« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Amserlen Newydd Radio Cymru

Categorïau:

Lowri Davies Lowri Davies | 14:04, Dydd Llun, 24 Medi 2012

Mae'n gyfnod cyffrous ar Radio Cymru wrth i ni lansio amserlen newydd sbon ar Hydref 1af fydd yn cynnwys cyflwynwyr a rhaglenni newydd sbon, yn ogystal a lleisiau cyfarwydd yr orsaf. Bydd y cyfan yn cychwyn am 05.30 bob bore gyda chyfle arall i glywed rhai o raglenni cerddorol yr orsaf megis Taro Nodyn, Hywel Gwynfryn, Ar Eich Cais gyda Dai Jones, Richard Rees a Sesiwn Fach (mwy am y rhaglen honno nes ymlaen!). 

Fe fydd y Post Cyntaf yn dod â'r newyddion diweddaraf o Gymru a'r byd fel arfer am 06.30 gyda Dafydd a Caryl yn dilyn am 08.30 – a dwi'n edrych ymlaen at fore Llun Hydref 1af pan fydd artist gwadd yn dod mewn i'r stiwdio at Daf a Caryl i berfformio Can Babis mis Medi. Yna, am 10.30 bob bore, Llun i Gwener, fe fydd Iola Wyn yn cyflwyno rhaglen newydd sbon yn fyw o stiwdio Caerfyrddin. Yn wyneb a llais cyfarwydd fel cyn-gyflwynwraig Ffermio ar S4C, a newyddiadurwarig ar Radio Cymru, mae Iola'n wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw gyda'i theulu yn Sanclêr. “Dwi wrth fy modd yng nghanol pobl a bydd darlledu yng nghanol fy nghymuned fy hun yn gyffrous iawn” meddai Iola. Bydd ei rhaglen yn gymysgedd eang o gyfrannwyr ac eitemau - o filfeddygon, garddwyr a chynghorion i hel achau a chynnwys o'r archif, a bydd cerddoriaeth y rhaglen gartrefol hon yn cynnwys corau, gwerin a cherddoriaeth glasurol.

Iola Wyn

Iola Wyn

Yna, am 12.30 fe fydd Dylan Jones yn Taro'r Post efo rhaglen estynedig tan 2. Bydd rhaglenni amrywiol gan gynnwys fferfynnau megis Y Talwrn, Dramau, Manylu, Stiwdio ac O'r Bae gyda Vaughan Roerick yn symud i 2 o'r gloch, gyda Nia Roberts yn cyflwyno yn y prynhawn o Ddydd Llun i Ddydd Iau – rhwng 2.30 a 5. Ac ar brynhawn Gwener fe fydd y penwythnos yn cychwyn o ddifri (neu ddim!) gyda Tudur Owen a'r criw am 2.30, cyn ei raglen ar bryhnawn Sadwrn rhwng 12 a 2.

Tudur Owen

Tudur Owen

Gyda rhifyn estynedig o'r Post Prynhawn am 5 bob dydd, fe fydd rhaglenni fel Dan yr Wyneb efo Dylan Iorwerth, Dei Tomos, Cofio a Beti a'i Phobl yn dilyn am chwarter wedi 6. Bydd C2 yn cychwyn am 7 gyda Huw Stephens bob nos Lun, Ifan Evans ar nos Fawrth, Lisa Gwilym ar nos Fercher a Georgia Ruth ar nos Iau – ac fe fydd Gwilym Rhys o'r grwp Y Bandana yn cyflwyno bob nos Wener ychydig yn gynt am hanner awr wedi 6. A gyda'r hwyr bob nos rhwng 10 a hanner nos fe fydd Geraint Lloyd yn gwmni i ni gyd cyn gwely gyda digon o gerddoriaeth, ceisiadau, sgyrsiau ac ambell i bôs.

Lisa Gwilym

Lisa Gwilym

Bydd ychydig o newid i'r penwythnosau ar Radio Cymru hefyd, gyda Hywel Gwynfryn yn cyflwyno rhaglen estynedig fydd yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau'r wythnos yn ogystal â pharhau i grywdro Cymru'n darlledu o gymunedau a digwyddiadau ar draws y wlad. Ac yna, ar brynhawn Sul am 3 o'r gloch bydd Sesiwn Fach yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth werin ac acwstig yng nghwmni Idris Morris Jones. A bydd cyfle i glywed y rhaglen newydd hon unwaith eto, fel wnesh i son ar y dechrau, bob bore Gwener am 05.30 – neu drwy fynd i wefan Radio Cymru lle mae cyfle arall i glywed bob un o raglenni'r orsaf drwy'r I-Player.

Bydd Radio Cymru ar ei newydd wedd felly'n cynnig rhaglenni newydd cyffrous, yn ogystal â chadw rhai o'r fferfynnau sydd mor greiddiol i'r gwasanaeth. Dwi'n mawr obeithio y byddwch chi'r gwrandawyr – y bobl bwysicaf – yn mwynhau'r arlwy newydd ar gyfer y dyfodol.

Lowri Davies, Golygydd Rhaglenni Cyffredinol Radio Cymru

 

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.