Advertisement

Archifau 7 Mehefin 2007

Coch a Gwyrdd?

Vaughan Roderick | 17:16, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (4)

O'r diwedd dw i'n cael sgwennu'n fanwl am yr hyn dw i wedi bod yn ensynio yn ystod y dydd.

Mae dyfodol llywodraeth y cynulliad yn ôl yn y fantol. Am y tro cyntaf mae aelod Llafur blaenllaw wedi awgrymu'n gyhoeddus y gallai Llafur ffurfio clymblaid a Phlaid Cymru.

Mewn cyfweliad a rhaglen Dragon's Eye dywedodd y gweinidog iechyd Edwina Hart y byddai hi'n ddigon hapus i eistedd wrth y bwrdd cabinet gyda Ieuan Wyn Jones.

Ymateb oedd Edwina i alwad Adam Price am glymblaid rhwng ei blaid e a Llafur. Mae llefarydd Rhodri Morgan yn fwy pwyllog gan ddweud ei fod o hyd yn disgwyl am ymateb gan Ieuan Wyn Jones i'w lythyr yn gwahodd trafodaethau pellach.

Beth yw goblygiadau'r stranciau diweddara? Wel dw i'n amau bod Adam yn ceisio gwneud dau beth. Yn gyntaf roedd am weld a oedd y safbwynt Llafur ynglŷn â chlymblaid ffurfiol wedi newid. Dw i hefyd yn amau ei fod yn disgwyl i'r ateb i'r cwestiwn hwnnw fod yn negyddol - ateb a fyddai'n cryfhau dadl cefnogwyr yr Enfys.

Beth felly oedd cymhelliad Edwina wrth roi ei hateb cadarnhaol ? Ymdrech oedd hi dw i'n amau i wneud hi'n eglur nad yw pawb o fewn Llafur yn ymwrthod yn llwyr a'r syniad o glymblaid coch-gwyrdd. Gallai hynny demtio Ieuan yn ôl i'r bwrdd ac os nad yw hynny'n digwydd fe fydd llaw gwrthwynebwyr yr enfys o fewn Plaid Cymru wedi ei gryfhau.

Croeso i ail hanner y gêm!

Bant a ni!

Vaughan Roderick | 15:53, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Yn gynharach fe wnes i flogio ynglyn ac amharodrwydd Edwina Hart i wneud cyfweliadau. Wel heddiw mae Edwina wedi gwneud cyfweliad i "Dragons Eye". Mae pethau MAWR ganddi ddweud. Gwyliwch!

Yn y cyfamser mae ffynonellau Llafur wedi bod yn ymateb i sylwadau ar flog Adam Price yn datgan cefnogaeth i glymblaid ffurfiol rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Mae Llafur yn mynnu bod y "drws yn agored" i drafodaethau pellach a Phlaid Cymru. Ond ydy clymblaid coch-gwyrdd yn bosibilrwydd go iawn? A fyddai Llafur yn fodlon ystyried hynny er mwyn aros mewn grym neu ydy Adam Price yn disgwyl y bydd gwrthodiad gan Lafur yn cryfhau llaw cefnogwyr yr enfys?

Mae'n bosib bod 'na atebion annisgwyl i un o'r cwestiynau hynny.

Beth yw'r haf i mi?

Vaughan Roderick | 12:57, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Dyw'r dyddiad erioed wedi bod yn swyddogol ond y disgwyl oedd y byddai gwyliau haf y cynulliad yn cychwyn ar y trydydd ar ddeg o Orffennaf. Nawr mae 'na sibrydion ar led bod y gwrthbleidiau am ymestyn eisteddiadau'r cynulliad am wythnos arall.

O gofio bod Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn debyg o gwrdd yn ystod penwythnos cyntaf y mis beth fyddai arwyddocâd gofyn am estyniad? Efallai bod angen fwy nac wythnos i ddymchwel un llywodraeth a gosod un arall yn ei lle.

Rhybudd o Gasnewydd

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Wrth i Lafur baratoi i geisio hollti'r enfys trwy gyflwyno mesur i gyfyngu ar hawl tenantiaid i brynu tai cyngor mae 'na lais annisgwyl wedi mynegi gwrthwynebiad chwyrn i'r syniad.

Go brin y byddai unrhyw un yn ystyried Paul Flynn yn Thatcherwr ond ar ei flog mae Paul yn dadlau'n gryf bod gorfodi i deuluoedd llai cefnog rhentu yn hytrach na phrynu eu tai yn gosb ariannol arnynt ac yn cynyddu'r gagendor rhwng y mwyaf anghenus a gweddill cymdeithas. Yr hyn a ddylai pery pryder mawr i Lafur y cynulliad yw'r rhybudd yma.

"There is likely to be a major rift between politicians in parliament and in the assembly if any proposal to drop the ‘right to buy’ is pushed.
Because there is no immediate solution at hand, it’s foolish to choose an easy but damaging one."

A allai mesur a gynlluniwyd yn rannol i achosi rhaniadau rhwng y gwrthbleidiau arwain at hollt o fewn Llafur? Mae'n ymddangos bod hynny'n bosib.

Claude Rains y Cyfryngau

Vaughan Roderick | 09:43, Dydd Iau, 7 Mehefin 2007

Sylwadau (0)


Wrth gyflwyno ei raglen ddeddfwriaethol ddoe cyfaddefodd Rhodri Morgan fod y llywodraeth wedi methu argyhoeddi'r etholwyr o rinweddau'r cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau ysbyty Cymru. Roedd pawb yn derbyn meddai bod yn rhaid i'r gwasanaeth newid y dasg oedd darbwyllo'r cyhoedd bod y newid hwnnw yn newid er gwell. A phwy mae Rhodri wedi penodi i ddarbwyllo pobol Cymru o hynny? Wel, gweinidog sy'n ddiharebol o amharod i ymddangos ar y cyfryngau neu siarad â newyddiadurwyr!

Nawr yn ôl pob son gan weision sifil a 'i chyd-wleidyddion mae Edwina Hart yn weinidog hynod effeithiol a gweithgar gan dorri trwy fiwrocratiaeth a sicrhâi bod cynlluniau yn cael eu gwireddu. Digon teg. Ond mae perswadio Edwina i ymddangos gerbron camera neu mewn cynhadledd newyddion fel tynnu gwaed o garreg. Haws, dybiwn i, fyddai perswadio Peter Doherty i droi'n efengylwr na darbwyllo Edwina i ymddangos mewn stiwdio!

Sut felly y bydd Edwina yn ceisio darbwyllo'r cyhoedd o werth unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth iechyd? Trwy lythyr? Trwy gnocio ar eu drysau...neu trwy ddibynnu ar ei dirprwy, Gwenda Thomas?

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.