Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Byw ar y radio

Vaughan Roderick | 13:11, Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2012

Mae'n anodd anghytuno a gosodiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod 'dirywiad sylweddol yn y ddarpariaeth Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol' wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r dyddiau pan oedd gorsafoedd mewn ardaloedd cymharol ddi-gymraeg fel Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe yn cael eu gorfodi i ddarlledu oriau lawer o raglenni Cymraeg wedi hen ddiflannu. Cwffio i gael rhyw faint o'r iaith ar orsafoedd mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg mae ymgyrchwyr erbyn hyn.

Deddf Gyfathrebu (2003) yw'r drwg yn y caws. Canlyniad y ddeddf honno oedd rhoi'r gwaith o reoleiddio radio masnachol a chymunedol i gorff newydd sef OFCOM. Roedd gallu y corff hwnnw i osod amodau ar wasanaethau radio llawer yn llai na'i ragflaenwyr yw Awdurdod Radio a'r Awdurdod Darlledu Annibynol .

Teg yw gofyn a wnaeth Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iaith neu grwpiau protest sylweddoli'r peryg i wasanaethau radio Cymraeg ar y pryd?

Os naddo fe, pam? Os do fe, pam na gafwyd stŵr ynghylch y mesur ar y pryd?

Y naill ffordd neu'r llall mae pasio deddf 2003, o ystyried ei sgil effeithiau ar y Gymraeg, yn tueddu cryfhau dadl Richard Wyn Jones ac eraill sydd wedi awgrymu bod angen grŵp newydd i fonitro deddfwriaeth yng Nghaerdydd a San Steffan a lobio dros y Gymraeg.

Os am weld pwysigrwydd lobio ar ddeddfwriaeth does ond angen edrych yn fanwl ar ddeddf 2003. Yn sgil lobio gan y llond dwrn o grwpiau mawrion sy'n berchenogion ar y mwyafrif llethol o orsafoedd radio masnachol mae'r rheoleiddio ar y sector yn rhyfeddol o ysgafn. Mae'n ffaith rhyfedd fod y rheolaeth ar orsafoedd radio cymunedol llawer yn fwy llym.

Canlyniad hynny yw bod y cwmnïau mawrion yn cael gwneud mwy neu lai beth a fynnant a'u gorsafoedd tra bod grwpiau lleol fyddai'n dymuno cystadlu â nhw a'u dwylo wedi clymu.

Mae un rheol yn arbennig sydd yn bron yn amhosib ei ddeall. Gwaherddir gorsafoedd cymunedol rhag derbyn mwy na hanner eu hincwm o hysbysebion a noddi rhaglenni. Mae'r cymal yn bodoli i amddiffyn buddiannau gorsafoedd masnachol lleol - hyd yn oed oes ydy'r rheiny'n bethau swllt a dimau sy'n gwneud fawr mwy nac ail-ddarlledu rhaglenni rhwydwaith.

Heddiw mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd y Gweinidog Iaith Leighton Andrews ei fod yn bwriadu "arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14(5) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg (1993) i osod cynllun iaith sy'n cynnwys mesur wedi'i eirio'n briodol am yr ystyriaeth i'w rhoi gan Ofcom i'r Gymraeg wrth gyflawni ei swyddogaethau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd, yn gyffredinol yn ogystal ag fel agwedd ar "ddeunydd lleol" yn y Canllawiau Lleolrwydd".

Yr hyn mae'r gweinidog yn ceisio gwneud, yn sgil pwysau gan Gymdeithas yr Iaith a'r Bwrdd Iaith, yw defnyddio Deddf yr Iaith Gymraeg i osod cyfrifoldebau ar OFCOM yn ychwanegol at y rhai sy'n gynwysedig yn y Ddeddf Gyfathrebu.

Mae'n debyg mai barn cyfreithwyr OFCOM yw bod Leighton yn gweithredu y tu hwnt i'w bwerau trwy wneud hynny ac y byddai OFCOM yn gweithredu y tu hwnt i'w bwerau pe bai'n ceisio gosod amodau ieithyddol wrth ystyried caniatáu trwydded i orsaf leol.

Nid fy lle i yw barnu pwy sy'n gywir.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae'r datganiad yn 'arwyddocaol iawn'. Efallai ei fod e, efallai ddim. Mae'n debyg y bydd unrhyw newid yng nghynllun iaith OFCOM yn rhy hwyr i effeithio ar y ras am drwydded i ddarparu gwasanaeth radio yng Ngheredigion ac
mae'n annhebyg iawn y bydd unrhyw drwydded arall yn cael ei gynnig yng Nghymru cyn i Glymblaid San Steffan gyflwyno ei Mesur Cyfathrebu hi yn 2013.

Efallai bod y Gweinidog yn gosod marc ei fod am weld cymal iaith yn y Mesur Cyfathrebu nesaf - ond fe fydd angen mwy na marc i sicrhau hynny. Fe fyddai angen pwyso a lobio cadarn i sicrhau nad yw peiriant lobio'r gorsafoedd masnachol yn cael rhwydd hynt unwaith yn rhagor.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:02 ar 28 Chwefror 2012, ysgrifennodd Mac:

    Mae'n ddiddorol taw Rhodri Williams yw'r cyfarwyddwr Ofcom Cymru - cyn-prifweithredwr Bwrdd yr Iaith (ac ymgeisydd i'r rol Comisiynydd).

  • 2. Am 19:35 ar 28 Chwefror 2012, ysgrifennodd Iwan:

    Teg yw gofyn a wnaeth Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iaith neu grwpiau protest sylweddoli'r peryg i wasanaethau radio Cymraeg ar y pryd?

    Os naddo fe, pam? Os do fe, pam na gafwyd stŵr ynghylch y mesur ar y pryd?

    Os felly, mae hefyd yn deg i ofyn a wnaeth y wasg a'r cyfryngau godi stŵr?

    Un o swyddogaethau'r cyfryngau ydi herio gwleidyddion a'u dal i gyfrif am eu gweithredoedd, ac addysgu a hysbysu'r cyhoedd am weithredoedd y llywodraeth sy'n effeithio ar eu bywydau. Tan yn ddiweddar, rwy ar ddeal mai chi oedd gohebydd diwylliant a chyfryngau BBC Cymru, Vaughan? Hawdd iawn i feio eraill, ond oes gennych linc at ymchwiliadau ac adroddiadau y BBC o 2003 oedd yn egluro cynnwys a bygythiad posib y ddeddf, gan mai dyna un o'ch swyddogaethau fel darlledwr cyhoeddus?

    Yr hyn mae'r gweinidog yn ceisio gwneud, yn sgil pwysau gan Gymdeithas yr Iaith…

    Mae'r ffaith bod Cymdeithas yr Iaith wedi lobio gweinidog yn effeithiol a llwyddiannus yn dystiolaeth o'r angen am gorff lobïo newydd? Ymmm…

  • 3. Am 20:46 ar 28 Chwefror 2012, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Ac eithrio neocons eithafol, mae hyd yn oed cefnogwyr mwyaf brwd y farchnad rydd yn cydnabod weithiau bod angen ymyrraeth gan y wladwriaeth / awdurdodau lle bydd y farchnad yn methu darparu yr hyn sydd ei angen ar gymdeithas.

    Dydw i ddim mor siwr fod y deddfau yn rhwystro OFCOM rhag ystyried y Gymraeg wrth ddyfarnu trwyddedau. Yn wir, yn fy marn i, y gwrthwyneb sy'n wir. A hyd yn oed yn ol yr hyn a ddyfynir ar wefan y BBC, mae OFCOM yn cydnabod y gallasai fod y pwer ganddynt:

    "Dywedodd Ofcom fod rhaid iddyn nhw ystyried "deunydd lleol" fel rhan o'u canllawiau o dan y Ddeddf Gyfathrebu ond nad oedd rhaid iddyn nhw ystyried ffactorau ieithyddol.

    O ganlyniad hyd yn oed os yw'r Gweinidog yn gorfodi'r ddyletswydd ar Ofcom, ni fyddai'n gyfreithiol rwymol."

    Ydi, mae'r ddeddf yn hyrwyddo ac amddiffyn buddiannau masnach rydd yn fwy nag a wnaed o'r blaen, ond mae'n dal i gydnabod yr angen am ymyrraeth er mwyn diogelu egwyddorion pwysig eraill, megis lleolrwydd.

    Yr hyn sy'n galonogol am benderfyniad Leighton Andrews yw ei fod fel pe bai wedi rhoi pin yn y swigen yma o wadu cyfrifoldeb dros iaith leiafrifol yn enw masnach rydd.

    Atgoffir fi o'r agwedd a gymerir mewn nifer o wledydd lle datgenir na ellir deddfu er mwyn sicrhau bod ieithoedd lleiafrifol yn cael eu cynnwys ar orsafoedd radio ac yn y blaen, ar y sail y byddai hynny'n groes i'r egwyddor o ryddid mynegiant, heb sylwi bod hynny wedyn yn gwadu rhyddid mynegiant ar y cyfryngau hynny i bobl sy'n defnyddio iaith leiafrifol.

  • 4. Am 22:18 ar 28 Chwefror 2012, ysgrifennodd FiDafydd:

    ...a chyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, wrth gwrs!

  • 5. Am 22:39 ar 28 Chwefror 2012, ysgrifennodd Iestyn Cymuned:

    Mae cymharu'r ddau gais am drwydded ar gyfer Radio Ceredigion yn ddiddorol iawn, ac o ran Cymreictod y wasanaeth newydd, ddim ond un cwmni sydd ynddi. Mae crynodeb ar blog Cymuned.org

    Yr hyn ry'n ni wedi dweud wrth OFCOM yw bod dewis gyda nhw naill i gefnogi neu i wfftio poblogaeth leol Ceredigion: dyna yw goblygiadau dewis cwmni lleol dwyieithog ar y naill law, neu gwmni all-sirol sydd â'u bryd ar ddarparu radio copi-carbon ar y llaw arall. Mae eich sylwadau ynglŷn â tharddiad y rheolau'n ddadlennol, Vaughan - o weld taw gwaith y cwmniau darlledu mawrion, wi bellach yn deall pam y bydd OFCOM, mae'n debyg, yn cefnogi cais T&C - mae'n sâff ac yn dilyn model sydd wedi'i brofi, hy model y cwmniau mawrion masnachol.

    Un llygedyn o obaith yw bod pobl OFCOM Cymru yn cymryd rhan yn y trafodaethau am y tro cyntaf yn yr achos hwn. O'r blaen, cynnig eu sylwadau i'r bosys yn Llundain yn unig y mae OFCOM Cymru wedi gwneud, mae'n debyg, ond y tro 'ma, bydd un neu ddau o bobl Cymru wrth y ford. Tybed a wneiff hynny wahaniaeth?

  • 6. Am 13:08 ar 29 Chwefror 2012, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Iwan, rwyn falch o dwdeud nad wyf erioed wedi bod yn Ohebydd Diwylliant a Chyfryngau i'r BBC na neb arall - ond mae'r pwynt cyffredinol am newyddiadurwyr yn un digon teg.

  • 7. Am 14:27 ar 29 Chwefror 2012, ysgrifennodd Rhodri Williams:

    Hoffwn gywiro sylwadau Mac. Ni fum erioed yn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith ond rwyf yn Gyn-Gadeirydd. Nid oeddwn yn ymgeisydd ar gyfer swydd y Comisiynydd Iaith. NId y fi yw Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru ar hyn o bryd chwaith.

  • 8. Am 13:41 ar 1 Mawrth 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Tra yn y byd 'darlledu' ar-lein mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi caniatáu i gwmni o Loegr - Nominet - i fod yr 'OFCOM' ar barthau lefel uwch .cymru a .wales. Mae'r llywodraeth wedi gosod sylfaen am annhegwch hefyd i'r we Gymraeg ei hiaith gan mai sefydliad tu allan i Gymru, fydd ddim yn atebol i Gymru mewn unrhyw ffordd, bydd yn ei lywodraethu, y tro hwn er elw drwy godi 'treth' flynyddol ar ein defnydd o'n cyfeiriadau we.

    Pam na heriwyd Edwina Hart gan y cyfryngau Cymraeg ar y penderfyniad a'r modd lwyddodd Nominet i ennill ein hunaniaeth ar-lein? D.S. dydw i ddim yn aelod o dotCym, jyst wedi fy syfrdanu gan hanes eu profiad yma : http://www.dotcym.org/hafan/?p=194

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.