« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dylan Iorwerth dan yr wyneb

Newyddion Newyddion | 08:44, Dydd Llun, 3 Hydref 2011

Bydd rhaglen wythnosol newydd ar BBC Radio Cymru yn mynd dan groen pob math o wahanol bynciau.

 

 Cyflwynir y rhaglen newydd, Dan yr Wyneb gan Dylan Iorwerth ac fe'i darlledir yn ystod yr amser y darlledwyd Wythnos Gwilym Owen. 

 

Bydd y rhaglen newydd wythnosol yn edrych ar newyddion a phenawdau’r dydd, o ongl wahanol a thrwy lygaid craff Dylan ei hun. Bydd hefyd yn cymryd golwg ar newyddion cyffrous nad yw o reidrwydd yn ei gwneud hi i’r penawdau dalen flaen - datblygiadau technolegol, meddygol neu wyddonol.

 

 

 

Ag yntau wedi bod yn newyddiadurwr ar bapur lleol, yn ohebydd gwleidyddol BBC Cymru yn San Steffan ac wedi sefydlu cylchgrawn Golwg, gwasanaeth newyddion Golwg 360, comic WCW, papur dydd Sul Cymraeg ac yn golofnydd i’r Western Mail a sylwebydd cyson  ar amrywiol raglenni, sut bydd Dylan Iorwerth yn delio â’r her hon o gael ei raglen fyw ei hun?

 

“Mae’n dipyn o her i gyflwyno rhaglen yn hen gornel Gwilym Owen,” meddai. “Mi fydda innau’n holi’r cwestiynau caled ond yn fy ffordd fy hun. Y nod ydi rhaglen sy’n mynd dan groen pethau, yn holi sut a pham am bob math o bynciau, o wleidyddiaeth i hanes a gwyddoniaeth a’r holl newidiadau anferth sy’n effeithio ar ein bywydau bob dydd.

 

“Bob tro, gobeithio, mi fydd gynnon ni sgwrs un-ac-un yn rhoi cyfle i holi un person yn ddwfn am brofiad, barn, neu bwnc - ond mi fydd yna hefyd drafodaethau ehangach ac ambell i dding-dong hen ffasiwn am destun llosg. A’r cwestiwn pwysica’ bob tro wrth benderfynu ar stori i’w chynnwys – ydi hyn yn ddiddorol?”

 

Ac meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru;

 “Mae yna barch aruthrol i Dylan Iorwerth fel newyddiadurwr yma yng Nghymru ac ryden ni yn falch iawn o gynnig cyfres newydd fel hon i wrandawyr yr orsaf. Mae gan Dylan y ddawn i fynd o dan wyneb stori a rhoi ongl newydd, ddifyr  ar benawdau’r dydd. Mae hefyd yn ddarlledwr ffraeth a chraff a rydyn ni’n ffyddiog y bydd yn ychwanegiad cyffrous i ddarlledu dechrau’r wythnos ar Radio Cymru.”

 

Darlledir Dan yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth, o ddydd Llun, Hydref 3, BBC Radio Cymru, 1.15pm

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.