Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwm Cynon yn yr Haf

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Mercher, 13 Mehefin 2012

O bryd i gilydd mae pwnc yn codi sydd o'r diddordeb mwyaf i'n gwleidyddion ac i ni'r newyddiadurwyr gwleidyddol ond sydd o fawr ddim diddordeb i'r cyhoedd. Un o'r rheiny yw trefniadau etholiadol a systemau pleidleisio. Dyna yw'r gred gyffredinol, o leiaf.

Wrth drafod Papur Gwyrdd yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â threfniadau etholiadol y Cynlluniad ddoe roedd ambell i wleidydd yn teimlo'r angen i led ymddiheuro am gynnal dadl ynghylch pwnc mor anoracaidd. Dyma i chi Andrew RT Davies, er enghraifft.

"I have not had a single person approach me, on a constituency or regional level, to talk about the Green Paper. However, in the tea room and committee rooms of this institution, plenty of politicians have come to talk to me about it and we have spent quite a lot of time on the subject."

Ond ydy Andrew yn gywir wrth feddwl nad yw'r cyhoedd yn malio botwm corn ynghylch systemau etholiadol? Mae 'na dystiolaeth ar wefan y Comisiwn Ffiniau sy'n awgrymu nad yw hynny'n wir.

Ar hyn o bryd mae aelodau'r Comisiwn wrthi'n ceisio llunio ffiniau i'r trideg o etholaethau seneddol newydd fydd gan Gymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ac maen nhw newydd gyhoeddi'r ymatebion i'w hargymhellion gwreiddiol.

Mae sawl ymateb wedi dod gan bleidiau gwleidyddol a'i haelodau wrth reswm ac mae ambell i academydd hefyd wedi dweud ei ddweud. Yr hyn sy'n fwy annisgwyl efallai yw'r ymateb o'r tu hwnt i'r dosbarth gwleidyddol.

Cymerwch Cwm Cynon fel enghraifft. Fel rhan o gynigion cychwynnol y Comisiwn awgrymwyd y dylid rhannu'r etholaeth bresennol yn dair. Dyw'r awgrym y gallai tref Aberdâr ynghyd ac etholaeth Merthyr ffurfio rhan o etholaeth newydd "Blaenau'r Cymoedd" ddim yn poeni pobol yn ormodol. Wedi'r cyfan mae 'na gynsail hanesyddol - roedd Merthyr ac Aberdâr yn sedd dau aelod pan etholwyd Keir Hardie yn 1900. Dyw'r awgrym y gallai ceg y cwm gael ei draflyncu gan etholaeth Pontypridd ddim yn poeni gormod o bobol chwaith.

Y drwg yn y caws yw'r awgrym y dylai ardal Aberpennar fod yn rhan o drydydd etholaeth - sef y Rhondda. Nawr, ffordd Llanwynno yw'r ffordd hyfrytaf y gwn i amdani yng Nghymru ond teg yw dweud nad oes lawer o fynd a dod ar ei hyd - a hi yw'r unig heol fyddai'n cysylltu'r ddwy ran o'r etholaeth newydd.

Dyw'r peth ddim yn gwneud llawer o synnwyr - neu felly mae pobol yr ardal yn teimlo. Derbyniodd y Comisiwn dystiolaeth gan bron i gant o bobol a deiseb ac arni dair mil o enwau yn gwrthwynebu'r cynllun.

Go brin y bydd y Comisiwn yn gallu anwybyddu'r unfrydedd barn - yn enwedig gan fod cynlluniau amgen wedi eu hawgrymu. Wedi'r cyfan mewn oes pan mae gwleidyddion yn poeni am ddifaterwch gwleidyddol fe fyddai anwybyddu barn eglur yr etholwyr yn weithred reit droëdig.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:06 ar 13 Mehefin 2012, ysgrifennodd Iestyn:

    Yr etholaeth ryfedd arall yn yr ardal yw Coedkernew - Ystrad Mynach(neu ta beth fydd ei henw). Mae rheswm gwahanol dros ffindio hithau'n rhyfedd - mae heol fawr yn rhedeg lawr canol yr etholaeth bron o'r naill ben i'r llall, ond mae unrhyw etholaeth sydd yn cynnwys croestoriad mor eang o wahanol fathau o gymunedau yn rhwym o golli perthnasedd i gyfran helaeth o'i hetholwyr.

  • 2. Am 06:03 ar 14 Mehefin 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Bydd y BBC yn dilyn y polisi gwirion o enw etholaeth yn un iaith yn unig?

  • 3. Am 12:28 ar 14 Mehefin 2012, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dim ffiars o beryg!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.