Advertisement

Archifau 12 Mehefin 2007

Coch a Gwyrdd!!!!!!!!

Vaughan Roderick | 16:41, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (7)

Mae Plaid Cymru a'r Blaid Lafur o fewn y dim i gytuno ar Glymblaid. Dw i'n cael ar ddeall bod grwp Plaid Cymru bron yn sicr o gytuno i drafodaethau pellach a Llafur mewn cyfarfod heno.

Deallaf fod Llafur wedi cynnig o leiaf tair sedd cabinet i Blaid Cymru ac addewidion pendant o refferendwm ar bwerau llawn i'r cynulliad, comisiwn ar fformiwla Barnett a mesur iaith.

DIWEDDARIAD; Mae ffynonellau o fewn Llafur a Phlaid Cymru yn gwadu bod nifer seddi cabinet Plaid Cymru wedi ei drafod ond dydyn nhw ddim yn gwadu byrdwn y stori.

Mae dwy blaid arall yr enfys yn disgwyl i aelodau grŵp Blaid Cymru bleidleisio o blaid parhau a thrafodaethau a Llafur yn eu cyfarfod heno ond yn parhau'n obeithiol mai'r "enfys" fydd y dewis ar ddiwedd y dydd.

Llafur yn symud

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (1)


Mae cyfarfod o'r grŵp Llafur wedi rhoi "rhyddid llwyr" i Rhodri Morgan wrth gynnal trafodaethau ynglŷn â chytundeb neu glymblaid lawn a Phlaid Cymru. Hwn yw'r tro cyntaf i'r grŵp arwyddo parodrwydd i gyrraedd trefniant clymblaid a'r cenedlaetholwyr.

Rant gan Richard

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (8)

Yn y rhifyn newydd o Barn (ar gael heddiw) mae Richard Wyn Jones yn tanio magnel i gyfeiriad rebeliaid Plaid Cymru. Dyma flas.

Cofiwch mai Maggie Thatcher a John Redwood oedd cri gynyddol ddesprêt Llafur yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Ai dyma, yn y pen draw, garreg sylfaen safbwynt y pump hefyd? Hynny er gwaetha’r ffaith fod Thatcher wedi ymddiswyddo ers bron i ddwy flynedd ar bymtheg (sef, os mentra’i ddweud, cyn bod llawer o gof gwleidyddol gan ddwy o’r pump), a Redwood wedi peidio â bod yn Ysgrifennydd Gwladol ers 1995? Os felly, ydi hyn mewn difrif yn sail ddigonol i benderfynu gwrthod clymbleidio â’r Torïaid, a hynny ar sail dogfen bolisi sydd heb os nac oni bai yn adlewyrchu llawer iawn o ‘werthoedd ac amcanion sylfaenol’ Plaid Cymru?....

A yw Helen Mary Jones, Leanne Wood, Bethan Jenkins, Nerys Evans a Jill Evans mewn difrif am ddadlau nad oes ‘gwrthdaro gwerthoedd ac egwyddorion sylfaenol’ rhyngddynt a’r blaid a roddodd inni:
-y penderfyniad i lansio rhyfel anghyfreithlon a chyfan gwbl anghyfrifol yn erbyn Irac?
-y penderfyniad i wario o leiaf £20 biliwn yn llogi taflegrau Trident II gan yr Americanwyr, a hynny’n unig er mwyn i’r Deyrnas Gyfunol chwifio’i bidyn ar y cae chwarae rhyngwladol (a chodi dau fys ar y cytundeb non-proliferation yn y broses)?
-y penderfyniad i roi rhwydd hynt i gytundebau PFI rif y gwlith a fydd yn faen melin ar ysgwyddau cenedlaethau’r dyfodol?
-bolisïau economaidd a chymdeithasol sydd wedi caniatáu i’r gagendor rhwng y tlawd a’r cyfoethog dyfu’n fwy nag oedd dan y Torïaid, hyd yn oed?"

... a llawer mwy

I ddarllen y cyfan rhaid prynu'r cylchgrawn.

Shurmer yn gadael

Vaughan Roderick | 10:55, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Mae pennaeth cyfathrebu Plaid Cymru Alun Shurmer wedi ei bennodi i'r un swydd yn BBC Cymru. Fe fydd yn cychwyn yn y gwaith ym Mis Awst.

Briefings y bore

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (1)

10.15 Rhodri Morgan; Dywedodd Rhodri ei fod wedi cynnal cyfarfod "adeiladol" y bore 'ma gyda Ieuan Wyn Jones a Jocelyn Davies. Am y tro cyntaf awgrymodd Rhodi fod clymblaid coch/gwyrdd yn bosib. "Mae popeth ar y bwrdd- does dim byd wedi ei gau allan". Ychwanegodd y byddai llywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur yn gallu cyflawni llawer mwy o ddyheadau Plaid Cymru na llywodraeth "enfys" oherwydd ei pherthynas a llywodraeth San Steffan a'i niferoedd yn y siambr. Dywedodd ei fod yn fodlon trafod rhagor gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd one ei fod yn synhwyro bod y blaid honno wedi "cau ei hun allan- am y tro"

11.00 Nick Bourne; Mae Rhodri yn ymddwyn fel "Ceauşescu ar y balconi" trwy fygwth y gallai Llafur San Steffan flocio mesurau llywodraeth "enfys". Mae'r ysgrifen ar y mur i Rhodri mae Llafur wedi profi nad ydynt yn gallu newid i ddygymod a bod mewn lleiafrif

12.00 Ieuan Wyn Jones; Fe fydd 'na gyfarfod arbennig o grŵp Plaid Cymru heno i drafod y ffordd ymlaen. Doedd Ieuan ddim yn fodlon datgelu cynnwys ei drafodaethau'r bore 'ma ond dywedodd bod bygwth blocio mesurau llywodraeth enfys yn "gwbwl trahaus". "Os ydy Rhodri yn dweud mai'r unig ffordd y gall y drefn weithio yw trwy gael llywodraethau o'r un lliw yng Nghaerdydd a San Steffan nid trefn ddemocrataidd yw hi."

Cyffwrdd cap a chwis

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Penderfynais beidio blogio ynglŷn â helynt Thomas Cook ddoe. Doedd gen i fawr ddim gwahanol na newydd i ddweud. Ond mae'n werth i mi gyffwrdd fy nghap i Sanddef am ei rôl yn lledaenu'r stori ac am heddiw, a heddiw'n unig, fe wnâi atgyfodi'r cwis.

Beth sy'n gyffredin rhwng Thomas Cook a thafarndai Caerliwelydd?

Bore Mawrth yn y Bae

Vaughan Roderick | 09:47, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol newydd gyhoeddi eu hymateb i lythyr Rhodri Morgan yn cynnig cydweithio a'r Blaid. Yr hyn fydd yn synnu ac yn pryderu Rhodri yw bod talpiau o'r llythyr yn agos at fod yn atgynhyrchiad gair am air o ymateb Ieuan Wyn Jones ddoe. I bob pwrpas mae'r llythyr yn datgan, yn ddigon cwrtais, nad yw cynigion Rhodri yn dod yn agos at ddiwallu'r hyn fyddai angen i sicrhâi cefnogaeth y blaid.

Efallai mai'r frawddeg allweddol yw hon "I would hope that you might seek to get broader agreement on the matters you raise across all the parties who currently sit in opposition". Mewn geiriau eraill peidiwch geisio hollti'r enfys. Os ydych chi eisiau siarad â ni mae'n rhaid siarad â'r Ceidwadwyr hefyd.

Mae gan y llywodraeth, Plaid Cymru a'r Torïaid gynadleddau newyddion y bore 'ma. Fe fydd hi'n ddiddorol clywed beth sy'n cael ei ddweud.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.