Pethau peryg yw'r ceisiadau rhyddid gwybodaeth yma! Gofynnwch i Rhodri Morgan.
Mae'r Prif Weinidog wedi gorfod ymddiheuro heddiw am gyhuddo'r Democratiaid Rhyddfrydol o balu celwyddau ynghylch treuliau gweision sifil. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod celwydd wedi ei ddweud...ond nid gan Kirsty Williams! Cerwch draw i flog Betsan am y manylion.
Yn y cyfamser fe ddefnyddiodd Cymdeithas yr Iaith y ddeddf i ofyn pa gyngor cyfreithiol yr oedd y Pwyllgor Dethol Cymreig wedi derbyn wrth baratoi ei adroddiad ynghylch yr LCO iaith. Efallai eich bod yn cofio bod y pwyllgor yn poeni y gallai'r LCO, neu fesur yn seiliedig arno, fod yn agored i sialens gyfreithiol. "Pwy roddodd y cyngor hwnnw?" oedd y cwestiwn digon rhesymol gan y Gymdeithas.
"Nid oes dogfen yn ymateb i'r disgrifiad hwn" oedd yr ymateb gan y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth i'r cais.
"Pwy roddodd y cyngor hwnnw?"
Neb neu felly mae'n ymddangos.
Fel dywedais i, peth peryg yw'r busnes rhyddid gwybodaeth yma.
Blydi gwangod. Ugain mlynedd yn ôl fe es i gyfarfod gyda swyddogion adran ffyrdd yr hen Swyddfa Gymreig i drafod y problemau traffig yng Nghasnewydd. Yr unig ateb i'r broblem yn ôl y swyddogion oedd codi traffordd newydd i'r de o 'r dref. Fe fyddai methu gwneud hynny yn andwyol i holl economi De Cymru.
Heddiw, a thref Casnewydd bellach yn ddinas, fe es i gyfarfod digon tebyg a swyddogion trafnidiaeth y cynulliad. Y neges y tro hwn oedd bod y cynllun yn gelain. Y rheswm penna am hynny yw'r gost. Amcangyfrifir erbyn hyn y byddai codi traffordd newydd yn costio oddeutu biliwn o bunnau yn rhannol oherwydd y gost o sicrhau nad oedd pysgod Afon Wysg, yn arbennig y gwangod, yn cael eu haflonyddu. Blydi gwangod.
Dyw'r broblem ddim wedi diflannu, wrth gwrs. Sut mae ei datrys, felly? Wel mewn nofel i blant, rhywbeth gan T Llew Jones neu JK Rowling, fe fyddai un o'r plant yn darganfod ateb syml, hwylus, rhywbeth nad oedd yr holl oedolion peniog wedi sylwi arni. Rhywbeth fel ffordd ddeuol, gyflym oedd eisoes yn bodoli yn rhedeg yn gyfochrog a'r draffordd arfaethedig.
Coeliwch neu beidio dyna'n union sydd wedi digwydd. Mae'r fath ffordd yn bodoli, ffordd a adeiladwyd gan y gorfforaeth ddur i gyflenwi gwaith Llanwern. Fe fydd hi'n costi ugain miliwn o bunnau i'w haddasu a'i chysylltu â'r rhwydwaith ffyrdd. Anhygoel. Pam na wnaethpwyd hynny yn y lle cyntaf?
Un peth bach arall sy'n werth eu nodi yn y cynllun trafnidiaeth cenedlaethol yw'r bwriad i gynnal arbrawf trwy ymestyn un o leiniau rheilffyrdd y cymoedd trwy adeiladu system tram. Mae 'na nifer o lefydd lle y gellid gwneud hynny. Ymhlith y rhai amlwg mae ymestyn lein Maesteg er mwyn cyrraedd Caerau a chysylltu Abertyleri a lein Cwm Ebwy. Ond, o gofio mai Simon Thomas a Rhuanedd Richards yw cynghorwyr arbennig Ieuan Wyn Jones, a bod y ddau yn dod o Gwm Cynon, rwy'n fodlon mentro y bydd gwasanaeth rhwng Hirwaun ac Aberdâr yn uchel ar y rhestr fer!
Mae Alun Davies wedi llwyddo yn ei ymdrech i gael ei ddewis fel ymgeisydd cynulliad Llafur Blaenau Gwent. Doedd hynny ddim yn dasg hawdd. Roedd Alun yn wynebu hen ddigon o gystadleuaeth. Dyw pobol Llafur ddim yn meddwl y bydd brwydr y Blaenau yn un hawdd ond roedd 'na ddigon o ramant a "kudos" yn perthyn i hen etholaeth Bevan a Foot i ddenu llwyth o ymgeiswyr credadwy.
Nid hwn fydd y tro cyntaf i Alun sefyll yn etholaeth ei febyd. Fe safodd yno i Blaid Cymru yn ôl yn y nawdegau. David Melding oedd yr ymgeisydd Ceidwadol ar y pryd ond bo brin y bydd hwnnw yn mentro yn ôl i gymoedd Gwent yn 2011! Un peth sydd yn debygol yn sgil y dewisiad yw y bydd Trish Law yn sefyll unwaith yn rhagor. Mae Trish yn wleidydd trwy hap a damwain. Dyw hi ddim yn berson cyhoeddus o'i hanian. Serch hynny, mae ymosodiadau Alun arni wedi ei brifo'n bersonol a go brin y bydd hi'n fodlon rhoi rhwydd hynt iddo etifeddu sedd ei diweddar ŵr.
Cyn yr etholiad cynulliad wrth gwrs fe gynhelir yr ornest seneddol gyda Dai Davies yn cario baner "Llais y Bobol". Nick Smith fydd yn sefyll i Lafur yn yr etholiad hwnnw ac mae'n anodd meddwl am ddau gymeriad mwy gwahanol i'w gilydd na Nick ac Alun. Mae Nick yn dipyn o "charmer" i ddefnyddio term hen ffasiwn- y fath o ddyn y byddai'ch Nain yn dwli cynnig paned o de a darn o fara brith iddo fe. Mae Alun, ar y llaw arall, yn fwy o baffiwr gwleidyddol, yn ddyn sy'n mwynhau colbio ei wrthwynebwyr.
Fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae'r ddau yn cydweithio a'i gilydd a pha dacteg sydd fwyaf effeithiol. Un fantais sydd gan y ddau yw canlyniadau'r etholiadau lleol diwethaf. Roedd ymosod ar gyngor Llafur amhoblogaidd yn arf effeithiol iawn yn nwylo "Llais y Bobol". Erbyn hyn mae'r cyngor yn cael ei redeg gan ryw "licrish all-sorts" o glymblaid gwrth-Lafur- clymblaid sy'n cynnwys "Llais y Bobol". Mae 'na beryg y gallai rebeliaid "Llais y Bobol" gael eu gweld fel rhan o'r sefydliad lleol pan ddaw'r etholiadau nesaf.