Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dysgu Gwers

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2010

Roeddwn i'n cyflwyno'r tystysgrifau yn noson wobrwyo ysgol gyfun neithiwr. Dyw tasgau o'r fath ddim yn dod i'm rhan yn aml. Pobol o fyd y campau neu'r celfyddydau sy'n derbyn gigs felly gan amlaf. Rwy'n amau bod fy nghyfaill Robert Glaves, oedd yn trefnu'r noson yn Ysgol Saint Cyres, Penarth wedi palu'n ddwfn trwy ei lyfr cysylltiau cyn dod at fy enw i!

Roeddwn i'n llwyr ddisgwyl y byddai'r rheiny oedd yn derbyn eu tystysgrifau ar y cyfan yn weddol ddi-hid ac anwybodus am wleidyddiaeth. Siom o'r ochor orau oedd canfod mai'r gwrthwyneb oedd yn wir. Mae'n debyg bod cyfuniad o unedau dinasyddiaeth Bagloriaeth Cymru a ffioedd myfyrwyr wedi cynhyrchu criw oedd yn wybodus er ddim yn arbennig o frwdfrydig ynghylch gwleidyddiaeth.

Fe ddoi yn ôl at Saint Cyres yn y man ond cyn hynny rwyf am nodi enwi Cadeirydd yr Ymgyrch Ie yn refferendwm Mis Mawrth. Fe wyddoch yn barod mai Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru sydd wedi ei recriwtio. Os ydy'r arolygon barn i'w credu fe ddylai Roger allu trosi'n ddigon hawdd ar Fawrth y 3ydd gan adael y llwy bren yn nwylo'r ymgyrch na.

"Os ydy'r arolygon barn i'w credu." Dyna yw'r frawddeg allweddol.

Mae tri gwahanol arolwg gan dri gwahanol Cwmni yn ystod yr wythnosau diwethaf i gyd wedi awgrymu bod yr "ie" ymhell ar y blaen i'r "na" ar hyn o bryd. Fe ddylai cysondeb y canlyniadau fod yn ddigon i argyhoeddi unrhyw un eu bod nhw'n gywir.

Y broblem yw fy mod i a bron pawb rwyf wedi trafod y pwnc gyda nhw yn credu y bydd y ras llawer yn agosach. Y dydd o'r blaen er enghraifft fe wnaeth Karl y bwci lunio prisiau ar gyfer y bleidlais. Dyma nhw;

Ie 8-11
Na EVS

Mae Karl wedi seilio ei brisiau ar ddim byd mwy na greddf ac oes o brofiad. Am y rheswm hynny gwnes i ddim eu cyhoeddu cyn hyn. Ar y llaw arall fy nheimlad greddfol i - a llawer i newyddiadurwr a gwleidydd arall - yw bod greddfau Karl yn agosach at y gwir nac ystadegau YouGov, ICM a Beaufort Research. Yn y bôn mae'n anodd credu na derbyn bod pethau wedi newid cymaint ers 1997.

Yn ôl a ni i Fro Morgannwg at ysgol mewn ardal oedd yn gadarn yn erbyn sefydlu'r cynulliad yn 1997. Ysgol dda mewn twlc o adeilad yw Saint Cyres - un o'r llefydd hynny lle mae brwdfrydedd athrawon a disgyblion yn gorfod goresgyn digalondid to fflat pensaernïaeth y chwedegau.

Ar hyn o bryd mae'r Ysgol yn disgwyl penderfyniad gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor y Fro ynghylch cynllun £40 miliwn i godi ysgol newydd sbon ar y safle. Mae'r arwyddion i gyd yn bositif.

Yn y cyfamser roedd y myfyrwyr oedd yn casglu eu tystysgrifau yn llwyr ymwybodol o'r gwrthgyferbyniad rhwng polisi Llywodraeth Cymru a pholisi Llywodraeth y DU ynghylch ffioedd myfyrwyr.

Sut mae athrawon Saint Cyres, y disgyblion a'u rhieni yn gweld y Cynulliad felly a sut maen nhw'n debyg o bleidleisio yn Mis Mawrth? Gwnes i ddim gofyn a dweud y gwir - ond efallai nad yw'r arolygon yn anghywir wedi'r cyfan.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.