Advertisement

Archifau 2 Mehefin 2007

Cwato rhag y Cwin

Vaughan Roderick | 11:01, Dydd Sadwrn, 2 Mehefin 2007

Sylwadau (13)

Fe fydd na dri pheth yn digwydd ddydd Mawrth. Fe fydd y Frenhines yn agor y cynulliad, fe fydd dwy o wleidyddion Plaid Cymru yn cynnal stỳnt yn Abertawe ac fe fyddai i yn dathlu(?) fy mhen-blwydd yn hanner cant.

Do, ces i fy ngeni yn 1957 yn aelod o genhedlaeth oedd, ac sydd, â diddordeb ysol mewn gwleidyddiaeth. Roedd hynny yn gwbwl naturiol. Wedi'r cyfan roeddwn yn tyfu i fynnu yn negawd Kennedy a Luther King, Fietnam a Phrague, Tryweryn a Chaerfyrddin. Pan oeddwn yn tancio dan oedran yn y saithdegau gwleidyddiaeth yn amlach na pheidio oedd testun y sgwrs.

Fel sy'n digwydd, chwythwyd ffrindiau llencyndod i'r pedwar gwynt. Mae'r ddau Chris (Schoen a Jones) yng Ngwynedd. Diflannodd Mike Hobbs oddi ar wyneb ddaear ac mae Jon Huggett yn filiwnydd yn yr Unol Daleithiau. Wnaeth Peter Davies ddiweddu yn Awstralia gan weithio i blaid fechan o'r enw'r Democratiaid, plaid a allai ddysgu gwers neu ddwy i rai o'n gwleidyddion yng Nghymru.

Ffurfiwyd y Democratiaid yn y saithdegau, cyfnod o lygredd yng ngwleidyddiaeth Awstralia. Ei slogan oedd "Keep the bastards honest". Doedd hi ddim yn chwennych grym yn ei rhinwedd ei hun. Y nod oedd dal y fantol rhwng y pleidiau mwy gan eu gorfodi i gadw at eu gair a gweithredu yn erbyn llygredd.

Yn hynny o beth roedd y blaid yn hynod lwyddiannus. Oherwydd y gyfundrefn etholiadol yn amlach na pheidio roedd y Democratiaid yn dal y fantol yn y Senedd (siambr uchaf Awstralia) ac yn defnyddio'i dylanwad i gymedroli rhwng chwith a de.

Cwympodd y cyfan yn ddarnau oherwydd ffrae wleidyddol a phersonol rhwng dwy seneddwraig y blaid o Dde Awstralia Meg Lees a Natasha Stott Despoja. Pan oedd Meg yn arweinydd y blaid fe'i tanseiliwyd gan Natasha. Pan ddyrchafwyd Natasha i'r arweinyddiaeth fe wnaeth Meg ei dinistrio.

Nawr, dwi i'n nabod Meg yn dda ac wedi cwrdd â Natasha ambell i waith felly fe wnâi ddim dweud gormod am y frwydr bersonol dim ond nodi ei bod yn brawf pendant nad yw cael rhagor o fenywod mewn gwleidyddiaeth yn arwain yn anorfod at fath newydd o wleidydda cynhwysol. Y ffrae wleidyddol sy'n ddiddorol. Roedd Meg yn mynnu bod yn rhaid i'r Blaid bod yr un mor barod i ddelio a phleidiau'r dde ac oedd hi a phleidiau'r chwith. Roedd Natasha yn ffafrio Llafur a'r Gwyrddion- pleidiau oedd "yn rhannu'r un gwerthoedd sylfaenol".

Roedd Natasha wedi ei hethol i'r senedd yn 24 oed ac yn ôl Meg doedd hi ddim wedi dysgu gwersi bywyd. Gwleidyddiaeth myfyrwyr oedd ei gwleidyddiaeth hi lle'r oedd profi pwynt i'w ffrindiau yn bwysicach na sicrhâi’r dylanwad i newid bywydau er gwell.

Ddydd Mawrth fe fydd 58 o aelodau'r cynulliad yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer agoriad brenhinol y cynulliad. Mae Bethan Jenkins a Leanne Wood wedi gwahodd y camerâu i'w ffilmio yn ymweld â'r digartref yn Abertawe. Pwy, yn eich barn chi, sy'n gwneud y peth iawn?

Tesco a'r Taliban

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Sadwrn, 2 Mehefin 2007

Sylwadau (2)

Y tro diwethaf yr oeddwn draw yn ymweld â theulu fy mhartner ym Malaysia roedd pawb wedi eu cyffroi'n lan.

Hen le digon bach yw Batu Laut, y pentref lle maen nhw'n byw. Mae yno riw gant o dai a thyddynnod, mosg, ysgol, hanner dwsin o siopau a chaffi. Does dim byd byth yn digwydd yn Batu Laut (wel, ac eithrio un tro pan lwyddodd python i lyncu hwch feichiog... fe aeth y lluniau yna o gwmpas y byd) ond y tro hwn roedd rhywbeth mawr wedi digwydd yn Banting, y dref agosaf. Cyn cael gwneud dim byd arall rhaid oedd mynd i weld y rhyfeddod newydd.

Rhyfeddod oedd hi hefyd, reit wrth ymyl y farchnad, mor annisgwyl i'w gweld, ond eto mor gyfarwydd. Y streipiau glas, y llythrennau coch a'r croeso "Selemat! Welcome to Tesco ". Doeddwn i ddim yn gwybod p’un ai chwerthin ai llefain oedd orau. Ydy, mae cwmni Tesco wedi cyrraedd pellafion y dwyrain pell gan ddod a'r "value range" a "Tesco Finest" i ganol y jyngl. Mae 'na wahaniaethau wrth gwrs. Dyw siopau Tesco Cymru ddim yn gwerthu pysgod a chrancod byw a does dim rhaid mynd trwy ddrws bach yr "European Delicatessen" i brynu cig moch a chwrw.

Nawr mae'n hawdd iawn bod yn snobyddlyd a nawddoglyd am y globaleiddio yma. Mae'n ffasiynol bron i gredu na ddylai pobol eraill fwynhau'r un cyfleustra a ni. Gwell yw cadw'r diwylliant brodorol pur er mwyn i ni, yn ein tro, fynd i syllu ar y diwylliant hwnnw fel twristiaid.

Yn bersonol does gen i ddim byd yn erbyn Tesco Banting er fy mod yn amau am faint y bydd yr hanner dwsin o siopau yn Batu Laut yn para yng nghysgod eu cymydog newydd.

Ac efallai bod Tesco yn fath ar genhadwr mewn gwlad sydd, yn fy nhyb i yn allweddol i ddyfodol y berthynas rhwng y byd gorllewinol a'r byd Mwslimaidd. Mae cyfansoddiad Malaysia yn gwarantu rhyddid crefyddol ac mae Eglwysi Cristnogol a Themlau Hindiwiaeth a Bwdistiaeth yn olygfeydd cyffredin. Ond Islam yw crefydd y mwyafrif (o drwch blewyn) a hi yw'r grefydd swyddogol. Mae'r cerdyn adnabod mae pawb yn gorfod cario (yr IDC) yn nodi p’un ai ydy rhyw un yn Fwslim ai peidio.

Mae beth sydd ar eich cerdyn chi yn allweddol i fywyd pob dydd. Dyw'r Mwslimiaid, er enghraifft, ddim yn cael mynediad i'r "European Delicatessen" a llysoedd sharia sy'n delio a'u materion teuluol a sifil nhw tra bod llysoedd y wladwriaeth yn delio a phawb arall. Does 'na ddim hawl gadael y ffydd chwaith. Yr wythnos hon gwrthododd yr Uchel Lys yr hawl i wraig oedd wedi ymuno ag Eglwys Gristnogol i newid y disgrifiad ar ei cherdyn. Penderfyniad ei rhieni adeg ei gennu a'i chofrestri oedd yn cyfri nid ei safbwyntiau hi.

Fel ym mhob man arall mae arian a chenhadon ceidwadol yr Arabiaid wedi dylanwadu ar y ffydd ym Malaysia. Ugain mlynedd yn ôl roedd hi'n anarferol iawn i ferched a gwragedd Mwslimaidd orchuddio eu gwallt- nawr mae bron pob un ohonynt yn gwneud. Does neb yn eu gorfodi ond dyna yw'r ffasiwn bellach, ffasiwn sydd wedi cyrraedd o wledydd llawer mwy ceidwadol eu ffydd.

A dyma'r eironi efallai. Ar yr union adeg y mae pobol Batu Laut yn dechrau prynu eu bwyd yn Tesco mae rhai o'u harweinwyr crefyddol yn dechrau pregethu diwinyddiaeth geidwadol hen-ffasiwn sy'n estron i draddodiadau cymhedrol y wlad. Mae'n frwydr rhwng moderniaeth a'r rheini sydd am ddychwelyd i ryw rith-fyd canoloesol. Am unwaith mae hon yn frwydr dw i eisiau i Tesco ei hennill.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.