Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llygod am lygod

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Iau, 28 Mehefin 2012

Yn ôl ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf roedd dinas Seattle yn goddef pla o lygod mawr a doedd 'na ddim pibydd brith cyfleus i'w swyno i'r dyfroedd. Rhaid oedd gwneud rhywbeth ac fe benderfynodd mawrion y ddinas gynnig gwobr hael am gynffonau'r creaduriaid.

Roedd y cynllun yn llwyddiannus, neu'n ymddangos felly. Roedd Neuadd y Ddinas yn boddi mewn cwtau a helwyr y llygod yn dathlu eu ffortiwn mewn tafarnau cyfagos. Y broblem oedd nad oedd 'na unrhyw dystiolaeth bod y pla yn gostegu. Yn wir, os unrhyw beth roedd y broblem yn gwaethygu. Yn y diwedd canfuwyd y gwir. Roedd ffermwyr ar gyrion y ddinas wedi troi at fridio llygod mawr er mwyn hawlio gwobr am eu cynffonau ac wedi gwneud elw sylweddol o'u menter.

Dydw i ddim yn gwybod p'un ai ydy stori ffermwyr llygod Seattle yn wir ai peidio - mae'n haeddu bod. Dameg ai peidio mae pwynt y stori yn un ddilys. Ni fu treth yn hanes y ddynolryw na cheisiodd rhywun ei hosgoi na thaliad na cheisiodd rhywun ei hawlio ar gam.

Mae ambell i le wedi seilio cyfran helaeth o'i economi ar yr awch i osgoi trethi ac mae'n rhyfeddod cymaint ohonyn nhw sydd â rhyw fath o gysylltiad cyfansoddiadol â'r Deyrnas Unedig. Mae rhai ohonynt ym mhellafion byd megis ynysoedd Cayman ac eraill yn agosach at gartref megis Ynys Manaw. Cewch chi benderfynu oes a wnelo bodolaeth yr hafanau treth 'Prydeinig' yma rywbeth a llwyddiant dinas Llundain fel canolfan ariannol ryngwladol.

Ta beth am hynny ymddengys fod statws trethiannol ambell i hafan yn bwysicach i'w harweinwyr nac unrhyw ymdeimlad o deyrngarwch i'r Deyrnas Unedig. Dyna yw'r unig gasgliad teg a barnu o sylwadau Philip Bailhache, dirprwy Brif Weinidog Jersi. Yn ôl Mr Bailhache roedd yr ynys yn "barod i fod yn annibynnol" os mai dyna oedd pris cadw ei statws trethianol.

Mewn un ystyr mae ynysoedd Môr Udd yn annibynnol yn barod. Dydyn nhw ddim yn rhan o'r Deyrnas Unedig na'r Undeb Ewropeaidd. Ar y llaw arall maen nhw'n rhan o deyrnasaoedd y Goron a Phrydain sy'n gofalu am faterion tramor ar ei rhan.

Beth fyddai agwedd y Deyrnas Unedig pe bai Jersi yn ceisio torri'r cysylltiad yn llwyr? Ymateb digon laissez-faire, mae'n debyg. Wedi'r cyfan fe fyddai hi braidd yn rhagrithiol i bregethu bod "dymuniadau'r ynyswyr yn holl bwysig" yn ne Môr Iwerydd tra'n arddel egwyddor wahanol ym Môr Udd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:04 ar 30 Mehefin 2012, ysgrifennodd HuwJ:

    Gweler llyfr ysgytwol o'r enw "Treasure Islands" am felltith y gwledydd a'r taleithiau sy'n cynnig manteision "offshore". Yr effaith ar wledydd y trydydd byd yn enbyd wrth ganiatau i gwmniau ac unigolion osgoi cyfrannu eu trethi dilys at goffrau'r gwledydd tlawd yma. Ond llawer o'r peirianwaith ariannol yn digwydd yn Llundain, felly y DU (hy ni) yn cyfrannu at y drwg hefyd. Gwerth ei ddarllen a'r holl beth yn haeddu ymgyrch ryngwladol ar lefel lawer mwy na be sydd i'w weld ar hyn o bryd.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.