Radio Cymru - Blog homepage

Digwyddiadur Radio Cymru 25052012

Digwyddiadau | 12:34, Dydd Gwener, 25 Mai 2012

Sylwadau (0)

 

Rhestr o ddigwyddiadau bach a mawr drwy Gymru gyfan. Os hoffech i'ch digwyddiad chi gael ei gynnwys, gyrrwch y manylion i ni drwy ein ffurflen ddigwyddiadau neu ffoniwch Llinell Gyswllt Radio Cymru ar 03703 500 600 rhwng 9.30am a 7.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (heblaw gwyliau banc). Cysylltwch o leiaf wythnos o flaen llaw er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei gynnwys, os gwelwch yn dda.

 

Darllen gweddill y cofnod

S4C, BBC Radio Cymru a Rondo mewn partneriaeth i ddarlledu'r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig

Categorïau:

Newyddion Newyddion | 13:43, Dydd Iau, 24 Mai 2012

Sylwadau (0)

Bydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig sy'n rhan o broses ddethol BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013 yn cael cynulleidfa ehangach eleni o ganlyniad i bartneriaeth arloesol rhwng S4C, BBC Radio Cymru a chwmni cynhyrchu Rondo Media.

Teledir y gystadleuaeth ar S4C ac fe'i darlledir yn fyw ar BBC Radio Cymru ar noson y gystadleuaeth yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd - nos Lun 11 Mehefin.

Bydd enillydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2013. Bydd hefyd yn derbyn gwobr o £2,000 a thlws. Fe fydd y cantorion eraill yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £750.

Mae'r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig wedi ei hanelu at gantorion ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol ac eleni, yn dilyn clyweliadau yng Nghaerdydd a Llundain, bydd y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu i gael y cyfle i gynrychioli Cymru flwyddyn nesaf. Y pedwar yw Rhian Lois (soprano) o Bontrhydygroes, Ceredigion, Fflur Wyn (soprano) o Sir Gaerfyrddin, Sioned Gwen Davies (mezzo-soprano) o Fae Colwyn a Garry Griffiths (bariton) o Benbre.

Trefnir y gystadleuaeth gan Cerdd Byw Cymru mewn cydweithrediad â BBC Cymru a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Grant Llewellyn fydd yn cyfeilio yn y rownd derfynol ac aelodau'r rheithgor fydd y cantorion rhyngwladol Rebecca Evans, Della Jones a Donald Maxwell, John McMurray, Pennaeth Castio, Opera Cenedlaethol Lloegr a Julian Smith, Cynghorwr Cerdd, BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae'r bartneriaeth hon ymhlith y cyntaf rhwng y BBC, cwmni cynhyrchu annibynnol a ninnau yn y trefniant newydd rhyngom fel darlledwyr. Y gynulleidfa sydd wrth galon ein holl weithgareddau a'r gwylwyr fydd yn elwa'n bennaf o'r cydweithrediad hwn. Rwy'n hyderus y bydd llawer mwy o enghreifftiau o gydweithredu fel hyn rhyngom yn y dyfodol."

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, "Pa well ffordd o nodi ysbryd ein partneriaeth na'r cyd-gynhyrchiad yma sy'n cyfleu uchelgais y ddau ddarlledwr - i fynd â Chymru i'r byd gyda'r cyfoeth o ddoniau sydd yma. Trwy'r cynhyrchiad hwn mewn partneriaeth - y cyntaf o lawer gobeithio - bydd cynulleidfaoedd ar radio a theledu yn gallu rhannu'r wefr o ddarganfod pa ganwr neu gantores ifanc fydd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013."

Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media, "Rwy'n falch eithriadol bod Rondo yn cynhyrchu'r darllediadau o'r gystadleuaeth i Gantorion Cymreig eleni.

"Mae hon yn gystadleuaeth arbennig, a safon y cantorion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn uchel tu hwnt. Mae Canwr y Byd yn agos iawn at fy nghalon i, gan mai'r diweddar Mervyn Williams, fy nhad, greodd y gystadleuaeth ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

"Mae'n wych bod S4C a BBC Cymru yn medru cyd-ddarlledu'r gystadleuaeth arbennig hon, ac rydym yn eithriadol o falch o fod yn cydweithio hefyd gyda Cerdd Byw Nawr a Neuadd Dewi Sant - cartre'r gystadleuaeth."

Dewi Llwyd yn holi Ieuan Wyn Jones

Categorïau:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 10:38, Dydd Sul, 20 Mai 2012

Sylwadau (0)

Yr Aelod Cynulliad a chyn arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones oedd gwestai penblwydd Dewi ar fore Sul Mai 20fed.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.