Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Blogio a'r BNP

Vaughan Roderick | 11:08, Dydd Llun, 28 Mai 2007

Nol yn nyddiau cynnar y blog yma fe es i drafferth ar faes-e am ddweud na fyddwn yn cynnwys dolenni i safleoedd oedd naill ai yn enllibus neu'n anweddus. Dyna yw polisi'r BBC a dw i'n ddigon hapus i gydymffurfio.

Nid fy mod am gyhuddo y blogwyr oedd yn beirniadu'r polisi hwnnw o ragrith ond y gwir plaen amdani yw eu bod yn gwneud yn union yr un peth eu hun.

Mae 'na flog gwleidyddol Cymreig, sydd yn fwy toreithiog na Blamerbell, sydd yn gallu bod yn hynod o ffraeth ac sydd yn amlwg yn cael ei sgwennu gan ddyn addysgedig a darllengar. Eto i gyd y mae'n flog does neb yn cyfeirio ato nac yn cynnig dolen iddo.

Pam? Wel, oherwydd bod y blog yma'n cael ei sgwennu gan un o gefnogwyr y BNP ac nid neges wedi ei saniteiddio sydd yno ond sylwadau sy'n drewi o falais a rhagfarn hiliol a chrefyddol. Mae rhai o'r sylwadau yn ddigon i wneud i ddyn deimlo yn gorfforol sâl. Yn wir roedd fy mhartner, sydd yn Fwslim, yn gorfforol sâl ar ôl darllen rhai o'r sylwadau am y grefydd honno.

Y broblem sy gen i yw hyn. Ai anwybyddu'r pethau yma sydd orau? Wedi'r cyfan yn etholiadau'r cynulliad fe enillodd y BNP ddeugain mil o bleidleisiau a phe bai'r seddi rhestr yn cael eu didoli ar sail genedlaethol yn hytrach nac ar sail ranbarthol fe fyddai gan y blaid ddau gynrychiolydd yn y Cynulliad.

Dw i'n meddwl bod y llwyddiant cymharol hwnnw yn deillio o'r ffaith fod y pleidiau mawr yn araf i ymateb i bryderon digon real a pharchus rhai o'r etholwyr. Er enghraifft dyw e hi ddim, o reidrwydd, yn hiliol i ddadlau y dylai pobol leol gael blaenoriaeth ar y rhestrau aros am dai boed hynny ym Mhwllheli neu yn Brixton.

Y broblem yw bod cymaint o wleidyddion yn ofni cael eu cyhuddo o hiliaeth nes eu bod yn cadw'n dawel am broblemau cymdeithasol sydd yn poeni nifer sylweddol o'u hetholwyr. Does ond angen ystyried y ffrae ddiweddar ynglŷn â sylwadau Margaret Hodge i weld pam y mae gwleidyddion yn cadw eu pennau i lawr. Y peryg yw, wrth gwrs, bod y tawelwch hwn ond yn bwydo'r bwystfil.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:28 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Beth sydd yn syfrdanol am ganlydiad y rhestr yw bod y bleidlais Toriaidd, UKIP a BNP da'i gilydd wedi sgorio 29.7% - mwy o bleidleisiau ar y rhestr na Llafur.

    Scary !!!

  • 2. Am 13:18 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd goodbye kirsty:

    Am ba flog wyt ti'n son, tybed? Efallai blog Giraldus Cambrensis sy'n gwrth-Islamaidd ond ddim yn cefnogol i'r BNP, hyd a welaf i. Y gwir yn erbyn y byd Vaughan, rhoi'r enw i ni.

  • 3. Am 15:26 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Kirsty dw i ddim am enwi'r blog ond nid Giralus Cambrensis yw e. Er mwyn rhoi argraff o'r fath o bethau sy arno dyma ddau bennawd diweddar "Your future as a white minority" a "The sacred bull,dead pets TB and immigrants"

  • 4. Am 16:51 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd Pleidiwr:

    Mae'n fater i ni i gyd fecso amdano. Yn 2003, wrth ganfasio, clywais lot o gintach am bobol yn ceisio lloches yn y wlad yma. Eleni, roedd hynny wedi troi i mewn i ddatganiadau plaen o gefnogaeth i'r BNP neu'r National Front.

    Mewn ardaloedd di-freintiedig, lle oedd Llafur unwaith mor gryf, oedd y sylwadau hyn i gyd i'w clywed. Ardaloedd lle mae llai na 25% wedi pleidleisio y troi hwn. Os na fyddwn yn wyliadwrus, yr eithafwyr hyn fydd yn llanw'r faciwm mae Llafur wedi gadael ar eu hôl.

  • 5. Am 16:57 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd huw prys jones:

    Dw i'n cytuno'n llwyr efo'r sylw am y perygl fod gwleidyddion mewn cymaint o ofn cael eu cyhuddo o hiliaeth fel eu bod nhw weithiau'n anwybyddu problemau eu hetholwyr. Dw i'n meddwl bod y bobl hynny sydd mor awyddus i daflu cyhuddiadau difeddwl o hiliaeth yn gwneud drwg mawr i achos gwrth-hiliaeth. Mae'r math o ddiwylliant gwleidyddol lle caiff unrhyw un sy'n gwneud unrhyw sylw am fewnfudo ei gyhuddo o fod yn hiliol nid yn unig yn gwbl annheg ar y bobl hynny ond hefyd yn bychanu ffieidd-dra'r BNP.
    Rydan ni wedi cael mwy na'n siar o'r McCarthyism gwrth-hiliol yma yng Nghymru, wrth gwrs, gydag elfennau unoliaethol o'r Blaid Lafur yn rhuthro i wneud cyhuddiadau o'r fath yn erbyn caredigon y Gymraeg. Rhagfarn wrth-Gymreig yn aml, wrth gwrs, sydd wrth wraidd y cyhuddiadau yma - defnyddio cywirdeb gwleidyddol fel arf i atgyfnerthu goruchafiaeth Seisnig. Eto i gyd dw i'n gweld perygl hefyd mewn bod yn rhy barod i dderbyn yr holl haeriadau a wneir gan y chwith yn enw aml-ddiwylliannaeth.
    I fynd yn ôl at y BNP ei hun, er bod angen rhoi sylw i'r mathau o bryderon sy'n arwain pobl atyn nhw, dw i hefyd yn meddwl bod yna beryg mewn rhoi gormod o sylw iddyn nhw fel plaid. Yn anffodus mae pregethu gormod ynghylch pa mor beryglus ydyn nhw yn tueddu o chwyddo eu hunan-bwysigrwydd. Mi fyddwn i'n meddwl mai ffordd llawer mwy effeithiol o'u gwrthsefyll ydi trwy eu dirmygu fel pobl dwp nad ydyn nhw'n llawn llathen a cheisio amlygu record droseddol y rhai ohonynt sy'n gyn-droseddwyr.

  • 6. Am 18:09 ar 28 Mai 2007, ysgrifennodd niclas:

    Mae na fyd o wahaniaeth rhwng dadl hiliol Hodge yn Barking a dadlau o blaid bobol leol mewn cyd-destun Cymreig a Chymraeg.
    Mae Hodge am adennill pleidleiswyr a gollwyd i'r BNP drwy fod mor hiliol a'r BNP. Mae hi'n derbyn y celwydd bod bobol o dramor yn cael tai cyngor. Sut? Dydi Pwyliaid ac ati ddim, dydi tramorwyr yn gyffredinol ddim ag eithrio ambell i ffoadur sy'n ddigartre a heb arian i fyw na'r hawl i weithio dan sustem y Blaid Lafur.
    Yma yng Nghymru, yn aml y stadau tai cyngor yw lle mae'r canran ucha o Cymry Cymraeg i'w canfod. Pam? Oherwydd fedren ni ddim fforddio tai preifat.
    Mae angen polisi tai llawer mwy cynhwysfawr na jest ffafrio pobol leol - mae angen stopio gwerthu tai cyngor, stopio eu trosglwyddo i gymdeithasau tai a rhoi'r hawl i gynghorau ddechrau codi mwy i ateb y galw amlwg sydd am dai ar rent rhesymol yn ein trefi a'n pentrefi.
    Fel na mae ymladd y BNP - drwy ateb problemau go iawn pobol. Dydi'r gwleidyddion sefydliadol ddim yn gwneud hynny a dyna pam fod y BNP wedi ennill cymaint o dir. Gwaetha'r modd, mae'r chwith mor crap dydyn nhw ddim yn medru ennill yr un tir.

  • 7. Am 02:57 ar 4 Medi 2007, ysgrifennodd http://lawn-morers.cn:

    http://lawn-morers.cn

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.