Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Penbleth y Blaid

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Mercher, 30 Mai 2007

Wrth i Rhodri Morgan bendroni am ei gabinet penbleth arall sy'n wynebu arweinyddiaeth Plaid Cymru. Dros yr wythnosau nesaf fe fydd Ieuan Wyn Jones a'i gefnogwyr yn gorfod argyhoeddi cymaint o aelodau'r blaid ac sy'n bosib mai'r "enfys" yw'r ffordd ymlaen.

Does gen i ddim amheuaeth o gwbwl y bydd Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn cefnogi'r glymblaid arfaethedig. Ond, fel yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol, mae maint y mwyafrif yn bwysig. Hynny er mwyn sicrhâu bod yr aelodau cynulliad i gyd yn derbyn y canlyniad ac i brofi i'r rhai sy'n mwmian am hollti'r blaid y byddai hynny yn brofiad unig ac aflwyddiannus.

Ond mae 'na gwestiynau pwysig i'w hateb gan y ddwy garfan o fewn Plaid Cymru.

Mae'r cwestiwn pwysicaf i'r arweinyddiaeth, yn fy marn i, yn ymwneud â sicrhâu refferendwm ar bwerau deddfwriaethol i'r cynulliad. Mae angen deugain o bleidleisiau yn y cynulliad i wneud hynny. Tra bod 'na sicrwydd felly y byddai cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn gallu delifro refferendwm does 'na ddim sicrwydd y byddai'r "enfys" yn gallu gwneud. Mae'n rhaid i Ieuan a'i gefnogwyr ddarbwyllo’r aelodaeth bod rhagoriaethau eraill yr "enfys" yn ddigon i gyfiawnhau peryglu'r posibilrwydd o bwerau deddfwriaethol.

Mae'r cwestiwn sy gen i i wrthwynebwyr yr "enfys" yn fwy athronyddol. Cyn belled a dw i'n gweld dyw eu gwrthwynebiad ddim wedi ei seilio ar gynnwys dogfen "Cytundeb Cymru Gyfan". Yr hyn a geir ganddynt yw dadl na ddylai dwy blaid sydd yn seiliedig ar "werthoedd" gwahanol gydweithio a'i gilydd. Y broblem sy gen i yw hyn - os ydy "gwerthoedd" Plaid Cymru a'r Torïaid mor wahanol i'w gilydd pam ar y ddaear oedd eu maniffestos mor debyg? Hynny yw os ydy'r gwahaniaethau polisi yn fân mae hynny naill ai yn golygu nad oes 'na fawr o wahaniaeth yn eu gwerthodd mewn gwirionedd neu fod y naill faniffesto neu'r llall, neu'r ddau, yn dwyllodrus.

Ydy chwith Plaid Cymru yn credu, mewn gwirionedd, bod gan y Torïaid rhyw faniffesto gudd i ddinistrio'r gwasanaethau cyhoeddus ar ôl sicrhâu rhan mewn llywodraeth? Os mai dyna yw eu cred fe ddylen nhw ddweud hynny'n blaen.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:39 ar 30 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Hollol rhesymegol a chywir Vaughan.
    Y blaenoriaeth i genedlaethwyr yw:

    a) Sicrhau refferendwm ar bwerau newydd.
    b) Ennill y refferendwm.

    Dyma lle mae'r pethau meddal fel "gwerthoedd" a "chof cymuned" yn berthnasol. Os daw'r Blaid i rym buasai a) efallai yn bosibl ond b)....gyda'r canlyniad o roi pwer real i'r Blaid wnaeth ddinistrio'r diwydiant glo ac ati.......anodd iawn i Ieuan ond buasai b) yn bosib gyda chlymblaid a Llafur....falle

  • 2. Am 16:10 ar 30 Mai 2007, ysgrifennodd Gwydion:

    Hyd yn oed petai'r glymblaid enfys yn sicrhau refferendwm, oni fyddai angen cefnogaeth gryf oddi wrth y Blaid Lafur i sicrhau pleidlais 'ie' dros bwerau pellach mewn refferendwm? Byddai'n anodd iawn ennill pwerau pellach pe bai'r Blaid Lafur yn peidio cefnogi pleidlais 'ie'. Onid dyma'r ddadl gryfa' yn erbyn yr enfys, a dros gytundeb Plaid-Llafur, o safbwynt y mudiad cenedlaethol?

  • 3. Am 16:58 ar 30 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Cytuno cant y cant Gwydion - anodd ond dyw hi.

  • 4. Am 17:40 ar 30 Mai 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Dwi ddim yn meddwl ddylsa ni son am refferendwm nes ein bod yn ddigon siwr o'i hennill a dydy hyny ddim yn debyg yn y dyfodol buan. Be sy'n bwysig ydy fod Plaid Cymru ar enfys yn dangos eu bod yn gallu llywodraethu, unwaith gwelith pobol Cymru fod y Cynulliad yn gweithio wedyn fydd yn fwy o siawns o ennill yr refferendwm. Hefyd ydy Peter Hain neu pwy bynnag ddilynith o yn mynd i neud hi'n hawdd ir enfys lywodraethu...dwi ddim yn meddwl!!

  • 5. Am 17:45 ar 30 Mai 2007, ysgrifennodd Bwbach:

    Mae'r gwerthoedd yn bwysig wrth gwrs Vaughan.

    Mae Plaid Cymru yn anelu yn y pendraw at annibyniaeth. Mae'r blaid Geidwadol yn dal i arddel unoliaeth y Deyrnas Unedig.

    Mae Plaid Cymru yn arddel cyfoethogi'r gymuned drwy lywodraeth ganolog a lleol tra mae'r blaid Geidwadol yn arddel llai o ymyrraeth gan y llywodraeth ac yn dyrchafu'r unigolyn.

    Byddai cydweithio rhwng dwy blaid o'r fath yn awgrymu fod un neu'r ddwyw blaid yn fodlon cyfaddawdu ar y gwerthoedd hyn.

  • 6. Am 18:07 ar 30 Mai 2007, ysgrifennodd Seiriol:

    Dwi'n hoff iawn o ail bwynt dy ddadl.

    Fues i'n y gynulleidfa yn ystod Pawb a'i Farn yn Machynlleth yn ystod yr ymgyrch ac roedd mwy o gytuno rhwng y Toriaid a Phlaid Cymru na rhwng neb arall y noson honno. Dwi'n ymwybodol nad yw Alun Ffred yn cynrychioli chwith galed Plaid Cymru ond mae'r pwynt lledaenach yn sefyll.

  • 7. Am 19:53 ar 30 Mai 2007, ysgrifennodd Helen:

    Cydweld yn llwyr â Bwbach - yn bersonol, rwy'n amau'n glir fod y Torïaid â'u bryd ar gael rhywfaint o rym yn y Gymru newydd, doed a ddêl - wedi'r cwbl, fydden nhw byth bythoedd, fel arall, yn cael y pleidleisiau sydd eu hangen i lywodraethu yng Nghymru, sef mandad, felly rhaid imi amau fod ganddynt agenda gudd yn rhywle, a'u bod am y tro yn berffaith barod i heijacio Plaid Cymru, dim ond i gael presenoldeb mewn unrhyw gabinet a fyddai'n deillio o'r 'enfys' fondigrybwyll honno. Rwyf wedi rhoi fy marn yn hollol glir o'r blaen ar y mater hwn - a dyw llewpart ddim yn mynd i newid ei smotiau. Wedi'r cwbl, plaid Michael Howard, Iain Duncan Smith a Bill Wiggins sydd gennym dan sylw yma, felly dylai PC gadw'n glir oddi wrth y Torïaid, o leiaf hyd nes y bydd ganddi fwyafrif clir, h.y. o leiaf 16 o seddau, o fewn unrhyw glymblaid yn y dyfodol!

  • 8. Am 22:00 ar 30 Mai 2007, ysgrifennodd huw prys jones:

    Dw i'n derbyn fod gan rai o aelodau Plaid Cymru amheuon dwfn ynghylch clymblaid yr enfys - ac y bydd yna gwestiynau y bydd angen eu hateb. Ond o'r holl resymau posibl dros yr amheuon hyn, y lleiaf dilys ohonynt yn fy marn i ydi'r peryg o fethu sicrhau refferendwm ar hawliau deddfu i'r cynulliad. Nid rhuthro i refferendwm ddylai'r nod fod - ond sicrhau y bydd y refferendwm hwnnw'n cael ei ennill pan gaiff ei gynnal. A'r ffordd orau i gynyddu'r gobaith o ennill refferendwm ydi sicrhau llywodraeth well i Gymru - a hynny cyn gynted ag sy'n bosibl. Os cawn ni bedair blynedd arall o'r math o lywodraeth Lafur yr ydan ni wedi ei gael, sut yn y byd fydd ennyn brwdfrydedd ymysg pobl Cymru am ragor o rym i sefydliad o'r fath?
    Prun bynnag dydi taro bargen efo'r Blaid Lafur i gynnal refferendwm yn da i ddim ynddo'i hun onibai fod y Blaid Lafur yn benderfynol o'i ennill. Mi allen nhw gytuno i gynnal refferendwm ac wedyn rhoi rhwydd hynt i'w ASau unoliaethol ymgyrchu dros bleidlais Na. Dw i'n amau y bydd yn rhaid i Lafur golli grym yn Llundain cyn y bydd hi'n frwd dros ddatganoli rhagor o rym i Gymru.
    Yn y cyfamser, y flaenoriaeth i Gymru am y ddwy neu dair blynedd nesaf ydi sicrhau defnydd gwell o'r grym sydd gynnon ni - dyna'r unig ffordd i symud proses ddatganoli yn ei blaen.

  • 9. Am 08:04 ar 31 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Anghytuno Huw - rhaid mund gyda'r zeitgeist cyn gynted ac sy'n bosib - cyn i bobl "setlo" gyda beth sy gennym.

  • 10. Am 11:15 ar 31 Mai 2007, ysgrifennodd aled j:

    Dwi dal i feddwl bod safiad y "gang of four" yn strategol bwysig yn hyn oll, nid yn unig o ran sefyllfa PC a'r enfyd, ond hefyd o ran dwyn pwysau ar y Ceidwadwyr i ddangos eu bod hwy o ddifrif am ddilyn agenda newydd Gymreig. Mae enghraifft o hyn wedidod i'r golwg yn ystod y dyddiau diwethaf wrth i Nick Bourne gefnogi sefydlu pwyllgor seneddol i drafod creu mesur tai newydd i Gymru, fyddai'n cynnwys y posiblilrywdd o sefydlu marchnad dai leol. Y fo ydi'r cyntaf o'r arweinwyr pleidiol i ymateb yn ffafriol i gais Cymuned ynghylch y mater hwn. Dwi hefyd yn cytuno gyda huw prys jones mai nid logistics gallu cynnal refferendwm yw'r flaenoriaeth bwysicaf ar hyn o bryd, ond yn hytrach gallu gwneud gwahaniaeth go iawn o ran sut y mae Cymru yn cael ei llywodraethu.

  • 11. Am 12:07 ar 31 Mai 2007, ysgrifennodd huw prys jones:

    O ran sylw Dewi am fynd gyda'r zeitgeist - ar bob cyfrif, ond rhaid sicrhau ein bod ni'n deall beth yw'r zeitgeist hwnnw. A does gen i ddim amheuaeth fod yr awydd am lywodraeth newydd yn y Cynulliad yn llawer cryfach nag am refferendwm ar hawliau deddfu ar hyn o bryd. O weld yr ymateb dros y dwy neu dair wythnos ddiwethaf, mae'r zeitgeist yn ymddangos yn gryf o blaid yr enfys.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.