« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfweliad Penblwydd Tim Rhys Evans

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 09:20, Dydd Llun, 20 Mehefin 2011

Ers pan oedd o’n 5 oed roedd Tim Rhys Evans a’i fryd ar wneud ei fywoliaeth ym maes cerddoriaeth. 

 

Tim Rhys Evans a Dewi Llwyd

Tim Rhys Evans a Dewi Llwyd

Fe aeth i’r coleg i astudio cyfansoddi cyn newid i astudio canu. Bu’n ganwr operatig am 5 mlynedd ond fe sylweddolodd ei fod yn cael mwy o wefr wrth weithio gyda chantorion eraill.

 

Yn sgil llwyddiant Only Men Aloud yn y gystadleuaeth Last Choir Standing  3 blynedd yn ol,  mae arwain y côr yn waith llawn amser i Tim bellach.

Mae hefyd yn falch iawn o’r gwaith gyda’r cor iau, Only Boys Aloud ond ei freuddwyd fyddai gweld Only Men Aloud yn gor cwbl broffesiynol.

Bu’n son am benblwyddi’r gorffennol yn ogystal a be hoffai gael yn anrheg penblwydd yr wythnos hon gyda Dewi Llwyd.

 



Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.