Advertisement

Archifau 15 Mehefin 2007

Pen yr enfys

Vaughan Roderick | 13:35, Dydd Gwener, 15 Mehefin 2007

Sylwadau (9)

Wrth i bwyllgor gwaith y Blaid Lafur gwrdd i drafod y glymblaid bosib a Phlaid Cymru mae'n werth cofio nad ydym wedi gweld pen ar yr enfys eto. Wrth reswm ar drafodaethau Llafur a Phlaid mae'r sylw wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf gyda rhai'n awgrymu bod yr ansicrwydd ynglŷn â symudiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwthio'r ddwy blaid yn agosach at ei gilydd.

Serch hynny, mae'r enfys o hyd yn hofran uwch ein pennau a dw i'n ddigon parod i gredu mai hi fydd dewis Plaid Cymru ar ddiwedd y dydd.

Mae 'na sawl reswm am hynny ond y pwysicaf yw hwn- tawlwch, mudandod hyd yn oed, y rheiny o fewn y blaid sy'n gwrthwynebu clymbleidio a Llafur. Mae'r grŵp hwn yr un, os nad yn fwy, niferus na'r rheiny oedd gwrthwynebu'r "enfys" fel mater o egwyddor. Eto tra roedd Helen Mary a'i dilynwyr yn gweld yr angen i leisio ei hamheuon yn gyhoeddus mae'n amlwg bod y gwrth-lafurwyr yn gobeithio ennill y ddadl y fewnol.

Yn y bôn mae dadl gwrthwynebwyr llywodraeth coch/gwyrdd yn un syml. Dyma hi. "Yr unig beth y gall Llafur gynnig nad yw'n bosib ei sicrhâi trwy'r enfys yw refferendwm. Ydych chi'n fodlon derbyn ei gair ynglŷn â hynny?"

Rhowch i'm fy hyfryd got...

Vaughan Roderick | 07:46, Dydd Gwener, 15 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

Mae'r gystadleuaeth i ddewis Joseff newydd Andrew Lloyd Webber wedi dod i ben ond mae'n anodd cael yr hen gan yna allan o'm mhen. "Pan af yn ôl at y dechreuad...".

Gadewch i ni gofio lle roedden ni chwe wythnos yn ôl. Roedd canlyniadau'r etholiad yn amwys a'r dyfodol yn ansicr. Y senario debycaf oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dw i ddim am ail adrodd popeth sydd wedi digwydd ers hynny ond dyma ni ar drothwy rhyw fath o gytundeb gyda Phlaid Cymru yn gorfod penderfynu rhwng yr enfys a llywodraeth coch/gwyrdd.

(Penderfyniad Plaid Cymru yw hwnnw, gyda llaw. Er cymaint y geiriau croes yn Westminster a'r Rhondda mae Rhodri a Gordon yn benderfynol o gadw grym yng Nghymru beth bynnag yw barn yr Aelodau Seneddol ac Ysgrifennydd Cymru. Mae penderfyniad Rhodri i gefnogi Harriet Harman yn y ras am ddirprwy arweinyddiaeth ei blaid yn adrodd cyfrolau am bwy sydd ar ben arall y ffon yn Llundain...ac nid Peter Hain yw hwnnw. Fe fyddai cynhadledd Lafur yn cefnogi clymblaid a Phlaid o fwyafrif llethol beth bynnag yw safbwyntiau trigolion swigen San Steffan.)

"Ond awn yn ôl hyd y dechreuad...". Ers i mi bostio, yn hanner gellweirus, ddoe ynglŷn â'r posibilrwydd y gallai Mike German godi'r ffon i Rhodri Morgan mae ambell i un yn y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi crybwyll y posibilrwydd o ail- agor trafodaethau rhwng y ddwy blaid.

Dw i ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd, ond er mwyn ei rhwystro dw i'n amau na fydd grŵp cynulliad a phwyllgor gwaith Plaid Cymru yn chwalu'r enfys yfory. Y disgwyl oedd y byddai cyfarfodydd Plaid yfory yn dewis rhwng coch/gwyrdd a'r enfys. Dw i'n amau y gallai'r cyfarfodydd benderfynu cadw'r ddau bosibilrwydd yn fyw er mwyn cadw'r cadwynau ar Mike German.

Pell Pell i ffwrdd roedd rhai yn cysgu...

Diweddariad; Ers i mi sgwennu'r uchod mae cyfeillion o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol wedi awgrymmu i mi na fyddai cadw'r ddau gynllun yn fyw yn llehai'r pwysau ar Mike German i siarad a Llafur. Fe ddaw'r pwysau hynny gan bobol sydd yn teimlo ei bod hi'n iawn i nhw siarad a phawb os ydy Plaid Cymru yn gwneud hynny.

Os felly (a dw i'n tueddu derbyn y ddadl) mae'n bosib y bydd yn rhai i Blaid Cymru neidio i'r naill gyfeiriad neu'r llall yfory neu wynebu dychwelyd i'r sefyllfa oedd yn bodoli ar Fai'r 6ed pan oedd yr opsiynnau i gyd yn agored. Yn ol at y dechreuad mewn geisiau eraill!

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.