Gwrando
06/07/2015
BBC Radio Cymru
Blog Radio Cymru

Erbyn heddiw d’oes dim amheuaeth mai pêl-droed ydi'r gêm fwyaf poblogaidd o gwmpas y byd. Edrychwch ar y sylw rhyngwladol mae Gareth Bale yn ei gael ar ol iddo arwyddo i Real Madrid.

Eleni gyda Llyfrgell Brydeinig yn dathlu canmlwyddiant a hanner ers ei sefydlu, mae’r copi gwreiddiol( yn llawysgrifen Ebeneser Cobb Morley, sef ysgrifennydd cyntaf y Gymdeithas Bêl-droed) o reolau'r gêm a ysgrifennwyd yn 1963, yn cael arddangos yno wrth ochr llyfrau allweddol eraill megis y Magna Carta.

Mae’r copi gwreiddiol wedi ei brisio am £2.5 miliwn - swm enfawr ond fyddai hyn ddim hyd yn oed yn eich galluogi i brynu cefnwr i’ch tîm y dyddiau yma!

Cyhoeddodd y beirniad llenyddol, Melfyn Bragg fod y llawysgrif wreiddiol yn un o’r deuddeng llyfr a newidiodd y byd, a hebddynt mae’n debygol na fuasai Cwpan y Byd nac unrhyw gystadleuaeth arall, erioed wedi gweld golau dydd!

Pwyllgor o fyfyrwyr o Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a sefydlodd y rheolau yma, yn sgil datblygiad y gêm newydd a’r gwahanol reolau a oedd yn bodoli eisoes ac yn creu cryn drafferth a dadlau ynglŷn â sut i’w gweithredu. Datblygodd y gêm ymysg yr ysgolion bonedd am fod yr athrawon yn ystyried pêl-droed fel dull effeithiol o greu disgyblaeth tîm, yn ogystal â throsglwyddo egwyddorion Cristnogol y cyfnod o buro'r corff . Ond nid gyda’r bonheddwyr y dechreuodd pethau.

Mae cyfeiriadau cynharach yn ein harwain tuag at y werin Gymreig, ac i Siroedd Aberteifi a Phenfro, lle'r oedd chwarae’r ‘cnapan’ yn rhan annatod o fywyd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Ceir llythyr gan Anne Beynon o Fargoed, Llandysul, a anfonwyd i’w chwaer Mary (a ymfudodd gyda’r Crynwyr i’r Unol Daleithiau) yn cyfeirio at gêm bêl-droed rhwng meibion plwyfi Llandysul a Llanwenog ar ddydd Nadolig 1719. Pêl-droed oedd y disgrifiad swyddogol o’r achlysur, ond brwydr waedlyd oedd yr hyn a ymddengys a ddigwyddodd!

Mae’n debyg nad oedd llawer o reolau a ddyfeisiwyd yn 1863 wedi eu cynnwys yn y cnapan cynnar, ond pan aeth pwyllgor y Prifysgolion ati i greu trefn, roedd Cymro yn eu mysg, sef Henry Lewis Williams.

Mab teulu John Williams, Highfield Hall yn Llaneurgain yn sir y Fflint oedd Henry Lewis. Cyn disgybl yn Ysgol Fonedd Harrow, aeth yn fyfyriwr i Gaergrawnt. Graddiodd i fod yn offeiriad yr Eglwys yn Lloegr, gan ddilyn yr alwad i ardaloedd Bebington ( ar Benrhyn Cilgwri), Wakefield a Nottingham.

Mae egwyddorion sylfaenol rheolau Henry Lewis Williams a’i gyfoedion yn parhau, ond diddorol ydi nodi'r rheol sy’n dynodi pan fo’r bel wedi croesi'r linell derfyn, bydd y gêm yn cael ei hail gychwyn gan aelod o’r tîm sydd y cyntaf i gyffwrdd a’r bel ar ôl iddi groesi’r llinell. Dyna fathu enw newydd i’r iaith Saesneg, sef y ‘touchline’!

Un o reolau 1863 oedd caniatáu i unrhyw chwaraewr ddal y bel a’i ddwylo, ond bod rhaid wedyn defnyddio’r droed os am geisio pasio’r bel i aelod arall o’r tîm! Ystyriwch hefyd y bedwaredd reol ar ddeg, sy’n caniatáu gwthio gyda’r ysgwydd, ond fiw i unrhyw un ddal neu wthio gyda’i ddwylo, na chwaith faglu na chrimpio coes ( Saesneg) ei wrthwynebwr ! Roedd y goliau i fesur pymtheng troedfedd o led, o un polyn i’r llall, a d’oedd dim trawst yn ymestyn o un pen o’r gôl i’r llall chwaith.

Mae ysgrifau llenyddol eraill i’w gweld yn yr arddangosfa, gyda chylchgronnau cefnogwyr a llyfr am y gêm gan John Goodall a gyhoeddwyd yn 1905 yn disgrifio sut i chwarae a'r fath o natur ddynol sydd ei angen i ymdopi. Dywed Goodall “..nad oes yna unrhyw gêm a allai ddeffro angerdd a chreu drygioni yn fwy na phêl-droed, ac felly bydd angen atal y natur reddfol a sicrhau digon o hunan ddisgyblaeth ar y chwaraewyr! .

Aeth yr awdur ymlaen i ddweud “ rhaid felly sicrhau tymer dda wrth chwarae’r gemau.” Mae yna fwy na chan mlynedd wedi mynd heidio, a d’oes dim byd wedi newid nag oes! Wrth ysgrifennu'r rheolau gwreiddiol sicrhaodd y pwyllgor dethol fod y rheolau yn ymgorffori gonestrwydd, gwroldeb a sgiliau'r chwaraewyr, a pheri'r rhain fel rhinweddau hanfodol y gêm hyd heddiw.

Wrth i chi fwynhau dechrau’r tymor newydd, cofiwch am gyfraniad byd-eang Henry Lewis Williams, y Cymro o Laneurgain un fu’n allweddol mewn sefydlu'r egwyddorion sy’n cael eu hadlewyrchu gan bob un sydd yn chwarae’r gêm ledled y byd heddiw.

Pob lwc i’r Cymro arall, Gareth Bale sydd hefyd yn rhoi ei enw yn y llyfrau hanes ar ol ei symudiad drudfawr i Real Madrid.

 

Comments

Be the first to comment.

All posts are pre-moderated and must obey the house rules.

with your BBC iD, or Register to comment and rate comments

More Posts

Previous

Next