Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pen yr enfys

Vaughan Roderick | 13:35, Dydd Gwener, 15 Mehefin 2007

Wrth i bwyllgor gwaith y Blaid Lafur gwrdd i drafod y glymblaid bosib a Phlaid Cymru mae'n werth cofio nad ydym wedi gweld pen ar yr enfys eto. Wrth reswm ar drafodaethau Llafur a Phlaid mae'r sylw wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf gyda rhai'n awgrymu bod yr ansicrwydd ynglŷn â symudiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwthio'r ddwy blaid yn agosach at ei gilydd.

Serch hynny, mae'r enfys o hyd yn hofran uwch ein pennau a dw i'n ddigon parod i gredu mai hi fydd dewis Plaid Cymru ar ddiwedd y dydd.

Mae 'na sawl reswm am hynny ond y pwysicaf yw hwn- tawlwch, mudandod hyd yn oed, y rheiny o fewn y blaid sy'n gwrthwynebu clymbleidio a Llafur. Mae'r grŵp hwn yr un, os nad yn fwy, niferus na'r rheiny oedd gwrthwynebu'r "enfys" fel mater o egwyddor. Eto tra roedd Helen Mary a'i dilynwyr yn gweld yr angen i leisio ei hamheuon yn gyhoeddus mae'n amlwg bod y gwrth-lafurwyr yn gobeithio ennill y ddadl y fewnol.

Yn y bôn mae dadl gwrthwynebwyr llywodraeth coch/gwyrdd yn un syml. Dyma hi. "Yr unig beth y gall Llafur gynnig nad yw'n bosib ei sicrhâi trwy'r enfys yw refferendwm. Ydych chi'n fodlon derbyn ei gair ynglŷn â hynny?"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:45 ar 15 Mehefin 2007, Helen ysgrifennodd:

    Credaf fod y gosodiad hwn yn or-syml; yn fy meddwl i, y peth mwyaf sylfaenol y gall clymblaid goch-gwyrdd ei gynnig yw cadw'r torïaid, ac unrhyw beth sy'n drewi o bolisïau torïaidd, allan o Lywodraeth y Cynulliad. Yn bersonol, rwy'n dal yn obeithiol y bydd y garfan wrth-dorïaidd o fewn y Blaid yn ddigon cryf i drechu unrhyw sôn am atgyfodi'r enfys.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 15:03 ar 15 Mehefin 2007, Gasyth ysgrifennodd:

    Oedd yr 'All-Wales Accord' yn 'drewi o bolisiau'r Toriaid' yn dy dyb di felly Helen?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 15:39 ar 15 Mehefin 2007, iestyn ysgrifennodd:

    Gobeithio bod mwy o aeddfedrwydd yn perthyn i ta pa ddewis a wneir yn y pen draw na sydd i'w weld yn sylw Helen.

    "Beth sydd orau i Gymru?", "Beth yw'r ffordd gorau o wireddu amcanion Plaid Cymru?", "Beth yw'r ffordd mwyaf effeithlon o ennill a defnyddio'r pwerau newydd sydd ar gael?".

    Neu yn ol y neges uchod, "Siwd mae osgoi eistedd gyda'r toriaid achos mae'r toriaid yn drewi."

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 16:35 ar 15 Mehefin 2007, Helen ysgrifennodd:

    Rhaidi inni beidio byth ag anghofio nid yn unig sut y mae'r torïaid wedi trin Cymru yn y gorffennol, ond beth sydd ym meddyliau rhai sy'n cynrychioli'r blaid honno ar hyn o bryd, p'un a fyddont yn San Steffan neu yn nes adref, yn y Cynulliad. Plaid Geidwadol ac Unoliaethol yw hi, wedi'r cwbl.

    Yn y gorffennol, bu llywodraeth dorïaidd Thatcher yn gwaedu'r cymoedd i farwolaeth wrth gau pyllau glo (a mewnforio glo wedyn o Colombia, lle roedd plant yn cael eu cyflogi), gwerthu asedion, creu diweithdra ac anobaith, ac ati ac ati. Er gwaethaf ymdrechion dilynol i adfywio'r union ardaloedd a oedd wedi'u llwgu o'r blaen, mae ôl y cyfnod hwnnw i'w weld o hyd - diweithdra, cyffuriau, troseddu .....

    A chyn y cyfnod du hwnnw, yn union ar ddechrau'r 80au, cefnodd Whitelaw, un o bypedau Mrs T, ar yr addewid i neilltuo'r bedawredd sianel (fel y'i gelwid ar y pryd) yng Nghymru i raglenni Cymraeg. A be ddigwyddodd wedyn???

    Rwy'n sicr y byddai Gwynfor yn troi yn ei fedd pe gwyddai fod perygl o hyd i glymblaid 'enfys' gael ei ffurfio.

    Digon hawdd i bobl ddweud bod angen bellach inni edrych ymlaen yn hytrach yn ôl, ond dim ond trwy gadw llygad ar y gorffennol y mae pobl yn dysgu peidio â gwneud camgymeriadau a allai arwain at drychinebau cyffelyb yn y dyfodol. Mae hanes yn bwysig, rydym yn byw hanes ar y funud, a bydd haneswyr yn sicr o ymchwilio i'r union gyfnod hwn a dod i gasgliadau. Sut gasgliadau fyddant? Mae hyn yn fater yn llwyr i'r rhai sydd ar flaen y gad ac wedi'u siarsio i wneud penderfyniadau yn ôl dymuniadau pleidleiswyr.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 5. Am 17:25 ar 15 Mehefin 2007, Eirian ysgrifennodd:

    Mae'n rhaid i unrhyw glymblaid sefyll ar draed ei hun ar sail yr hyn mae'r clymblaid ei hun yn cynnig i'r genedl. Os mae'r peth mwyaf y gall y naill glymblaid neu'r llall ei gynnig yw cadw plaid penodol rhag bod yn rhan o Lywodraeth yna mae'n well ail ystyried y cynigion ger bron. Thal hi ddim i ymuno a'r Ceidwadwyr a'r Rhydd-Dem er mwyn cadw Llafur rhag bod yn rhan o'r llywodraeth nag ychwith i ymuno a Llafurwyr er mwyn cadw Ceidwadwyr rhag cymryd rhan mewn llywodraeth.
    Hyd y gwelaf mae gan Llafur a'r Ceidwadwyr ill dau dipyn o ffordd i symud er mwyn cynnig y math o ddeddfau y byddwn i am ei weld a'r sicrwydd o gydweithrediad eu haelodau.
    O rhan polisiau toriaidd rhagor na cheidwadol does na'r un blaid yng Nghymru yn cyfateb naill ai i Llafur newydd na Thatcheriaeth Lloegr.
    Gocheled rhag dewis partneriaid yn rhy fuan.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 6. Am 18:42 ar 15 Mehefin 2007, Helen ysgrifennodd:

    Yn sicr, doedd yr 'All Wales Accord' ddim yn dorïaidd, ond anodd gen i gredu y byddai'r torïaid wedi rhoi sêl eu bendith ar y fath gytundeb heb fod ganddynt ryw fath o agenda gudd dan yr wyneb. Os gall y Blaid ddod i gytundeb cyffelyb â'r Blaid Lafur, credaf y bydd unrhyw lywodraeth a ffurfiant ar y cyd yn fwy diffuant, oherwydd bod gan PC a'r Blaid Lafur fwy o dir cyffredin nag a allai fyth fod rhwng PC a'r torïaid, gydag ychydig Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn eu canol. Mae PC a'r torïaid, sef y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol, yn llawer rhy wahanol i'w gilydd i eistedd yn gyfforddus ar yr un ochr. Yr unig dro y byddwn yn newid fy meddwl ynglyn â hyn fyddai pe bai'r Blaid yn ennill, dyweder, 17 o seddau, y torïaid ryw 8 a'r Rh.D 6 neu 7. Yna, gallai polisïau a fyddai'n llesol i Gymru gario'r dydd yn weddol ddi-drafferth. Ar y llaw arall, dwy ddim yn credu y byddai'r torïaid, yn y fath sefyllfa ddamcaniaethol, yn rhy barod i neidio i glymblaid 'enfysaidd' oherwydd (diffyg) niferoedd.

    Mewn clymblaid â Llafur, byddai gan y Blaid ychydig seddau yn y Cabinet a siawns dda iawn o ddylanwadu ar bolisïau ar faterion pwysig, megis addysg, iechyd, ffyrdd, pensiynwyr, llywodraeth leol, etc, o fewn y gyllideb, heb unrhyw beryg i leisiau glas darfu ar y rhaglen.

    Ym mêr fy esgyrn, does gen i ddim ffydd yn y gleision, pa mor 'oleudeig' bynnag y byddont yn ymddangos - mae ganddynt ormod o hanes, yn enwedig yn achos Cymru, pryd y gwrthiwyd polisïau arnom gan lywodraeth estron nad oedd wedi cael unrhyw fandad gan bobl Cymru. Dwy ddim yn credu y byddai Cymru byth yn rhoi mandad i lywodraeth dorïaidd, felly dylai Plaid Cymru ymbellhau oddi wrth y torïaid a chadw'n driw i'w hegwyddorion.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 7. Am 21:15 ar 16 Mehefin 2007, D thoams ysgrifennodd:

    "Ym mêr fy esgyrn, does gen i ddim ffydd yn y gleision, pa mor 'oleudeig' bynnag y byddont yn ymddangos - mae ganddynt ormod o hanes, yn enwedig yn achos Cymru, pryd y gwrthiwyd polisïau arnom gan lywodraeth estron nad oedd wedi cael unrhyw fandad gan bobl Cymru. Dwy ddim yn credu y byddai Cymru byth yn rhoi mandad i lywodraeth dorïaidd, felly dylai Plaid Cymru ymbellhau oddi wrth y torïaid a chadw'n driw i'w hegwyddorion."

    Mewn ymateb cynharach, mi wnes di Helen ddweud taw nid yr un creadur yw'r Blaid Lafur Gymreig a'r un sydd yn Llundain. I ni fod i wrando arno ti fan hyn ond wedyn, mewn byr amser, rwyt yn ceisio croeshoelio y Toriaid Cymreig am beth ddigwyddodd 'chwarter canrif yn ol' (dy eiriau di) pan nad oedd datganoli wedi digwydd ac oherwydd y Blaid Doriaidd Brydeinig pryd hynny. Rwy't ti'n newid y rheolau i siwtio dy ddadl di.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 8. Am 03:47 ar 17 Mehefin 2007, Alwyn ap Huw ysgrifennodd:

    Os ydy'r Blaid Lafur mor rhinweddol, pam yn y byd nath Helen sefyll yn erbyn ymgeisydd Llafur yn yr etholiad?

    Mae Helen yn son am y Blaid Geidwadol fel Plaid Unoliaethol, onid Plaid Unonliaethol yw'r Blaid Lafur hefyd? Ydy Helen yn gwbl anwybodus parthed holl ymgeision Gordon Brown i chwifio Jac yr Undeb yn niweddar? Nid yn unig i chwifio'r Jac ond i ddweud mai Lloegr yw ei hoff dîm Pêl droed, er mwyn apelio i'r unoliaethwyr, er mae Sgotyn ydyw?

    Yn ddiamheuaeth mae'r Ceidwadwyr wedi gwneud drwg i Gymru, ond mae'r Blaid Lafur wedi gwneud cynddrwg

    O ran troi'r cloc yn ôl i gychwyn S4C, rhaid i Helen cofio geiriau Llywydd Plaid Cymru "Troi na'th y Ledi ar achos Deledu" - a fydda' Neil Kinnock wedi troi - na fydda'n siŵr, bydda'n well gan Blaid Lafur Cymru gweld Gwynfor yn marw na chyfaddawdu a'r "nats" i achub ei fywyd fel 'nath Whitelaw.

    Mae'r Blaid Geidwadol wedi gwneud ambell i gam ar Gymru trwy ddiffyg ystyriaeth am Gymru. Dim ond y Blaid Lafur sydd wedi ymddwyn yn fwriadol wrth Gymreig.

    Ac o ran cau pyllau a distrywio diwydiannau Cymru, gwyrdroi hanes yw rhoi y bai ar Thatcher. Yr NUM a Scargill dewisodd cael ffrae a'r llywodraeth er mwyn ceisio dymchwel y Llywodraeth etholedig. A chaewyd mwy o byllau glo'r De pan oedd Tony Benn yn gyfrifol am y diwydiant, na chaewyd o ganlyniad i frwydr Thatcher dros hawliad democratiaeth.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 9. Am 09:40 ar 17 Mehefin 2007, Alan Jones ysgrifennodd:

    There has been crticism of Helen's stance on Ordovicius'blog.
    In fairness to Helen Mary she would actually prefer to stay outside a coalition with either of the two groups, Labour or Rainbow, but as it happens this is not the basis for strong government. Secondly, uniting as a Rainbow does not favour the holding of a referendum, whereas with Labour a referendum is a guaranteed possibility, and if not, Plaid would walk out. The problem is of course the 2/3 majority required. In Helen's view it is the best option, and would serve the people's interests.

    Alan in Dyfed
    http://www.alanindyfed.blogspot.com

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.