryd arni wedd ychydig yn wahanol ers datganoli - byddai hynny i'w ddisgwyl - ond daliaf i gredu y dylem fod yn fwy gochelgar rhan y Torïaid Cymreig na rhag y Blaid Lafur Gymreig, a bod mwy o dir cyffredin rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, yn y sefyllfa sydd ohoni, nag a allai fyth fod rhwng Plaid Cymru a'r torïaid.

    Er enghraifft, ar wahân i bresgripsiynau am ddim i bawb, rwy'n hollol sicr fod Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn gwbl gytûn ynglyn â rhoi trwydded deledu am ddim i bensiynwyr dros 75 oed, rhoi lwfans tanwydd i bob pensiynwr bob gaeaf ac, yn fwy perthnasol i'r Cynulliad, ynglyn â rhoi tocyn bws am ddim i bob pensiynwr.

    Gallai'r Blaid wneud gwahaniaeth i lywodraeth Lafur o ran dwyn pwysau am Ddeddf Iaith newydd, gynhwysfawr, fodern, o ran rhagweld yr angen yn y dyfodol am addysg Gymraeg a darparu ar ei chyfer ddigon ymlaen llaw, wrth ailedrych ar y fformiwla a ddefnyddir i gyllido ysgolion bach gwledig er mwyn gwarchod cymunedau, ac wrth ragweld yr angen am hyfforddi athrawon yng Nghymru i lenwi'r swyddi fydd yn mynd yn wag yn sgîl ymddeoliadau a.y.y.b. Gallwn ymhelaethu .....

    Yn bersonol, hoffwn weld yn y pen draw Gymru annibynnol, sosialaidd, a fyddai'n ail-wladoli diwydiannau, gan gychwyn â'r diwydiant glanhau ysbytai, ond mynd ar danjent dw i nawr (er y gallwn ymhelaethu)!

    Yn bendant, dwy ddim yn credu bod fy nghartref ysbrydol gyda'r Blaid Lafur, a hynny er gwaethaf fy nghefndir (rhieni'n aelodau o'r Blaid Lafur, er i Dad fflyrtan â Phlaid Cymru yn y 70au, a'm tad-cu o Wlad Groeg yn Aelod Seneddol dros y Blaid Amaethyddol Sosialaidd yn chwarter cynta'r 20fed ganrif).

    Ymaelodais â Phlaid Cymru ym 1971, a dyna le rwy'n bwriadu aros.

    Iawn - rwy'n sôn am ddigwyddiadau 25 mlynedd yn ôl, ond ni ddylai neb anghofio rhai digwyddiadau, rhag i'r rhai fydd yn ein dilyn wneud yr un camgymeriadau - mae patrymau hanesyddol yn tueddu i'w hailadrodd eu hunain. Gallwn ymhelaethu eto, ond wnaf i ddim. Y cwbl a ddywedaf yw bod hanes yn hynod o bwysig (mae cyfres bresennol Andrew Marr ar BBC2 yn ddiddorol fel y mae'n atgoffa pobl am yr hyn a fu), ac y dylem ddysgu gwersi ohono.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.