Help / Cymorth

Archifau Ebrill 2007

Jyst gofyn

Vaughan Roderick | 21:14, Dydd Llun, 30 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Mae Dr Eurfyl ap Gwilym wedi bod yn amddiffyn cynlluniau gwariant Plaid Cymru. Fe fydd Llafur yn ysu i ddarganfod ffordd i'w herio. Fe fyddai googlio "Isoft" a phori ymchwiliadau pwyllgor cyfrifon cyhoeddus Ty'r Cyffredin yn bethau diddorol i'w gwneud.

Pleidleisiau Post

Vaughan Roderick | 19:59, Dydd Llun, 30 Ebrill 2007

Sylwadau (4)

Mae fy efaill-flogwraig Betsan wedi sgwennu yn fan hyn am rai o'r sibrydion sy'n ein cyrraedd ynglyn â phleidleisiau post. Gan fy mod yn sicr fod pawb sy'n darllen y blog yma hefyd yn darllen un Betsan wnai ddim o'u hail-adrodd. Ond mae na ambell i un arall wedi ein cyrraedd; sôn, er engraifft, bod pleidlais Plaid Cymru ym Môn ddeg y cant yn uwch ar y rhestr nac yn y bleidlais etholaethol (ffarmwrs yn fotio Rogers/Wigley efallai). Mae sawl ffyhonnell wedi cadarnhau sibrydion Betsan ynglyn â Gogledd Caerdydd gydag un yn ychwanegu "os oedd yna unrhyw amheuaeth fe fyddai Cameron wedi mynd yno yn hytrach na'r Fro Ddydd Gwener". Ym mha un o etholaethau'r Gogledd fydd Dave yfory tybed- a beth mae hynny'n ei ddweud?

Noson Hir... i ni o leiaf!

Vaughan Roderick | 16:33, Dydd Llun, 30 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Oherwydd rheolau newydd ynglŷn â phleidleisiau post fe fydd y cyfri nos Iau yn cymryd yn hwy nac arfer. Dyma fras amseroedd y canlyniadau

Llanelli 01:00
Maldwyn 01:00
Caerffili 01:30
Islwyn 01:30
Alyn a G. Dyfrdwy 02:00
Brycheiniog a Maesyfed 02:00
Pen-y-bont 02:00
Delyn 02:00
Merthyr a Rhymni 02:00
Ogwr 02:00
Ynys Môn 02:00
Arfon 02:30
Blaenau Gwent 02:30
Dwyfor Meirionnydd 02:30
Mynwy 02:30
Aberafan 03:00
Aberconwy 03:00
Ceredigion 03:00
Gorll. Clwyd 03:00
Cwm Cynon 03:00
Gwyr 03:00
Castell Nedd 03:00
Dw. Casnewydd 03:00
Gorll. Casnewydd 03:00
Pontypridd 03:00
Rhondda 03:00
Dw. Abertawe 03:00
Gorll Abertawe 03:00
Torfaen 03:00
Bro Morgannwg 03:00
Wrecsam 03:00
De Clwyd 03:30
Dyffryn Clwyd 03:30
Canol Caerdydd 04:00
Gogledd Caerdydd 04:00
De Caerdydd a Phenarth 04:00
Gorllewin Caerdydd 04:00
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr 04:00
Gorll. Caerfyrddin a De Penfro 04:00
Preseli Penfro 04:00
Dwyrain De Cymru 04:00
Gorll. De Cymru 04:30
Gorll.a Chanolbarth Cymru 04:30
Gogledd Cymru 04:30
Canol De Cymru 05:00

Manion a Lincs

Vaughan Roderick | 13:56, Dydd Llun, 30 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Llongyfarchiadau i Ieuan Wyn Jones ar enedigaeth ei ŵyr cyntaf , Tomos.

Oes rhywun am lunio safle tebyg i hwn ar gyfer ymgeiswyr cynulliad? Fe fydd hon o ddiddordeb i ddarllenwyr yn Awstralia (ac mae 'na o leiaf bump ohonyn nhw!)

Ym myd y Blogs mae Dogfael yn poeni am bleidleisiau post tra mae Peter Black yn canmol Richard Brunstrom!

Mae Blamerbell yn cael hwyl ar bennau arweinwyr y pleidiau tra bod Hogyn o Rachub wedi bod yn cael hwyl o fath gwahanol.

Mae fy mhen yn brifo!

Vaughan Roderick | 11:54, Dydd Llun, 30 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Dw i newydd ddychwelyd o gynhadledd newyddion Plaid Cymru lle bu cynghorydd economaidd y Blaid Eurfyl ap Gwilym yn amddiffyn ei pholisïau gwariant. Mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo Plaid Cymru o addo gwario arian na fydd ar gael ac yn darogan oherwydd hynny y byddai'n rhaid rhewi cyflogau yn y sector gyhoeddus i dalu am ei rhaglen
Nonsens yw hynny yn ôl Dr ap Gwilym. Hanfod ei ddadl yw bod y pleidiau eraill wedi gwneud camgymeriad syml wrth geisio darogan faint o arian fydd gan y cynulliad i'w wario. Dywed fod y pleidiau eraill wedi cymryd yn ganiataol y bydd yr arian sydd ar gael yn cynyddu i'r un graddau a chyfanswm gwariant y Trysorlys yn Llundain. Ond, mae'n dadlau, mae "fformiwla Barnett" sy'n pennu gwariant y cynulliad, yn seiliedig ar y gwariant ar wasanaethau penodol megis iechyd ac addysg yn Lloegr. Mae'r trysorlys ei hun meddai yn darogan y bydd y gwariant ar y gwasanaethau hynny yn cynyddu'n sylweddol.
Dw i ddim yn arbenigwr yn y maes yma- cawn weld sut mae Llafur yn ymateb.

Siop Rithwir Jack Brown

Vaughan Roderick | 11:52, Dydd Llun, 30 Ebrill 2007

Sylwadau (2)


Mae Karl wedi paratoi prisiau ar ba ganran o'r etholwyr fydd yn pleidleisio Ddydd Iau. Trideg wyth y cant wnaeth bleidleisio tro diwethaf. Mae Karl yn disgwyl canran uwch y tro hwn

30-31% 25-1
32-33% 20-1
34-35% 10-1
36-37% 6-1
37-38% 9-2
40-41% 7-2
42-43% 3-1 FFEFRYN
44-45% 7-2
46-47% 6-1
48-49% 8-1
50-51% 10-1
52-53% 14-1
54-55% 20-1

Sibrydion

Vaughan Roderick | 18:56, Dydd Sul, 29 Ebrill 2007

Sylwadau (5)

Un o fanteision blogio yw bod dyn yn cael rhannu sibrydion. Dwi ddim yn honni am eiliad bod rhain i gyd yn wir neu yn gywir ond dyma rai o'r sibrydion sydd wedi cyraedd ein clustiau heddiw.

Dwi'n clywed o sawl cyfeiriad bod Llafur wedi penderfynu canolbwyntio ei hymdrechion yn y Gorllewin ar sedd Preseli Penfro ar draul Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Gallai hynny olygu bod bois a merched Llafur yn hyderus ynglyn â chadw sedd y De neu eu bod yn derbyn eu bod am ei cholli. Tybiaf mae'r ail esboniad yw'r agosa' at y gwir...os ydy'r sibrydion yn gywir wrth gwrs!

Mae na sawl un yn y pleidiau eraill yn honni bod Plaid Cymru wedi gor-chwarae ei llaw ynglyn ac ysbytai'r Gogledd gyda phobol leol yn eu cyhuddo o "hi-jacio" eu hymgyrchoedd.

"Hat tip" i Dylan Jones Evans am sylwi ar yr erthygl yma yn y New Statesman ynglyn â John Marek. Dwi'n clywed bod Llafur llawer yn llai hyderus ynglyn â Wrecsam nac oedden nhw ar ddechrau'r ymgyrch.

Y rowndiau olaf

Vaughan Roderick | 16:09, Dydd Sul, 29 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Tridiau i fynd. Beth fydd straeon mawr dyddiau ola’ yr ymgyrch, tybed? Yn sgil yr arolygon barn diweddaraf dwi'n disgwyl i'r pleidiau eraill ganolbwyntio eu hymosodiadau ar Blaid Cymru ac yn fwyaf enwedig ar ei chynlluniau gwariant.

Mae'r tair plaid arall i gyd yn argyhoeddedig bod Plaid heb wneud ei symiau ac na fyddai gan lywodraeth Plaid Cymru ddigon o arian i ariannu ei haddewidion. Mae Llafur eisoes wedi rhyddhau cyfres o ddatganiadau yn honni mai'r unig ffordd y gallai Plaid gadw ei haddewidion fyddai trwy rewi cyflogau yn y sector gyhoeddus. Dwi'n disgwyl ymosodiad tebyg gan y Torïaid yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae'n amlwg bod Plaid Cymru hefyd yn rhagweld ymosodiadau o'r fath. Yfory fe fydd y Blaid yn amddiffyn ei chynlluniau ac yn esbonio'r fethodoleg y tu ôl i'w ffigyrau. Dwi'n meddwl y gallai hon fod yn ffrae eithaf chwerw ond fe allai hefyd droi yn ddadl gymhleth ac annealladwy am ystadegau. Os felly gwnaiff hi fawr o wahaniaeth i'r frwydr etholiadol.

Mwy o'r Mosg

Vaughan Roderick | 09:23, Dydd Sul, 29 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Soniais ychydig wythnosau nol fy mod yn bwriadu gwneud tipyn o waith ymchwil ar hanes Islam yng Nghymru ar ôl yr etholiad. Cysylltodd Grahame Davies a fi i adael i fi wybod ei fod eisoes wedi cychwyn ar brosiect tebyg.

Dwi'n hynod o falch. Ceisio llenwi bwlch oedd y bwriad nid dod o hyd i rywbeth i wneud. O farnu o'i lyfr ar Iddewiaeth yng Nghymru fe fydd Grahame yn gwneud gwaith llawer mwy trylwyr na fyswn i wedi ei gyflawni. Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen gwaith Grahame ond yn y cyfamser dyma bum ffaith ddiddorol am Islam a Chymru.

1. Mae darn arian a fathwyd gan y Brenin Offa (yr un a gododd y clawdd) a'r gyffes ffydd Fwslimaidd arni. Mae i'w gweld yn yr Amgueddfa Brydeinig.
2. Y cofnod cyntaf o addoldy Mwslemaidd ym Mhrydain yw'r un yn Stryd Glynrhondda yng Nghaerdydd yn 1860.
3. Credir mai "al salam" oedd y papur newydd Arabaidd cyntaf i'w gyhoeddi ym Mhrydain. Roedd ei swyddfeydd yn Peel Street, nid nepell o adeilad y senedd yng Nghaerdydd
4. Ar ôl i Mosg Caerdydd cael ei fomio yn ystod yr ail rhyfel byd symudodd yr addoli i ystafell gefn y "Cairo Cafe". Perchnoges y Cairo Cafe oedd Olive Salaman, Cymraes o Rymni gafodd ei hysgymuno o'r capel a chan ei theulu am briodi Moslem. Mae ei mab Taffy Salaman yn un o hyfforddwyr ceffylau rasio amlycaf Prydain.
5. Dim ond pedwar cynghorydd sir Mwslemaidd sy' 'na yng Nghymru; tri o Blaid Cymru ac un o'r Democratiaid Rhyddfrydol

Pobol y Cwm

Vaughan Roderick | 17:51, Dydd Sadwrn, 28 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Mae'n hawdd, yn fy swydd i, i fynd yn gaeth yn ein byd bach gwleidyddol ein hun gan ddibynnu'n llwyr ar arolygon, honniadau spin ddoctoriaid a gwaith newyddiadurwyr eraill. Gallwn yn hawdd dreilio oriau yn trafod rhyw gamgymeriad gan rhyw wleidydd ar ryw raglen gyda chydweithwyr gan anghofio'n llwyr bod trwch y pledileiswyr yn gwylio Corrie neu Eastenders ar y pryd!

Yn ystod etholiadau felly dwi'n ceisio treulio o leiaf peth amser yn crwydro etholaethau gyda dim byd wedi'i drefnu o flaen llaw heb gamera na llyfr nodiadau er mwyn ceisio cael rhyw deimlad o beth sy'n mynd ymlaen.

Treuliais y rhan fwyaf o'r diwrnod heddiw yn y Rhondda, y sedd a gipiwyd yn annisgwyl gan Blaid Cymru yn 1999 a lle mae Leighton Andrews a Chris Bryant wedi adeiladu periant etholiadol chwedlonol o effeithiol i geisio sicrhau na ddigwyddith hynny fyth eto.

Y peth cyntaf wnaeth fy nharo am yr etholaeth yw bod hon yn ardal lle mae rhywun yn gweld canlyniad buddsoddiad gan Lywodraeth y Cynulliad. Os ydych chi'n un o'r bobol sy'n gofyn weithiau i ble y mae'r holl wariant cyhoeddus ychwanegol yna wedi mynd, fe gewch eich ateb yn y Rhondda. Mae ffordd osgoi newydd Porth yn gwneud hi'n llawer haws i drigolion y ddau gwm deithio i chwilio am waith. Ar ben hynny mae Porth wedi troi o fod yn rhyw fath o dagfa draffig barhaol i dref sydd a'r potensial, o leiaf, i fod yn hynod ddymunol. Mae na ysgolion newydd i'w gweld hefyd yn ogystal ac Ysbyty Cwm Rhondda sydd ar ganol cael ei adeiladu.

Mae'r Rhondda o hyd yn dlawd, wrth gwrs. Siopau elusen ac nid Starbucks sydd ar y Stryd Fawr ym mron pob un dref a phentref ond mae na arwyddion bod pethau'n gwella. Y peth mwyaf trawiadol yw'r nifer o dai sy'n cael eu codi, nid gan y sector gyhoeddus, ond gan y sector breifat, y tro cyntaf i hynny ddigwydd dwi'n amau ers trychinebau econonomiadd dauddegau a thridegau'r ganrif ddiwethaf.

Beth am y gwleidyddiaeth? Wel ar yr ochor bositif roedd y bobol y bues i'n siarad a nhw yn gwybod bod na etholiad ac roedd enwau'r ddau brif ymgeisydd Leighton Andrews a Jill Evans yn gyfarwydd iddyn nhw. Doedd na ddim unrhyw arwydd o gasineb tuag at Lafur nac unrhyw frwdfrydedd enfawr y chwaith. Mynegodd sawl un anfodlonrwydd a Tony Blair ond ces i ddim y teimlad bod hynny'n effeithio rhyw lawer ar eu pleidleisiau cynulliadol.

Dwi'n amau mae difaterwch yw'r gelyn mwyaf i Lafur yn fan hyn. Yn y cyd-destun hynny mae'n rhyfeddol cyn lleied o bosteri sydd i'w gweld yn cefnogi naill ai Llafur na Phlaid Cymru. Y tu allan i wardiau traddoddiadol gystadleuol fel Treorci a Threherbert prin iawn yw'r posteri mewn ffenestri.

Dwi'n amau y dylai Llafur boeni am hynny. Nid am fod y Blaid ar fin colli'r Rhondda eto. Dwi ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd ond mae pleidleisiau rhestr etholwyr y Rhondda yn bwysig os ydy pethau'n mynd o'i le yn, dyweder, Gogledd Caerdydd neu Fro Morgannwg. Pleidleisiau rhestr y cymoedd yw polisi yswiriant y Blaid Lafur yn erbyn trychinebau yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae'n hynod bwysig i'r blaid bod eu pobol nhw yn pleidlesio.

Ymgeiswyr y Rhondda

Leighton Andrews, Plaid Lafur
Jill Evans, Plaid Cymru
Howard Parsons, Plaid Geidwadol
Karen Roberts, Democrat Rhyddfrydol

Mwy o'r Mosg

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Sadwrn, 28 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Soniais ychydig wythnosau nol fy mod yn bwriadu gwneud tipyn o waith ymchwil ar hanes Islam yng Nghymru ar ôl yr etholiad. Cysylltodd Grahame Davies a fi i adael i fi wybod ei fod eisoes wedi cychwyn ar brosiect tebyg.

Dwi'n hynod o falch. Ceisio llenwi bwlch oedd y bwriad nid dod o hyd i rywbeth i wneud. O farnu o'i lyfr ar Iddewiaeth yng Nghymru fe fydd Grahame yn gwneud gwaith llawer mwy trylwyr na fyswn i wedi ei gyflawni. Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen gwaith Grahame ond yn y cyfamser dyma bum ffaith ddiddorol am Islam a Chymru.

1. Mae darn arian a fathwyd gan y Brenin Offa (yr un a gododd y clawdd) a'r gyffes ffydd Fwslimaidd arni. Mae i'w gweld yn yr Amgueddfa Brydeinig.
2. Y cofnod cyntaf o addoldy Mwslemaidd ym Mhrydain yw'r un yn Stryd Glynrhondda yng Nghaerdydd yn 1860.
3. Credir mai "al salam" oedd y papur newydd Arabaidd cyntaf i'w gyhoeddi ym Mhrydain. Roedd ei swyddfeydd yn Peel Street, nid nepell o adeilad y senedd yng Nghaerdydd
4. Ar ôl i Mosg Caerdydd cael ei fomio yn ystod yr ail rhyfel byd symudodd yr addoli i ystafell gefn y "Cairo Cafe". Perchnoges y Cairo Cafe oedd Olive Salaman, Cymraes o Rymni gafodd ei hysgymuno o'r capel a chan ei theulu am briodi Moslem. Mae ei mab Taffy Salaman yn un o hyfforddwyr ceffylau rasio amlycaf Prydain.
5. Dim ond pedwar cynghorydd sir Mwslemaidd sy' 'na yng Nghymru; tri o Blaid Cymru ac un o'r Democratiaid Rhyddfrydol

Henry Jones-Davies yn taranu

Vaughan Roderick | 10:24, Dydd Sadwrn, 28 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Henry Jones-Davies yn taranu

Yn y dyddiau cyfrifiadurol yma mae gan bob blogiwr fodd i lunio ei bulbud ei hun. Fe wnaeth Henry Jones-Davies hynny yn y ffordd hen ffasiwn trwy fentro cyhoeddi cylchgrawn. Dwi ddim yn siŵr fy mod i'n derbyn honiad Henry bod "Cambria" yn "anwleidyddol" ond does 'na ddim dadlau ei fod yn llwyddiant gan werthi deng mil o gopïau i ddarllenwyr byd-eang. Ta beth mae Henry yn rhoi'r gorau i olygu'r cylchgrawn ac yn ei golofn olygyddol mae'n dweud ei ddweud heb flewyn ar ei dafod. Dwi ddim am hyd yn oed geisio cyfieithu ei bregeth. Dyma flas ohoni;

"The rank corruption of the dependency culture which pervades Welsh life with its bread-and-circuses, its intolerable economic inactivity, its almost total dearth of new ideas, leadership, or dynamism, its stale and talentless cabal of post-devolution politicians, its stagnant and sterile political culture, its visceral loathing of anything proud and patriotic, would bode ill for any society. It bodes worse for a struggling, economically depressed ‘province’ which is told it is doing ‘so very well’ by the present administration."

Mae 'na fwy...llawer mwy. Hyd yn oed os ydych chi'n anghytuno mae'n bleser i ddarllen polemic sydd wedi ei sgwennu mor dda.

Mad Dog a'r Groeswen

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Sadwrn, 28 Ebrill 2007

Sylwadau (7)

Mae'n ddydd Sadwrn ac mae'n dawel - diolch byth. Mae'n gyfle i mi wneud y gwaith cartref ar gyfer y rhaglen ganlyniadau. Yn anffodus dwi newydd gofio fy mod wedi torri fy ngair i Mad Dog.
Roeddwn yn ffilmio yn Abertridwr ddydd Iau ac yn gwneud hynny ar yr adeg fwyaf hunllefus i newyddiadurwyr teledu - y cyfnod pan mae'r ysgolion newydd droi mas. Yn ddieithriad ar yr adegau hyn mae pob un ymdrech i ffilmio yn dioddef wrth i'r "anwyliaid bach" chwifio at y camera neu waith. Penderfynodd Mad Dog ei fod am fod yn "feinder" i mi yn Abertridwr gan gadw ei fêts mas o'r ffordd a mynnu "this is the news butts..and we don't get much news in Abertridwr" Addawais y byddai ei lysenw yn ymddangos ar wefan y BBC fel arwydd o ddiolch. Felly diolch Mad Dog. Dwi'n dal i boeni am ei eiriau olaf "I've just swallowed a raw pig's eye for a bet". Lle ddiawl maen nhw'n cael llygaid moch yng Nghaerffili?
Mae Cwm Aber a Mynydd Meio wedi bod yn llefydd rhyfedd erioed. Yn fanna mae gwreiddiau fy nheulu ac i bobol sy'n ymddiddori mewn hanes mae 'na newyddion da iawn o'r ardal. Un o berlau ein treftadaeth a aeth yn angof yw Capel y Groeswen, yr adeilad cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yng Nghymru. Yn y fynwent y mae beddau mawrion Fictoraidd fel Ieuan Gwynedd a Caledfryn.
Roedd fy hen dad-cu yn weinidog am ddegawdau lawer yn y Groes ac yno y priodwyd fy chwaer, Sian. Y disgwyl oedd mai priodas Sian fyddai’r briodas olaf yn y Capel, ac mai angladd fy Anti Marjorie, un o selogion y capel, fyddai'r cynhebrwng olaf.
Diolch i ymdrechion anhygoel gan Gymdeithas Hanes Caerffili, y Cynghorydd Lindsay Whittle a phenderfyniadau Alun Pugh fel gweinidog diwylliant nid felly y bu pethau. Mae adeiladwyr wrthi ar hyn o bryd yn cyflawni gwaith i adfer y capel ar gost o gannoedd o filoedd o bunnau ac mae 'na ddyfodol disglair i'r lle fel canolfan i fywyd ysbrydol a diwylliannol yr ardal. Serch hynny, dwi ddim yn gweld nhw'n denu Mad Dog i'r lle rywsut!

Lincs

Vaughan Roderick | 15:07, Dydd Gwener, 27 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Yn sgil lansio Bingo etholiadol y BBC mae Leighton Andrews wedi llunio ei fersiwn ei hun!
Fe wnaeth newydd*sbon fwynhau bod yn rhan o "Pawb a'i farn" o'r senedd. Mae 'na gyfle i ymweld a'r senedd yng nghwmni Rhuanedd Richards yn fan hyn
Mae gan yr hanesydd Hywel Williams erthygl ddiddorol am Gymru yn y Spectator yr wythnos hon.

Arolygon Barn

Vaughan Roderick | 11:40, Dydd Gwener, 27 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Ar ôl trafod y polau diweddara ar "Post Cyntaf" a "Good Morning Wales" doeddwn i ddim yn bwriadu blogio yn eu cylch ond gan fod sawl un wedi gofyn fy marn dyma ychydig o sylwadau.

Yr hyn sy'n drawiadol yw pa mor debyg yw'r canlyniadau. Dwi wedi lleisio fy amheuon o'r blaen ynglŷn â'r ffordd y mae polau NOP/ITV yn cael eu dadansoddi. Dwi'n edmygydd mawr o waith Beaufort, y cwmni oedd yn arfer cynnal arolygon BBC Cymru cyn i'r rheiny gael eu gwahardd gan y gorfforaeth.

Mae'r ffaith bod y ddau gwmni, gan ddefnyddio dwy fethodoleg wahanol wedi cyrraedd casgliadau digon tebyg yn arwyddocaol. Maen nhw hefyd yn adlewyrchu canlyniadau arolygon eraill dwi wedi eu gweld (ond yn methu eu rhannu) a drefnwyd gan Golegau ac Ysgolion fel rhan o waith cwrs eu myfyrwyr.

Serch hynny mae'n rhaid cofio nad proffwydoliaeth yw pôl. Cyn etholiadau 2003, er enghraifft, roedd NOP/ITV yn darogan bod Plaid Cymru ymhell ar y blaen i'r Ceidwadwyr ond cael a chael oedd hi rhwng y ddwy blaid ar y noson.

Dwi hefyd yn meddwl (ac mae eraill yn cytuno) y bydd y bleidlais ranbarthol i bleidiau llai llawer yn uwch na mae'r arolygon yn tybio. Roedd hin 12% yn 2003 a byswn yn disgwyl pleidlais debyg neu fwy y tro yma.

O Diar! (2)

Vaughan Roderick | 07:29, Dydd Gwener, 27 Ebrill 2007

Sylwadau (8)

Dyw hi ddim yn gyfrinach bod arweinwyr y Ceidwadwyr wedi bod yn pryderu am eu hymgeisydd yng Ngorllewin Clwyd, Darren Miller. Dylan Jones-Evans oedd dewis yr arweinyddiaeth i'r sedd a hynny yn rhannol oherwydd daliadau crefyddol a moesol Mr Miller, daliadau gwahanol iawn i'r ddelwedd ryddfrydol y mae David Cameron a Nick Bourne yn ceisio ei chyfleu.

Mae'n ymddangos bod yr hyn yr oedd yr arweinyddiaeth yn ei ofni wedi digwydd. Mewn cyfarfod yn Rhuthun dwi'n deall bod Mr Millar wedi galw am ddysgu Genesis yn gyfochrog â Darwin mewn gwersi gwyddoniaeth cyn mynd ymlaen i fynnu bod gweithredoedd hoyw yn "bechadurus".

I fod yn deg, ychwanegodd Darren fod hel clecs hefyd yn bechod sy'n golygu fy mod i yn rhiw fath o bechadur penna! Dywedodd hefyd nad oedd yn cefnogi discrimineiddio ar unrhyw sail.

Wrth gwrs, mae'n bosib bod safbwyntiau fel 'na yn boblogaidd ymhlith rhai o drigolion y glannau!

POL!!!!!!!

Vaughan Roderick | 22:56, Dydd Iau, 26 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Fe fydd y Western Mail yn cyhoeddi canlyniad arolwg barn Beaufort bore fory (Gwener)

O diar!

Vaughan Roderick | 21:16, Dydd Iau, 26 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Dwi wrthi'n gwylio "Pawb a'i farn" a newydd glywed y Democrat Rhyddfrydol John Davies yn addo "yn sicr" y byddai ei blaid yn ail-gyflwyno taliadau prescripsiwn. Dwi ddim yn meddwl bod honna yn y Maniffesto, John!

Roedd Rhodri Morgan mewn hwyliau da ar "Dragon's Eye". Roeddwn i'n synnu braidd gan ein bod ni i gyd yn disgwyl y byddai fe mewn tymer da'r BBC ar ol ein honiadau yn gynharach yn yn yr wythnos. Efallai ei fod yn wir gredu fod Llafur yn gwenud yn dda er cymaint y dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Mae e hyd yn oed yn bosib ei fod e'n iawn.

Gyda llaw, wrth restru pwy oedd ar beth fe wnes i anghofio cynnwys y ffaith fod Adam Price ar "Question Time" heno.

Pôl...a Chaerffili ac Islwyn-diweddarwyd

Vaughan Roderick | 16:20, Dydd Iau, 26 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Cofiwch am gyhoeddi canlyniadau pôl ail-alw ITV Wales heno. Os ydy'r sibrydion dwi'n eu clywed yn gywir fe fydd y blogiau yn ffrwydro heno! (Ychwanegiad; canlyniad yr arolwg etholaethol oedd Llafur;32%, Plaid;26%, Ceid.;19%, Dem. Rhydd.;15%. Gan fy mod wedi berniadu'r arolwg gwreiddiol dwi'n bwriadu aros nes gweld yr ystadegau llawn cyn gwneud sylwadau manwl)

Dwi wedi treulio’r diwrnod yng Nghaerffili ac Islwyn, dwy etholaeth hynod o anodd eu darllen oherwydd presenoldeb dau ymgeisydd Annibynnol cryf; Ron Davies a Kevin Etheridge.

Tarais i mewn i Jocelyn Davies sy'n darogan y gallai Plaid Cymru gipio'r ddwy sedd sy'n gwneud i Jocelyn fecso am ei sedd ranbarthol. Yn sicr mae Plaid Cymru yn ennill y frwydr bosteri o bell ffordd ond mae'n bosib darllen llawer gormod i mewn i hynny.

Yn sicr doedd Wayne David ddim fel pe bai e'n poeni pan gwrddais â fe ddydd Mawrth. Ond pwy sy'n gwybod? Mae'r etholiadau yma ymysg y rhai mwyaf amhosib i'w dirnad dwi'n eu cofio.

Pwy sydd ar beth

Vaughan Roderick | 11:11, Dydd Iau, 26 Ebrill 2007

Sylwadau (5)

Pawb a'i farn (Heno 8.25, S4C); Carwyn Jones, Ieuan Wyn Jones, Alun Cairns, John Davies

Dragon's Eye (Heno 10.40, BBC1 ); Rhodri Morgan

Dau o'r bae (Yfory, 12.15, Radio Cymru) Gwenda Thomas, Elinor Burnham, Alun Ffred Jones, Trefor Jones)

Maniffesto (Sul, 1.00 S4C) Ieuan Wyn Jones

Politics Show ( Sul, 12.00 BBC1) Jane Davidson, David Melding, Rhodri Glyn Thomas. Peter Black

Taro'r Post (Ddydd Llun) Ysgolion bach; safbwyntiau'r pedair plaid

Now is the hour...

Vaughan Roderick | 10:27, Dydd Iau, 26 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Dwi wedi derbyn cwyn gan etholwraig yn y cymoedd am un o'r triciau etholiad hyna sy na. Daliodd y fenyw hon weithiwr un o'r pleidiau yn symud yn llechwraidd o ddrws i ddrws gan wthio cerdyn trwy bob un yn datgan bod "yr ymgeisydd wedi galw heibio tra oeddech chi allan".

Y meistr ar y tric yma oedd y diweddar Syr Raymond Gower, aelod seneddol y Barri/Bro Morgannwg o 1951 tan ei farwolaeth yn 1989. I fod yn deg roedd Syr Raymond yn mynd o ddrws i ddrws ei hun efo'i gardiau, ond dwi ddim yn meddwl bod unrhyw un erioed wedi ei glywed yn cnocio.

Roeddwn i'n arbennig o hoff o Sir Raymond, un o'r "hen deips" o Dorïaid a alwyd yn "the knights of the shires" pobol oedd yn well ganddyn nhw swper da na noson yn y siambr. Yr hyn sy'n rhyfeddol am Syr Raymond oedd ei fod wedi defnyddio'r un slogan ym mhob etholiad o 1951 tan 1987 sef "Now is the hour to vote for Gower" ond ei fod hefyd wedi defnyddio'r un llun o'i hun ar bob un daflen a gyhoeddwyd ganddo ar hyd y degawdau. Ar ôl deugain mlynedd o wleidydda a bwyd da roedd hun amhosib ei adnabod o'i lun.

Efallai mai dyna oedd y bwriad!

Helynt am hysbysebion

Vaughan Roderick | 09:39, Dydd Iau, 26 Ebrill 2007

Sylwadau (5)

Fe fydd darllenwyr y Daily Post wedi sylwi ar hysbysebion dwy dudalen heddiw a ddoe yn y papur yn croniclo gwaith a safbwyntiau dau o aelodau seneddol y gogledd sef Hywel Williams ac Elfyn Llwyd. Gallwch ddisgwyl gweld llawer mwy o'r rhain yn y dyfodol wrth i aelodau seneddol o bob lliw fanteisio ar lwfans gyfathrebu newydd o ddeg mil o bunnau'r flwyddyn.

Cafodd y lwfans ei chymeradwyo gan Dy'r Cyffredin ychydig dros fis yn ôl er gwaethaf cwynion y byddai'n rhoi mantais wleidyddol annheg i ddeiliaid seddi. Yn eironig efallai, pleidleisiodd Elfyn Llwyd ynghyd â'i gyd aelod Plaid Cymru, Adam Price, yn erbyn y lwfans. Ni fwrodd Hywel Williams ei bleidlais.

Roedd y mwyafrif llethol o'r aelodau wnaeth gefnogi'r lwfans yn aelodau Llafur, yr union blaid sy'n cwyno am ymddangosiad hysbysebion Mr Williams a Mr Llwyd ar drothwy etholiadau'r cynulliad.

Mae cofnod llawn o bwy bleidleisiodd o blaid ac yn erbyn y lwfans ar gael yn fan hyn.

Siop Rithwir Jack Brown- Preseli Penfro

Vaughan Roderick | 15:24, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2007

Sylwadau (5)

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau cwmni Jack Brown yn llunio prisiau betio etholaethol ar gyfer y blog. Mae croeso i chi fentro ffeifar rithwir.

Preseli Penfro

Llafur; 4-6
Ceidwadwyr; 6-5
Plaid Cymru 6-1
Dem. Rhydd. 100-1

Sylw Karl; "Er bod Llafur wedi colli hon yn yr etholiad cyffredinol dwi'n eu ffafrio i'w cadw yn etholiadau'r cynulliad. Roedd yr ymgeisydd Llafur yn wan yn etholiadau San Steffan a dwi'n meddwl y gallai Llafur roi'r wasgfa ar Blaid Cymru i gadw'r Torïaid allan."

Sylw Vaughan; "Am y tro cyntaf dwi'n anghytuno â Karl. Dwi'n clywed canmol mawr i ymgyrch y Ceidwadwyr ym Mhreseli. Dwi hefyd yn meddwl bod pris Plaid Cymru yn rhy hael. Fe fyswn i felly yn mentro ffeifar yr un ar y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru."

Trafod Môn 'da Rhun ap Iorwerth

Vaughan Roderick | 13:37, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

VR; Helo Rhun

Rh; Helo Vaughan

VR; Ti'n byw ar yr ynys. Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yna?

Rh; Mae Peter Rogers wedi sicrhau'r mannau hysbysebu gorau h.y. yng nghaeau'r ffermwyr wrth y priffyrdd... felly pe bai modfeddi sgwâr o hysbysebu yn cyfri ... fo sy'n ennill! Ond dyw o ddim yn gweithio felly Vaughan!

VR; Dyw'r defaid ddim am fotio felly... ai Peter yw'r prif fygythiad i Ieuan?

Rh: Ie, ddwedwn i, ond mae'n anodd iawn darllen faint o fygythiad ydi o mewn gwirionedd. Fe allwn ni ddisgwyl i'r Ceidwadwyr wneud yn well drwy Gymru, felly dyna i ti rai Ceidwadwyr gefnogodd Peter Rogers y tro diwethaf y safodd o fel ymgeisydd annibynnol yn dychwelyd i'w corlan nhw efallai, felly fe fyddai raid iddo fo ddenu LOT FAWR o gefnogwyr newydd y tro hwn er mwyn curo Plaid Cymru.

VR; Dwy ti ddim wedi son am Lafur- nhw, wedi'r cyfan sydd a’r sedd seneddol.

Rh; Dyw Llafur erioed wedi bygwth yn Ynys Môn yng nghyd-destun etholiadau'r Cynulliad. Ond mae yna ffactorau eraill ym Môn hefyd. Er bod y sedd wedi bod yn nwylo'r pedair prif blaid, dyw'r aelod presennol ddim yn colli ei sedd yn aml. Cofia mai ar ôl i Ieuan Wyn Jones ddewis peidio â sefyll yn etholiadau San Steffan yr enillodd Lafur, nol yn 2001, a beth bynnag ydi'r cwestiynau ynglŷn â phoblogrwydd Ieuan Wyn Jones fel unigolyn, mae'r ffaith honno yn siŵr o weithio o'i blaid... os yw'r drefn draddodiadol yn parhau.

VR; Ond beth am Wylfa...

Rh: Pwynt pwysig, ac mae swyddi - Wylfa ac Alwminiwm Môn yn arbennig - yn faterion pwysig. Ond dwi'n meddwl bod y ffaith i Ieuan Wyn Jones ddweud rŵan ei fod yn cefnogi Wylfa yn profi ryw fath o gonsensws ar yr Ynys.

VR;Ieuan i ennill felly?

Rh: Mae dy flog di, dwi'n meddwl wedi rhoi Plaid Cymru'n ffefrynnau i ennill, a does gen i ddim rheswm i amau bod Karl y bwci ymhell o'i le. Ond cofia di... yn yr wythnos olaf cyn yr etholiad seneddol 2005 y gwelon ni Peter Rogers yn ennill tir dwi'n meddwl, ac os ydi o'n llwyddo i gael ei 'troops' allan eto y tro hwn, fe allai agosáu.

Lincs

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Gyda'r holl brysurdeb ddoe ac echdoe mae'n ychydig ddyddiau ers i fi bostio dolenni i safleoedd diddorol. Roedd Blamerbell fel ffair ddoe wrth i bobol drafod ein stori ynghylch Llafur a Phlaid a dwi'n meddwl bod dadansoddiad Ciaran yn un craff. Roedd 'na drafod difyr ar Faes-E ac mae sylwadau Alun Pugh hefyd yn hynod ddiddorol. Mae'r Western Mail yn ychwanegu at y stori.
Gan ein bod ni i gyd yn Selandwyr Newydd nawr (os dyna yw'r gair) dyma'r safle gorau am newyddion o'r wlad honno! Os ydy'n gwleidyddion ni yn ymweld â Wellington i astudio gwleidyddiaeth y wlad fe fydd 'na groeso cynnes iddyn nhw yn fan hyn!

Atebion o Geredigion

Vaughan Roderick | 09:23, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Ar gais Rhys Llwyd gofynnais i Owain Clarke ymchwilio i nifer o honiadau ynglŷn â thaflenni'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion

Mae cwestiynau a sylwadau gwreiddiol Rhys i weld yn fan hyn.

Dyma gasgliadau Owain.

Nid yw'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gynnwys enwau ymgeiswyr na dyddiad yr etholiad ar eu taflenni. (Eto i gyd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu bod eu gohebiaeth yn cynnwys naill ai enw'r ymgeisydd etholaethol neu'r ymgeisydd/ion rhanbarthol)

Mae hawl gan bob ymgeisydd mewn etholaeth neu ranbarth ddosbarthu taflen drwy wasanaeth "candidate mailing" y Post Brenhinol. Mae'r Post Brenhinol yn cynnig cyngor ynglŷn â'r rheolau. Gweler yma.

Mae'r Comisiwn Etholiadol hefyd yn cynnig canllawiau i ymgeiswyr yma.

Mae'r dwy daflen "Gohebiaeth Etholiad" y Democratiaid Rhyddfrydol y llwyddais i gael gafael arnyn nhw YN cynnwys y wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â phwy sy'n eu hyrwyddo a'u cyhoeddi ayyb.

O ran cyllido'r taflennu, dywed y Democratiaid Rhyddfrydol fod "arian ar gyfer y taflenni lleol yn dod o goffrau'r blaid yn lleol ond bod cyllid ar gyfer taflenni rhanbarthol, ar hyd a lled Cymru yn gyfuniad o gyllid lleol a chyfraniadau gan y blaid Gymreig ganolog."

Gwrthododd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yr awgrym fod y blaid wedi gorwario yn yr etholaeth.

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cadarnhau nad y'n nhw wedi derbyn unrhyw gwyn ynglŷn â'r ymgyrch yng Ngheredigion.

Ac mae'r llencyn yn y jel...

Vaughan Roderick | 20:19, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

Sylwadau (7)

O safle'r BNP;

Out of a Welsh-speaking population of little more than one million, a staggering 6,000 people went to prison during the campaign, launched by Saunders Lewis in 1968, to secure official status for the Welsh language. Many of those now ageing veterans of a long campaign of civil disobedience and non-violent direct action, and their families, are now watching in impotent horror as the neo-Marxist polytechnic lecturers and town hall parasites who have hijacked Plaid Cymru make a play for the Polish vote- despite the devastating effect of Polish immigration and cheap labour on poor Welsh families and communities.

Byddwch arwrol! Anghofiwch eich "impotent horror". Safwch yn erbyn y "neo-Marxist polytechnic lecturers" yna!

Sefwch yn y bwlch. Oes modd dweud unrhywbeth?

Am ddiwrnod!

Vaughan Roderick | 19:00, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

Sylwadau (5)

Dwi'n haeddu peint heno!

I ddyfynnu Betsan ar "Wales Today"; "We are certain of our sources, we stand by our story"

Iechyd da!

Pôl !!!

Vaughan Roderick | 17:18, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Fe fydd y Western Mail yn cyhoeddi canlyniadau arolwg barn bore fory (Mercher). Dyw'r arolwg ddim yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'r ffordd y mae pobol yn bwriadu pleidleisio (fe ddaw hwnnw wythnos nesaf). Serch hynny yn wyneb datblygiadau heddiw mae 'na ddeunydd tra diddorol ynglŷn â pha bleidiau y mae'r etholwyr yn dymuno eu gweld yn cynghreirio a'i gilydd mewn cynulliad heb fwyafrif. Dwi wedi gweld y canlyniadau ond fe fyddai Martin Shipton yn fy lladd pe bawn i'n eu cyhoeddi nhw yn fan hyn!

Seland Newydd

Vaughan Roderick | 13:01, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

Sylwadau (4)

Wrth i'r stori Plaid/Llafur ddatblygu (ac fe fydd hi'n datblygu) fe fydd na lawer o son am "opsiwn Seland Newydd". Er mwyn deall beth yw'r opsiwn hwnnw drychwch yn fan hyn neu fan hyn.

Ymateb Rhodri

Vaughan Roderick | 10:06, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

Sylwadau (10)

Mae Rhodri yn dweud hyn;

This story is rubbish from start to finish. A formal complaint is being made to BBC Wales about their decision to run such a story at such a critical point in the election, despite the story being comprehensively denied by Welsh Labour official sources.

"Neither I nor anyone else acting with my authority has been engaged in any such considerations or discussions. The obsession of the media and the minor parties is with coalition speculation. As previously stated on scores of occasions, Welsh Labour is aiming to form a government based on a mandate from the people of Wales.

Dwi ddim yn tynnu'r un gair yn ôl.

Sylwer ar y gwahaniaeth

Vaughan Roderick | 09:30, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Mae swyddfa Peter Hain newydd ryddhau'r datganiad canlynol.

Dismissing claims on BBC Wales that Labour would go into coalition with Plaid Cymru after the Assembly elections on May 3rd, Secretary of State for Wales Peter Hain said:

"This is a trumped up story from BBC Wales.

"As I've made clear in the past, Labour Party members simply wouldn't wear a coalition with Plaid Cymru.

"The fact is that Plaid Cymru and their media sympathisers are desperate to divert attention from the real story which is the backdoor deal Plaid Cymru have done to put the Tories back in charge of Welsh schools and hospitals."


Dyma beth gafodd ei ddarlledu ar Radio Cymru y bore ma.

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod Llafur Cymru yn ystyried ceisio cyrraedd cytundeb a Phlaid Cymru os ydy hi'n methu sicrhau mwyafrif yn etholiadau'r cynulliad. Mae ffynonellau yn rhengoedd ucha'r Blaid wedi dweud wrth y BBC eu bod yn ystyried troi at Blaid Cymru am gefnogaeth yn hytrach nac at ei phartneriaid arfaethedig yn y Democratiaid Rhyddfrydol. Adroddiad gan ein Golygydd Materion Cymreig Vaughan Roderick.


Ar ôl treulio misoedd yn cyhuddo Plaid Cymru o gynllwynio i gefnogi clymblaid o dan arweinyddiaeth y Torïaid mae'n ymddangos bod Llafur nawr yn ystyried troi at y Blaid ei hun mewn ymdrech i barhau i lywodraethu. Yn ôl ffynonellau Llafur does 'na ddim posibilrwydd o glymblaid ffurfiol rhwng y ddwy blaid ond gallai rhyw fath o gytundeb rhwng y pleidiau fod ar yr agenda. Deallir fod Llafur wedi cael llond bol o'r hyn y maen nhw'n ystyried yn agwedd drahaus y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae Plaid Cymru yn mynnu ei bod yn fodlon trafod ac unrhyw un o'r pleidiau eraill ar ôl yr etholiadau a deallir taw consesiynau polisi sylweddol a nid seddi cabinet fyddai'r pris am gytundeb.

Ydych chi'n gweld y gwhaniaeth amlwg?

Coch a Gwyrdd- Llywodraeth nesa Cymru?

Vaughan Roderick | 23:59, Dydd Llun, 23 Ebrill 2007

Sylwadau (4)

Buodd na briodfab a phriodferch fwy annhebyg erioed? Ar ôl treulio misoedd yn cyhuddo Plaid Cymru o gynllwynio i gefnogi clymblaid o dan arweinyddiaeth y Torïaid mae'n ymddangos bod Llafur nawr yn ystyried troi at y Blaid ei hun mewn ymdrech i barhau i lywodraethu.

Dwi'n cael ar ddeall bod Llafur Cymru yn ystyried ceisio dod i gytundeb â Phlaid Cymru os ydy hi'n colli ei mwyafrif. Mae ffynonellau sy’n uchel o fewn y Blaid wedi dweud wrtha i eu bod yn ystyried troi at Blaid Cymru am gefnogaeth yn hytrach nac at ei phartneriaid arfaethedig yn y Democratiaid Rhyddfrydol.

Deallaf fod Llafur wedi cael llond bol o'r hyn y maen nhw'n ystyried yn agwedd drahaus y Democratiaid Rhyddfrydol a'r ffordd y mae'r blaid honno yn cymryd yn ganiataol mae hi fyddai dewis cyntaf Llafur fel partner.

Yn ôl ffynonellau Llafur does 'na ddim posibilrwydd o glymblaid ffurfiol â Phlaid Cymru ond gallai rhyw fath o gytundeb rhwng y pleidiau fod ar yr agenda. Yn gyhoeddus mae Plaid Cymru yn mynnu ei bod yn fodlon trafod ac unrhyw un o'r pleidiau eraill ar ôl yr etholiadau a deallaf taw consesiynau polisi sylweddol ac nid seddi cabinet fyddai'r pris am gytundeb.



Tamaid i aros pryd!

Vaughan Roderick | 15:37, Dydd Llun, 23 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Dwy'n ymddiheuro am beidio postio rhyw lawer heddiw. Mae 'na reswm! Mae gen i goblyn o stori dda ar gyfer rhaglenni newyddion y bore. Fe fydd hi'n ymddangos fan hyn toc wedi hanner nos heno.

Yn y cyfamser ceir mwy o glecs o Geredigion gan Rhys Llwyd. Mae Owain Clarke yn ymchwilio i'w honiadau!

Miri Mai

Vaughan Roderick | 11:19, Dydd Llun, 23 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Efallai eich bod chi, fel fi, yn amau bod gweision sifil yn cael hoe fach yn ystod ymgyrch etholiad. Ond nid fel'na mae pethau, mae'n debyg, ac mae gweision y llywodraeth ym Mharc Cathays a gweision y cynulliad yn y Bae wrthi'n ddyfal yn paratoi ar gyfer y trydydd cynulliad.

Fe fydd y cynulliad hwnnw yn cwrdd am y tro cyntaf ar Fai'r 9fed. Yn y cyfarfod hwnnw mae'n ofynnol i'r aelodau ddewis Llywydd a dirprwy lywydd i'r cynulliad. Os oes 'na ymgeisydd amlwg gallai'r cyfarfod hwnnw hefyd enwebu Prif Weinidog ond does dim rheidrwydd i wneud hynny.

Fe fydd gan aelodau'r cynulliad newydd wyth ar hugain o ddyddiau i enwebu Prif Weinidog. Os ydy'r cynulliad yn methu gwneud hynny cyn y cyntaf o Fehefin fe fydd oes y pedwerydd cynulliad yn dirwyn i ben yn ddisymwth ac fe fydd etholiadau newydd yn cael eu galw i'w cynnal, mwy na thebyg, ym Mis Gorffennaf.

Mae'r gyfundrefn o ddewis Prif Weinidog wedi newid o ganlyniad i Fesur Llywodraeth Cymru. O dan yr hen drefn roedd hi'n bosib i arweinydd y llywodraeth gael ei ddewis heb gydsyniad mwyafrif yr aelodau. Dyrchafwyd Alun Michael yn Brif Ysgrifennydd, er enghraifft, ar ôl iddo guro Dafydd Wigley o 28 pleidlais i 17. Y tro hwn bydd yn rhaid i ddarpar Brif Weinidog wynebu pleidlais "Ie neu Na", pleidlais o hyder i bob pwrpas, gan sicrhâu cefnogaeth dros hanner yr aelodau sy'n dewis pleidleisio.

Mae 'na un newid bach arall. Fe fydd yn rhaid i bwy bynnag sy'n cael ei enwebu ei heglu hi am Windsor, Buckingham Palace neu le bynnag mae'r Frenhines. Er mwyn bod yn Brif Weinidog Cymru bellach mae'n rhaid derbyn sêl bendith wyneb yn wyneb Ei Mawrhydi.

Lincs

Vaughan Roderick | 19:25, Dydd Sul, 22 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Mae Dylan Jones Evans yn disgwyl ymwelydd pwysig.

Diolch i Dogfael am dynnu sylw at flog Cymraeg newydd sef Blog Adrian Morgan mae'n disgrifio ei hun fel hyn; "Myfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth sy'n ymddiddori yn niwylliannau, ieithoedd a chrefyddau ein byd" ac mae'r diddordebau hynny'n amlwg ar ei safle.

Mae Gwenno, un arall o drigolion Aber, yn adolygu gig Gruff Rhys yn Nhreorci. Trwy gyd-ddigwyddiad ar y noson yr oedd Gwenno yn y Park & Dare roedd y theatr honno i'w gweld ar "Doctor Who" ond yn y rhaglen yn Efrog Newydd yr oedd hi a nid yn y cwm culach na cham ceiliog.

Diwrnod Cydraddoldeb

Vaughan Roderick | 17:25, Dydd Sul, 22 Ebrill 2007

Sylwadau (6)

"Diwrnod cydraddoldeb" oedd heddiw wrth i'r pleidiau am yr unig dro yn ystod yr ymgyrch gydlynu eu hymdrechion i gyd-fynd â rali gwrth BNP ym Mae Caerdydd.

Beth felly sy wedi darbwyllo'r pleidiau mawrion i gymryd y cam anarferol hwn? Mae 'na un rheswm syml sef ofnau cynyddol y gallai'r BNP ennill seddi yn y cynulliad y tro hwn. Rwyf wedi crybwyll y posibilrwydd cyn hyn ac mae "Hen Rech Flin" wedi ysgogi dadl fywiog ynglŷn â'r pwnc ar ei flog ac ar Faes-E.

Dyma'r cefndir i'r ofnau. Y sedd olaf ar bob un o'r rhestri rhanbarthol sydd yn cael eu targedi gan y BNP. Yn etholiadau 2003 dyma faint o bleidleisiau oedd eu hangen i ennill y seddi hynny;

Canolbarth a Gorllewin Cymru 6.4% (11,855 pleidlais)
Gogledd Cymru 7.9% (13,880 pleidlais)
Canol De Cymru 7.7% (13,978 pleidlais)
Dwyrain De Cymru 6.7% (11,410 pleidlais)
Gorllewin De Cymru 8.9% (12,400 pleidlais)

Nawr ar yr olwg gyntaf mae'r targedi yna yn ymddangos yn rhai anodd i'w cyrraedd. Dau ymgeisydd oedd gan y Blaid yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Rhyngddyn nhw fe enillon nhw 1,689 o bleidleisiau. Dyw hynny ddim yn ymddangos yn rhyw lawer ond pe bai'r Blaid yn ennill yr un nifer o bleidleisiau ac y gwnaeth hi yn Wrecsam ym mhob un o etholaethau'r Gogledd fe fyddai hynny'n golygu o gwmpas 7,300 o bleidleisiau, dim mor bell â hynny i ffwrdd o'r targed.

Mae canlyniadau etholiadau Ewrop hyd yn oed yn fwy trawiadol ac efallai yn fwy perthnasol gan eu bod yn etholiadau "ail ddosbarth" ac mae tua'r un canran yn pleidleisio ac yn etholiadau'r cynulliad. Yn yr etholiadau hynny fe enillodd y BNP 27,135 o bleidleisiau. Sicrhaodd UKIP 96,667 gan guro'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dwi ddim yn awgrymu yn fan hyn bod UKIP yn arddel yr un fath o syniadaeth â'r BNP ond dwi'n meddwl bod hi'n deg i ddweud bod rhai o'r bobol a bleidleisiodd i UKIP yn bobol y gellid eu perswadio i gefnogi'r BNP.

Yn y bon dwi'n credu bod yna bleidlais gymharol sylweddol yng Nghymru a allai gael eu temtio gan y BNP. Mae'n cynnwys pobol sydd ag amheuon a phryderon digon parchus a chyfrifol am lefelau ymfudo i'r Deyrnas Unedig, pryderon sy'n tueddu cael eu hanwybyddu gan y prif bleidiau.

Dwi'n meddwl hefyd bod rhyw fath o bleidlais "twll eich tinau i gyd" wrth-ddatganoli yn bodoli a allai gael ei denu gan y gair "British", y logo jac yr undeb a safle'r BNP ar frig y papur pleidleisio.

Efallai fy mod yn gwbwl anghywir ond un peth dwi'n fodlon proffwydo. Pe bai'r BNP yn ennill llond dwrn o seddi yn y cynulliad gallai ffurfio llywodraeth fod yn hynod o anodd ac yn yr amgylchiadau hynny dwi bron yn sicr y byddai Llafur a Phlaid Cymru yn penderfynu cydweithio.

Ceredigion- Lincs

Vaughan Roderick | 17:04, Dydd Sadwrn, 21 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Dwi wedi bod yn chwilio am safleoedd difyr yng Ngheredigion ac eithrio'r rhai amlwg fel safle arbennig y Llyf. Gen.
Dyma ddewis eclectig.
Mae darllen rhestr o gyn-lywyddion UMCA fel darllen "Who's who" o'r Gymru Gymraeg. Roedd bod yn llywydd UMCA ers talwm yn docyn mynediad i bethau mwy. Roedd ceisio am swydd yn Urdd y Myfyrwyr yn beth gwahanol!

Yn eisiau gan y Saeson- is lywydd
Un slei, llawn ddichellion
Hiliaeth, gay rights a Chile
Nid dy wlad- daw brad a bri.

Dwi ddim am enwi'r bardd na'i destun!

Mae'n bosib gwrando ar ddoniau cerddorol disgyblion Penweddig ar y we neu beth am ddathlu daucanmlwyddiant Aberaeron.

Cewch drotianyn Nhregaron. Dysgwch am hanes Castell Aberteifi a'r ymdrechion i'w achub.

O safbwynt gwleidyddiaeth ces i broblemau technegol ar safle Plaid Cymru. Efallai cewch chi well lwc. Mae safle'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gweithio'n iawn. Mae'r Ceidwadwyr a'r Blaid Werdd yn blogio. Dwi wedi methu dod o hyd i safle'r Blaid Lafur yn y sir.

Wrth gwrs y lle gorau i fynd bob tro i wybod am Geredigion yw'r Cambrian News a safle "Lleol i mi" y BBC.

Ceredigion- Beth yw barn Owain Clarke?

Vaughan Roderick | 13:14, Dydd Sadwrn, 21 Ebrill 2007

Sylwadau (4)

Mae Owain Clarke yn gohebu o Aberystwyth yn ystod yr etholiad.

VR; Helo Clarci, Shwt mae pethau yn Aber?
OC; Hynod o ddifyr. Mae'r Plaid a'r Rhyddfrydwyr yn mynd yn gwbwl boncyrs o ran ymgyrchu. Mae ganddyn nhw gynlluniau tŷ wrth dŷ, stryd wrth stryd o ran canfasio. Mae'n wir does dim dianc rhag yr etholiad. Roeddwn i yn y parc dydd Sul da cythraul o hang-ofer ac roedd y ddau "battlebus" yn taranu at ei gilydd. Roedd e'n boenus a dweud y gwir.
VR; Pwy sy'n ennill y frwydr bosteri?
OC; O be fi wedi sylwi dwi'n credu eu bod nhw yn eithaf agos at ei gilydd o ran niferoedd ond clywais gan fam a merch wnaeth chwarae "I spy" yn y car o un pen o Geredigion i'r llall taw Plaid sy'n mynd a hi jyst.
VR; Beth am y stiwdents- roedden nhw'n allweddol yn 2005?
OC; Wel mae lot ohonyn nhw wedi bod yn mwynhau'r haul yn nhŷ Mami a Dadi yn ystod gwyliau'r Pasg. Ond maen nhw nôl nawr, ac yn amlwg y cwestiwn mawr yw a fyddan nhw'n pleidleisio ac i bwy. Un peth syn sicr dyw'r pleidiau ddim yn eu hanwybyddu nhw. Mae'r pleidiau wedi bod yr un mor weithgar ar y campws ac ydyn nhw yn y dre.
VR: Pwy syn hyderus, te?
OC: Mae'r ddwy ochor yn dweud bod nhw'n dawel hyderus er na fysan nhw'n meiddio dweud hynny’n gyhoeddus.
VR: Pwy sy'n dweud y gwir a phwy sy'n dweud celwydd felly?
OC; Mae lle gyda'r ddau i fod yn hyderus mewn pocedi, yr hyn sy'n cymhlethu pethau yw gydag ymgyrchoedd cymharol dawel o ran Llafur a'r Toris does neb yn gwybod a fydd 'na bleidleisio tactegol ac os oes 'na gan bwy ac i bwy.
VR; Dwi'n cymryd bod yr ymgesiwyr wrthi fel lladd nadroedd?
OC; Yn sicr a dydyn nhw ddim am golli eiliad. Dwi'n gwybod bod arweinyddiaeth un blaid wedi cael uffern o job i berswadio ei hymgeisydd i deithio cyn belled â Machynlleth er mwyn lansio polisi.
VR: Dweda rhywbeth doniol wrtha’i, Clarci.
OC: OK... Mae'r darn mawr o bren 'ma jyst tu fas i Aber wedi ei orchuddio gan bosteri'r ddwy blaid ond am ryw reswm mae rhywun wedi sticio llun o Hitler yn y canol. Smo' fi'n meddwl bod e'n sefyll.
VR: Ydy pobol wedi cael digon o'r etholiad?
OC: Na fi’n meddwl bod pobol yn joio fe, o gymharu gydag etholaethau cyfagos mae 'na deimlad o gyffro ac yn draddodiadol mae Cardis yn disgwyl lot am eu plediais...fel eu harian. Gad hwnna mas wnei di. Fi'n mynd nôl na heno. (Nodyn golygyddol; na wnaf)
VR; Pwy sy'n mynd i ennill?
OC; Oes rhaid i fi ateb?
VR; Oes.
OC; Anodd dweud ond mae mwyafrif y punters yr ardal yn son bod Plaid yn mynd â hi unwaith eto...ond byswn i ddim yn betio morgais arno fe. Mae Cardis yn gallu bod yn anwadal. Pwy a ŵyr?

Diwrnod Ceredigion- ffeithiau diddorol a rhyfedd

Vaughan Roderick | 09:38, Dydd Sadwrn, 21 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Dyma ddeg o ffeithiau am Geredigion. Mae croeso i chi ychwanegu mwy.


1.Tan yn gymharol ddiweddar, coch oedd lliw Ceidwadwyr Ceredigion gyda'r Rhyddfrydwyr yn arddel rhubanau gleision.

2. Mae 'na eliffant wedi ei gladdu y tu allan i'r Talbot yn Nhregaron.

3. Fe ddaeth Cynog Dafis o'r bedwerydd safle i gipio'r sedd i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd yn 1992.

4. Safodd Prif Ohebydd y Western Mail Martin Shipton fel ymgeisydd annibynnol yn is-etholiad Ceredigion yn 2000 gan sicrhau 55 o bleidleisiau.

5. Storiwyd lluniau o'r Oriel Genedlaethol yn Llundain mewn twnnel y tu ôl i'r Llyfrgell Genedlaethol yn ystod yr ail ryfel byd.

6. Cynhaliwyd protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn Aberystwyth yn Chwefror 1963.

7. Mae'r murlun mwyaf trawiadol yng Nghymru ar fur gwasg y Lolfa yn Nhalybont.

8. Codwyd adeilad yr hen goleg yn Aberystwyth fel gwesty gan John Pollard Seddon.

9. Daethpwyd o hyd i chwe miliwn o dabledi LSD gwerth can miliwn o bunnau yn Nhregaron yn 1977.

10. Mae 'na etholaeth o'r enw "Cardigan" yng Nghanada. Mae'n gadarnle i Blaid Ryddfrydol y wlad honno.

Diwrnod Ceredigion Siop Jack Brown

Vaughan Roderick | 00:52, Dydd Sadwrn, 21 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau cwmni Jack Brown yn llunio prisiau betio etholaethol ar gyfer y blog. Mae croeso i chi fentro ffeifar rithiwr.

Ceredigion

Plaid Cymru 1-2
Dem. Rhydd 11-8
Llafur 33-1
Ceid 33-1

Sylw Karl; "Er gwaethaf y canlyniad annisgwyl yn 2005 mae'r prisiau dwi wedi'u gosod yn awgrymu bod buddugoliaeth "deja-vu" i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn annhebygol.
Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol mwyaf pybyr oedd yn wirioneddol gredu eu bod yn gallu curo Plaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol. Methodd hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol mwyaf craff gymryd mantais o'r pris o 2-1 oedd ar gael yn siopau Jack Brown.
Fe fydd y canran sy'n pleidleisio yn allweddol yng Ngheredigion. 67% o'r etholwyr wnaeth fwrw eu pleidleisiau yn 2005, canran uchel iawn o gymharu â gweddill Cymru a Phrydain. Byswn i'n rhagweld mai o gwmpas 50% fydd yn pleidleisio yn etholiadau’r cynulliad a chyda Plaid Cymru yn amddiffyn mwyafrif llawer mwy sylweddol dwi'n credu y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael hi'n anodd cipio'r sedd"

Lincs y Cardis

Vaughan Roderick | 21:27, Dydd Gwener, 20 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Dwy wedi bod yn chwilio am safleoedd difyr yng Ngheredigion ac eithrio'r rhai amlwg fel safle arbennig y Llyf. Gen.
Dyma ddewis eclectig.
Mae darllen rhestr o gyn-lywyddion UMCA fel darllen "Who's who" o'r Gymru Gymraeg. Roedd bod yn llywydd UMCA ers talwm yn docyn mynediad i bethau mwy. Roedd ceisio am swydd yn Urdd y Myfyrwyr yn beth gwahanol!

Yn eisiau gan y Saeson- is lywydd
Un slei, llawn ddichellion
Hiliaeth, gay rights a Chile
Nid dy wlad- daw brad a bri.

Dwy ddim am enwi'r bardd na'i destun!

Mae'n bosib gwrando ar ddoniau cerddorol disgyblion Penweddig ar y we neu beth am ddathlu daucanmlwyddiant Aberaeron.

Cewch drotianyn Nhregaron. Dysgwch am hanes Castell Aberteifi a'r ymdrechion i'w achub.

Ond wrth gwrs y lle gorau i fynd bob tro i wybod am Geredigion yw'r Cambrian News

Ceredigion- ffeithiau diddorol a rhyfedd

Vaughan Roderick | 16:56, Dydd Gwener, 20 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Dyma ddeg o ffeithiau am Geredigion. Mae croeso i chi ychwanegu mwy.

Ceredigion- ffeithiau diddorol a rhyfedd

1.Tan yn gymharol ddiweddar, coch oedd lliw Ceidwadwyr Ceredigion gyda'r Rhyddfrydwyr yn arddel rhubanau gleision.

2. Mae 'na eliffant wedi ei gladdu y tu allan i'r Talbot yn Nhregaron.

3. Fe ddaeth Cynog Dafis o'r bedwerydd safle i gipio'r sedd i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd yn 1992.

4. Safodd Prif Ohebydd y Western Mail Martin Shipton fel ymgeisydd annibynnol yn isetholiad Ceredigion yn 2000 gan sicrhau 55 o bleidleisiau.

5. Storiwyd lluniau o'r Galeri Cenedlaethol yn Llundain mewn twnnel y tu ôl i'r Llyfrgell Genedlaethol yn ystod yr ail ryfel byd.

6. Cynhaliwyd protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn Aberystwyth yn Chwefror 1963.

7. Mae'r murlun mwyaf trawiadol yng Nghymru ar fur gwasg y Lolfa yn Nhalybont.

8. Codwyd adeilad yr hen goleg yn Aberystwyth fel gwesty gan John Pollard Seddon.

9. Daethpwyd o hyd i chwe miliwn o dabledi LSD gwerth can miliwn o bunnau yn Nhregaron yn 1977.

10. Mae 'na etholaeth o'r enw "Cardigan" yng Nghanada. Mae'n gadarnle i Blaid Ryddfrydol y wlad honno.

Pan ddaw yfory....

Vaughan Roderick | 16:15, Dydd Gwener, 20 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

"Diwrnod Ceredigion" fydd yfory ar y blog. Fe fyddaf yn trafod pob peth Cardi-aidd ac yn bwrw golwg ar un o ornestau mwyaf diddorol a lliwgar etholiadau 2007.
Fe fydd Karl Williams yn agor Siop Rithiwr Jack Brown ac yn defnyddio llygad bwci i broffwydo'r canlyniad. Bydd Owain Clarke yn rhannu ei argraffiadau o'r ymgyrch a cewch ddysgu llwyth o ffeithiau difyr, ond cwbwl amherthnasol, ynglŷn â sir y Cardis.
Hynny... a mwy, yfory.

Sgwrsio gyda Owain Clarke

Vaughan Roderick | 14:42, Dydd Gwener, 20 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Mae Owain Clarke yn gohebu o Aberystwyth yn ystod yr etholiad.

VR; Helo Clarci, Shwt mae pethau yn Aber?
OC; Hynod o ddifyr. Mae'r Plaid a'r Rhyddfrydwyr yn mynd yn gwbwl boncyrs o ran ymgyrchu. Mae ganddyn nhw gynlluniau tŷ wrth dŷ, stryd wrth stryd o ran canfasio. Mae'n wir does dim dianc rhag yr etholiad. Roeddwn i yn y parc dydd Sul da cythraul o hang-ofer ac roedd y ddau "battlebus" yn taranu at ei gilydd. Roedd e'n boenus a dweud y gwir.
VR; Pwy sy'n ennill y frwydr bosteri?
OC; O be fi wedi sylwi dwi'n credu eu bod nhw yn eithaf agos at ei gilydd o ran niferoedd ond clywais gan fam a merch wnaeth chwarae "I spy" yn y car o un pen o Geredigion i'r llall taw Plaid sy'n mynd a hi jyst.
VR; Beth am y stiwdents- roedden nhw'n allweddol yn 2005?
OC; Wel mae lot ohonyn nhw wedi bod yn mwynhau'r haul yn nhŷ Mami a Dadi yn ystod gwyliau'r Pasg. Ond maen nhw nôl nawr, ac yn amlwg y cwestiwn mawr yw a fyddan nhw'n pleidleisio ac i bwy. Un peth syn sicr dyw'r pleidiau ddim yn eu hanwybyddu nhw. Mae'r pleidiau wedi bod yr un mor weithgar ar y campws ac ydyn nhw yn y dre.
VR: Pwy syn hyderus, te?
OC: Mae'r ddwy ochor yn dweud bod nhw'n dawel hyderus er na fysan nhw'n meiddio dweud hynny’n gyhoeddus.
VR: Pwy sy'n dweud y gwir a phwy sy'n dweud celwydd felly?
OC; Mae lle gyda'r ddau i fod yn hyderus mewn pocedi, yr hyn sy'n cymhlethu pethau yw gydag ymgyrchoedd cymharol dawel o ran Llafur a'r Toris does neb yn gwybod a fydd 'na bleidleisio tactegol ac os oes 'na gan bwy ac i bwy.
VR; Dwi'n cymryd bod yr ymgesiwyr wrthi fel lladd nadroedd?
OC; Yn sicr a dydyn nhw ddim am golli eiliad. Dwi'n gwybod bod arweinyddiaeth un blaid wedi cael uffern o job i berswadio ei hymgeisydd i deithio cyn belled â Machynlleth er mwyn lansio polisi.
VR: Dweda rhywbeth doniol wrtha’i, Clarci.
OC: OK... Mae'r darn mawr o bren 'ma jyst tu fas i Aber wedi ei orchuddio gan bosteri'r ddwy blaid ond am ryw reswm mae rhywun wedi sticio llun o Hitler yn y canol. Smo' fi'n meddwl bod e'n sefyll.
VR: Ydy pobol wedi cael digon o'r etholiad?
OC: Na fi’n meddwl bod pobol yn joio fe, o gymharu gydag etholaethau cyfagos mae 'na deimlad o gyffro ac yn draddodiadol mae Cardis yn disgwyl lot am eu plediais...fel eu harian. Gad hwnna mas wnei di. Fi'n mynd nôl na heno. (Nodyn golygyddol; na wnaf)
VR; Pwy sy'n mynd i ennill?
OC; Oes rhaid i fi ateb?
VR; Oes.
OC; Anodd dweud ond mae mwyafrif y punters yr ardal yn son bod Plaid yn mynd â hi unwaith eto...ond byswn i ddim yn betio morgais arno fe. Mae Cardis yn gallu bod yn anwadal. Pwy a ŵyr?

Is-etholiadau

Vaughan Roderick | 11:49, Dydd Gwener, 20 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Dwi ddim am ddarllen gormod mewn i hwn ond dyma ganlyniad is-etholiad cyngor yng Nghwm Cynon ddoe;

Howard Davies (Plaid) 675

Jeffery Elliot (Llaf 667)

Gogwydd o wyth y cant i Blaid Cymru ers 2004. Mae hon yn ward draddodiadol agos lle mae canlyniadau etholiad wedi cyrraedd yr uchel lys cyn hyn.

Mae hwn yn batrwm gwahanol iawn i'r un a welwyd yn Nhreorci rhai wythnosau yn ôl. Ar ôl colli'r Rhondda yn 1999 mae Llafur wedi adeiladu peirianwaith effeithiol iawn yno. Hwyrach nad yw'r Blaid wedi dysgu'r wers yn rhai o'r cymoedd eraill

Roedd 'na is-etholiad yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg hefyd.

Annibynnol 1062
Ceidwadwyr 640
Llafur 443
Annibynnol 365
Plaid 99
Dem. Rhydd 75

Siwt Orau Dylan

Vaughan Roderick | 10:17, Dydd Gwener, 20 Ebrill 2007

Sylwadau (0)


Mae ambell un wedi sylwi nad oedd Dylan Jones-Evans mor drwsiadus ac arfer ar "Pawb a'i farn" neithiwr. Mae'n amlwg nad Ceidwadwyr yw gwylanod Llandudno!

Dinas Anniolchgar

Vaughan Roderick | 09:10, Dydd Gwener, 20 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Echdoe roedd enw Caerdydd ar dudalennau blaen a chefn papurau newydd ledled Ewrop. Roedd canolfan y BBC yn Llandaf yn llawn o Bwyliaid, Iwcraniaid, Eidalwyr a phob math o bobol eraill a lluniau o'r ddinas ar setiau teledu ar draws y cyfandir. Y rheswm am hynny wrth gwrs oedd y cyfarfod i benderfynu yn lle y dylid cynnal Pencampwriaethau Pêl Droed Ewrop yn 2012. Hwn oedd y cyfarfod oedd yn ddigon pwysig i ddenu Arlywyddion dwy o wledydd mwyaf Ewrop i Gaerdydd ond ddim yn ddigon pwysig i ddenu ymgeisydd o orllewin Clwyd.
Dwi ddim yn gwybod beth oedd gwerth uniongyrchol cynnal y cyfarfod i Gaerdydd. Yn sicr roedd y cyhoeddusrwydd yn werth miliynau o bunnoedd i economi'r brifddinas. Ond pam y cafodd y cyfarfod yma ei gynnal yng Nghaerdydd? Wedi'r cyfan go brin fod Cymru fach yn un o gewri'r byd pêl-droed.
I ateb y cwestiwn mae'n rhaid gofyn cwestiwn arall. Pwy sy'n berchen ar bêl-droed? Pwy sydd â'r gair olaf ynglŷn â'r rheolau a'r ffordd y mae'r gêm yn cael eu chwarae? Fe fyddai'r rhan fwyaf o bobol yn ateb FFA i'r cwestiwn hwnnw ac fe fyddai'r rhan fwyaf o bobol yn gwbwl anghywir. Y corff sy'n gor-lywodraethu ac sydd piau hawlfraint y gêm yw corff sy'n tueddu i lechu yn y cysgodion o'r enw yr IFAB- Bwrdd Rhyngwaldol y Cymdeithasau Pêl-droed.
Mae gan IFAB wyth aelod, pedwar yn cynrychioli FIFA yn siarad dros Brasil, yr Almaen, yr Eidal a'u tebyg ac un cynrychiolydd yr un yn cynrychioli Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ystyriwch am eiliad ar gorff uchaf gêm fwyaf y byd mae gan Gymru fwy o ddylanwad na phob gwlad sydd wedi ennill Cwpan y Byd (ac eithrio'r Saeson - dwi'n meddwl ey bod nhw wedi ei hennill rhywdro!)
Dyna'r rheswm yr oedd EUFA yng Nghaerdydd felly. Oherwydd bod Cymru (yn nhermau gwleidyddiaeth ffwtbol) yn genedl bwysig ac mai Caerdydd yw ei phrifddinas.
Fel un cafodd ei eni a'i fagu yn y ddinas yma mae'n rhwystredigaeth gyson i mi nad yw ei thrigolion yn sylweddoli cymaint mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru. Yn hytrach na bod yn ddiolchgar a cheisio rhoi rhywbeth yn ôl i weddill y wlad mae ei gwleidyddion yn grwgnach yn gyson am y "gost" o gynnal gweithgareddau megis gemau rhyngwladol gan awgrymu, hyd yn oed, y dylai trethdalwyr gweddill y wlad ysgwyddo'r baich.
Os ydy cynghorwyr Caerdydd mor anhapus â hynny dwi'n siŵr bod 'na lefydd eraill a fyddai’n ddigon parod i gamu i'r bwlch.

Ymddiheuriad a syniad

Vaughan Roderick | 19:25, Dydd Iau, 19 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Dwi'n ymddiheuro am ambell i broblem dechnegol heddiw yn enwedig wrth bostio sylwadau. Dwi'n gobeithio bod popeth yn gweithio erbyn hyn.

Dwi wedi sylwi bod nifer o bobol am wneud sylwadau ynglyn â'r sefyllfa yng Ngheredigion. Dwi wedi gofyn i Karl Williams (gynt o Jack Brown) i baratoi prisiau betio ar gyfer yr etholaeth a dwi'n bwriadu gofyn i Owain Clarke, sy'n gohebu o Geredigion gydol yr ymgyrch, am ei argraffiadau ef. Hwyrach y cawn ni ddiwrnod thema Ceredigion naill ai dros y Sul neu'n gynnar wythnos nesaf.

Pwy sydd ar beth

Vaughan Roderick | 16:38, Dydd Iau, 19 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Fe fydd Rhun ap Iorwerth yn holi Ieuan Wyn Jones ar Dragon's Eye am 10.35 heno ar BBC 1.

Fe fydd Dafydd Wigley, Jonathan Austin, Paul Davies a Juliana Hughes yn ymuno a Rhuanedd a finnau ar "Dau o'r Bae" yfory am 12.15 ar Radio Cymru. Wrth gwrs mae'n bosib gwrando eto.

Ddydd Sul, Alun Cairns fydd y prif westai ar Maniffesto. Andrew Davies, Dafydd Wigley, Alun Cairns a Mark Hooper fydd yn trafod yr economi ar y "Politics Show" ar BBC1.

Yr hen siartiau yna eto

Vaughan Roderick | 11:46, Dydd Iau, 19 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Mae Peter Black wedi ymateb i sylwadau yn fan hyn a llefydd eraill ynglŷn â defnydd y pleidiau o siartiau ar daflenni etholiad i ddenu pleidleisiau tactegol. Yn anffodus dyw Peter ddim yn ceisio amddiffyn ei blaid ei hun. Yn lle hynny mae'n cyhuddo Plaid Cymru o ddefnyddio'r un dacteg.

Mae 'na adnod yn dod i'n meddwl yn fan hyn "Pam rwyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad di dy hun?" (Luc 6)

Does dim ots pa blaid sy'n defnyddio ystadegau camarweiniol neu amherthnasol i geisio ennill pleidlais dactegol. Nid pwy sy'n gwneud sy'n bwysig. Yr hyn sy'n cyfri yw'r niwed sy'n cael ei achsoi i'r holl broses ddemocrataidd. Am bob etholwr sy'n cael ei gamarwain neu ei dwyllo mae 'na un arall sy'n cael ei ddadrithio wrth weld y pleidiau mor barod i gamddefnyddio ystadegau.

I grynhoi, hyd yn hyn mae gennym esiamplau o ddefnydd amheus o ystadegau gan Blaid Cymru yn Aberconwy ac Ogwr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd ac Abertawe. Dwi'n sicr bod 'na enghreifftiau eraill mewn llefydd eraill.

Mae'r sialens yn un syml. Os ydy'r pleidiau yn wirioneddol gredu bod eu defnydd o ystadegau yn deg ac yn rhesymol beth am ofyn i'r comisiwn etholiadol lunio canllawiau gwirfoddol ynglŷn â beth sy'n dderbyniol a beth sy ddim. A beth am ddechrau trwy beidio â disgrifio prif weithredwr plaid fel "arbenigwr etholiadol" o hyn ymlaen?

Absenoldeb Alun

Vaughan Roderick | 10:01, Dydd Iau, 19 Ebrill 2007

Sylwadau (6)

Mae 'na lawer o ffwdanu'r bore 'ma ynglŷn â methiant Alun Pugh i fynychu cinio a chyhoeddiad pencampwriaeth UEFA yng Nghaerdydd.

Yn ei ardal ei hun mae'n ddigon posib na fydd na unrhyw niwed i Mr Pugh. Heb os fe fydd Llafur yn lleol yn mynnu bod y penderfyniad yn profi bod Alun yn ddyn sy'n "rhoi ei etholaeth yn gyntaf."

Yn genedlaethol mae 'na fwy o broblem. Hwn yw'r eil dro o fewn ychydig ddyddiau i Lafur golli rheolaeth ar yr agenda. Y tro cyntaf oedd pan wnaeth sylwadau byrfyfyr Rhodri ynglŷn ag Iraq ar Radio Wales ddenu'r holl sylw i ffwrdd o lansiad rhaglen ddeddfwriaethol y Blaid. Rydym wedi arfer erbyn hyn â disgyblaeth haearnaidd gan Lafur yn ystod ymgyrch etholiad, am ryw reswm mae'r drefniadaeth yn baglu y tro hwn.

Yn fwy pwysig efallai, mae'n bosib y bydd absenoldeb Alun yn atgoffa pobol o fethiant y Prif Weinidog i fynychu'r gwasanaethau coffa ar draethau Normandi. Mae Rhodri Morgan wedi cyfaddef mae'r penderfyniad hwnnw yw ei gamgymeriad mwyaf ers dod yn ben ar lywodraeth y cynulliad. Mae'r ffaith bod y pleidiau eraill eisoes yn ei grybwyll wrth ymosod ar Alun yn adrodd cyfrolau am ba mor niweidiol i Rhodri oedd y penderfyniad.

(Gyda llaw, mae un o'm cydweithwyr, Carl Roberts, yn meddwl bod Plaid Cymru yn rhagrithio wrth gyhuddo Alun Pugh o fethu â chyflawni ei ddyletswyddau fel gweinidog tra ar yr un pryd yn cwyno ei fod wedi gosod y llythrennau AC ar ôl ei enw ar ei bosteri. Mae ganddo bwynt. )

Rhodri yn galw heibio

Vaughan Roderick | 09:38, Dydd Iau, 19 Ebrill 2007

Sylwadau (7)


Mae Rhodri Morgan newydd gnocio fy nrws! Dyw hynny ddim yn gymaint o syndod a hynny. Rwy'n byw yn ei etholaeth a dyw e ddim yn esgeulus o'i ardal ei hun adeg etholiad.
Mae'r pleidiau i gyd yn hynod o weithgar yn fy ardal i y tro yma ond dyw'n clywed am lefydd eraill lle does dim posteri i'w gweld na'r un daflen wedi ei derbyn. Cwestiwn syml. Ydy hi'n "HOT" neu "NOT" yn eich ardal chi.

Oriel yr anffodusion

Vaughan Roderick | 16:15, Dydd Mercher, 18 Ebrill 2007

Sylwadau (5)

Nid fi yw'r unig un sy wedi bod yn blogio am ddefnydd y Democratiaid Rhyddfrydol o siartiau ar daflenni etholiad. Yn wir mae 'na dystiolaeth fan hyn a fan hyn o adwaith cynyddol yn erbyn y dacteg gamarweiniol hon. Nid y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r unig rai sy'n euog wrth gwrs ond mae'n ymddangos mai nhw yw'r pechaduriaid penna.

Agwedd arall o daflenni'r Democratiaid Rhyddfrydol yw eu hoffter o gynnwys lluniau o'u hymgeiswyr. Yn y pythefnos diwethaf derbyniais chwech o daflenni adref gan y Blaid yn cynnwys dros ugain o luniau o'i hymgeisydd; yr ymgeisydd o flaen ysbyty, yr ymgeisydd o flaen ysgol, yr ymgeisydd o flaen fferyllfa ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Mae'r dacteg yn gweithio. Dwi'n dechrau gweld yr ymgeisydd yn fy nghwsg. Dwi ddim yn siŵr eto ydy hynny'n rhan o freuddwyd neu hunllef.

Arhoswch eiliad!

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Mercher, 18 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Wrth ail-ddarllen y Maniffesto Llafur mae rhywbeth newydd fy nharo. Mae'r maniffesto'n un anarferol gan ei fod yn cynnwys nid yn unig rhaglen lywodraethol y Blaid ond hefyd cyfres o ymosodiadau ar y pleidiau eraill, y Ceidwadwyr yn fwyaf arbennig.

Dyma ddau ohonyn nhw;

"Mae dewis amlwg ar Fai'r 3ydd; ymlaen gyda thim Llafur cryf... neu yn ôl at fethiannau'r Torïaid a thoriadau, diweithdra a dirwasgiad" (tudalen 3)

"O dan Thatcher a Redwood fe wastraffwyd talent ac fe amddifadwyd ein plant o'r cyfle i fyw bywydau llawn" (tudalen 17)

Mae 'na ragor ohonynt a'r un yw'r gân wrth ymgyrchu, neges eglur y byddai na doriadau mewn gwasanaethau pe bai Llafur yn colli. Mae'r gair "buddsoddiad" yn ymddangos ddegau o weithiau yn y maniffesto a'r awgrym clir yw na fyddai'r buddsoddi hynny yn y gwasanaethau cyhoeddus yn digwydd heb lywodraeth Lafur.

Nawr does gan y cynulliad ddim hawl i gynyddu nac i dorri trethi. Hynny yw, mae'n rhaid i unrhyw lywodraeth wario'r arian sy'n dod o'r trysorlys. Efallai y byddai blaenoriaethau llywodraeth glymblaid yn wahanol ond yr un fyddai cyfanswm eu gwariant. Codi bwgan yw awgrymu'n wahanol.

Yr unig ffordd y byddai na doriadau ar draws y bwrdd yw pe bai llywodraeth San Steffan yn ewyllysio hynny ac nid llywodraeth San Steffan sy'n cael ei ethol ar Fai'r 3ydd.

Siop Rithwir Jack Brown- Gogledd Caerdydd

Vaughan Roderick | 09:31, Dydd Mercher, 18 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau cwmni Jack Brown yn llunio prisiau betio etholaethol ar gyfer y blog. Mae croeso i chi fentro ffeifar rithwir

Gogledd Caerdydd

Ceid. 1-3
Llafur 15-8
Dem. Rhydd. 25-1
Plaid Cymru 50-1

Sylw Karl; "Mae'n anodd iawn gweld Llafur yn cadw hon yn sgil ymddeoliad Sue Essex. Fe fydd Gogledd Caerdydd yn dychwelyd at ei gwreiddiau ceidwadol y tro hwn."

Lincs

Vaughan Roderick | 17:37, Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2007

Sylwadau (12)

Mae Dogfael wedi bod yn bwydo'i fol ac yn helpu coffrau ei blaid yn Aber. Dwi wedi bod yn ceisio spotio Sanddef yn y casgliad yma o luniau o gynhadledd flynyddol Cymuned heb unrhyw lwc ond beth ar y ddaear mae Chris Schoen yn gwisgo yn y llun yma ?
"Nid blog gwleidyddol mo hwn. Cofier." Geiriau Hogyn o Rachub. Serch hynny 'dwi am ei gynnwys fel enghraifft dda o ba mor anodd yw hi i ddod o hyd i gartref y dyddiau yma.

Ar yr ochr Saenseg ar flog Blamerbell mae'r Ceidwadwr Jonathan Morgan yn galw am bwerau llawn i'r cynulliad ac mae gan Leighton Andrews stori ddifyr am fethiant y Ceidwadwyr i ddanfon cynrychiolydd i un o gyfarfodydd CBI Cymru.

Gyda llaw, byswn yn ddiolchgar i glywed am unrhyw un sy'n bwriadu blogio ar noson y cyfri. Fe fyddai i'n blogio o stiwdio S4C a bydd disgwyl i Richard Wyn Jones gyfrannu, er nad yw'n gwybod hynny eto! Paid poeni Richard - y cyfan rwyt ti'n gorfod ei wneud yw sibrwd yn fy nghust.

Nadw Ron Ron Nadw Ron Ron

Vaughan Roderick | 12:52, Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Dwi'n cymryd mai cellweiro oedd e.

Wrth sgyrsio â Ron Davies heddiw gofynnais iddo beth fyddai rol aelodau Annibynnol pe na bai yna fwyafrif yn y cynulliad nesaf.

Roedd hanner gwen ar ei wyneb wrth iddo ateb. "Wel" meddai "os oedd 'na sefyllfa lle roedd Plaid Cymru'n gwrthod gwasanaethu o dan Brif Weinidog Toriaidd, a'r Toriaid â mwy o aelodau na Phlaid Cymru, yr unig ddewis fyddai ceisio dod o hyd i rywun nad oedd yn perthyn i'r naill blaid na'r llall... rhywun profiadol, rhywun annibynnol i arwain y llywodraeth."

Rhywun fe Ron, efallai.

Dwi'n siwr mai cellweirio oedd e.

Ron, Wrecsam a'r BNP

Vaughan Roderick | 07:23, Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2007

Sylwadau (4)

Dwi'n ei heglu hi am y bae eto'r bore 'ma ar gyfer Cynhadledd Newyddion ymgyrch annibynnol/Cymru Ymlaen Ron Davies a John Marek. Mae Wrecsam a Chaerffili yn ddwy o'r seddi y byddwn yn gwylio'n agos ar noson y cyfri.
Wrecsam yw gobaith gorau Llafur o gipio sedd a gallai Caerffili fynd i un i dri chyfeiriad. Mae Chanticleer yn tynnu sylw at bwysigrwydd y bleidlais Bwylaidd yn Wrecsam ac yn sicr gallai hynny fod yn ffactor yno. Ond mae 'na beryg y bydd presenoldeb y newydd-ddyfodiaid o ddwyrain Ewrop yn effeithio ar yr etholiadau mewn ffordd wahanol.
O fy mlaen mae taflenni etholiadol y BNP yn nwy o ranbarthau etholiadol y cynulliad. Mae'r ddwy yn cychwyn â'r un neges "Angry about the flood of Eastern European labour driving down wages, putting Welsh workers on the dole, pricing youngsters out of rented homes and breaking up our communities? ...."
Mae hon yn darged hawdd i'r BNP wrth gwrs. Mae ymosod ar newydd-ddyfodiaid gwyn eu croen yn ymddangos yn llai hiliol nac ymosod ar bobol ddu neu Fwslemiaid. Serch hynny'r un yw y ragfarn sy'n cael ei bwydo.
Dyw e ddim yn amhosib y bydd y BNP yn ennill seddi yn y cynulliad yn yr etholiad hwn. Gallai deg mil o bleidleisiau mewn rhanbarth fod yn ddigon. Mae hyn yn achosi problem i'r pleidiau eraill a grwpiau pwyso. Beth sydd orau, anwybyddu'r BNP a gobeithio am y gorau, neu ddadlau yn ei herbyn gyda'r peryg o fwydo'r bwystfil?

Gwen Jones

Vaughan Roderick | 16:24, Dydd Llun, 16 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Dwi newydd glywed am farwolaeth ddisymwth Gwen Jones. "Miss Humphries" oedd Gwen Jones pan oeddwn i yn grwt yn Ysgol Rhydfelen. Hi oedd yr athrawes ffiseg ac roeddwn i yn un o filoedd o blant ar hyd y blynyddoedd i gael eu swyno gan ei brwdfrydedd. Roedd hi'n llwyddo i wneud hyd yn oed y pynciau gwyddonol mwyaf sych yn ddiddorol ac roedd tuedd ei harbrofion i fynd o le yn destun sbort cyson.

Roedd hi hefyd yn un o'r bobol ymroddedig hynny, sy'n bodoli ym mhob plaid, sy'n gwneud i'n system ddemocrataidd weithio. Plaid Cymru oedd ei phlaid hi ac am ddegawdau bu'n canfasio ac yn gweithio ar ei rhan.

Cyfrannodd yn gyson i raglenni "ffonio i mewn" ar y radio gan gyflwyno ei phwyntiau yn effeithiol ac yn urddasol.
Cefais y profiad sawl tro o deimlo fy mod yn grwt ysgol eto ar ôl dweud "Mae Gwen Jones ar y lein..." a chlywed llais "Miss Humphries" yn taranu ynglŷn â rhyw bwynt neu'i gilydd!

Gwelais i hi ddiwethaf ychydig wythnosau yn ôl pan ddigwyddodd gnocio ar fy nrws wrth iddi ganfasio. Roeddwn am roi paned o de iddi ond gwrthododd gan fynnu ei bod yn "brysur yn hel pleidleisiau". Mae'n rhy hwyr nawr, rhy hwyr i ddweud "Diolch am bopeth, Miss Humphries"

Cynhelir yr angladd ddydd Gwener.

Siop Rithwir Jack Brown Ynys Môn

Vaughan Roderick | 12:36, Dydd Llun, 16 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Mae Karl Williams, cyn-osodwr prisiau cwmni Jack Brown yn llunio prisau betio etholaethol ar gyfer y blog. Mae croeso i chi fentro feifar rithwir.

Ynys Môn

Plaid Cymru 1-3
Ann. 5-1
Ceid. 5-1
Llafur 5-1

Sylw Karl; " Dwi'n synhwyro nad yw Ieuan yn arbennig o boblogaidd ar yr ynys ar hyn o bryd. Ar y llaw arall mae Peter wedi methu ei guro sawl gwaith o'r blaen a dwi'n tybio fod y bleidlais Geidwadol yn fwy cadarn nac y buodd hi. Dwi'n gosod llafur ar 5-1 oherwydd y sedd seneddol. Efallai y byddai 6-1 neu hyd yn oed 7-1 yn well."

Gorllewin Abertawe...eto

Vaughan Roderick | 11:38, Dydd Llun, 16 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Newydd ddychwelyd o gynhadledd newyddion Llafur lle roedd Edwina Hart yn awyddus i drafod fy sylwadau ynghylch Gorllewin Abertawe. Ei barn hi yw fy mod yn iawn i gredu y gallai Llafur fod mewn trafferthion pe bai un o'r pleidiau eraill yn gallu sicrhau pleidleisiau tactegol.
Dyw Edwina ddim yn credu y bydd hynny'n digwydd y tro yma gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn dioddef yn sgil penderfyniad Rene Kinzett, eu hymgeisydd seneddol yn 2005, i droi at y Ceidwadwyr. Yn ôl Edwina mae'r Ceidwadwyr yn gweithio'n eithriadol o galed yn yr etholaeth yn y gobaith o enill ail sedd ranbarthol.

Mae croeso i chi anghytuno.

Clòs y cynhadleddau newyddion

Vaughan Roderick | 08:18, Dydd Llun, 16 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Lle rhyfedd yw'r Senedd yn ystod cyfnod etholiad. Mae'r gwleidyddion wedi diflannu a'r pleidiau wedi eu gwahardd ond mae'r lle o hyd ar agor gyda actorion Cymreig sy'n "gorffwys" yn hebrwng ymwelwyr o gwmpas y siambr.

O'i chwmpas mae'r pleidiau wedi gorfod dod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer eu cynhadleddau newyddion ond fel cathod bach dy'n nhw ddim am grwydro'n rhy bell o'i mam. Y bore ma dwi'n mynychu cynhadledd Lafur yn y "Waterguard", y dafarn agosaf i'r Senedd. Tafliad carreg i ffwrdd mae'r Eglwys Norwyaidd lle mae Plaid Cymru yn cwrdd. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal eu cynhadleddau yn adeilad mwyaf ysblennydd Cymru, Canolfan y Mileniwm, ond yn dewis yr ystafell leiaf, a lleiaf ysblennydd, yn y lle.

Swyddfa dollau dociau Caerdydd oedd y "Waterguard" ers talwm. O leiaf yn yr hen ddyddiau roedd gan ddeiliaid yr adeilad yr hawl i godi trethi!

Lincs a manion

Vaughan Roderick | 18:48, Dydd Sul, 15 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Mae Blamerbell wedi bod yn cael sbort yn googlio Mike German tra bod Sanddef wedi mynychu cynhadledd flynyddol Cymuned lle roedd Richard Brunstrom yn annerch. Dwi'n disgwyl ymlaen at ddarllen argraffiadau'r Prif-gopyn ei hun.

Ar ôl meistroli sut mae cael to bach (drychwch ar yr ô yna yn "ar ôl!"- dwi wedi chwysu peintiau i gael honna i weitho felly ô ô ô ô ô :) :) :) !) fe fyddaf yn cyhoeddi prisiau betio Karl Williams ar gyfer etholaeth Môn cyn bo hir. Hefyd yn y dyddiadur mae lansiad blaenoriaethau deddfwriaethol Llafur, ymdrechion gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddenu pleidleisiau'r ifanc a rhagor am arolygon barn.

Dianc rhag y bregeth

Vaughan Roderick | 11:13, Dydd Sul, 15 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Mae'n fore Sul a dwi yn y gwaith er mwyn osgoi'r Capel! Mae'n galed bod yn anffyddiwr yn fy nheulu i. Mae hanner y teulu yn ceisio llusgo fi i'r capel a'r hanner arall yn mynnu fy mhresenoldeb yn y Mosg.

Dwi'n ceisio dadlau (yn afrad) bod dyddiau Gwener yn ddigon. Wedi'r cyfan roedd ein Mosg ni yn arfer bod yn Gapel a'r un blincin' Duw yw e ar ddiwedd y dydd!

Un o'r prosiectau dwi'n ymchwilio ar hyn o bryd yw rhaglen neu erthygl ar hanes Islam yng Nghymru. Mae'r cysylltiadau yn llawer cryfach na mae'r rhan fwyaf o bobol yn sylweddoli gan ddyddio nol i Offa a'i glawdd, prin ganrif ar ol marwolaeth y Proffwyd.

Mae na dalp o waith o fy mlaen i yn y maes yma ond mae'r pwnc yn un rhyfeddol o ddiddorol.

Gyda llaw mae'r daflen "Muslims for Plaid" yna yn addo "bwyd halal i fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru o fewn tyrmor y cynulliad nesa". Ydy Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno'r polisi yno -neu ydy'r Blaid yn addo un peth yng Nghaerdydd ac yn gwneud rhywbeth arall lle mae'n rheoli?

Mae na dalp o waith o fy mlaen i yn y maes yma ond mae'r pwnc yn un rhyfeddol o ddiddorol.

Mae hwn yn un newydd!

Vaughan Roderick | 16:19, Dydd Sadwrn, 14 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Roeddwn yn meddwl fy mod wedi gweld pob un tric neu dacteg etholiadol erbyn hyn ond mae hwn yn un newydd i mi.

Y prynhawn ma fe wnaethom ni dderbyn llythyr gartref wedi ei law-ddelifro ac wedi ei gyfeiro at fy mhartner. Llythyr oedd hwn gan grwp o'r enw "Muslims for Plaid" yn esbonio safbwyntiau Plaid Cymru ynglyn â phynciau o bwys i Foslemiaid.

Dwi'n cymryd bod cefnogwyr Plaid naill ai wedi cael rhestr aelodaeth y Mosg neu eu bod yn mynd trwy'r rhestr etholiadol yn chwilio am enwau Moslemaidd. Clyfar.

Gorllewin Abertawe

Vaughan Roderick | 13:39, Dydd Sadwrn, 14 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Dwi newydd fod yn gwrando ar "Any Questions" ar Radio 4 oedd yn cael ei darlledu o'r Mwmbwls. Yn etholaeth Gwyr y mae'r Mwmbwls ond dwi'n cymryd bod y gynulleidfa wedi ei denu o Orllewin Abertawe hefyd.
Cafodd Peter Hain amser caled iawn gan y gynulleidfa yn enwedig ynghylch cyflwr y gwasanaeth iechyd lleol. Dyw hynny ddim yn profi unrhywbeth wrth gwrs ond mae yn fy atgoffa o'r sibrydion cyson y gallai Llafur fod mewn trafferthion yng Ngorllewin Abertawe.

Hwn oedd y canlyniad yn 2003

Llafur 7023 (36.2%)
Plaid Cymru 4461 (23.0%)
Dem Rhydd. 3510 (18.1%)
Ceid. 3106 (16.0%)

Dyma oedd canlyniad seneddol 2005

Llafur 13,833 (41.8%)
Dem. Rhydd. 9,564 (28.9%)
Ceid. 5,285 (16.0%)
Plaid Cymru 2,150 (6.5%)

Mae'n weddol amlwg y gallai Llafur golli hon pe bai yna bleidleisio tactegol sylweddol. Ydy hynny yn debyg o ddigwydd a phwy sy'n ennill y frwydr ar y strydoedd? Os oes unrhyw un yn gwybod- dywedwch!

Lincs

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Sadwrn, 14 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Dwi'n sicr fod y rhan fwyaf ohonoch wedi dod o hyd i wefan newydd y Llyf. Gen. yn adrodd hanes y Wladfa. I'r rhai sydd heb- ewch yna nawr! Mae'n wych.
Sais, asgell dde, hoyw sy'n byw yn Ameica yw Andrew Sullivan. Mae ganddo golofn wythnosol yn y Sunday Times ond ar ei flog y mae ei stwff gorau.
Dwi'n ymweld yn aml ac yn rhyfeddu at Daily Kos. Mae dylanwad gwleidyddol y safle yn anhygoel. Does dim byd tebyg yn fan hyn.
Mae hi werth ymweld hefyd a'r wefan yma i weld y cynlluniau ar gyfer Mosg mwyaf Cymru ond hefyd i ddarllen cerdd Javed Javed sy'n adlewyrchiad llawer tecach o agweddau gwleiddyddol Moslemiaid Prydain na rhai adroddiadau papur newydd.

Safleoedd allanol yw rhain. Nid y'w BBC yn derbyn cyfrifoldeb ...chi'n gwybod y drefn erbyn hyn.

Cnoc Cnoc

Vaughan Roderick | 10:32, Dydd Sadwrn, 14 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Mae hwn yn un i'r anoraciaid. Dwi'n ddiolchgar i f'annwyl gyfaill yn Sydney, Andy Bell, am gyfrannu hwn. Yn ogystal â gohebu i Radio Cymru mae Andy yn cynhyrchu rhaglenni newyddion ac etholiad yr ABC.
Mae Andy wedi tynnu fy sylw at astudiaeth gan academwyr o Seland Newydd ynglyn â pha ddulliau ymgyrchu sy'n effeithiol ar gyfer gwahanol sytemau pleidlesio. Gellir gweld eu casgliadau yma(pdf).

Yr hyn sy'n drawiadol yw bod na un dull sy'n fwy effeithiol na'r gweddill beth bynnag yw'r system bleidlesio. Beth yw'r dull hwnnw? Robocall... taflen... darllediad gwleidyddol... hysbysfyrddau? Na. Dim un o rhain. Does dim byd gwell na chnoc ar ddrws gan ymgeisydd. Rhowch i mi'r hen ffordd Gymreig o fyw.

Mae Peter Black yn cytuno

Vaughan Roderick | 01:52, Dydd Sadwrn, 14 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Ar wefan Saesneg Sanddef mae Peter Black yn dweud hyn

I think it is fair to say that on this sort of sample it is almost impossible to predict any constituency result. However, the Carmarthen West and South Pembs prediction is not the only fishy projection from this poll. The idea that the Tories will win Clwyd West and Aberconwy AND hold onto two list seats in North Wales for example is just bizarre. Whereas I am prepared to accept that the poll represents a reasonably accurate snapshot of opinion in Wales at the time the poll was taken, I find it difficult to believe that more detailed projections that have been associated with it and it is only right that commentators question them.

Mae na fwy i ddod.

Mae Peter wedi ymehelaethu ar ei flog ei hun

Mae rhywbeth yn drewi yn fan hyn

Vaughan Roderick | 16:50, Dydd Gwener, 13 Ebrill 2007

Sylwadau (5)

Wythnos diwethaf cyhoeddwyd canlyniadau arolwg barn NOP/ITV Cymru. Ar sail y wybodaeth a ryddhawyd gan ITV fe wnaethon ni a chyfryngau eraill ddarogan bod Plaid Cymru wedi gostwng i'r trydydd safle y tu ol i'r Ceidwadwyr. Roedd yr honiad yna'n seiliedig ar ganrannau pleidleisio a gyhoeddwyd gan ITV a darogan yr arbenigwr gwleidyddol a gyflogir gan ITV, Dr Denis Balsom.

Fe wnes i gyfeirio at y canlyniadau ar "Wales Today" a "Newyddion". Doeddwn i ddim wedi gweld yr ystadegau crai ond roeddwn yn fodlon ymddiried yn arbenigedd newyddiadurwyr ITV a phrofiad hir Dr Balsom.

Dydd Llun ymddangosodd yr ymddiheuriad rhyfedd yma yn y Western Mail

"In our analysis of an NOP opinion poll for ITV Wales on voting intention at the National Assembly election, we incorrectly suggested that a predicted 3.5% swing from Labour to the Conservatives would result in a Conservative gain from Labour at Carmarthen West and Pembrokeshire South. In fact, the seat would be won by Plaid Cymru"

Hwn oedd yr awgrym cyntaf ces i fod yna bethau rhyfedd yn mynd ymlaen.

Bellach dwi wedi llwyddo i weld rhai o ystaegau crai yr arolwg (peidiwch gofyn sut).

Wrth drafod eu pleidleisiau etholaethol (y bleidlais gyntaf) fe ddywedodd 182 o bobol wrth NOP eu bod yn bwriadu pleidlesio i Blaid Cymru. Fe ddywedodd 180 eu bod yn bwriadu pleidleisio i'r Ceidwadwyr. Hynny yw roedd mwy o bobol yn bwriadu pleidleisio i Blaid Cymru nac i'r Ceidwadwyr.

Dim ond trwy gyfyngu'r sampl i'r rheiny sy'n gwbwl sicr o bleidleiso y gellir cael canlyniad sy'n gosod y Ceidwadwyr yn yr ail safle.

Dyw gwneud hynny ddim yn anghywir nac, yn wir, yn anarferol. Ond lle mae yna ddau gasgliad o ystadegau sy'n gwthddweud ei gilydd ynglyn â phwnc mor allweddol â phwy sydd yn ail, oni ddylid cyhoeddi'r ddau? Yn sicr dyna y byddwn i wedi ei wneud. Dwi'n meddwl bod gan Blaid Cymru le i gredu eu bod wedi cael cam.

Mick Bates yn sicr o golli!

Vaughan Roderick | 16:48, Dydd Gwener, 13 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli Maldwyn. Pam? Na, nid oherwydd helyntion Lembit ond oherwydd bod ganddynt ymgeisydd sy'n credu bod na flwyddyn arall i fynd cyn yr etholiadau! Sori Mick, mae'n 2007 eleni.

Sicrhau sedd ar y rhestr

Vaughan Roderick | 14:28, Dydd Gwener, 13 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Mae fy nghydweithiwr Guto Thomas a'i wraig Ruth yn disgwyl eu babi cyntaf. Mae'r babi braidd yn hwyr yn cyrraedd ac mae Guto wedi llenwi'r oriau hir trwy wneud tipyn o waith seffolegol. Un felna yw Guto!

Yn seiliedig ar ganlyniadau 2003 mae Guto wedi gweithio allan tua faint o bleidleisiau y byddai'n rhaid i ymgeisydd annibynnol neu blaid ymylol ei sicrhau er mwyn ennill sedd ar yr ail bleidlais. Dyma'r ffigyrau perthnasol i bob rhanbarth.

Canol a Gorllewin Cymru 6.4% (11,855 pleidlais)
Gogledd Cymru 7.9% (13,880 pleidlais)
Canol De Cymru 7.7% (13,978 pleidlais)
Dwyrain De Cymru 6.7% (11,410 pleidlais)
Gorllewin De Cymru 8.9% (12,400 pleidlais)

Ydy'r targedau yma y tu hwnt i gyrraedd yr Annibyns, UKIP, y BNP neu'r Gwyrddion? Dwi ddim yn meddwl eu bod nhw.
Dyw hi ddim yn afrealistig i'r grwpiau yma gredu y gallan nhw ennill llond dwrn o seddi er, wrth gwrs, dim ond y cryfa o'u plith fyddai'n gallu elwa.

Siop Rithwir Jack Brown- Aberconwy

Vaughan Roderick | 09:41, Dydd Gwener, 13 Ebrill 2007

Sylwadau (10)

Mae'n bryd i ni agor ein siop fwcis. Roeddwn yn bwriadau cychwyn gyda phrisiau etholaeth ynysig yn y gogledd-orllewin. Yn anffodus dwi o hyd yn ceisio darganfod sut mae cael to bach ar type-pad (helpwch fi, bobol). Dyma brisiau Aberconwy yn lle.

Plaid Cymru 6-4
Ceidwadwyr 7-4
Llafur 7-4
Dem. Rhydd. 25-1

Sylw Karl Williams; "Dwi'n meddwl mai Plaid Cymru aiff a hon oherwydd cryfder ei hymgeisydd a ffrae Ysbyty Llandudno. Mae'r newid ffiniau yn hynod o anffafriol i Lafur a does gan Denise fawr o fwyafrif fel mae pethau"

O ystyried y prisiau ar bwy ma'ch fiver chi? Gyda llaw os oes na flogiwr Saesneg yn dymuno ail-gynhyrchu'r prisiau mae croeso i chi wneud. Os oes na ddigon o "fetio" fe fydd Karl yn addasu'r "odds".

Dau o'r Bae

Vaughan Roderick | 09:20, Dydd Gwener, 13 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Gwesteion Rhuanedd a finnau ar "Dau o'r Bae" heddiw yw Helen Mary Jones, Martin Eaglestone, Tudor Jones a Suzy Davies. Mae'r rhaglen am 12.15 ar Radio Cymru neu wrth gwrs mae'n bosib gwrando eto.

Lincs

Vaughan Roderick | 09:14, Dydd Gwener, 13 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Mae na erthygl ddiddorol gan Iain Dale am y Toriaid a datganoli yn y Telegraph bore ma. Dwi hefyd wedi sylweddoli nad wyf wedi linicio eto at Maes-e a Blogiadur safleoedd hanfodol i bob Cymro.

Siop Jack Brown

Vaughan Roderick | 17:07, Dydd Iau, 12 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Ma na lawer, fel fi, yn difaru bod cwmni bwcis Jack Brown wedi cael ei draflyncu gan Ladbrokes. Jack Brown oedd yr unig fwci oedd yn cynnig prisiau ar ganlyniadau etholiadau'r cynulliad. Nol yn `99, er engraifft, fe wnaeth Elfyn Llwyd ffortiwn fach trwy broffwydo rhai o fuddugoliaethau annisgwyl Plaid Cymru.

Y gwr oedd yn gosod y prisiau oedd Karl Williams. Cafodd gynnig swydd gan Ladbrokes yn Llundain ond penderfynodd aros yng Nghymru ac erbyn hyn mae'n gweithio fel swyddog diogelwch.

Dwy'n hynod o falch i gyhoeddi fy mod wedi temtio Karl allan o'i ymddeoliad ar gyfer y blog hwn. Mae Karl wedi bod yn pori yn ei lyfrau ac yn ffonio ei gysylltiadau am rai dyddiau ac yfory fe fyddwn yn barod i agor Siop Rithwir Jack Brown yma ar y we.

Fydd hi fi ddim yn bosib betio, wrth gwrs, ond fe fe gewch chi weld beth mae bwci gwleidyddol mwyaf profiadol Cymru yn ei ddisgwyl. Yn y gorffennol mae proffwydoliaethau Karl wedi profi'n fwy cywir na darogan ysgolheigion a newyddiadurwyr. Dim ond yn y fan hon y cewch chi eu gweld nhw.

Jaw Jaw da'r ddwy Jenny

Vaughan Roderick | 16:04, Dydd Iau, 12 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Dwi newydd fod yn ffilmio ar gyfer Maniffesto yn etholaeth Canol Caerdydd a thrwy hap a damwain mi dares i fewn i'r ddwy Jenny, Randerson a Willott, ar eu ffordd i gynnal cymorthfa. Roedd y ddwy mewn hwyliau da iawn. Mae'n anodd peidio bod â'r twydd mor hyfryd heddiw! Ond mae'n taro fi hefyd bod Democratiaid Rhyddfrydol yn bobol sy'n wirioneddol fwynhau etholiadau.
Tipyn o boen yw etholiadau i nifer o wleidyddion y pleidiau eraill, pethau i'w dioddef er mwyn sicrhau sêt am bedair blynedd arall. Ond mae'r Lib Dems yn dwli arnyn nhw gan fwynhau pob eiliad o gynllunio'r daflen Ffocws gynta i gnocio ar ddrws y pledleisiwr llesg olaf ar ddiwrnod yr etholiad.
Dyw Canol Caerdydd ddim yn oren eto. Llafur sy'n ennill y frwydr bosteri yno ar hyn o bryd. Dyw hynny ddim yn debyg o bara'n hir.

Croeso i'r BYD

Vaughan Roderick | 13:12, Dydd Iau, 12 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Hwre! Ar ol hir baratoi daeth diwrnod gwario arlein "Y Byd" Croeso i'r blog-fyd...dwi'n awchu gweld y papur!

Mae son am "Y Byd" wedi fy atgoffa o gyd-ddigwyddiad rhyfedd. Y papur dyddiol cyntaf i gael ei gyhoeddi yn Gymraeg oedd y "Dinesydd Dyddiol" a gyhoeddwyd yn ystod Eisteddfod Caerdydd yn 1978. Golygydd y papur oedd Sian Edwards ond fe fyddai'r fenter wedi bod yn amhosib heb gefnogaeth perchennog Gwasg ap Dafydd, Henri Lloyd Davies, wnaeth symud ei wasg i'r maes er mwyn gallu argraffu dros nos.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach Sian Edwards oedd cadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru. A phwy oedd yn Gadeirydd Ceidwadwyr Cymru ar y pryd? Henri Lloyd Davies.

Mae llawer o fewn y Blaid Geidwadol yn hawlio'r clod am Gymreigio'r blaid a thrawsnewid ei safbwyntiau ar bynciau fel datganoli a'r iaith. Ond, yn ei ffordd dawel ei hun, Henri oedd y gwr wnaeth gychwyn y broses honno a hynny bron i ugain mlynedd yn ol. Am flynyddoedd roedd yn llais unig dros ddatganoli o fewn ei blaid. Mae'n siwr ei fod e wrth ei fodd â'r hyn sy'n digwydd nawr.

Lincs

Vaughan Roderick | 12:19, Dydd Iau, 12 Ebrill 2007

Sylwadau (0)

Dwi ddim yn gwybod lle mae Sanddef yn cael yr egni! Yn ogystal â'i flog Cymraeg mae ganddo un Saesneg un Almaeneg ac un Sbaeneg
Pleidiwr yw Sanddef. I weld ochor arall y geiniog ym Mlaenau Gwent mae blog Luke Young yn ddifyr. Os am ddarllen flog Ceidwadol sy ddim wedi ei sgwennu gan Glyn Davies mae Richard Hazlewood yn bryfoclyd. Dwi wedi bod yn chwilio am flog Rhyddfrydol Cymreig bywiog ar wahan i un Peter Black ond mae nhw'n brin. Yn lle dyma flog rhagorol gan Lib Dem o Rydychen.

Mae rhain, wrth gwrs yn safleodd allanol. Nid yw'r BBC... ayb... ayb....

Ta Ta Tony

Vaughan Roderick | 15:42, Dydd Mercher, 11 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

'Dwi newydd ddod nol o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, a darlith Tony Blair i Siambr Fasnach Caerdydd. Hwn, o bosib, oedd anerchiad olaf Tony Blair fel prif weinidog yng Nghymru, ac roedd digon o ddynion (ac ambell i wraig) busnes yn fodlon talu rhwng £80 a £130 i wrando arno.

Ond roedd ymateb y cyhoedd y tu allan i'r adeilad yn fwy diddorol. Roedd na gyfnod pan oedd Mr Blair yn rhyw fath o seren roc gwleidyddol. Roedd pawb am ysgwyd ei law, pob torf yn ei gymeradwyo a phobol yn gofyn am lofnod neu lun yn ei amgylchynu.

Ac eithrio ambell i ymwelydd o dramor roedd pobol Caerdydd yn gwbl ddi-hid o'r Prif Weinidog heddiw. Cerdded yn yn syth yn ei blaenau wnaeth y rhan fwyaf o bobol ar ol darganfod y rheswm am yr holl blismyn. Roedd y dorf fach wnaeth aros i weld Mr Blair yn gadael ddim yn edmygwyr mawr ohono nac yn ei gasau ychwaith.

Roedd hi bron fel pe bai pobol, gan wybod ei fod ar ei ffordd allan, yn ei ddiystyru'n barod. I wleidydd, go brin bod na unrhywbeth yn fwy poenus na hynny. Fel y dywedodd Enoch Powell "mae gyrfa pob gwleidydd yn diweddu mewn methiant".

Sibrydion a spin

Vaughan Roderick | 12:09, Dydd Mercher, 11 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Un o fanteision blog yw cael ail-adrodd rhai o'r sibrydion a'r spin y mae dyn yn clywed gan y pleidiau a rhoi cyfle i bobol eraill dweud eu dweud amdanyn nhw.

Beth wnewch chi o hon? Dwi wedi clywed o Geidwadwyr ac Phleidwyr fel eu gilydd y gallai Llafur ddod yn drydydd yn Ngorllewin Clwyd ac yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro...heb son am Aberconwy.

Yr ymateb Llafur i hyn yw bod "Christine yn hyderus iawn" a bod "Alun yn gweithio'n rhyfeddol o galed".

Pwy sy'n iawn?

RSS

Vaughan Roderick | 09:49, Dydd Mercher, 11 Ebrill 2007

Sylwadau (0)


Mae'r RSS wedi ei drwsio. Diolch i bawb wnaeth dynnu sylw at y broblem.

Dal yr omnibws

Vaughan Roderick | 08:28, Dydd Mercher, 11 Ebrill 2007

Sylwadau (1)

Does dim byd fel creu tipyn o gynnwrf ar y diwrnod cyntaf! Mae sawl un wedi gofyn beth oeddwn yn ei olygu wrth grybwyll y posiblirwydd o arolwg barn a allai wrthddweud canlyniadau NOP/ITV. Dyma'r esboniad.

Mae na ddwy ffordd i gynnal arolwg barn yng Nghymru, y naill mor ddilys a'r llall. Y ffordd gyntaf yw talu am arolwg unigryw. Dyna mae ITV yn gwneud gan ddefnyddio NOP a dyna beth oedd BBC Cymru'n arfer gwneud gan ddefnyddio Beaufort Research.

Y ffordd arall, rhatach i gynnal arolwg yw trwy dalu am gwestiynau ar arolwg "omnibws" Beaufort lle mae'r cwmni yn gofyn ystod eang o gwestiynau ar ran gwahanol gleientiaid. Mae arolwg y mis hwn yn cynnwys cwestiynau am fwriadau pleidlesio yn etholiadau'r cynulliad. Fe fydd y canlyniadau'n ymddangos yn y wasg Gymreig yn y man.

Does gen i ddim gwybodaeth am ganlyniadau'r arolwg ond dwi wedi gweld canlyniadau "omnibws" diwethaf Beaufort. Plaid Cymru wnaeth dalu am ofyn y cwestiynau y pryd hwnnw ac roedd y canlyniadau'n awgrymu fod y blaid yn gyfforddus yn yr ail safle.

Fe fyddai'n ryfeddol pe na bai canlyniadau'r "omnibws" newydd, sy'n gofyn yr un cwestiwn ac yn defnyddio'r un fethodoleg, er ar ran client gwahanol, yn cynhyrchu canlyniad tebyg. Y gwahaniaeth y tro hwn yw y bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi gan y wasg ac nid ar fympwy plaid ac oherwydd hynny yn cael eu cymryd o ddifri.

Chanticleer

Vaughan Roderick | 18:19, Dydd Mawrth, 10 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Un o'r blogs gwleidyddol Cymreig gorau yw Chanticleer. Ei awdur yw Huw Thomas, newyddiadurwr ifanc o Gwm Llynfi. Dwi ddim yn nabod Huw ond mae safon ei waith yn siarad dros ei hun. Nawr mae Huw yn ystyried lansio fersiwn Gymraeg. Dere 'mlaen Huw. Mae'r hen geiliog yna'n ysu canu yn Gymraeg!

Yn y cyfamser mae Blamerbell wedi bod yn ceisio darganfod pa flogs yw'r rhai mwyaf poblogaidd.

Mae Chanticleer a Blamerbell yn safleodd allanol. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am eu cynnwys.

Rhyfel y Rhosynnau

Vaughan Roderick | 14:35, Dydd Mawrth, 10 Ebrill 2007

Sylwadau (5)

Roedd Rhodri mewn hwyliau da yn y lansiad Llafur heddiw er bod neb cweit yn deall pam y cynhaliwyd lansiad plaid y rhosyn coch yn Ysgol Gynradd y Rhosyn Gwyn yn Nhredegar Newydd. Efallai bod y blaid, sy'n mynnu mai hi yw "gwir blaid Cymru", hefyd am brofi ei bod yn gallu apelio at Efrogiaid yn ogystal a Lancastriaid!
Roedd arweinydd Llafur Cymru hyd yn oed yn fodlon yfed o botel o ddwr coch clir (Vimto fel mae'n digwydd) ar gyfer y camerau.
Beth yw'r rheswm am hwyliau da Rhodri tybed? Wel, hwn yw ei etholiad olaf, wrth gwrs, a doed a ddelo mae'n benderfynol o fwynhau ei hun. Mae e hefyd yn gallu bod yn weddol sicr na fydd beth bynnag sy'n digwydd fan hyn hanner cynddrwg a'r Alban.
Ond y prif reswm, dwi'n credu, am hapusrwydd Rhodri yw arolwg barn NOP/ITV yn gosod y Toriaid yn yr ail safle. Tybed a fyddai fe'r un mor hapus o glywed bod yna o leiaf un arolwg arall ar ei ffordd a allai ddangos canlyniad gwahanol iawn?

Adfeilion

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Mawrth, 10 Ebrill 2007

Sylwadau (1)


Wrth yrru i lansiad y maniffesto Llafur heddiw gyrrais heibio safle fy hen ysgol, Rhydfelen ger Pontypridd. Mae'r ysgol wedi symud i adeiladau ysblennydd Garthfelen... Rhydolwg... neu beth bynnag yw enw'r lle erbyn hyn. Mae'n drist gweld yr hen le, oedd mor bwysig yn hanes y Gymraeg yn y de-ddwyrain, yn dadfeilio. Mae na gasgliad arebnnig o luniau o'r hen le yn ei dyddiau olaf yn fan hyn (Safle allanol)

Gwobr y ganrif

Vaughan Roderick | 07:57, Dydd Mawrth, 10 Ebrill 2007

Sylwadau (2)

Achosais i dipyn o lanast yn lansiad maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol wythnos diwethaf trwy herio cynnwys nifer o'u taflenni etholiad. Yn benodol roeddwn am eu holi am eu tacteg o ddefnyddio siartiau i gymell etholwyr i bleidleiso'n dactegol.

Yn ddi-eithriad mae'r siartiau yn profi mai " dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol all guro Llafur/ Plaid Cymru/ Y Ceidwadwyr yn fan hyn". Digon teg os oes na unrhyw sail go iawn i ddweud hynny. Ond sut gebyst mae'r ffaith bod gan y blaid lwyth o gynghorwyr yng Nganol Caerdydd yn profi mai'r Democratiaid Rhyddfrydol sy'n herio Llafur yn Ne Caerdydd a Phenarth?


Yr enghraifft fwyaf "cheeky" dwi wedi'i darganfod yw'r un yn Ngorllewin Caerdydd sy'n dyfynnu'r "arbenigwr etholiadol" Chris Rennard yn darogan "ras dau geffyl" heb grybwyll y ffaith mai'r Arglwydd Rennard yw Prif Weithredwr y Democratiaid Rhyddfrydol.

Erbyn hyn mae rhai o'r pleidiau eraill wedi dechrau efelychu'r tric bach slei yma. Dyma gystadleuaeth felly. Fe fydd na gasgliad o faniffestos y pleidiau er ei ffordd i bwy bynnag sy'n dod o hyd i'r broffwydoliaeth fwyaf di-sail ar daflen etholiad. Cofrestrwch nhw nawr ac fe wna i eu cymharu â'r canlyniadau go iawn. Mae hwn yn gyfle i ennill rhywbeth y bydd eich teuluoedd yn trysori am genedlaethau i ddod!

Croeso!

Vaughan Roderick | 07:40, Dydd Mawrth, 10 Ebrill 2007

Sylwadau (3)

Hello! Tra y'ch chi wedi bod yn mwynhau penwythnos y pasg mae criw bach "Cymru'r Byd" wedi bod wrthi yn ail- addurno fy nghornel fach o'r rhyngrwyd. O hyn tan yr etholiad, o leiaf, fe fydd y golofn achlysurol "O Vaughan i Fynwy" yn troi yn flog go iawn. Mae'n golygu y bydd yn rhaid i mi ddiweddaru'r peth yn amlach ac na fydd Martin Huws a'i griw yn sicrhai nad wyf yn rhoi fy nhroed ynddi nac yn cywiro gwallau sillafu cyn cyhoeddi. Dwi'n dechrau difaru'n barod fy mod wedi brwydro dros gael gwneud y peth!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.