bbc.co.uk Navigation

Cwis

  • Vaughan Roderick
  • 29/05/2007, 17:23

Does na ddim cwis newydd heddiw. Diffyg awen mae gen i ofn! Oherwydd fy mod wedi anghofio am y tim Rygbi roedd na sawl ateb cywir i "ddyn Cymru yn Awstralia" y cynrychiolydd swyddogol Gareth Davies oedd gen i ond mae na sawl Gareth posib arall gan gynnwys Gareth Jenkins a Gareth Charles. Fe ddaeth Bil yn agos at iawn at y rhestr gyflawn.

Dyn Cymru yn Awstralia - G. Thomas
Dyn Hawke ar lwyfan dramor - G. Evans
G. benywaidd - Ms G. Pierce
Gwas bach David(Wigley) y cyn A.S -
G. Thomas?
G. y cynulliad - G. Jones
G. y senedd - G.R.Thomas (Harrow)
Y G. a gollodd i Wil - G. Gates

Yn nhrefn y Wyddor:
GARETH : Evans, Gates, Jones, Pierce,
Thomas, Thomas, G.R.Thomas.

Da iawn Bill...ond cyfeiriad at "The Office" oedd "gwas bach David (Brent)". Yr ateb oedd Gareth Keenan

Sylwadau   Anfonwch eich sylw

  • 1.
  • Am 08:38 ar 30/05/2007, ysgrifennodd
  • Malcolm :

Helo

Dwi'n hoffi dy blog ond ydi o yn bosib i chi ysgrifennu yn Cymraeg mwy syml neu cyfieathu y cyfan gwbl i Saesneg? Dwi ddim ond yn dysgu a dwi yn ffeindio hi'n anodd cadw i fynnu.

Diolch.

  • 2.
  • Am 09:42 ar 30/05/2007, ysgrifennodd
  • vaughan :

Diolch Malcolm. Fe wnai ofyn os ydy hi'n bosib i gael "vocab" i weithio ar y blog.Roedd na broblem technegol y tro diwethaf i ni geisio gwneud hynny.
Thanks Malcolm. I will ask if it's possible to get the "vocab" system that's available on the main site to work on the blog. We had technical trouble the last time we tried it.

Gwneud sylw

DS - mae'n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad.

Caiff sylwadau eu cymedroli, ni fyddant yn ymddangos ar y blog tan fod yr awdur wedi eu cymeradwyo

Angenrheidiol
Angenrheidiol (ond ni fydd yn cael ei arddangos)
 
    

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

BBC.co.uk