Gwrando
19/01/2019
BBC Radio Cymru

    Cynlluniau newydd Cymdeithas Beldroed Cymru

    Blogiwr Ar y Marc

    Tydi ddim yn edrych fel petai chyfarchion y Nadolig ddim am gael lle canolog ym mywyd aelodau a swyddogion Cymdeithas Peldroed Cymru eleni. Yn dilyn ymdrechion y Prif Weithredwr, Jonathan Ford, ynghyd a chefnogaeth y Llywydd Trefor Lloyd Hughes, i foderneiddio’r drefn mae'r Gymdeithas yn cael ei gynnal, agorwyd drysau uffern gyda’r aelodau yn wfftio llawer o’r cynigion.

    Ymddengys nad oes fawr o newidiadau wedi cael eu gwireddu yn hanes trefn y Gymdeithas, hanes sy’n ymestyn yn ôl dros gant tri deg a saith o flynyddoedd. Cymaint oedd awydd y Prif Weithredwr i symud y Gymdeithas ymlaen i'r unfed ganrif ar hugain, nes iddo ymgynghori ac aelodau o lywodraeth Cymru. Ond pan ddaeth yn amser i rai gwladgarwyr tra mad roi terfyn ar eu balchder a'u hunan bwysigrwydd o'u lle ar y cyngor, neu i leihau eu dylanwad ar y gêm yn eu bur hoff bau, i'r lawr i'r baw yr aeth y cynllun!

    Mae’r ymateb yn atgoffau rhywun o’r llinell farddonol honno gan David Davies (Castell Hywel) beth amser yn ôl wrth iddo ddweud ‘ i lawr i'r baw yr a’r balch’ - tybed a oedd o hefyd gyda rhyw weledigaeth oedd o flaen ei amser? Mae hyn yn dod a ni at linell arall o farddoniaeth( tybed a oedd yr hen feirdd yma yn gwybod beth oedd am ddigwydd i bêl droed yng Nghymru rhyw ddydd?) sef, mae angen dyn cymwys doeth i drin creadur annoeth !’ - ac felly dwi’n ei gweld hi ar hyn o bryd.

    Digon o siarad, digon o ddweud, ond pan ddaw'r awr, ychydig o ddoethineb ac yn y diwedd, ni symudir ni! Tybed a yw rhai o'r aelodau yma yn ymddwyn fel yma yn eu dyletswyddau eraill, boed hynny yn gadeiryddion neu aelodau o bwyllgorau eraill o fewn eu cymunedau?

    Diddorol fyddai cael gwybod sut arweiniad a gweledigaeth maent yn eu cynnig mewn cyd destunau eraill, a sut y maent wedi llwyddo, neu fethu a llwyddo, i arwain a rheoli o fewn dyletswyddau eraill. A’i pobol sydd wedi bod yn effeithiol mewn meysydd eraill ydi'r garfan ddylanwadol sy'n gwrthwynebu'r datblygiadau newydd yma? Mae’n debyg na chawn fyth wybod!

    Wrth gwrs mae aelodau eraill yn llawn barod eu cefnogaeth, ond hyd nes ceir mwyafrif a fydd yn eu cefnogi, ni fydd yna unrhyw newid! Be felly sydd ymateb ein swyddogion pêl droed a beth a allant ei wneud heb roi'r ffidl yn y to?

    Mae symudiadau llewyrchus wedi digwydd yn ddiweddar megis panel archwilio er mwyn gwireddu penderfyniadau is bwyllgorau cyn i’w penderfyniadau gael eu cyflwyno i’r pwyllgor llawn, sicrhau llais i'r merched o fewn y Gymdeithas, drwy gynrychiolydd o Uwch Gynghrair y merched , ynghyd ac aelodaeth hefyd ar ran Uwch Gynghrair y dynion.

    Nid ar chwarae bach y cyflwynwyd syniadau newydd ar gyfer gwelliant i'r dyfodol.

    Cynhaliwyd trafodaethau gydag Uwch Gynghrair Lloegr a hefyd swyddogion Undeb Rygbi Seland Newydd, er mwyn cynnig syniadau a fyddai wedi gweld corff gweithredol newydd o naw aelod a fyddai yn cynnwys arbenigedd mewn pêl droed, ynghyd a medrau byd busnes.

    O leiaf mae’r aelodau wedi cytuno i leihau oedran aelodau yn y dyfodol; neb o dan saith deg yn 2016, gan ddod i lawr i chwe deg pump erbyn diwedd y degawd! Wel dyna fy syniadau llawn balchder i am rywbeth i wneud yn fy henaint wedi mynd i lawr i'r baw!

    Ond mae llygedyn o obaith am y dyfodol. Ymddengys y gallai swyddogion y Gymdeithas ddefnyddio deddfwriaeth i sicrhau newidiadau os nad yw'r corff yn dangos ei fod yn addas ar gyfer ei bwrpas. Mae gen i deimlad mai dyna be fydd yn rhaid ei wneud os am sicrhau dyfodol effeithiol a chyfoes i'r gêm yng Nghymru na fydd yn cael ei lygru gan blwyfoldeb a hunan fudd.

    Ie, nid achub y Gymdeithas sydd ei angen mwyach, ond gwneud y Gymdeithas yn werth ei achub. Er waethaf hyn i gyd , tydi Trefor Lloyd Hughes na Jonathan Ford ddim am sefyll yn llonydd ac mae mwy o gynigion ar gyfer gwelliant ar y gweill i'w trafod ym mis Ionawr .

    Hwyrach y daw mwy o'r aelodau i ddeall na fydd segurdod y gorffennol yn dderbyniol mwyach.

    Ymddengys hefyd fod aelodau etholedig y clybiau sy’n aelodau llawn o'r gymdeithas wedi cyfarfod cyn derbyn y cynigion er mwyn sicrhau fod llais unfrydol yn cael ei gynnig a chytuno ar y gwelliannau. Mae hyn yn arwydd fod pethau yn dechrau symud ymlaen.

    Edrychaf ymlaen am weld mwy o welliannau yn cael eu cyflwyno yn y flwyddyn newydd.

    Loading...

    Mwy o negeseuon

    Blaenorol

    Nesaf