Ar flog Glyn Davies ceir yr ymateb yma i'r neywddion ei fod am sefyll yn erbyn Lembit ym Maldwyn.
"Hooray! Big Sister would kill me for saying so because, as she has recently made it clear, she thinks Tories are a kind of smallpox virus to be avoided at all costs but I am quite brave so I will say hooray again. No more carpetbaggers for Montgomeryshire, please. Best wishes Myfanwy"
Pwy yw Myfanwy? Go brin y byddai Myfanwy Alexander mor anheyrngar i'w chwaer Helen Mary Jones!
Dyw penderfyniad Glyn Davies i herio Lembit Opik ym Maldwyn ddim yn annisgwyl. Mae pawb wedi bod yn tynnu ei goes am y peth byth ers etholiadau'r cynulliad. Ddydd Gwener ar "Dau o'r Bae", er enghraifft, roedd Roger Roberts yn ceisio ei demtio i Dy'r Arglwyddi gan synhwyro efallai faint o broblemau y gallai fe achosi i'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn.
Yn dechnegol, wrth gwrs, mae'n rhaid i Glyn dderbyn sêl bendith Torïaid Maldwyn ond go brin y bydd Ceidwadwyr y sir yn gwrthod eu cyfle gorau ers dyddiau Delwyn Williams i gipio'r sedd.
Tipyn o ffliwc oedd buddugoliaeth Delwyn yn 1979 mewn gwirionedd. Roedd Rhyddfrydwyr Maldwyn mor fisi yn trefnu digwyddiadau i ddathlu canrif o gynrychiolaeth Ryddfrydol yn y senedd nes eu bod yn rhu prysur i ymgyrchu!
Dychwelwyd i'r drefn arferol yn 1983 ar ôl pedair blynedd o'r gynrychiolaeth ryfedda a welodd unrhyw etholaeth Gymreig erioed. Cyrhaeddodd ei phenllanw gydag erthygl yn y Daily Mail lle hawliodd Delwyn bod ganddo ffensys uchel a chŵn i amddiffyn ei dy rhag "nationalist extremists". Dywedodd ei fod yn ofni am ei fywyd gymaint nad oedd bellach yn gallu treulio ei amser yn dilyn ei hobi sef " relaxing on the beach in Welshpool."
Byth ers hynny mae 'na wedi bod mwy o obaith canfod traeth yn y Trallwng nac ethol Ceidwadwr ym Maldwyn!
Fe fydd pethau'n wahanol iawn wrth i Glyn sefyll. Mae mwyafrif Lembit yn un sylweddol ond mae poblogrwydd Glyn, cyhoeddusrwydd diweddar Lembit a'r posibilrwydd o lif cyffredinol i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad nesaf yn gwneud hon yn ras i wylio.
Mae Glyn yn hoff o'n hatgoffa bod y Ceidwadwyr wedi ennill y bleidlais ranbarthol ym Maldwyn ym Mis Mai. Mae'r un peth yn wir drws nesa ym Mrycheiniog a Maesyfed. Mae'n bwysig felly nad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cymryd seddi Powys yn ganiataol y tro nesaf ond fe fydd ymgyrchu'n galed yn y ddwy sedd hynny yn creu problem arall i'r blaid.
Yn 2005 roedd y blaid yn gallu gorffwys ar eu rhwyfau ym Mhowys gan ganolbwyntio ei hadnoddau ariannol a dynol ar ddwy etholaeth sef Canol Caerdydd a Cheredigion. Enillwyd y ddwy ond mae'n bosib bod 2005 yn benllanw i'r blaid. Fe ddylai sedd Jenny Willott fod yn ddiogel y tro nesa ond, heb help llaw o Bowys, ai deiliad un tymor fydd Mark Williams?
Dyw e hi ddim yn amhosib rhagweld sefyllfa lle fyddai na ond un aelod seneddol Cymreig gan y blaid. Dyw hynny ddim yn brofiad newydd iddi ond y tro hwn nid Maldwyn neu Geredigion fyddai'r cadarnle ond Canol Caerdydd. Gallai'r sefyllfa honno ail-danio hen ddadleuon o fewn y blaid rhwng yr asgell wledig draddodiadol a gwleidyddion cymunedol y dinasoedd a'r trefi.
Ffactorau fel hyn, dw i'n meddwl oedd yn dylanwadu ar rheiny fel Peter Black oedd yn dymuno gweld y blaid yn cymryd hoe ar feinciau'r gwrthbleidiau yn y cynulliad i ystyried ei strategaeth a'i chyfeiriad. Go brin fod 'na amser i wneud hynny. Dw i'n synhwyro bod na tsunami arall o daflenni Rhyddfrydol ar y ffordd!