Advertisement

Archifau 5 Mehefin 2007

Diwrnod mawr Dafydd El

Vaughan Roderick | 10:02, Dydd Mawrth, 5 Mehefin 2007

Sylwadau (0)

Dw i ddim yn un am seremonïau na defodau. Mae pabell y cymdeithasau yn llawer mwy difyr na chylch yr orsedd. Fe wnâi adael y disgrifiadau o ddefodau heddiw i eraill ac os ydych chi eisiau manylion gwisgoedd y Frenhines, y Dduges neu'r Llywydd nid fan hyn yw'r lle i edrych.

O son am Dafydd El roedd aelod Dwyfor Meirionnydd ar ben ei ddigon yn crwydro o un cyfweliad i'r nesafl yn y senedd y bore 'ma er ei fod yn poeni ei fod wedi bod "braidd yn nashi" ar y Post Cyntaf wrth gymharu’r cynulliad a llysoedd tywysogion Gwynedd.

Mewn sawl ffordd diwrnod Dafydd yn hytrach na diwrnod y Frenhines yw heddiw. O'r cychwyn mae'r Llywydd wedi ceisio sicrhâi cymaint o rwysg ac urddas a phosib i'r cynulliad.

Mae 'na rai sy'n feirniadol o hynny gan amau mae hunan bwysigrwydd a hoffter o hob-nobio sydd wrth wraidd yr hyn y mae'n ceisio gwneud. Mae hynny'n annheg. Beth bynnag yw'ch barn chi ohono fe mae Dafydd yn wleidydd craff a hynod brofiadol. O'r cychwyn mae wedi bwrw ati yn gwbwl fwriadol i wisgo cynulliad mewn dillad senedd, i guddio gwendid setliad 1999 o dan fantell o ddefod.

Ei obaith oedd y byddai gwneud hynny yn creu disgwyliadau yng Nghymru a fyddai yn eu tro yn arwain at gynyddu pwerau'r cynulliad ac y byddai corff sy'n cwrdd mewn adeilad a elwir yn senedd yn hawlio pwerau seneddol.

Fe ddaw'r diwrnod hwnnw gam yn nes heddiw. Does dim rhyfedd bod Dafydd El yn gwenu.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.