Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sion a Sian

Vaughan Roderick | 14:18, Dydd Mercher, 7 Mawrth 2012

Un o'r pynciau y byddwn yn trafod ar CF99 heno yw'r nifer o fenywod yn y Cynulliad a'r Senedd. Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched yfory yw'r rheswm neu'r esgus dros wneud yr eitem yr wythnos hon ond mae 'na stori go iawn i'w adrodd wrth i dir a enillwyd gan fenywod o gwmpas troad y ganrif cael ei golli.

Cymerwch y Cynulliad yn gyntaf. O ganlyniad i fesurau mewnol a gymerwyd gan y blaid Lafur a Phlaid Cymru pan ddaeth y Cynulliad i fodolaeth yn 1999 etholwyd 24 o fenywod yn aelodau. Yn 2003 fe gododd y nifer i ddeg ar hugain gan olygu mae deddfwrfa Cymru oedd yr un cyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb union rhwng y ddau ryw.

Gydag ethol Trish Law yn isetholiad Blaenau Gwent yn 2006 am gyfnod byr roedd menywod yn y mwyafrif ond yn ethyoliad 2007 syrthiodd y nifer i 28 ac yn 2011 i 24 - yr union fan lle cychwynnodd hi ddeuddeg mlynedd yn gynt.

Mae'r sefyllfa'n ddigalon braidd i'r rheiny oedd yn gobeithio y byddai sicrhau cydraddoldeb mewn un neu ddau etholiad yn torri asgwrn cefn y broblem. Mae'n debyg felly y bydd Llafur, Plaid Cymru ac erbyn hyn, y Ceidwadwyr yn addasu eu strwythurau ar gyfer etholiad 2016 er mwyn sicrhau enwebu rhagor o fenywod.

Mae'r sefyllfa yn y Cynulliad yn bell o fod yn argyfyngus - yn enwedig o gymharu â'r hyn allai ddigwydd i gynrychiolaeth seneddol yn 2015.

Mae'n ffaith weddol adnabyddus mai dim ond pedair menyw oedd wedi cynrychioli Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin cyn 1997. Mae eu henwi nhw yn gwestiwn reit gyffredin yn fath o gwisiau tafarn sydd ond yn digwydd y Mae Caerdydd!

Ar ôl 1997, diolch bron yn llwyr i ymdrechion y Blaid Lafur, dechreuodd y sefyllfa wella. Yn etholiad 2005 roedd naw allan o'r deugain ymgeisydd llwyddiannus yn fenywod - wyth aelod Llafur ac un Democrat Rhyddfrydol. Yn 2010 gydag ymddeoliad Betty Williams a threchi Julie Morgan fe ostyngodd y nifer i saith a gellir disgwyl i'r nifer ostwng ymhellach o ganlyniad i adrefnu'r ffiniau seneddol.

Dyw'r ffiniau terfynol ddim wedi eu cytuno eto ond mae un cyn-swyddog Llafur o'r farn mae dim ond tair o'r saith bresennol gall fod yn hyderus ynghylch sicrhau enwebiad eu plaid ac yna ennill sedd o dan y drefn newydd. Rwy'n cymryd mai Madeline Moon, Siân James a Nia Griffith yw'r rheiny. Mae eraill megis Susan Elan Jones yn wynebu cwffio am enwebiad yn erbyn Aelod Seneddol arall neu fel Jenny Willott yn gorfod brwydro mewn etholaeth fydd yn galed ei hennill.

Oes 'na unrhyw beth y gall y pleidiau wneud ynghylch y sefyllfa? Yn achos Llafur mae'n ymddangos mai'r ateb yw 'dim llawer'. Mae'r cyn-swyddog Llafur yn credu mai sedd newydd Dwyrain Caerdydd fydd yr unig 'sedd wag' yn 2015 - a'r unig un felly lle y byddai'n bosib llunio rhestr fer o fenywod yn unig.

Yr eironi yw mai dyna'r union etholaeth y disgwylir i Jenny Willott sefyll ynddi!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:24 ar 7 Mawrth 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Yn gyntaf....
    Faint o fenywod sydd yn aelodau o bleidiau gwleidyddol?

    Hefyd lle mae'r cwyno ynglyn a'r DemsRhydd yng Nghymru - does ddim un dyn yn un o swyddfeydd pwysicaf y Blaid.... dwi'm yn gweld y beeb yn cwyno am hyn!

    ...equal opportunities! huh!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.