Tra Bo Dau: Adrian a Sara Lloyd Gregory

Dydd Gwener 29 Awst 2014, 11:25

Nia Roberts - Cyflwynydd Nia Roberts - Cyflwynydd

Wrth drefnu'r deuawdau ar gyfer Tra Bo Dau roeddwn i yn awyddus, o fewn y gyfres o chwech, i gael gymaint o amrywiaeth o fewn y cyfuniadau ag oedd modd.

Un cyfuniad amlwg ar y rhestr oedd perthynas waed, brawd a chwaer neu fam a merch efallai, tad a mab... a'r ddeuawd ddaeth i'r brig y oedd tad a merch o Ddyffryn Aman, Adrian a Sara Lloyd Gregory.

Adrian a Sara Gregory Adrian a Sara Gregory

Y tad yn rhan o ddeuawd boblogaidd fu'n diddanu sawl Mrs Jones a degau o'i phlant cyn mynd ati i dynnu coes a chwarae triciau, gan ein rhybuddio, efo'i frawd, "nad oedd neb yn saff rhag Y Brodyr Bach!"

Y ferch yn un o'n hactoresau ifanc mwyaf adnabyddus. Fe grewyd rhan Alys yn y gyfres deledu ddiweddar ar S4C ar ei chyfer gan yr awdur Siwan Jones. Mi enillodd hi BAFTA Yr Actores Orau am ei pherfformiad a mae ganddi hi ddegawd o brofiad yn action ar lwyfan, ffilm a theledu yn barod. Mae hi ne ydd orffen ffilmio Dan Y Wenallt / Under Milk Wood efo'r Cyfawyddwr Kevin Allen ac mi ddywedodd Sara y basa Dylan Thomas yn "Falch iawn o'r cynhyrchiad".

Yn Y Pantyffynnon Social Club yn Rhydaman y cefais i gwmni'r ddau, gan edrych ar lwyfan maint stamp, ond llwyfan arwyddocaol iawn yn hanes Adrian a'i Dad, oedd hefyd yn ganwr a diddanwr.

Mi ddaeth yn amlwg fod creu adloniant yng ngwaed y teulu, a stori'r diddanu yn amrywio o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid y trywydd eisteddfodol , traddoiadol ddilynodd y teulu yma, y clybiau oedd eu meithrinfa nhw. Yng nghanol y mwg a'r cwrw y dysgon nhw pa mor galed oedd y busnes adloniant.

Heb y mwg na'r cwrw yr eisteddais i efo Adrian a Sara i fwynhau sgwrs a dysgu am eu perthynas a'u byd.

 

Sylwadau

Rhowch y sylw cyntaf

Mwy o gofnodion

Blaenorol
Ar Y Marc: Groundhoppers yng Nghymru

Dydd Iau 28 Awst 2014, 08:26

Nesaf
Blog Alex yn Galw

Dydd Gwener 29 Awst 2014, 12:33

Ynglŷn â’r blog

Mae Blog Radio Cymru yn cynnwys newyddion, gwybodaeth am raglenni, cyflwynwyr a lluniau.

Diweddariadau Blog

Darllenwch y diweddaraf gyda chofnodion cyfredol o'r blog hwn.

Tanysgrifiwch trwy ddefnyddio:

Beth yw'r porthwyr?

Podlediadau

Podlediadau Radio Cymru Mae Radio Cymru nawr yn cynnig dewis ehangach o bodlediadau.

Podlediadau Radio Cymru

Dilyn Radio Cymru

Dilynwch BBC Radio Cymru (@bbcradiocymru) ar Twitter neu ar Facebook i gael y newyddion diweddaraf am raglenni a dolenni diddorol.

Radio Cymru ar Twitter

Radio Cymru ar Facebook