Rhowch i mi hedd....
Roeddwn i wedi gobeithio y byddai'r penwythnos yma yn rhoi terfyn ar y saga! Mae gen i lwyth o eitemau a rhaglenni i'w gwneud ynghylch ymadawiad Tony Blair a dyrchafiad Gordon Brown a fawr ddim wedi ei recordio hyd yma. Fe fydd yn rhaid i mi rwygo fy hun o'r bae yr wythnos yma a heglu hi am San Steffan.
Dw i 'n mwynhau mynd i Westminster ond dw i'n paratoi fy hun yn barod am y cwynion gan Aelodau Seneddol am "blwyfoldeb" newyddiduraeth wleidyddol Gymreig. Yr hyn sy'n eu gwenud yn anhapus, wrth gwrs, yw bod aelodau'r cynulliad yn tueddu cael llawer mwy o sylw na nhw. Mae na rhyw beth eitha eironig ynglyn a gwrando ar drigolion y "Westminster Village" yn cyhuddo eraill o "blwyfoldeb".
Serch hynny, mae'n ffaith wrth gwrs mai San Steffan sydd a'r gair olaf ar rhai o'r pynciau mwyaf sy'n effeithio'n bywydau- rhyfel a heddwch, trethi a chyllid, yr economi a phensiynnau i enwi ond ychydig. Ond cyn i'n haelodau seneddol gwyno gormod rhaid gofyn i ba raddau y mae'r penderfynniadau hynny yn benderfynniadau seneddol erbyn hyn ac i ba raddau mae'r dadleuon seneddol ond yn addurn mewn system sy'n gynyddol arlywyddol.
Unbennaeth etholedig oedd disgrifiad Quentin Hogg o system lywodraethol Prydain ac yn sicr mae hi wedi ymddangos felly ar adegau yn ystod cyfnod Tony Blair. Efallai y gwnaeth pethau newid o dan Gordon. Fe gawn weld.
Un peth fyddai'n sicr o drawsnewid pethau fyddai senedd grog ac mae'n ddigon posib mai dyna fydd yn bodoli wedi'r etholiad nesaf. Pe bai hynny'n digwydd mae'n debyg y byddai Gordon yn troi at "bartneriaid naturiol" Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyna'r rheswm, mae'n bosib, am ddiddordeb cynyddol yr arweinyddiaeth yn y sefyllfa yng Nghaerdydd.
Fe fyddai "enfys" yn gosod cynsail peryglus gyda phlaid y canol yn clymbleidio a'r Ceidwadwyr yn hytrach na'u partneriaid "naturiol" ar y meinciau Llafur.
Beth bynnag sy'n digwydd yn yr etholiad nesaf mae seneddau crog yn debyg o fod yn gyffredin yn y dyfodol hyd yn oed o dan y drefn bleidleisio fel ac y mae hi. Mae'r canran sydd yn pleidleisio dros y ddwy blaid fawr wedi bod yn gostwng ers degawdau ac rydym yn agoshau at drothwy lle fydd hi'n anodd i naill ai'r Toriaid na Llafur sicrhai mwyafrif clir.
Yn 1966 enillodd y ddwy brif blaid 87% o'r bleidlais a 95% o'r seddi yn Nhŷ'r Cyffredin. Erbyn 2005 roedd y canrannau wedi gostwng i 68% o'r bleidlais a 85% o'r seddi. Nid Bae Caerdydd yw'r unig le fydd y pleidiau yn gorfod dysgu sut mae cydweithio!

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.

~RS~q~RS~~RS~z~RS~00~RS~)