Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ti, chi a fi

Vaughan Roderick | 15:44, Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2013


Mae derbyn rhifyn y mis o Barn wastod yn bleser - er taw fy nhasg gyntaf bob mis yw cael cipolwg sydyn i weld os oes 'na straeon neu safbwyntiau i ni eu colli! Dydw i ddim am gyfaddef yn fan hyn a ydy hynny wedi digwydd y tro yma!

Yn hytrach cefais ysbrydoliaeth am bost bach gan golofn Vaughan Hughes lle mae'n cwyno am yr hyn mae'n gweld fel defnydd amhriodol o ti a thithau ar raglenni newyddion Radio Cymru. Dyma ddisgrifiad Vaughan o sgwrs rhwng cyflwynydd â chadeirydd y Bwrdd Iaith.

"Roedd y ti a'r tithau diddiwedd, a chywair dau-fêt-yn-cael-clonc y sgwrs gyfan yn rhoi'r argraff anghysurus i mi fy mod yn clustfeinio ar sgwrs breifat... mae'r defnydd o chi o gymorth i gynnwys y gwrandäwr yn hytrach na'i ddieithrio."

Dydw i ddim yn teimlo'n gryf iawn am y peth ond yn bersonol rwy'n tueddu defnyddio chi gyda ffigyrau cyhoeddus hyd yn oed os ydy'r rheiny'n iau na fi. Ar y llaw arall mae'n gas gen i gael fy ngalw'n chi gan rywun sy'n ti i mi! Safonnau dwbwl efallai - neu arwydd fy mod yn heneiddio!

Ta beth mae'r ddadl ynghylch safonau iaith yn un sy'n digwydd yn gyson yng nghoridorau'r BBC gyda rhai'n adrodd straeon arswyd am grwpiau ffocws yn cael trafferth i ddeall Cymraeg cymharol syml ac eraill yn mynnu bod yn rhaid tynnu llinell yn rhywle. Mae lle mae'r "rhywle" yna yn gwestiwn arall, wrth gwrs!

Fy nghrwsâd arbennig i yw un i achub y ferf gryno. Efallai bod dyddiau "gallaswn" a "gwybuant" wedi mynd ond gwrthodaf dderbyn bod "Mae Dafydd Jones wedi dweud" yn haws i ddeall na "dywedodd Dafydd Jones". A do, rwyf wedi clywed "mae x wedi dweud" yn cael ei ddefnyddio.

Mewn gwlad sydd wedi methu cytuno'n derfynol ynglŷn ag orgraff ei hiaith ysgrifenedig ar ôl pymtheg can mlynedd efallai ei bod hi'n anorfod bod y darlledwyr yn dal i ymgecru ar ôl cwta dri chwarter canrif!

Mae 'na beryglon wrth symleiddio'r iaith ond ar y llaw arall mae Cymraeg sydd yn orffurfiol ac yn bedantig yn gallu bod yn hyll ac yn ofnnadwy o anodd ei deall.
Roeddwn yn meddwl am hyn wrth wrando ar araith Leighton Andrews yn y ddadl ynghylch safonau iaith ddoe. Roedd hi'n llawn o jargon y gwasanaeth sifil gyda'i geiriau aml sillafog, anghyffredin. Roedden nhw i gyd yna - anghymesuredd, anstatudol, tryloywder a'r gweddill ohonyn nhw.

Mae'r eirfa fiwrocrataidd hon yma'n hyll a chan amlaf yn ddiangen yn Saesneg. Mae ei chyfieithu'n slafaidd i'r Gymraeg ac yna disgwyl i Weinidog sy'n dysgu'r iaith ei defnyddio yn wirion bost.















Get Adobe Flash player

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:08 ar 6 Mawrth 2013, ysgrifennodd cathasturias:

    Dechrau gweld ffurfiau cryno berfau ('dywedodd') yn dod yn fwy gyffredin gan drydarwyr Cymraeg, oherwydd y cyfyngiad ar nifer y llythrennau

  • 2. Am 18:16 ar 6 Mawrth 2013, ysgrifennodd David Bullock:

    I'r sawl sydd â diddordeb, gallwch weld anerchiad gan Gwen Awbery sy'n cyflwyno'r gwahanol fathau o Gymraeg yma:
    http://techiaith.bangor.ac.uk/gramadeg/http/=/article.ashx?page_id=15

    Sylwch: nid rant blin (à la Vaughan) am hoff ffurfiau a chas ffurfiau sydd ganddi, ond sylwadau gwrthrychol sy'n egluro beth yw beth.

  • 3. Am 07:57 ar 8 Mawrth 2013, ysgrifennodd Welbru:

    Dwi'n meddwl bod rhaid i'r bobl yma ddeall bod cymdeithas yn gyffredinol yn mynd yn fwy anffurfiol. Faint o bobl sy'n galw Mr X neu Mrs X ar eu penaethiaid yn y gwaith y dyddiau yma? Enwau cyntaf sydd gan bron bawb. Mae'r defnydd o ti yr un fath. Ti oedd pawb i'r Crynwyr gan eu bod yn credu mewn cydraddoldeb cymdeithasol a dwi'n meddwl bod hynny'n beth da.

  • 4. Am 10:13 ar 8 Mawrth 2013, ysgrifennodd Dylan Foster Evans:

    Diolch am y blogiad yma Vaughan. Diddorol clywed am y trafodaethau yn y BBC. Tybed a yw'r gorfforaeth yn dal i ddefnyddio polisi/canllawiau ffurfiol o ran y defnydd o iaith? Mae cof gen i fod polisi o'r fath wedi ei lunio tua diwedd y 1990au (o leiaf ar gyfer Radio Cymru). A oes defnydd arno o hyd, neu a oes teimlad fod yr oes - a'r iaith - wedi newid ers hynny?

  • 5. Am 11:26 ar 8 Mawrth 2013, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r canllawiau o hyd yn bodoli - faint o ddefnydd sydd ohonyn nhw sy'n fater arall!

  • 6. Am 23:55 ar 8 Mawrth 2013, ysgrifennodd Andy Bell:

    Mae clywed "ti"mewn cyfweliad ffurfiol yn ymosodiad ar y clustiau. Fyswn i byth yn galw Julia Gillard yn "mate" !
    Yn fwy difrifol, mae twf iaith y biwrocrat cyfiethiedig yn peri gofid ac yn tynnu'r Gymraeg yn bellach oddi wrth y bobl go iawn.
    Yr wyf wedi son am hyn o'r blaen ...
    http://anndraobell.wordpress.com/2012/05/20/safonau-iaith/

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.