Advertisement

Archifau 19 Mehefin 2007

Hwn a'r llall

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Profiad rhyfedd oedd gwrando cwestiynau’r Prif Weinidog y prynhawn yma. Gyda neb yn gwybod i bwy i fod yn wrthwynebus ac a phwy y maen nhw'n fêts roedd hi'n sesiwn ddigon tawel ond, o bosib, yn fwy aeddfed. Roeddwn i'n ceisio gweld oedd hi'n bosib darllen unrhyw beth o'r ymgiprys rhwng Ieuan a Rhodri. Yn anffodus roedd un o atebion Rhodri yn plesio Ieuan a'r llall ddim. Gem gyfartal felly.

Diddorol oedd gweld y ddau gymydog Gareth Jones (Aberconwy) a Darran Miller (Gorllewin Clwyd) yn cydweithio a'i gilydd yn y siambr heddiw i herio'r llywodraeth ynglŷn â gohirio codi ei phencadlys gogleddol newydd yng Nghyffordd Llandudno. Mae Gareth, wrth gwrs, yn un o'r aelodau hynny sydd ag amheuon ynghylch clymblaid coch/gwyrdd. Oes 'na enfys fach yn ffurfio ar y Costa Geriatrica?

Cynhadleddau'r bore

Vaughan Roderick | 09:52, Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2007

Sylwadau (3)

Ymddiheuriadau am beidio bostio dim ddoe- y tro cyntaf i fi fethu ers y cychwyn dw i'n meddwl. Roedd 'na reswm. Hwyrach wnâi esbonio prynhawn 'ma. Mae'n fore Mawrth ac felly yn fore "briefings" Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Fe fydd y manylion yn ymddangos ar y post yma yn ystod y bore.

10.15 Llafur; Doedd gan Lafur fawr ddim i ddweud am y trafodaethau clymblaid ac eithrio hyn "Rydym yn trafod a Phlaid Cymru a Phlaid Cymru'n unig. Mae'r trafodaethau hynny yn bositif ac yn parhau". Yn y cyfamser mae Llafur yn bwrw ymlaen a'i rhaglen ddeddfwriaethol gan flaenoriaethu mesurau lle mae 'na gonsensws yn y cynulliad.

11.00; Y Ceidwadwyr; Mae Nick Bourne yn gwneud ei orau glas i gadw'r enfys yn fyw. Mynnodd fod y glymblaid honno o hyd yn bosibilrwydd a'i fod yn parhau i drafod a Phlaid Cymru. Mae'r blaid wedi sicrhâi dadl yfory yn galw am osod targedi ar gyfer y defnydd o ynni amgen - pwnc lle mae 'na anghytundeb rhwng pleidiau’r enfys a Llafur. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae aelodau Plaid Cymru'n pleidleisio.

12.00; Plaid Cymru; Roedd Ieuan yn hynod ofalus i beidio pechu unrhyw un o'r arweinwyr eraill gan gesio cadw'r ddysgl yn wastad rhwng y clymbleidiau posib. "Dw i ddim yn cymryd yn ganiataol y bydd cytundeb a Llafur yn bosib ond yr unig ffordd i weithredu'n effeithiol yn y sefyllfa yma yw trwy ddelio'n gwbwl onest a phawb"

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.