Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwylltio Gareth Glyn

Vaughan Roderick | 10:01, Dydd Gwener, 21 Hydref 2011

Un o bleserau bach fy niwrnod gwaith yw 'sgwennu linc ar gyfer Post Prynhawn. Nid jocian ydw i!

Fel pob cyflwynydd radio da mae Gareth Glyn yn addasu deunydd i siwtio'i steil ei hun. Yn achos Gareth mae hynny'n golygu ei 'gogeiddio' hyd yr eithaf gyda phob 'nawr' yn troi'n 'rŵan', pob 'taw' yn 'mai' a 'mi' melltigedig Gwynedd yn ymddangos cyn pob berf.

Fy nhasg i felly yw ychwanegu at fyrdwn ei waith trwy ysgrifennu pethau yn y modd mwyaf deheuol posib. Os oes ffordd o weithio oifad, colfen neu grwt mewn i sgript, rwy'n gwneud!

Tipyn o sbort yw hynny ond mae 'na bwynt ychydig yn fwy bachog gen i.

Mae unrhyw newyddiadurwr sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hen gyfarwydd â'r ffenomen o siaradwyr Cymraeg cwbwl rhugl yn y de yn gwrthod gwneud cyfweliadau gyda'r esboniad "smo'n Gymrag yn ddigon da". Anaml iawn mae Cymry Cymraeg y gogledd yn ymddwyn felly.

Dydw i ddim yn gwybod o ble y daeth y canfyddiad bod Cymraeg y gogledd rhyw sut yn well neu'n fwy safonol na Chymraeg y de ond yn sicr mae'n bodoli.

Yr enghraifft fwyaf boncyrs o hynny yw'r hen lyfrau emynau sy'n difetha odlau Pantycelyn trwy droi 'mas' yn 'maes'. Dewch 'mlan bois bach! Dyw 'maes' a 'gras' ddim yn odli! Os oedd 'mas' yn ddigon da i'r per ganiedydd mae'n ddigon da i chi!

Mae hynny'n dod a ni at Sir Fynwy a Rhodri Morgan.

Rwyf wedi pendroni ers tro ynghylch pam mae Rhodri yn ynganu Sir Fynwy fel "Shir Fynwa". Rwyf wedi canfod yr ateb. Trwy hap a damwain des i ar draws dudalen ar y we sy'n cynnwys nifer o erthyglau o "Tarian y Gweithiwr" wedi eu hysgrifennu yn y Wenhwyseg. Sut mae'r rheiny'n sillafu 'Sir Fynwy'? Rwy'n amau eich bod wedi synhwyro mai "Shir Fynwa" yw'r ateb.

Mae rhyw frith gof gen i o glywed bod John Morris Jones wedi newid sillafiad nifer o afonydd Cymru gan gredu bod 'wy' yn air Frythoneg am afon. Mae'n ddigon posib mai dyna ddigwyddodd yn achos Mynwy / Mynwa. Mae croeso i chi herio neu gywiro'r ddamcaniaeth!

Ta beth am hynny rwy'n dwli ar yr enw "Shir Fynwa" a gall Gareth Glyn ddisgwyl ei weld ar ei sgrin yn weddol o fuan!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:38 ar 21 Hydref 2011, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Rwy'n amau dilysrwydd dy ganfyddiad mae perthyn i'r deheubarth yn unig yw'r ffenomen "fy Nghymraeg dim digon da", mae'n rhemp ar hyd y Gogledd hefyd.

    Y gyntaf imi glywed yn cwyno am hurtrwydd odli Maes a Gras oedd Dr Tudur (boi o'r Rhyl) wrth adolygu record Emynau'r Pêr Ganiedydd sef recordiad o gymanfa gannu dathlu gwaith Pantycelyn a recordiwyd yn Llanymddyfri !

  • 2. Am 12:18 ar 21 Hydref 2011, ysgrifennodd D. Enw:

    ... ac wrth gwrs, mae'n amlwg mai bois Cymoedd y De gyfansoddodd yr Anthem Genedlaethol gan fod 'Gwlad' yn odli gyda 'gwâd' - ac nid 'gwaed'.

    Er gwaethaf y sillafiad safonnol (ac mae pob iaith angen hynny, iaith leiafrifol yn fwy na neb, efallai) mae'n bosib na glywedd y bois James neb erioed yn yngannu 'gwaed' fel unrhyw beth arall on 'gwâd'.

  • 3. Am 15:10 ar 21 Hydref 2011, ysgrifennodd Ceri:

    Dydw i ddim yn gwybod o ble y daeth y canfyddiad bod Cymraeg y gogledd rhyw sut yn well neu'n fwy safonol na Chymraeg y de ond yn sicr mae'n bodoli.

    Efallai bod a wnelo'r Beibl Gysegr Lan rywbeth i wneuthur a hwnna 'achan!

    O ran Sir Fenwa Rhodri Morgan, fe glwi di 'sbozzo' yn ei lafar 'efyd - ma'r wenhwyseg yn dal a rhyw afael yn ei thiroedd genedigol - not a lot ond ma ddi dal yno!!

  • 4. Am 19:27 ar 21 Hydref 2011, ysgrifennodd Idris:

    Mae'r rhai euog eisoes wedi eu henwi - William Morgan ac, yn fwy arbennig, John Morris Jones. A nid Cymraeg gogleddol chwaith ond Cymraeg y gogledd-orllewin. Pwy ond gwr o Fon neu Arfon fyddai'n safonni sillafu Cymraeg gyda 'a' mewn geiriau megis 'defaid' a 'cadeiriau'???

  • 5. Am 13:01 ar 24 Hydref 2011, ysgrifennodd D Enw:


    Hyfryd fod Rhodri Morgan yn dal i ddefnyddio'r wenhwyseg. Truenu nad yw e wedi trosglwyddo rhywfaint o Gymraeg i'w blant !

  • 6. Am 11:40 ar 25 Hydref 2011, ysgrifennodd Dylan:

    Nid ar JMJ y mae'r bai - y tro hwn o leiaf. Mae 'Mynwy' yn hen, hen ffurf.

    Ond roedd 'Mynwe' yn ffurf amrywiol ddigon cyffredin gynt - mae nifer o enghreifftiau i'w cael drwy fynd ar gwgl. Er enghraifft, 'sir fynwe' a geir gan y Cardi yma a ymfudodd i Efor Newydd yn 1832:
    http://cylchgronaucymru.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1093205/llgc-id:1093441/llgc-id:1093708/getText . Dwn i ddim faint o ddefnydd sydd ar y ffurf bellach.

    Yn nhiriogaeth y Wenhwyseg yn y de ddwyrain, yr ynganiad arferol fyddai 'shir Fynwa'. Er mai prin y gellid honni bod RhM yn siarad y Wenhwyseg, mae'n defnyddio ambell elfen, a hynny er mwyn creu effaith o fath arbennig, dybiwn i.

  • 7. Am 16:23 ar 25 Hydref 2011, ysgrifennodd Emyr Lewis:

    Efallai bod eglurhad mwy naturiol a charedicach o hyn. Tybed ai tafodiaith ardal ddiwydiannol Gorllewin Morgannwg fyddai gan rieni Rh M ar yr aelwyd (o'r Glais a'r Parsel Mawr yr oedden nhw'n hannu)? Nid wyf yn ddigon o sglaig i wybod a yw honno'n cyfri fel Gwenhwyseg, ond mae mwy nag "ambell elfen" debyg yn y ddwy, megis caledu cytseiniaid a defnyddio "acha" yn lle "ar" y mae Rh M yn eu defnyddio.

  • 8. Am 14:52 ar 26 Hydref 2011, ysgrifennodd Dylan:

    Dwi ddim yn credu bod fy sylwadau ar ieithwedd RhM yn angharedig (ac er tegwch nid yw Emyr yn dweud hynny). Ond mi rydw i'n cael yr ieithwedd honno'n ddiddorol yn aml. Yn yr un modd, nid yw Saesneg RhM yn nodweddiadol o rywun o'i gefndir cymdeithasol ac addysgol. Mae'n fwy 'dosbarth gweithiol' yn y ddwy iaith, ac mae hynny wedi bod o'i blaid yn wleidyddol, dybiwn i. Mater arall yw'r graddau y mae ei acenion yn y ddwy iaith yn fwriadol ynteu'n isymwybodol.

    O ran cefndir ei rieni, ie, o diriogaeth orllewinol y Wenhwyseg y deuent. Ond tafodiaith -e ac nid un -a yw Cwm Tawe at ei gilydd, ac felly byddem yn disgwyl 'shir Fynwe' ac nid 'shir Fynwa'. Ond efallai fy mod yn camgymryd - nid wyf yn ddigon o arbenigwr ar hynny.

    Ar lafar yn naturiol, mae'n siwr y byddai tad RhM wedi caledu a defnyddio 'acha'. Ond dwi'n credu ei bod yn deg dweud nad oedd yn gwneud hynny wrth siarad yn gyhoeddus neu ar y cyfryngau, fel y gwna RhM ei hun, i raddau.

    Byddai rhywun yn disgwyl i wleidyddol deallus a chraff fel RhM ddefnyddio iaith mewn ffordd ddeallus a chraff, sy'n gwneud imi feddwl efallai ei fod yn ymwybodol o'r effaith y mae defnyddio ffurf fel 'shir Fynwa' yn ei chael. Yn sicr, fe dynnodd sylw clust fain Vaughan!

  • 9. Am 15:40 ar 27 Hydref 2011, ysgrifennodd DaiTwp:

    Trueni mawr nad oes bron neb yn 'wilia cymreg' bellach

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.