Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2013

Dyrchafaf fy llygaid

Vaughan Roderick | 13:58, Dydd Mercher, 30 Ionawr 2013

Sylwadau (1)

Wrth bori trwy ganlyniadau ward wrth ward y Cyfrifiad des i ar draws ffaith fach ddiddorol. O'r deuddeg ward yng Nghymru a Lloegr lle dywedodd y mwyafrif o'r trigolion eu bod heb unrhyw grefydd o gwbwl roedd pump yn Rhondda Cynon Taf.

Efallai nad yw'n syndod bod Maerdy ym mlaen Rhondda fach yn un ohonyn nhw. Wedi'r cyfan adwaenwyd y lle hwnnw fel "Little Moscow" ers talwm. Dydw i ddim yn gwybod faint o fynd sydd ar ddarllen Marx a Lenin yn y lle erbyn hyn ond ymddengys nad oes llawer o fynd ar ddarllen Ysgrythur!

Un o'r wardiau eraill sydd â mwyafrif o anffyddwyr yw Cwm Clydach. Mae hynny o ddiddordeb personol i mi. Roedd fy nhad-cu yn löwr yng ngwaith y Cambrian yn y pentref hwnnw ac mae gen i berthnasau yno o hyd.

Roedd y Cambrian yn un o byllau glo mwya'r de. Cafwyd un o'r damweiniau gwaethaf yn hanes y diwydiant glo yno yn y 1960au a hanner canrif yn gynt yn y pwll hwnnw y dechreuodd yr anghydfod wnaeth arwain at derfysgoedd Tonypandy.

Roedd fy nhad-cu wedi hen adael cyn y naill ddigwyddiad na'r llall. Yn ystod diwygiad 1904-05 fe gasglodd glowyr y Cambrian ddigon o arian i'w ddanfon i Goleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu i astudio i fod yn weinidog. Mae'n amlwg nad anffyddiaeth oedd yn nodweddi Cwm Clydach ar y pryd!

Beth ddigwyddodd felly i droi un o beiriau'r diwygiad yn un o'r llefydd mwyaf digrefydd yng Nghymru a Lloegr?

Mae cyfrolau cyfan wedi eu hysgrifennu i geisio ateb y cwestiwn hwnnw ond go brin fod modd datgysylltu'r hyn ddigwyddodd i Anghydffurfiaeth yn y Rhondda a llefydd tebyg, a'r hyn a ddigwyddodd i'r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.

Efallai'n wir bod y ddau beth mor glwm â'i gilydd nad oes modd eu datod. Beth am beidio ceisio gwneud?

Mae 'na ddau bwnc wedi bod yn codi eu pen yn weddol gyson yn y Cynulliad yn ddiweddar.

Wrth drafod yr iaith mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi bod yn son yn gyson am yr angen i roi cyfleodd i ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg ddefnyddio'r iaith y tu hwnt i furiau'r ysgol ac ar ôl ei gadael. Sut mae cyflawni hynny?

Ym maes treftadaeth cafwyd ambell i ddadl a sawl cwestiwn ynghylch diogelu o leiaf rhai o addoldai anghydffurfwyr Cymru ar ôl i'w drysau gau. Ffawd capel Pisgah yng Nghasllwchwr wnaeth ysbarduno'r drafodaeth ond mae 'na ddegau os nad cannoedd o gapeli yng Nghymru sydd o werth hanesyddol neu bensaernïol y byddai'n cael eu diogelu mewn byd delfrydol. Sut mae gwneud hynny? Wedi cyfan does dim modd troi pob capel sy'n cau yn ganolfan dreftadaeth!

Efallai bod modd cyfuno'r ddau bwnc at ateb y ddau gwestiwn trwy edrych ar esiampl Canolfan Soar ym Merthyr lle mae'r fenter iaith leol wedi defnyddio arian Ewropeaidd i ddatblygu canolfan i fywyd Cymraeg yr ardal a'r celfyddydau a thrwy hynny sicrhau dyfodol i un o adeiladau mwyaf nodedig y dref.

Roedd Soar eisoes wedi cau pan lansiwyd cynllun y fenter - ond onid oes modd llunio cynlluniau tebyg lle y gallai cynulleidfaoedd barhau i addoli yn yr adeilad yn rhydd o'r baich o'i gynnal?

Nid capeli trefol yn unig a allai fod o ddefnydd i ddyfodol y Gymraeg. Oni fyddai capeli fel Blaencaron, er enghraifft, yn ganolfannau awyr agored perffaith i ysgolion Cymraeg y de diwydiannol?

Dim ond gofyn ydw i ond hytrach nac eistedd yn ôl a disgwyl i'r drysau gau efallai y dylem ni fel Cymry Cymraeg, ac nid y capelwyr yn unig, ddyfalu a allai 'na fod dyfodol defnyddiol i'r adeiladau a fu'n gartrefi i'n diwylliant gyhyd?

Mewn a Mas

Vaughan Roderick | 13:33, Dydd Mercher, 23 Ionawr 2013

Sylwadau (1)

Dyma i chi gyfaddefiad. Rwyf wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ers oeddwn i'n fach iawn. Tua wyth neu naw oed oeddwn i pan ddechreuais i gymryd diddordeb rwy'n meddwl.

Coeliwch neu beidio doedd hynny ddim yn anarferol iawn ar y pryd. Wedi'r cyfan roedd plant y chwedegau yn tyfu lan yn negawd Kennedy a King, Fietnam a Prague, Caerfyrddin a Chymdeithas. Anodd oedd peidio talu sylw.

Roedd oes y cyfarfod cyhoeddus wedi dechrau dirwyn i ben ond doedd hi ddim wedi darfod yn llwyr. Rwy'n cofio clywed Jo Grimmond yn siarad yn Neuadd Cory, Ted Heath ym Mhafiliwn Gerddi Soffia a Harold Wilson ym Mharc Ninian, o bobman.

Does un o'r tair mangre yn sefyll heddiw ond roedd y cwestiwn mwyaf yr oedd y tri yn ei drafod yn un digon cyfarwydd - Ewrop - mewn neu mas?

Heno ar CF99 fe fyddwn yn trafod y tebygrwydd rhwng y sefyllfa wnaeth arwain at refferendwm Ewrop yn 1975 a'r sefyllfa heddiw.

Mae 'na un gwahaniaeth pwysig wrth gwrs. Yn ôl yn y saithdegau ac eithrio ambell i ffigwr fel Enoch Powell roedd y dde yn unedig o blaid aelodaeth Prydain o'r farchnad Gyffredin fel y'i galwyd ar y pryd.

Y chwith oedd yn rhanedig. Roedd yr undebau a ffigyrau fel Michael Foot a Tony Benn yn gwrthwynebu bod yn aelod o "glwb cyfalafol" tra roedd y rheiny wnaeth adael Llafur i ffurfio'r SDP ddegawd yn ddiweddarach yn frwd o blaid Ewrop.

Roedd Wilson ei hun rhywle yn y canol yn ceisio cadw ei blaid yn unedig. Er mwyn gwneud hynny fe luniodd fformiwla ryfeddol o debyg i un David Cameron - refferendwm ond dim ond ar ôl cyfnod o ail-negodi.

Yn achos David Cameron mae pwyslais sylwebwyr yn tueddu bod ar yr addewid o bleidlais yn hytrach na'r ail-negodi. Roedd hynny'n wir yn ôl yn saithdegau hefyd ond yr ail-negodi oedd yn allweddol.

Gorau po fwyaf o gonsesiynau y gallai Ewrop eu rhoi o safbwynt canlyniad y refferendwm ond prynu amser oedd Wilson mewn gwirionedd. Hanfod ei gambl oedd y byddai ofnau'r etholwyr ynghylch ffawd Prydain y tu fas i'r farchnad yn drech na'u rhwystredigaeth a biwrocratiaid Brwsel - ond roedd angen amser i'r ofnau hynny ddatblygu.

Dyna'n union a ddigwyddodd gyda busnesau mawrion a chyrff fel y CBI yn rhybuddio am broblemau. Mae'r un actorion yn mentro i'r llwyfan unwaith yn rhagor a phe bawn i'n gorfod proffwydo nawr beth fyddai canlyniad refferendwm byswn i'n mentro swllt - ond dim mwy - y byddai mewn yn trechu mas unwaith yn rhagor.

Roedd hi'n ddiddorol gweld yr arolwg barn gyntaf i awgrymu canlyniad o'r fath yn cael ei gyhoeddi dros y Sul.

Beth sy'n rhaid i'r rheiny sy'n dymuno gweld Prydain yn gadael yr Undeb wneud i ennill refferendwm? Y peth pwysicaf, dybiwn i, yw cynnig darlun eglur ac atyniadol o ddyfodol Prydain tu fas i'r Undeb Ewropeaidd. Dyw cyfeiriadau annelwig at Singapore a 'phont ar draws Fôr Iwerydd' ddim yn debyg o fod yn ddigon.

Mae gobaith yn gallu trechu ofn weithiau ond rhaid esbonio beth union yw'r gobaith hwnnw.

Dafydd a Jonathan

Vaughan Roderick | 12:24, Dydd Iau, 17 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Clywais rhai dyddiau yn ôl bod Jonathan Evans AS wedi penderfynu peidio sefyll yng Ngogledd Caerdydd yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Cafwyd cadarnhad o hynny heddiw.

Fe fydd sinigiaid yn rhuthro i ddatgan bod Jonathan wedi dod i'r casgliad nad oedd modd iddo gadw'r sedd. Wedi cyfan mwyafrif o 194 oedd ganddo yn etholiad 2010.

Am unwaith dydw i ddim yn un o'r sinigiaid! Wedi'r cyfan dyw Jonathan ddim yn ddyn i gefnu ar frwydrau anodd. Yn 1987 collodd i Richard Livsey o 56 pleidlais ym Mrycheiniog a Maesyfed. Yn hytrach na chwilio am sedd fwy addawol safodd eto yn 1992 gan ennill o 130 o bleidleisiau.

Pam rhoi'r ffidl yn y tô felly? Mae'r esboniad yn ei ddatganiad yn sicr yn rhan o'r peth. Mae Jonathan yn chwedeg dwy oed a chyda hyd senedd bellach wedi ei bennu o flaen llaw byddai ennill yn 2015 yn golygu gwasanaethu tan 2020 pan fyddai'n 70.

Dyw 70 ddim yn oedran afresymol i wleidydd y dyddiau hyn ond mae'n amlwg bod Jonathan yn teimlo bod ganddo bethau amgenach i wneud a'i amser. Mae'n weithgar mewn sawl elusen ac un o brif leygwyr yr Eglwys Gatholig yng Nghymru. Fe fydd ganddo hen ddigon o bethau i lenwi ei ddyddiau ac ar ôl gyrfa ddisglair ym myd y gyfraith a busnes teg yw synhwyro nad yw'n brin o geiniog neu ddwy.

Efallai eich bod yn synhwyro bod 'na "ond" ar y ffordd. Rydych yn llygad eich lle!

Rwy'n fodlon derbyn y cyfan o'r esboniad yn natganiad Jonathan ond mae'n anodd gen i gredu na fyddai wedi oedi tan yn agosach at yr etholiad cyn penderfynu ynghylch ei ddyfodol pe bai wedi cael ei ddyrchafu'n weinidog gan David Cameron.

Wedi'r cyfan roedd y Ceidwadwyr yn brin o weinidogion profiadol yn 2010 ar ôl tair blynedd ar ddeg ar feinciau'r wrthblaid. Pam peidio manteisio ar brofiad gwr oedd wedi gwasanaethu yn yr Adran Ddiwydiant a'r Swyddfa Gymreig oedd yn amlwg ddeallus ac yn gyfathrebwr effeithiol?

Gellir ateb hynny mewn un gair sef Ewrop.

Ar ôl colli Brycheiniog a Maesyfed yn 1992 etholwyd Jonathan i Senedd Ewrop ac ef oedd arweinydd y grŵp Ceidwadol yno. Ymladdodd brwydr ffyrnig yn erbyn cynlluniau David Cameron o orfodi i'r Ceidwadwyr adael y grŵp canol-dde er mwyn sefydlu grŵp newydd oedd yn ewro-sgeptig ei hanian. Collodd Jonathan y frwydr honno ond mae'n ymddangos i mi nad oedd David Cameron yn barod i faddau ei safiad.

Ydy hi'n gyd-ddigwyddiad bod Jonathan wedi rhyddhau ei ddatganiad ar drothwy araith fawr David Cameron ar Ewrop? Cewch chi farnu - rwy'n gwybod beth yw fy marn i!

Hywel a Betsi

Vaughan Roderick | 13:00, Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Roedd y post yma i fod i ymddangos ddoe. Oherwydd problemau technegol gyda gwasanaeth "Democratiaeth Byw" doedd hynny ddim yn bosib. Rwy'n ymddiheuro ond rwy'n gobeithio ei fod yn dal dwr!

Rwy'n ceisio dyfalu a fyddai Joseff Parry a Mynyddog yn gallu ysgrifennu opera ynghylch adrefnu'r gwasanaeth iechyd. Mae "Hywel a Betsi" yn deitl gafaelgar wedi cyfan ac mae 'n ddigon o ddrama wedi bod a digon eto i ddod!

Nid gwneud yn ysgafn o'r pynciau dyrys a chwestiynau anodd ydw i trwy ddweud hynny - ond mae ceisio newid y ddarpariaeth iechyd neu'r ddarpariaeth addysg yn un o'r pethau anoddaf i lywodraeth ei gyflawni. Bob tro bron fe fydd digon o leisiau croch yn codi i wrthwynebu'r cynlluniau - rhai ar seiliau digon rhesymol ond eraill ar y sail bod unrhyw newid yn newid er gwaeth. Yn y cefndir fe fydd 'na gorws o wleidyddion yn mynegi anfodlonrwydd - eto am gymhellion cymysg.

Ymateb Llywodraeth Cymru i hynny oedd ceisio rhoi ychydig o hyd braich rhwng y Llywodraeth a'r penderfyniadau lleol.

Ym maes addysg awgrymodd Leighton Andrews sefydlu paneli lleol fel rhyw fath o 'lysoedd apêl' yn erbyn penderfyniadau i gau neu uno ysgolion. Ni fyddai apeliadau yn cyrraedd ei ddesg ef o hynny ymlaen. Ymddengys bod y syniad o baneli bellach wedi ei dynnu yn ôl - gan adael y penderfyniad terfynol ynghylch ffawd ysgol yn nwylo'r Awdurdod Lleol. Fe ddylai hynny gyflymu pethau os nad yw'n arwain at gynnydd yn y nifer o grwpiau ymgyrchu sy'n chwennych arolygon barnwrol.

Wrth ddelio a'r Gwasanaeth Iechyd penderfyniad y Llywodraeth oedd gadael y broses o gynllunio newidiadau i'r Byrddau Iechyd Lleol gan adael rhyw fath o rôl lled farnwrol iddi hi ei hun ar ddiwedd y broses. Canlyniad hynny yn ôl y Ceidwadwyr yw bod llawer gormod o sylw wedi ei dalu i'r Colegau Brenhinol a Deoniaeth Cymru gyda llais defnyddwyr y Gwasanaeth yn gymharol fud.

Dyna'r cefndir felly. Dyma sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw. Gwnes i gonan ychydig wythnosau yn ôl ynghylch safon y sesiynau diweddar. Er tegwch roedd hon yn o'r goreuon gyda dadlau go iawn a phwyntiau o sylwedd.

Un pwynt bach arall. Dydw i ddim yn gwybod beth wnaeth Leanne Wood dros y Nadolig a'r Calan ond mae ei holi llawer yn fwy siarp a hyderus ers hynny. Mwynhewch y sesiwn.















Get Adobe Flash player


Rwy'n grac... o hyd

Vaughan Roderick | 10:58, Dydd Iau, 10 Ionawr 2013

Sylwadau (1)

Cyfaill blaidd yw bugail diog medd y ddihareb.

Beth am i ni ddal lan ac ambell i fugail ac ambell i flaidd?

Y blaidd yn yr achos hwn yw'r "Office of National Statistics". Chwi gofiwch efallai i mi ysgrifennu post ynghylch y drafferth yr oeddwn yn cael i sicrhau gwasanaeth Cymraeg gan yr adran ychydig cyn y Nadolig.

Ar y pryd ysgrifennais atyn nhw i gwyno. Dydw i ddim wedi derbyn ateb eto ond fe adawyd sylw gan un o'i swyddogion ar y blog. Dyma ran ohono.

"Mae'n ddrwg gen i eich bod wedi cael y profiad hwn sy'n ymddangos i fod, yn rhannol, yn gamgymeriad gweinyddol. Dylai ein llythyron arolwg fynd allan yn Gymraeg ac yn Saesneg i gyfeiriadau yng Nghymru, a byddwn yn edrych mewn i pam gwnaeth hyn ddim digwydd.

Digon teg, efallai. Mae camgymeriadau gweinyddol yn gallu digwydd. Rwy'n rhuthro i ddweud hynny ar ôl darllen trydariad yr wythnos hon gan rywun oedd wedi derbyn ateb yn Saesneg i lythyr Cymraeg gan y BBC!

Byddwn yn fodlon maddau, efallai ond sylwch ar rai o'r sylwadau eraill a adawyd ar y blog.

"Mi ges i'r union un driniaeth gan yr ONS 3 mlynedd yn ôl: llythyr uniaith Saesneg, galwadau ffôn i gwyno, dyn bach neis yn lled-siarad Cymraeg wedi i mi wneud ffws, follow-up Saesneg, ffws arall, ymddiheuriad ar y ffôn, ayb"

"Cawsom driniaeth go debyg gan y Swyddfa Ystadegau - cerdyn uniaith Saesneg yn dweud ei bod wedi galw; dim manylion cyswllt â swyddfeydd Cymru ar eu gwefan; diffyg gwasanaeth Cymraeg pan ffoniais i wirio dilysrwydd y cerdyn. Anfonwyd rhywun Cymraeg atom yng Ngheredigion ar ôl inni wneud cais."

Ydych chi'n sylwi ar batrwm yn fan hyn - rhywbeth sy'n debycach at fethiant systemig na chamgymeriad gweinyddol - methiant sy'n golygu nad yw'r swyddfa hyd yma wedi hyd yn oed cydnabod fy llythyr o gwyn?

Bant a fi felly at y Comisiynydd Iaith gan ddanfon e-bost rhwng y Nadolig a Chalan yn cynnwys dolen i'r blog ac yn gofyn iddyn nhw ystyried y post fel cwyn swyddogol.

Cefais ymateb yn syth wedi i'r swyddfa ail-agor ar ôl y gwyliau gydag addewid y byddai 'na ymateb llawnach o fewn ugain diwrnod gwaith. Fe gawn weld beth ddigwyddiff.

Yn y cyfamser dyma fachan yn ymddangos ar stepen fy nrws.

"Hello, I'm from the Office of National Statistics..."

Ydy hi o gysur bod yr ONS yr un mor wael wrth gyfathrebu a'i staff ac yw hi wrth gyfathrebu a'r cyhoedd? Nac ydy, mewn gwirionedd.

Dydw i ddim am adel i hyn fynd.

Bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn!

Hawl i Holi

Vaughan Roderick | 10:22, Dydd Mawrth, 8 Ionawr 2013

Sylwadau (2)

Roeddwn yn ystyried wythnos ddiwethaf p'un ai i ysgrifennu post ynghylch yr anghytundeb rhwng y BBC ac EOS ynghylch taliadau cerddoriaeth.

Yn y diwedd daeth pwt o gerdd o'r ail rhyfel byd i'r cof a'm darbwyllo i beidio. Rwy'n credu mai Waldo Williams oedd yn gyfrifol am y llinellau. Dyma oedd ganddo i ddweud am wasanaethau'r BBC yn ystod y rhyfel.

"Cân propaganda'n gyndyn
Hysbys y dengys y dyn
O ba badell bo'i bwdin"

Gan fy mod yn derbyn nid dim ond fy mhwdin ond fy mhrif gwrs o badell y gorfforaeth fe fyddai'n anodd iawn i chi gymryd fy ngeiriau fi fel rhai niwtral a diduedd. Gwna'i ddim gofyn i chi wneud.

Beth am drafod rhywbeth cwbwl gwahanol felly?

Weithiau mae thema'n datblygu yng nghynadleddau newyddion wythnosol y pleidiau ac roedd heddiw'n un o'r achlysuron hynny. Ateb Leanne Wood i gwestiwn gen i oedd yn gyfrifol.

Atgoffais arweinydd Plaid Cymru ei bod hi wedi ennill y swydd trwy addo "mynd a'r ffeit at Carwyn Jones" - pam felly yr oedd hi wedi methu glanio mwy nac ambell i glatsien arno yn ystod sesiynnau cwestiynau'r Prif Weinidog?

Roedd yr ateb yn ddadlennol. Dywedodd Leanne yn gyhoeddus yr hyn y mae sawl aelod yn dweud yn breifat. Roedd y sesiwn yn ddim byd mwyn na "farcical pantomime space". Roedd cwestiynau perthnasol a gwerthfawr yn derbyn atebion disylwedd a di-hid. Roedd pobol Cymru'n haeddu gwell meddai.

Rwy'n meddwl bod hi'n deg i ddweud y byddai'r rhan fwyaf o bobol sy'n gwylio'r sesiwn yn wythnosol yn rhannu'r farn nad yw sesiynau'r pedwerydd cynulliad mor ddifyr a dadlennol â'r rhai yn y tri blaenorol.

Yn y cynulliad cyntaf roedd 'na densiwn go iawn wrth i'r gwrthbleidiau braenaru'r tir ar gyfer cwymp Alun Michael ac roedd gwylio Rhodri Morgan yn mynd i hwyl neu'n dilyn ysgyfarnog bron bob tro yn ddifyr.

Ond ai Carwyn Jones sydd ar fai? Ydy e mewn gwirionedd yn osgoi ateb cwestiynau,- cyhuddiad Kirsty Williams yn ogystal â Leanne, neu ai'r cwestiynu sydd ar fai?

Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn canfod fy hun weithiau yn straffaglu i ddeall beth yn union sy'n cael ei ofyn ac os nad yw hi'n bosib deall y cwestiwn sut ar y ddaear mae disgwyl ateb call?

Pa ots yw hyn oll? Dyw Leanne ddim yn poeni'n ormodol. Mae'r gwaith pwysig yn mynd ymlaen mewn llefydd eraill yn ôl arweinydd Plaid Cymru. Tra bod y 'pantomeim' yn parhau yn y siambr mae'r gwaith pwysig o adeiladu ei phlaid yn mynd rhagddi.

Efallai, ond mae tanberfformio cyson yn y siambr yn debyg o gael effaith ar ddelwedd a morâl plaid yn y tymor hir. Mae hon yn ffenest bwysig wedi'r cyfan a pheth peryg yw ei hesgeuluso.

Ffydd ac Argyfwng Catholigiaeth

Vaughan Roderick | 09:54, Dydd Gwener, 4 Ionawr 2013

Sylwadau (1)

Dydw i ddim yn gallu meddwl am bwnc lle mae'r farn gyhoeddus wedi newid cymaint yn ystod fy oes i a'r agwedd tuag at bobol hoyw. Pan lwyddodd Leo Abse i lywio'r Mesur Troseddau Rhywiol i'r llyfr statud yn 1967 fe ddywedodd yr ysgrifennydd cartref, y rhyddfrydwr mawr hwnnw, Roy Jenkins, hyn " those who suffer from this disability carry a great weight of shame all their lives". Go brin y byddai hyd yn oed David Davies yn dweud rhywbeth felly heddiw!

Wrth i'r Llywodraeth baratoi mesur i gyfreithloni priodasau hoyw mae ein gwleidyddion, os unrhyw beth, yn ymateb i newid yn y farn gyhoeddus yn hytrach na cheisio arwain un.
Yn ôl arolwg gan ICM a gyhoeddwyd ar Ŵyl San Steffan mae 62% o'r etholwyr yn cefnogi'r newid a 31% yn gwrthwynebu.

Diwrnod ynghynt fe ddefnyddiodd Archesgob Westminster Vincent Nichols ei neges Nadolig i ymosod yn chwyrn ar y cynlluniau. Galwodd ar Gatholigion i ysgrifennu at eu haelodau seneddol i brotestio a'r wythnos hon gorchmynnodd roi'r gorau i gynnal offeren arbennig ar gyfer pobol hoyw a'u teuluoedd mewn eglwys yn Soho.

Roeddwn i'n crafu fy mhen braidd ynghylch pam yr oedd yr Archesgob, a'r Pab o ran hynny, wedi dewis dyrchafu'r pwnc hwn yn un canolog i'w negeseuon Nadolig. Yr ateb syml wrth gwrs yw bod priodasau hoyw ar y gorwel mewn sawl gwlad a bod y rheiny yn gwbwl groes i ddealltwriaeth yr Eglwys Gatholig o ysgrythur ac ewyllys Duw. Rhaid parchu hynny - ond mae gen i deimlad bod 'na rhywbeth arall yn mynd ymlaen hefyd.

Dros yr ŵyl fe wnes i ail-ddarllen campwaith R. Tudur Jones "Ffydd ac Argyfwng Cenedl" dwy gyfrol sy'n adrodd hanes crefydd yng Nghymru rhwng 1890 a 1914. Mae deall yr hyn ddigwyddodd i grefydd yn ystod y cyfnod hwnnw yn allweddol i ddeall yr hyn a ddigwyddodd i'r iaith Gymraeg hanner canrif yn ddiweddarach gan greu'r argyfwng ieithyddol yr ydym o hyd yn ceisio ymgodymi â hi.

Roedd Dr Tudur yn un o ysgolheigion Cymreig mwyaf yr ugeinfed ganrif ac mae "Ffydd ac Argyfwng Cenedl" yn amlinellu'n ofalus y ffactorau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol wnaeth arwain at gwymp y Capeli. Ond yn ogystal â bod yn ysgolhaig roedd Dr Tudur yn Gristion Protestannaidd o argyhoeddiad dwfn ac fe wnaeth hynny ei arwain at y casgliad bod dirywiad crefydd yng Nghymru hefyd yn deillio o fethiant yr eglwysi i gadw at y llwybr cul.

Mae "charge sheet" Dr Tudur yn un hir. Mae'n cynnwys enwadaeth, pregethu blodeuog ond gwag, diwinyddiaeth anwadal, pwyslais ar y bywyd cymdeithasol yn hytrach na'r un ysbrydol a sawl cyhuddiad arall. Yn ei hanfod mae'n amlwg bod Prifathro Bala-Bangor o'r farn y byddai ei goleg yn llawn pe bai'r eglwysi wedi glynu at yr hen wirioneddau.

Rwy'n synhwyro efallai bod 'na agwedd rhywbeth yn debyg yn yr Eglwys Gatholig ar hyn o bryd - ei bod hi wedi syllu at y stordai, tai a safleoedd gweigion oedd gynt yn Fethania, Tabernacl a Chalfaria ac wedi gweld ei dyfodol ei hun. Mae'n ymddangos bod yr eglwys wedi penderfynu mai trwy lynu at ei chredoau ac ymddiried yn Nuw y mae sicrhau ei pharhad. I anffyddiwr wrth gwrs mae "ymddiried yn Nuw" yn gyfystyr a "gobeithio am y gorau"!

Fe wnaed y penderfyniad. Claddwyd Fatican II. Does dim cyfaddawdu a gwerthoedd yr oes fodern i fod.

A fydd hynny'n arwain at lewyrch yr eglwys? Fe fyddai'n rhaid bod yn broffwyd i ateb hynny - a beth bynnag ydw i, dydw i ddim yn un o'r rheiny!

Gwaed ar eu dwylo

Vaughan Roderick | 11:04, Dydd Iau, 3 Ionawr 2013

Sylwadau (3)

Mae'n anodd credu bod hi'n ddeng mlynedd ar hugain ers i'r Archentwyr oresgyn Ynysoedd Falkland. Go brin fod unrhyw un iau na deugain yn cofio'r peth. Eto o bryd i gilydd mae'r grachen yn cael ei chodi. Mae Arlywydd yr Ariannin wedi dewis gwneud hynny unwaith yn rhagor yr wythnos hon.

Roeddwn i'n gweithio mewn gorsaf radio masnachol adeg y goresgyniad ac rwy'n cofio'n dda'r sioc achosodd y peth. Roedd 'na ryw stori ynghylch dynion scrap ar ynys South Georgia wedi bod yn ffrwtian am rai wythnosau ond doedd neb gan gynnwys llywodraeth Margaret Thatcher, mae'n debyg, wedi talu llawer o sylw iddi.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw mai gan bobol asgell-chwith y cafwyd yr ymateb fwyaf chwyrn i'r digwyddiad yn y dyddiau canlynol.

Doedd 'na ddim camerâu teledu yn Nhŷ'r Cyffredin ar y pryd ond rwy'n cofio gwrando ar y ddadl arbennig a gynhaliwyd yn San Steffan ar y dydd Sadwrn ar ôl y goresgyniad.

Yn groes i'r fytholeg sydd wedi datblygu ynghylch y rhyfel arweinydd yr wrthblaid, Michael Foot, nid Margaret Thatcher oedd y mwyaf ffyrnig ac unplyg ynghylch ymddygiad yr Ariannin a'r ffordd y dylai'r Deyrnas Unedig ymateb i'r sefyllfa. Gallwch ddarllen yr araith gyfan yn fan hyn. Dyma ddarn ohoni.

"The people of the Falkland Islands have the absolute right to look to us at this moment of their desperate plight, just as they have looked to us over the past 150 years. They are faced with an act of naked, unqualified aggression, carried out in the most shameful and disreputable circumstances. Any guarantee from this invading force is utterly worthless--as worthless as any of the guarantees that are given by this same Argentine junta to its own people."

Roedd 'na ambell un ar y chwith gan gynnwys nifer o Genedlaetholwyr Cymreig yn anghytuno â Foot - ond prin oedden nhw. Pam hynny - a pham yr oedd gwleidydd oedd wedi treulio'i fywyd yn brwydro yn erbyn militariaeth a dros ddiarfogi mor gadarn ei farn? Mae'r ateb ym mharagraff nesa'r araith.

"We can hardly forget that thousands of innocent people fighting for their political rights in Argentine are in prison and have been tortured and debased. We cannot forget that fact when our friends and fellow citizens in the Falkland Islands are suffering as they are at this moment."

Does dim amheuaeth bod y rhan fwyaf o lywodraethau De America yn rhai hynod o fileinig a didostur yn y saithdegau a'r wythdegau. Roedd parodrwydd yr Unol Daleithiau ac i raddau'r Deyrnas Unedig i'w cynnal ac yn achos Chile ei chreu wedi bod yn dân ar groen y chwith ers blynyddoedd.

Roedd eu casineb tuag at lywodraethau fel un Pinochet yn Chile a jwnta'r Ariannin yn hen ddigon i drechu eu greddfau arferol ynghylch ymyrraeth filwrol a jingoistiaeth.

Dyna yw'r eironi mawr ynghylch ynysoedd Falkland. Cyn y goresgyniad roedd llywodraethau'r Deyrnas Unedig wedi bod yn anwybyddu'r lle ers degawdau. Roedd hi'n dipyn o gur pen ac yn gostus i bwrs y wlad. Deirgwaith fe gynigiodd y Deyrnas Unedig adael i'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol benderfynu dyfodol yr ynysoedd. Fe wrthododd yr Ariannin y cynnig bob tro.

Y gwir amdani, mae'n debyg, yw y byddai'r Deyrnas Unedig wedi bod yn fodlon dod i ryw fath o drefniant gyda'r Ariannin pe bai gan y wlad honno lywodraeth ddemocrataidd sefydlog a fyddai'n parchu hawliau'r trigolion.

Ar y llaw arall roedd y syniad o adael miloedd o ddinasyddion Prydeinig, hyd yn oed dinasyddion eilradd ynysoedd Falkland, ar drugaredd llywodraeth waedlyd Buenos Aires yn gwbwl wrthun.

Pe na bai'r Archentwyr wedi lansio eu cyrch mae'n debyg y byddai'r cysylltiadau agos oedd yn bodoli rhwng yr ynysoedd a'r Ariannin wedi datblygu'n bellach erbyn hyn a hynny er budd yr ynyswyr a'u cymdogion. Fe fyddai miloedd o fywydau ifanc wedi eu sbario ac mae'n ddigon posib y bydda 'na gytundeb ynghylch dyfodol cyfansoddiadol yr ynysoedd.

Mae'n anodd gweld hynny digwydd nawr nac yn y dyfodol agos. Mae digwyddiadau 1982 yn taflu cysgod hir iawn.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.