Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Codi Stêm

Vaughan Roderick | 09:51, Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2012

Pan oeddwn i'n grwt bu'r teulu yn byw am gyfnod ym mhentref Efail Isaf rhwng Pontypridd a Llantrisant. Digon bychan oedd Efail Isaf ar y pryd - ond roedd gan y lle siop, tafarn, capel oedd bron ar ei din ac adfail o stesion oedd yn gyrchfan chwarae i blant y pentref. Y pryd hwnnw, yn ôl yn y chwedegau, roedd ambell i drên glo yn dal i redeg ond roedd gwasanaethau i deithwyr wedi hen fynd.

Ar brif lein David Davies o Bontypridd i'r Barri yr oedd gorsaf Efail Isaf. Rhyw gan llath yn bellach lawr Heol Dowlais roedd 'na orsaf arall sef un Pentre'r Eglwys. Ar y "Taff Vale and Llantrisant Junction Railway" yr oedd honno a dydw i ddim yn cofio trenau arni.

Hanner canrif yn ddiweddarach mae siop a thafarn Efail Isaf wedi goroesi ac mae'r capel yn un o eglwysi Cymraeg mwyaf llewyrchus y de ddwyrain. Mae'r rheswm am lewyrch y lle'n amlwg. O gwmpas Efail Isaf a'r pentrefi cyfagos codwyd stadau enfawr o dai - yn bennaf ar gyfer pobol sy'n gweithio yng Nghaerdydd ond yn methu fforddio neu'n dewis peidio byw yn y ddinas ei hun.

Yr hyn yw'r ardal mewn gwirionedd yw'n hyn mae'r Americanwyr yn galw'n "exurb" sef maestref nad yw'n rhan ddaearyddol o'r ddinas y mae'n gwasanaethu. Does dim gair Cymraeg am "exurb" felly rwym am fathu un! Fe wnaiff mastref y tro yn iawn!

Wrth reswm fe fyddai cysylltiad rheilffordd rhwng mastrefi fel Efail Isaf a Chaerdydd yn gwneud byd o les ond yn yr achos yma mae llwybrau'r ddwy lein wedi hen ddiflannu.

Na phoener. Sôn am hen faes glo'r de ydw i yn fan hyn - ardal oedd ar un adeg a mwy o reilffyrdd i bob milltir sgwâr nac unrhyw le arall yn y byd. O ganlyniad mae 'na lein arall yn bodoli a fyddai'n ddigon cyfleus i'r masdrefi rhwng Pontypridd a Llantrisant sef lein Beddau. Fe gadwodd glofa a gwaith golosg Cwm Coed Elai i fynd yn ddigon hir i sicrhau bod hi dal yno - er bod ei chledrau'n araf rydi. Ar ôl i'r rhwydwaith presennol gael ei thrydaneiddio lein Beddau sydd ar frig rhestr siopa y rhan fwyaf o arbenigwyr trafnidiaeth ac mae ei llwybr yn cael ei diogelu'n ofalus.

Dyw lein Beddau ddim yn unigryw. Ar ôl i fwyell Beeching ddisgyn dim ond pum lein leol oedd yn agored i deithwyr yn y de ddwyrain sef y rheiny i Dreherbert, Merthyr, Rhymni, Y Barri, Penarth a Coryton. Fe oroesodd eraill er mwyn cludo glo ac yn raddol bach, o'r wythdegau ymlaen, ail-gyflwynwyd trenau i deithwyr. Roedd leiniau Aberdâr, Maesteg, Bro Morgannwg, Glyn Ebwy a 'Cityline' Caerdydd i gyd wedi eu cau i deithwyr ar un adeg.

Coroni ymdrech degawdau mae'r penderfyniad i drydaneiddio'r rhwydwaith felly ond dim ond y cychwyn yw hynny.

Os oes 'na un person sy'n haeddu'r clod am benderfyniad ddoe Mark Barry yw hwnnw. Yn gynnar yn 2011 cyhoeddodd Mark gynllun o'r enw "A Metro for Wales Capital City Region". Sefydliad Materion Cymru a Phartneriaeth Busnes Caerdydd oedd wedi comisiynu'r adroddiad ac roedd fel manna o'r nefoedd i wleidyddion y bae.

Mae'r adroddiad yn amlinellu cynllun hynod uchelgeisiol ond cwbl realistig i ddefnyddio trenau a lonydd bysiau i glymu Caerdydd a'r cymoedd yn un uned economaidd gref. Mae maint y weledigaeth a manylder y cynllun yn rhyfeddod.

Dydw i ddim yn cofio unrhyw adroddiad arall yn cael croeso mor unfryd a brwdfrydig a'r un y derbyniodd un Mark Barry. Y gair y defnyddir yn fwyaf aml i'w ddisgrifio yw 'trawsnewidiol'.

Mewn cyfnod o ddeunaw mis llwyddodd i droi'r breuddwyd gwrach o drenau trydan yn y cymoedd yn gynllun ac iddo amserlen bendant. Am unwaith dyw "trawsnewidiol" ddim yn gor-ddweud a mawr yw dyled y gwleidyddion i awdur yr adroddiad a'r cyrff wnaeth ei gomisiynu.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:03 ar 17 Gorffennaf 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Vaughan,

    Rioed di bod i Efail Isaf. Ond i mi mae o yn swnio yr UNION beth y ddylsa ni gael o gwmpas Gaerdydd.

    Yn lle cael 45,000 o dai i ddinas eithaf bach - fe fysa llawer gwell annog fwy o dai gael ei adeiladu yn y pentrefi/trefi o gwmpas y ddinas (ac ar rheilffordd).

    Os ddim - fydd Caerdydd yn troi i Dylun Cymru. A be mae'r Iwerddon yn trio neud nawr? trio annog bobl O'R ddinas!.

    Felly pam nad yw hwn yn bwnc fwy pwysig yn y Senedd? pam ddim datblygu y cymoedd ac annog pobl i fyw yna? Os ddim, yn y dyfodol fydd dros 50% o boblogaeth Cymru yn byw o fewn Dinas Caerdydd neu 'suburbs' go iawn y ddinas.

    Dani hefo rheilffyrdd, dani hefo cymoedd digon del - maen amser i ni eu ddefnyddio nw!

  • 2. Am 16:19 ar 17 Gorffennaf 2012, ysgrifennodd Gareth Clubb:

    Roedd pobl ar y trywydd cyn 2011 - gwerth darllen hwn: http://www.clickonwales.org/2010/12/wales-takes-the-slow-train/

  • 3. Am 16:33 ar 17 Gorffennaf 2012, ysgrifennodd Deio:

    Achos holl bwrpas hyn oll yw i gyfoethogi Caerdydd.

  • 4. Am 22:45 ar 17 Gorffennaf 2012, ysgrifennodd Dan Din:

    Dywedodd Dewi: "yn y dyfodol fydd dros 50% o boblogaeth Cymru yn byw o fewn Dinas Caerdydd neu 'suburbs' go iawn y ddinas."

    Y gwir yw fod 2/3 o boblogaeth Cymru eisoes yn byw yn ac o amgylch Caerdydd ac Abertawe. O gynnwys ardaloedd megis Casnewydd, Caerffili, Pontypridd, Penarth ac ati mae poblogaeth Caerdydd yn tyfu at filiwn.
    Yn yr un modd saif Abertawe yn boblogaeth o thua miliwn os y cynhwysir Llanelli, Cwm Tawe, Castell Nedd, Port Talbot ac ati.

    Dyna 2 filiwn allan o'r 3. Taflwch ambell i le arall i mewn i hyn (Wrecsam, Bangor & Caernarfon, Caergybi, Bae Colwyn, Drenewydd, Aberhonddu, Caerfyrddin ac Aberystwyth) a dyna thua 700,000 arall.

    Gedy hynny tua 300,000 o bobl yn byw ar draws gweddill y wlad fach hon...

  • 5. Am 20:16 ar 18 Gorffennaf 2012, ysgrifennodd Cedwyn Aled:

    Pan we ni'n gweithio ar un o gyfresi hanes BBC Wales ar ddechre'r canrif nes i siarad 'da Nicholas Edwards, Barwn Crughywel, am ei gynlluniau tra yn Ysgrifennyd Cymru i ddatblygu Bae Caerdydd 'nol yn yr 80au. Wedodd e un o'r prif rhesymau wedd rhydwaith y rheilffyrdd wedd yn cysylltu Caerdydd a'r cymoedd. Credodd e, neu falle'n fwy cywir nath e gobeithio, bod datblygu Caerdydd mynd i helpu ddatrys problem diweithdra wedd 'di codi yn y cymoedd ar ol streic y glowyr a dirywiad yr hen ddiwydiannau etc. A wedd bodlaeth y rhydwaith rheilffyrdd 'ma yn elfen bwysig o'r trafodaethau nath arwain at sefydlu y Cardiff Bay Development Corporation yn 1987.

    Fel mae'n digwydd dwi nawr yn byw yn 'mastref' Efailisaf, sef y syllafiad cywir yn ol adran trafnidiaeth RCT. Dyna beth sy' ar bob arwydd ar y ffordd osgoi newydd 'Pentre Eglwys', sy' rhannol yn dilyn yr hen lein. Unwaith agorwyd y rhewl nath pobl lleol dechre galw'r ardal yn 'Outer Cardiff'.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.