« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwilym Owen yn ffarwelio â'i raglen a'r radio

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 09:03, Dydd Llun, 25 Gorffennaf 2011

Wedi dros 40 mlynedd o newyddiadura, bydd un o ddarlledwyr amlycaf yr iaith yn cyflwyno ei raglen olaf ddydd Llun (Gorffennaf, 25, 1.15pm). Bydd Gwilym Owen yn cyflwyno’r rhifyn olaf o Wythnos Gwilym Owen ar BBC Radio Cymru, rhaglen sydd dros y blynyddoedd wedi ymhyfrydu mewn tynnu blewyn o drwyn y sefydliad Cymreig.

Mae gyrfa Gwilym Owen wedi bod yn un ddisglair a maith. Bu’n ohebydd teledu yn y Gogledd i gwmni TWW ac wedyn i HTV, lle daeth yn bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes cyn ymuno â BBC Cymru.

Yn ei gyfnod gyda BBC Cymru bu’n gwneud nifer o swyddi golygyddol gan gynnwys Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes Cymraeg. Er iddo ymddeol dros 10 mlynedd yn ôl, mae wedi parhau ar ei liwt ei hun yn cyflwyno.

Wythnos Gwilym Owen yn wythnosol yn ogystal â rhifynnau amrywiol o Manylu ar Radio Cymru.

"Mae cyfraniad Gwilym i newyddiaduraeth yn y Gymraeg wedi bod yn un unigryw," meddai Keith Jones, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

"Dros y blynyddoedd mae wedi cadw llygad barcud ar sefydliadau, gwleidyddion, cynghorau ac ati yn ogystal â chadw ei fys ar byls y genedl a’r iaith. Ar ei raglenni tydi ateb llipa, llithrig byth yn cael ei anwybyddu ac mae yn ei elfen yn herio’r hunanfodlon neu’r hunanbwysig. Wrth gwrs gyda’i lais cadarn, ei arddull bendant a’i benderfyniad digyfaddawd wrth fynd ar ôl rhai o straeon a phersonoliaethau mwyaf Cymru, mae Gwilym wedi cynhyrfu’r dyfroedd dros y blynyddoedd."

"Hoffwn ddiolch iddo am ei gyfraniad sylweddol i ddarlledu yn y Gymraeg a dymuno’n dda iddo. Iddo fo hefyd mae’r diolch, (neu arno fo mae’r bai!) fy mod i’n gweithio i’r BBC o gwbl ac rydw i’n ddiolchgar am hynny’n ogystal."

Bydd y newyddiadurwr Guto Harri yn holi Gwilym Owen am ei yrfa yn y Babell Lên ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Cylch, Dydd Mawrth, Awst 2, a bydd y sesiwn honno i’w chlywed ar raglen arbennig ar BBC Radio Cymru (Llun, Awst 8).

Gwrandewch ar Gwilym Owen ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul yn trafod ei yrfa.

 

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

 

 

 

 

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.