Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pleidiau neu Enwadau

Vaughan Roderick | 15:30, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2012


Rwyf wedi bod yn esgeuluso'r blog ychydig dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd ysgrifennu darlith ar gyfer Canolfan y Morlan wedi mwy neu lai lladd fy awch i sgwennu! Sut mae Gweinidogion yn llwyddo i gynhyrchu pregeth yr wythnos, dywedwch?

Fe fydd y ddarlith yn ymddangos ar wefan y Morlan yn y man ond yn ei hanfod roedd hi'n rhoi bras olwg o hanes gwleidyddol Cymru o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw ac yn gofyn ydy'r system bleidiol sy'n bodoli yng Nghymru heddiw yn adlewyrchu'r rhaniadau yn y farn gyhoeddus. Dyma ran ohoni.

"Ydy'r rhaniadau pleidiol sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd yn cynrychioli'r rhaniadau naturiol o fewn y farn gyhoeddus - wrth i bynciau Cymreig hawlio fwy fwy o sylw?

Rwyf yn gadarn o'r farn nad ydyn nhw.

Mae'n ymddangos i mi bod gwleidyddiaeth sy'n bennodol Gymreig yn cael ei eni drachefn a bod yna floc naturiol o bleidleiswyr sydd wedi eu gwasgaru rhwng y pleidiau ar hyn o bryd.

Mi fedrwch eu canfod o fewn rhengoedd y pedair plaid. Rhain yw disgynyddion y traddodiad gwleidyddol anghydffurfiol rhyddfrydol sydd wedi goroesi o dan wyneb system bleidiol Brydeinig am ganrif a mwy.

Pwy yw'r bobol yma a beth maen nhw'n credu?

Pobol yw nhw sy'n ymwybodol ac yn ymfalchïo mewn Cymreictod, sy'n dyrchafu addysg, diwylliant a democratiaeth, sy'n edmygu gwasanaeth i gyd-ddyn a chymuned ac sy'n parchu llwyddiant trwy ymdrech ond yn ddrwgdybus ynghylch anghyfartaledd ac annhegwch.

Mae'n nhw'n ffyrnig o blaid y wladwriaeth les ac yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus safonol yn bwysigach na cheniniog neu ddwy oddi ar y dreth.

Mae'n disgrifiad yna'n ddisgrifiad o nifer sylweddol iawn o bobol Cymru - y mwyafrif o bosib. Hwn yw tir canol gwleidyddiaeth Cymru ac mae'n wahanol iawn i dir canol gwleidyddiaeth Lloegr.

Wrth i'r hen batrwm yma ddod yn fwy pwysig yn ein gwleidyddiaeth mae'n ymddangos i mi bod ein pleidiau yn edrych yn debycach i enwadau gwleidyddol bob dydd.

Fel yn achos yr enwadau mae pa blaid y'ch chi'n perthyn iddi'n dibynnu'n fwy ar gefndir teuluol, ardal ac iaith nac ar unrhyw ideoleg arbennig.

Mae 'na wahaniaethu diwinyddol bron rhyngddyn nhw ond dyw llawer o'r cefnogwyr ddim yn ymwybodol iawn beth yw'r gwahaniaethau hynny ac mae'r gwahaniaethau y tu fewn i ambell i blaid llawer yn fwy na'r gwahaniaeth rhyngddi hi a phlaid arall.

Ystyriwch hyn am eiliad. Pe bai Paul Davies, Elin Jones, Aled Roberts a Keith Davies yn eistedd da'i gilydd faint o wahaniaethau barn go iawn fyddai rhyngddyn nhw - o leiaf wrth drafod pynciau penodol Gymreig?

Oes ots? Rwy'n meddwl bod 'na. Does ond angen edrych ar Weriniaeth Iwerddon i weld y peryglon o system bleidiol sy'n ddibynnol ar raniadau'r gorffennol yn hytrach na gwahaniaethau barn y presennol.

Yn y fan honno i raddau helaeth yr hyn oedd yn gwahaniaethu Fianna Fail a Fine Gail oedd ar ba ochor yr oedd teulu'r aelodau yn ystod rhyfel cartref Iwerddon.

Yn y fath sefyllfa ydy hi'n syndod bod gwleidyddiaeth wedi troi'n gem o chwennych grym er mwyn ei gael - gyda'r canlyniad bod llygredd mewn gwleidyddiaeth yng ngeiriau comisiwn swyddogol yn "endemic, well known and pervasive"

Rwy'n falch i ddweud nad wyf yn credu y bydd sefyllfa tebyg yn datblygu yng Nghyrmu.

Mae 'na arwyddion bod platiau tectonig ein gwleidyddiaeth yn symud a bydd system bleidiol Cymru yn adlewyrchu'r rhaniadau barn naturiol ymhen amser."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:33 ar 25 Ebrill 2012, ysgrifennodd C.Graves:

    Diddorol anghyffredin. Tybed beth fyddai'r disgrifiad o dir canol gwleidyddiaeth Lloegr fyddai'n cyfateb i'r un uchod o'r tir canol yng Nghymru? Yn sicr, mae'r dadansoddiad yn teimlo'n gywir i mi'n reddfol.

  • 2. Am 19:40 ar 25 Ebrill 2012, ysgrifennodd Dyfed:

    Diddorol iawn, iawn. Ac agos drybeilig at eich lle, ddwedwn i.

    Mae nifer ohonom wedi canfod ein hunain mewn pleidiau nad ydynt yn cweit ein siwtio, rwyn tybio, ond na tydan ni ddim yn gallu gweld ein hunain mewn palid arall.

    Yn anffodus mae'r system Gymreig yn rhy agos at y system Brydeinig inni allu gweld gwahaniaeth yn y tymor byr.

  • 3. Am 22:33 ar 25 Ebrill 2012, ysgrifennodd Blogmenai:

    Diddorol Vaughan.

    Dwi fodd bynnag yn anghytuno ynglyn a dy ddadansoddiad o'r gwahaniaeth rhwng FF a FG.

    Er bod y ddwy blaid yn sylfaenol geidwadol, mae gwahaniaethau sylfaenol rhyngddynt. Maent wedi apelio at rannau gwahanol o'r gymdeithas - FG at y cefnog, pobl na ddaeth i dderbyn y sefyllfa cyfansoddiadol newydd yn dda, ac elfennau o'r byd amaethyddol. Roedd FF yn apelio at ffermwyr tlawd, y dosbarth gweithiol trefol a phobl oedd yn arddel fersiwn di wyro o'r traddodiad gweriniaethol - yn arbennig felly ar hyd y ffin.

    Ar lefel arall maent wedi cynrychioli dwy fersiwn wahanol o beth ydi hi i fod yn Wyddel. FG yn credu mewn trefn, parch at y gyfraith, perthynas glosiach efo'r DU -parchusrwydd mewn gair. Mae ffordd FFaidd o edrych ar y Byd yn wahanol, ac mae wedi ei wreiddio yn yr arfer Gwyddelig o wneud busnes mewn tafarnau a chael pethau wedi eu gwneud y tu allan i strwythurau gwladwriaethol. Mae agwedd honno wedi ei gwreiddio yn y cyfnod pan nad oedd Gwyddelod yn rheoli eu gwlad eu hunain, a phan roedd llawer ohonynt yn casau'r strwythurau swyddogol yr oeddynt i fod i'w defnyddio.

  • 4. Am 11:16 ar 26 Ebrill 2012, ysgrifennodd Sion Hughes:

    Diddorol iawn, ac yn cytuno fod yna newidiadau sylfaenol wrthi'n digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ond yn parhau i gredu fod yna wahnaiaethau barn mawr tan y wyneb hefyd, e.e annibyniaeth, ai mynd yn bellach oddiwrth eu gilydd fydd gwleidyddion Cymru yn y dyfodol?
    . Un safbwynt sydd heb ei wyntyllu eto yw Prydeindod. Bydde rhywun yn dychmygu fod lle rwan i blaid sydd yn dadlau o blaid Prydeindod cynhenid y Cymry a hynny o safbwynt fydden ni'n gyfri'n genedlaetholgar gymreig. Er enghraifft pam nad yw unoliaethwyr prydeining yn dyrchafu'r gymraeg fel iaith cynhenid Prydain y dylid ei dysgu ledled Lloegr er enghraifft.Pam nad oes rhai Ceidwadwyr Unoliaethol er enghraifft ddim yn gofyn i Jac Yr Undeb gael ei ailgynllunio i gynnwys icon o Gymru, neu pam nad yw'r gymraeg yn un o ieithoedd swyddogol Prydain ayyb

  • 5. Am 12:54 ar 1 Mai 2012, ysgrifennodd Rebecca:

    Roeddwn i yn y ddarlith yn Aberystwyth - mi fydd o ddiddordeb mawr i lot o bobl pan gaiff ei gyhoeddi - roedd hi'n werth yr ymdrech Vaughan!

    O ran shifft y platiau tectonig, tybed a yw'r broses o ffurfio clymbleidiau yn y Cynulliad yn rhan o'r broses? Yn sicr mae'n galluogi i'r pleidiau ar eu ffurf presennol drio gwahanol cyfuniadau i weld pa mor esmwyth yw'r ffit. Ac efallai bod y system rhannol-gyfrannol sydd gennym (am y tro) hefyd yn caniatáu i bleidleiswyr anfon neges at y pleidiau ynglŷn â'r cyfuniadau mwyaf derbyniol.

    Mae newid unrhyw fath o deyrngarwch "llwythol" mor gythreulig o anodd ac araf!

  • 6. Am 21:02 ar 5 Mai 2012, ysgrifennodd sewa mobil jakarta:

    Erthygl Nice, diolch am rannu.

  • 7. Am 09:26 ar 6 Tachwedd 2012, ysgrifennodd kitchen design:

    Wel rwy'n falch o fod wedi bod o gymorth. ac erthygl 'n glws, yr wyf yn hoffi eich dehongliad o'r symbolau ynganu ocarina.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.