Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr hen restrau yna

Vaughan Roderick | 07:37, Dydd Mercher, 9 Mai 2007

Mae'r cyfnod ar ôl etholiad yn gyfnod pan mae gwleidyddion o wahanol bleidiau yn tueddu i ddod ymlaen â'i gilydd gan rannu ambell i farn na ellir ei leisio ym mwrlwm ymgyrch.

Ces i sgwrs ddifyr iawn ddoe gydag un o'r newydd-ddyfodiaid Ceidwadol i'r cynulliad a chyn aelod seneddol Llafur, ill dau yn poeri gwaed am system etholiadol y Cynulliad.

Esboniodd y Llafurwr pam a sut y daeth y gyfundrefn i fodolaeth. Roedd Tony Blair meddai yn benderfynol o sicrhâu elfen gyfrannol yn y cynulliad. Roedd yr arweinydd Llafur yn ofni y byddai'r cynulliad heb hynny fel un o'r hen gynghorau sir yna "yn llawn o 'deadbeats' a hen ddynion heb syniad newydd yn eu pennau". O ganlyniad fe edrychodd criw o aelodau Llafur Cymru ar y system restrau yn yr Almaen ac argymell ei mabwysiadu yng Nghymru. Yn ôl y cyn aelod seneddol roedd hynny'n gamgymeriad, a gofynnodd y cwestiwn hwn "sut mae esbonio system lle weithiau'r ffordd i gael eich dyn neu'ch menyw chi i mewn yw pleidleisio i rywun arall?"

Yr un oedd barn y Ceidwadwr a awgrymodd bod angen i'r cynulliad a'r senedd adolygu'r gyfundrefn i'w gwneud hi'n fwy cyfrannol ac yn haws ei deall. Yn 2003 fe wnaeth y Ceidwadwyr elwa o fympwyon y system, yn 2007 nhw oedd ar eu colled. Cymerwch un esiampl yn rhanbarth y Gogledd fe enillodd Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr oddeutu 50,000 o bleidleisiau’r un eto yn y rhanbarth hwnnw mae gan Lafur 5 AC, Plaid Cymru 4 a'r Ceidwadwyr 3.

Mae 'na nifer o atebion posib i'r broblem. O gadw at gyfundrefn restr fe fyddai cael mwy o aelodau rhanbarthol o gymorth yn yr un modd fe fyddai un rhestr genedlaethol yn gwneud y canlyniad yn fwy cyfrannol. Argymhelliad comisiwn Richard oedd cyfundrefn STV mewn etholaethau aml-aelod. Beth bynnag yw'r ateb mae 'na gwestiynau difrifol yn cael eu gofyn

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:56 ar 9 Mai 2007, ysgrifennodd Iwan:

    Mae na dipyn o sôn wedi bod am yr angen i gynyddu nifer yr aelodau i 80 os fydd na bwerau deddfau gan y Cynulliad. Fel ti'n dweud, byddai'n rhoi canlyniadau mwy cyfrannol hefyd, felly nes i weithio allan be fyddai dosraniad y seddi gyda union yr un pleidleisiau ond 40 sedd rhestr:

    Llafur 30
    Plaid Cymru 19
    Ceidwadwyr 19
    DemRhydd 9
    BNP 2

    Yn anffodus mae'n golygu llwyddiant i'r BNP -- pa mor ddemocrataidd fyddai cael cwota er mwyn diystyru pleidiau bach tybed?

    Mae'r canlyniadau hyd yn oed yn fwy diddorol gydag un rhanbarth cenedlaethol fel ti'n crybwyll:

    Llafur 25
    Plaid Cymru 17
    Ceidwadwyr 18
    DemRhydd 10
    BNP 3
    UKIP 3
    Gwyrdd 2
    Plaid Lafur Sosialaidd 1

    Plaid Cymru'n cael eu gwthio i 3ydd safle, a 9 sedd i bleidiau bach iawn. Byddai'r trafodaethau clymbaid hyd yn oed fwy diddorol :-)

  • 2. Am 10:01 ar 9 Mai 2007, ysgrifennodd tomos evans:

    Y beth fwyaf od yw Llafur yn ennill 29.6% o bleidlais rhanbarthol, 60% o seddi etholaethau (40% o gyfanswm y seddi) ond yn dal ennill dwy sedd ar y rhestr i gyrraedd 43% o'r seddi. Joc Llwyr. Mae'n pryd cael rhestr genedlaethol neu STV.

  • 3. Am 13:06 ar 9 Mai 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Iwan, dwy mor falch bod rhiw un arall wedi gwenud y gwaith mathemategol! Diolch! Yr hyn sy'n amhosib i wybod wrth gwrs yw a fyddai'r patrymau pleidleisio yn newid oherwydd newid y drefn.

  • 4. Am 16:56 ar 9 Mai 2007, ysgrifennodd Daran:

    Byddai rhestr cenedlaethol wedi cryfhau nifer y Democratiaid Rhyddfrydol yn 1999 a 2003 hefyd.

    Od iawn nad oedd unrhyw un o'r gwrthbleidiau'n edrych ar merit y system pan oedd y Deddf diweddara yn cael ei basio. Pawb yn becso gormod am yr elfen ymgeiswyr yn cael ei orfodi i ddewis rhwng naill ai'r rhestr neu yn yr etholaeth, ac yn amlwg ddim yn rhoi digon o ffocws ar yr elfennau eraill o'r sustem etholiadol.

    Hefyd, dylai pob prif plaid wedi ystyried diddymu'r ail bleidlais a gwneud pob elfen o'r maths o un bleidlais. Byddai hynny wedi cryfhau pob un ohonynt - roedd na "drift" o bob un rhwng y bleidlais cynta a'r bleidlais rhestr - ond wrth gwrs byddai hynny ddim wedi mynd lawr yn dda gyda'r pleidiau bach.

  • 5. Am 21:45 ar 9 Mai 2007, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Nid ydwyf yn hoff o'r syniad yma o un rhestr ar gyfer Cymru gyfan o gwbl. Ar hyn o bryd mae holl aelodau restr y Gogledd yn dod o ddwyrain y rhanbarth. Does dim un cynrychiolydd sy'n byw i'r gorllewin o Ruthun, sy'n amddifadu pobl Môn Arfon a Chonwy o gynrychiolaeth ranbarthol.

    Yn rhanbarth Canol a Gorllewin Cymru mae'r cynrychiolwyr rhanbarthol yn dod o'r gorllewin gan amddifadu'r canolbarth o Ben Llŷn i Aberhonddu o gynrychiolaeth ranbarthol.

    Pe bai dim ond un rhestr ar gyfer Cymru gyfan mae yna berygl mae pobl o gyffiniau Caerdydd byddai'r mwyafrif llethol o aelodau rhanbarthol.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.