Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Diwrnod Cydraddoldeb

Vaughan Roderick | 17:25, Dydd Sul, 22 Ebrill 2007

"Diwrnod cydraddoldeb" oedd heddiw wrth i'r pleidiau am yr unig dro yn ystod yr ymgyrch gydlynu eu hymdrechion i gyd-fynd â rali gwrth BNP ym Mae Caerdydd.

Beth felly sy wedi darbwyllo'r pleidiau mawrion i gymryd y cam anarferol hwn? Mae 'na un rheswm syml sef ofnau cynyddol y gallai'r BNP ennill seddi yn y cynulliad y tro hwn. Rwyf wedi crybwyll y posibilrwydd cyn hyn ac mae "Hen Rech Flin" wedi ysgogi dadl fywiog ynglŷn â'r pwnc ar ei flog ac ar Faes-E.

Dyma'r cefndir i'r ofnau. Y sedd olaf ar bob un o'r rhestri rhanbarthol sydd yn cael eu targedi gan y BNP. Yn etholiadau 2003 dyma faint o bleidleisiau oedd eu hangen i ennill y seddi hynny;

Canolbarth a Gorllewin Cymru 6.4% (11,855 pleidlais)
Gogledd Cymru 7.9% (13,880 pleidlais)
Canol De Cymru 7.7% (13,978 pleidlais)
Dwyrain De Cymru 6.7% (11,410 pleidlais)
Gorllewin De Cymru 8.9% (12,400 pleidlais)

Nawr ar yr olwg gyntaf mae'r targedi yna yn ymddangos yn rhai anodd i'w cyrraedd. Dau ymgeisydd oedd gan y Blaid yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Rhyngddyn nhw fe enillon nhw 1,689 o bleidleisiau. Dyw hynny ddim yn ymddangos yn rhyw lawer ond pe bai'r Blaid yn ennill yr un nifer o bleidleisiau ac y gwnaeth hi yn Wrecsam ym mhob un o etholaethau'r Gogledd fe fyddai hynny'n golygu o gwmpas 7,300 o bleidleisiau, dim mor bell â hynny i ffwrdd o'r targed.

Mae canlyniadau etholiadau Ewrop hyd yn oed yn fwy trawiadol ac efallai yn fwy perthnasol gan eu bod yn etholiadau "ail ddosbarth" ac mae tua'r un canran yn pleidleisio ac yn etholiadau'r cynulliad. Yn yr etholiadau hynny fe enillodd y BNP 27,135 o bleidleisiau. Sicrhaodd UKIP 96,667 gan guro'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dwi ddim yn awgrymu yn fan hyn bod UKIP yn arddel yr un fath o syniadaeth â'r BNP ond dwi'n meddwl bod hi'n deg i ddweud bod rhai o'r bobol a bleidleisiodd i UKIP yn bobol y gellid eu perswadio i gefnogi'r BNP.

Yn y bon dwi'n credu bod yna bleidlais gymharol sylweddol yng Nghymru a allai gael eu temtio gan y BNP. Mae'n cynnwys pobol sydd ag amheuon a phryderon digon parchus a chyfrifol am lefelau ymfudo i'r Deyrnas Unedig, pryderon sy'n tueddu cael eu hanwybyddu gan y prif bleidiau.

Dwi'n meddwl hefyd bod rhyw fath o bleidlais "twll eich tinau i gyd" wrth-ddatganoli yn bodoli a allai gael ei denu gan y gair "British", y logo jac yr undeb a safle'r BNP ar frig y papur pleidleisio.

Efallai fy mod yn gwbwl anghywir ond un peth dwi'n fodlon proffwydo. Pe bai'r BNP yn ennill llond dwrn o seddi yn y cynulliad gallai ffurfio llywodraeth fod yn hynod o anodd ac yn yr amgylchiadau hynny dwi bron yn sicr y byddai Llafur a Phlaid Cymru yn penderfynu cydweithio.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:33 ar 22 Ebrill 2007, ysgrifennodd D Thomas:

    Diddorol. Dwi ddim wedi dy weld ti'n son am yr English Democrats sy'n sefyll yn Sir Fynwy. Dwi ddim yn dweud eu bod nhw ychwaith yn debyg i'r BNP ond plaid gwrth Ewropaidd....Cenedlaetholgar asgell dde Seisnig yw hi. Wyt ti'n meddwl y cawn nhw unrhyw lwyddiant neu a ydynt yn dipyn o joc?

  • 2. Am 18:59 ar 22 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dwy ddim yn gweld yr "English Democrats" yn cael llawer o bleidleisiau ond fe allai'r pleidlesiaiau hynny fod yn allweddol. Dim ond o ychydig gannoedd yr ennillodd y Ceidwadwyr y sedd olaf ar restr y De-ddwyrain yn 2003 mae ychydig filoedd o bleidlesiau i blaid ymylol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

  • 3. Am 23:16 ar 22 Ebrill 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Dwi'n sylwi ar ddyfyniad gan Rhodri Morgan ar wefan y BBC heddiw yn
    sôn am gydraddoldeb:

    "If Labour wins May's assembly election, equality will continue to be at the heart of all we do."

    I bob dim arwahan i'r Gymraeg mae'n ymddangos? Pam nad yw'r Blaid
    Lafur yng Nghymru yn galw am gydraddoleb ieithyddol yng Nghymru yn
    ogystal?

    Efallai byddai'n syniad da i ymgeiswyr y Blaid Lafur wrando ar sylwadau Chris Myant o'r comisiwn cydraddoldeb hiliol yn siarad yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymuned rhai wythnosau yn ôl:

    "There's no contradiction in our view between a strong commitment to racial equality and a passionate commitment to the language. Indeed, the two should be allies... diversity is what equality is all about"

    http://www.youtube.com/watch?v=ew4u1wgUD5c

    Mae Sanddef yn trafod y mater ar ei flog heddiw:
    http://this-is-sparta.blogspot.com/2007/04/equality-day-unless-you-speak-welsh.html

    Gyda llaw, beth ddaeth o'r pôl a oedd i'w gyhoeddi dros y Sul? Sori am godi'r pwynt eto, ond mae pôlau piniwn yn unchafbwynt i rhai ohonom ar adeg etholiadau ;-)

  • 4. Am 07:13 ar 23 Ebrill 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Hedd, Ynglyn a'r pol- dwy ddim yn gwybod! Fe wnes i rybuddio y gallai pethau newid! Fe wnai geisio darganfod heddiw beth sydd wedi digwydd a dod nol atoch chi.

  • 5. Am 14:34 ar 23 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Hedd, Dwy'n cael ar ddeall y bydd y pol yn ymddangos naill ai yfory neu Ddydd Mercher. Mae'n debyg y Beaufort yn ymddangos ddechre wythnos nesa (yn hytrach na dros y Sul)

  • 6. Am 21:31 ar 23 Ebrill 2007, ysgrifennodd Hedd Gwynfor:

    Diolch Vaughan. mae Sanddef wedi datgan ar ei flog y bydd 2ail bôl ITV yn cael ei gyhoeddi dydd Iau, a bydd y Western Mail yn cyhoeddi canlyniadau pôl Beaufort wythnos i heddiw. A yw'r BBC yn bwriadu cyhoeddi unrhyw bôl yng Nghymru eleni? Mae sawl un wedi'u cyhoeddi yn yr Alban eisioes :-s

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.