« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Manylu: Gwasanaeth i Brofi Iechyd Anifeiliaid yng Nghymru dan Fygythiad

Categorïau:

Criw Manylu Criw Manylu | 12:19, Dydd Llun, 16 Ionawr 2012

Mae ffrae wleidyddol wedi codi yn sgil penderfyniad i gael gwared ar y gwasanaeth i brofi iechyd anifeiliaid yng Nghymru.

Yn ystod yr Hydref fe gyhoeddodd yr asiantaeth labordai milfeddygol, neu’r AHVLA, eu bod yn israddio nifer o labordai dros Brydain, gan gynnwys yr unig ddau labordy milfeddygol yng Nghymru -yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth.

Gan fod amaeth yn bwnc sydd wedi ei ddatganoli, mae undebau amaethyddol yn galw ar lywodraeth Cymru i’w hamddiffyn.

Ac mae Plaid Cymru wedi cyhuddo llywodraeth Cymru o droi cefn ar y gymuned amaethyddol. 

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig, Llyr Huws Gruffydd, dyw llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud digon i amddiffyn y gwasanaeth hwn i amaethwyr;

"Dyw hi ddim yn dderbyniol bod Llywodraeth Cymru ddim wedi rhoi digon o ffeit lan. Mae cefn gwlad wedi cael sawl ergyd - ble fydd pethau’n mynd nesa?"

Ond yn ôl llywodraeth Cymru,  penderfyniad i Weinyddiaeth Amaeth y Deyrnas Unedig - DEFRA - yw hwn.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru eu bod yn trafod gydag asiantaeth y labordai milfeddygol - yr AHVLA - ac wedi gofyn am gadarnhad ynglyn a dyfodol y gwasanaeth.

Ond mae’r gwrthbleidiau yn bendant fod angen brwydro’n galetach i warchod y gwasanaeth profi milfeddygol yng Nghymru.

Manylu, 6pm nos Lun 16eg Ionawr.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.