Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cymhellion cymysg

Vaughan Roderick | 20:55, Dydd Mercher, 13 Mehefin 2007

Mae'r pwysau am gynhadledd arbennig gan aelodau Llafur Cymru yn hynod ddifyr. Yr hyn sy'n ddiddorol yw pwy sydd y tu ol i'r galw.

Ar y naill ochor mae rhai o'r datganolwyr mwyaf pybur am weld cynhadledd i sicrhai nad yw'r blaid yn gallu cefnu ar yr addewid o refferendwm. Mae eraill yn gobeithio y byddai cynhadledd yn gwrthod clymblaid neu y byddai'r peryg o hynny yn darbwllo Plaid Cymru i gerdded i ffwrdd o'r trafodaethau. Rhain yw'r bobol (bach eu nifer) sy'n ystyried purdeb yn bwysicach na'r gallu i gyflawni ( mae 'na bobol felna ym mhob plaid!).

Ta beth mae'r posibilrwydd o "super-Saturday" wedi ail-ymddangos gyda'r Gynhadledd Lafur (mwy na thebyg) ar yr un diwrnod a Chyngor Cendlaethol Plaid Cymru.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:18 ar 13 Mehefin 2007, Daran ysgrifennodd:

    "Ta beth mae'r posibilrwydd o "super-Saturday" wedi ail-ymddangos gyda'r Gynhadledd Lafur (mwy na thebyg) ar yr un diwrnod a Chyngor Cendlaethol Plaid Cymru."

    Dim siawns bod y ddau ma wedi bwcio'r un adeilad?!

    Oleua mae Ieuan wedi addo diwedd i'r stori cyn yr haf!

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.