Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Nationalistas a'r Jihadwyr

Vaughan Roderick | 11:30, Dydd Sadwrn, 19 Mai 2007

Mae'r llysenwau "Nationalista" a "Jihadydd" yn rhai digon cyffredin o gwmpas y Senedd a Thŷ Crughywel ond dw i ddim yn meddwl eu bod wedi lledaenu ymhell tu hwnt i hynny. Rhain yw’r termau a ddefnyddir i ddisgrifio'r ddwy garfan o fewn Llafur Cymru- carfannau a allai fod wrth yddfau ei gilydd os ydy'r Blaid yn colli grym yn y cynulliad.

Pwy ydyn nhw? Wel, y "Nationalistas" yw'r aelodau hynny, o goridor yr M4, yn bennaf, oedd yn ddigon parod i weld Llafur yn cydweithio a Phlaid Cymru, pobol fel Carwyn Jones, Jane Hutt ac Edwina Hart. Y Jihadwyr yw'r aelodau, o'r cymoedd gan fwyaf, sydd â chasineb, llwythol bron, tuag at genedlaetholdeb ar y naill law a Cheidwadaeth ar y llaw arall, aelodau fel Huw Lewis a Leighton Andrews.

Nawr mae 'na beryg, yn enwedig ymhlith y Cymry Cymraeg, i bortreadu'r Jihadwyr fel pobol sydd mewn rhyw ffordd yn wrth Gymreig neu'n wrth Gymraeg. Dyw hynny ddim yn wir nac yn deg. Cymraeg, er enghraifft, yw'r iaith ar aelwyd Leighton a'i deulu. Yr hyn sydd yn wir amdanynt yw eu bod yn bobol sy'n rhoi blaenoriaeth i'r frwydr yn erbyn tlodi ac angen uwchlaw popeth arall. Iddyn nhw mae dadleuon cyfansoddiadol neu ieithyddol yn wastraff amser. Dyrchafir gwleidyddiaeth dosbarth uwchlaw popeth arall.

Dyw hon ddim yn rhaniad newydd o fewn y Blaid Lafur. Yr un oedd y ddadl rhwng Neil Kinnock a Michael Foot yn y saithdegau, George Thomas a Cledwyn Hughes yn y chwedegau ac Aneurin Bevan a Jim Griffiths yn y pumdegau. Yn wir gellid dadlau bod hon yn rhaniad sy'n ymestyn yn ôl i'r ymgiprys rhwng Llafur a'r Rhyddfrydwyr am oruchafiaeth wleidyddol yng Nghymru.

Camp enfawr Rhodri Morgan oedd llwyddo i bontio'r ddwy garfan. Mae'n deg i ddweud, dw i'n credu, mae Llafur oedd y grŵp mwyaf unedig a disgybledig yn yr ail gynulliad ond o golli grym gallai pethau newid yn gyflym gyda'r ddwy garfan yn beio ei gilydd am fod ar feinciau’r gwrthbleidiau.

Oherwydd hynny dw i'n fodlon mentro na fyddai Rhodri Morgan yn rhuthro i ymddeol fel arweinydd Llafur Cymru pe bai Ieuan yn Brif Weinidog. Y peth olaf fyddai angen ar Lafur yn y fath amgylchiad fyddai rhyfel cartref gwaedlyd dros arweinyddiaeth a chyfeiriad y Blaid.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:16 ar 19 Mai 2007, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Sylwadau difyr iawn. Clywesi aelod blaenllaw o'r Blaid Cymru yn dweud y byddai ef yn ddigon parod i gyd-weithio gyda Plaid Lafur dan arweiniad Carwyn Jones ond y byddai yn gwrthod y syniad o gyd-weithio gyda Plaid Lafur dan arweiniad Andrew Davies.

    Rhys, Aberystwyth

  • 2. Am 14:01 ar 19 Mai 2007, ysgrifennodd Guto:

    Gan gofio bod Rhodri yn mynd i adael rhywbryd yn ystod y Cynulliad yma, oni fysain well iddo fo adael rwan i'r ffeit rhwng y ddwy ochr ddigwydd ddigon pell o'r etholiad nesa?

  • 3. Am 14:31 ar 19 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Mae hynny'n bosib, Guto, ond dwy'n amau y byddai Rhodri am i aelod o'i gabinet ei olynnu a phe bai na etholiad cynnar dwy'n meddwl mae un o'r meinciau cefn (Huw, o bosib) fyddai'n mynd a'r goron.

  • 4. Am 14:49 ar 19 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Mi roeddwn yn ymwybodol o raniad o fewn y blaid Lafur rhwng y 'Cymru Cymraeg' ar sosialwyr or cymoedd, ond o'n i ddim yn gwybod fod y rhaniad yma yn dal o bwys. Prun garfan ydy'r cryfa ar hyn o bryd? Os fydd yna glymblaid 'rainbow' a chwalfa o fewn y Blaid Lafur oes yna bosib i ni gael ryw fath o 'realignment' gyda aelodau amlwg yn gadael rai pleidiau ac ymuno hefo pleidiau eraill?

  • 5. Am 15:07 ar 19 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Y "Nationalistas" sydd gryfa yn y cynulliad ond y gwrtwyneb sy'n wir yn San Steffan. Mae'n werth cofio bod arweinydd Llafur Cymru yn cael ei ddewis gan y Blaid gyfan nid dim ond y grwp.

  • 6. Am 00:21 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Beth yw pwrpas y blaid lafur ?

  • 7. Am 14:54 ar 20 Mai 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    Vaughan - rwy ti'n rhy garedig a Huw Lewis a Leighton Andrews - ofn cael dy siwio gan Leighton - fel bygythiodd wneud i gylchgronnau Barn a Cambria?

    Rwy'n deall fod gan bawb ei flaenoriaeth wleidyddol, ond pa fath o foesoldeb sydd gan wleidydd sy'n teimlo fod rhaid dewis rhwng hyrwyddo cymdeithas well a hyrwyddo iaith fu heb statws yn ei gwlad ei hun am 500 mlynedd? Ydi tad yn dewis rhwng un plentyn a'r llall?

    Y cenedlaetholwyr mwyaf yn y Cynulliad yw cenedlaetholwyr Brydeinig y Blaid Lafur fel Huw Lewis a Leighton Andrews.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.