Am y tro cyntaf fe ddyfynnwyd o'r blog yma ar lawr y cynulliad heddiw! Dyfynnodd Ieuan Wyn Jones o'r post blaenorol (Rhaglen Rhodri) i geisio profi bod y llywodraeth wedi rhyddhau cynnwys llythyrau Rhodri Morgan iddo ef a Mike German i'r wasg cyn i arweinwyr y gwrthbleidiau eu derbyn. Dw i'n dweud dim ond gan fod y post hwnnw wedi sgwennu am ddau o'r gloch dwy awr ar ol i'r ddadl gychwyn dw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth wedi ei brofi!
Serch hynny mae cynnwys y llythyrau yn ddiddorol.
Yn ei lythyr i Mike German mae Rhodri Morgan yn cynnig cadeiryddiaeth y Pwyllgor Cyllid i'r Democratiaid Rhyddfrydol gan awgrymu y gallai'r pwyllgor hwnnw gynnal ymchwiliad i fformiwla Barnett.
Yn ei lythyr i Ieuan Wyn Jones mae Rhodri yn awgrymu sefydlu pwyllgor o bedwar aelod seneddol a chynulliad o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru i baratoi ar gyfer refferendwm ar bwerau deddfwriaethol llawn i'r cynulliad. Mae e hefyd yn cynnig cynnal cyfarfod wythnosol ffurfiol ac arweinydd y Blaid i drafod busnes y cynulliad.
Mae'r ddau lythyr hefyd yn cynnwys addewid i rewi, i bob pwrpas, y broses o adrefnu ysbytai Cymru ac i ail-feddwl ynglŷn â'r cynlluniau.
Mae llythyrau Mike ac Ieuan yn dri thudalen o hyd. Fe dderbyniodd Nick Bourne lythyr hefyd. Llythyr deg llinell oedd honno yn addo llais iddo mewn penodiadau cyhoeddus.
Fe fydd manylion rhaglen ddeddfwriaethol Rhodri Morgan yn ymddangos ar dudalennau newyddion "Cymru'r Byd". Gwnâi ddim eu hail-adrodd yn fan hyn felly ond mae'n amlwg bod y datganiad wedi ei lunio yn unswydd i geisio sicrhâi parhad y llywodraeth leiafrifol.
Efallai mai'r cyhoeddiad pwysicaf oedd un a gafwyd mewn llythyrau a ddanfonwyd gan y llywodraeth at Ieuan Wyn Jones a Mike German. I bob pwrpas mae'r llywodraeth wedi rhewi'r cynlluniau i ad-drefnu ysbytai Cymru, y cynllun wnaeth cymaint o niwed i Lafur yn yr etholiadau. Roedd hynny i'w ddisgwyl. Fe fyddai bwrw ymlaen a'r cynllun yn cyfateb i hunanladdiad gwleidyddol gan roi rheswm amlwg a phoblogaidd i'r gwrthbleidiau ddymchwel y llywodraeth.
Mae'r materion deddfwriaethol fydd yn cael eu trafod cyn yr haf yn rhai lle mae 'na gryn dipyn o gonsensws yn barod. Mae mesurau mwy dadleuol fel mesur iaith yn annhebyg o gyrraedd y siambr cyn yr hydref.
Er bod y datganiad yn amlwg wedi ei lunio i geisio plesio Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol does 'na ddim arwydd bod brwdfrydedd y pleidiau hynny tuag at y syniad o lywodraeth enfys yn pylu. Roedd hi'n gwbwl amlwg yn ddadl bod arweinwyr y gwrthbleidiau yn cydlynu eu tactegau. Fe fydd yr wythnosau o hyn tan wyliau'r haf yn wythnosau hir a pheryglus i Lafur
Mae hi wedi bod yn ddeufis hir! Heddiw mewn gwirionedd yw'r diwrnod cyntaf i ni ddychwelyd at y drefn waith arferol yn y bai ond rhiw sesiwn fach gwta fydd eisteddiad y cynulliad heddiw gyda'r aelodau yn cael clywed pa fesurau deddfwriaethol y mae llywodraeth Rhodri Morgan yn gobeithio eu cyflwyno. Fe fyddwn yn gwybod y cyfan ymhen ychydig oriau does dim lawer o bwrpas felly mewn ceisio proffwydo'r cynnwys yn fan hyn.
Serch hynny mae un peth yn werth ei nodi dw i'n meddwl sef bod canlyniadau'r etholiad a'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny wedi creu deinamig gwleidyddol hynod o ffafriol o safbwynt y Gymraeg. Gyda'r llywodraeth Lafur yn byw ar gardod Plaid Cymru dw i'n disgwyl addewidion mawr gan Lafur yn ystod y dyddiau ac wythnosau nesaf ynghylch addysg Gymraeg, tai fforddiadwy yn yr ardaloedd gwledig ac o bosib rhiw fath o fesur iaith.
Dw 'n synhwyro bod y drws bellach yn agored i grwpiau ymgyrchu a fu'n curo eu pennau yn erbyn muriau ers blynyddoedd. O weithredu'n gyflym ac yn gall mae 'na gyfle euraidd yn fan hyn.